LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 1: Ystyr Bedydd
    Cwestiynau Pobl Ifanc
    • Dyn ifanc yn cael ei fedyddio mewn pwll yn ystod un o gynadleddau Tystion Jehofa.

      CWESTIYNAU POBL IFANC

      A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 1: Ystyr Bedydd

      Bob blwyddyn, mae llawer o bobl ifanc sy’n cael eu magu fel Tystion Jehofa yn cael eu bedyddio. Wyt ti’n meddwl am gymryd y cam hwnnw? Os felly, byddi di angen deall ystyr ymgysegriad a bedydd yn gyntaf.

      • Beth yw bedydd?

      • Beth yw ymgysegriad?

      • Pam mae bedydd yn bwysig?

      • Barn dy gyfoedion

      • Camsyniadau a ffeithiau

      Beth yw bedydd?

      Yn y Beibl, mae bedydd yn golygu mwy na chael ychydig ddiferion o ddŵr ar y pen. Mae’n golygu cael dy drochi’n llwyr mewn dŵr, ac mae hynny’n symboleiddio rhywbeth pwysig iawn.

      • Mae mynd o dan y dŵr yn ystod bedydd yn dangos yn gyhoeddus dy fod ti ddim bellach am fyw i wneud dim ond beth sy’n dy blesio di.

      • Mae cael dy godi allan o’r dŵr yn dangos dy fod ti wedi dechrau bywyd newydd o wneud beth sy’n plesio Duw.

      Drwy gael dy fedyddio, rwyt ti’n cydnabod yn gyhoeddus mai Jehofa sydd â’r awdurdod i ddweud beth sy’n dda a drwg, ac rwyt ti’n cyhoeddi dy fod ti wedi addo y byddi di wastad yn dewis gwneud beth mae ef eisiau iti ei wneud.

      Ystyria hyn: Pam dylet ti fod eisiau dangos yn gyhoeddus dy fod ti wedi addo ufuddhau i Jehofa ar hyd dy fywyd? Gweler 1 Ioan 4:19 a Datguddiad 4:11.

      Beth yw ymgysegriad?

      Cyn iti gael dy fedyddio, dylet ti gysegru dy hun i Jehofa yn breifat. Sut?

      Mewn gweddi bersonol, byddi di’n dweud wrth Jehofa dy fod ti’n addo ei wasanaethu am byth, ac y byddi di’n gwneud beth bynnag mae ef yn dymuno, ni waeth beth fydd yn digwydd na beth fydd eraill yn dewis ei wneud.

      Mae cael dy fedyddio yn dangos i eraill dy fod ti wedi gwneud yr ymgysegriad hwnnw. Mae’n dweud wrth eraill dy fod ti wedi stopio rhoi dy hun yn gyntaf a dy fod ti bellach yn perthyn i Jehofa.—Mathew 16:24.

      Ystyria hyn: Pam mae dy fywyd yn gwella pan wyt ti’n perthyn i Jehofa? Gweler Eseia 48:17, 18 a Hebreaid 11:6.

      Pam mae bedydd yn bwysig?

      Dywedodd Iesu fod rhaid i’w ddisgyblion gael eu bedyddio. (Mathew 28:19, 20) Felly mae bedydd yn dal yn ofynnol i Gristnogion. Mae’r Beibl yn mynd mor bell â dweud ei fod yn hanfodol er mwyn cael ein hachub.—1 Pedr 3:21.

      Er hynny, dylet ti gael dy fedyddio oherwydd dy fod yn caru Jehofa ac yn gwerthfawrogi dy berthynas ag ef. Dylet ti deimlo’n debyg i’r salmydd, a ysgrifennodd: “Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i? . . . Dw i am alw ar enw’r ARGLWYDD. Dw i am gadw fy addewidion i’r ARGLWYDD.”—Salm 116:12-14.

      Ystyria hyn: Pa bethau da mae Jehofa wedi eu gwneud drostot ti, a sut gelli di ei dalu yn ôl? Gweler Deuteronomium 10:12, 13 a Rhufeiniaid 12:1.

      Barn dy gyfoedion

      Mijin.

      “Mae ymgysegriad yn addewid rwyt ti’n ei wneud i Jehofa, ac mae hynny’n rhywbeth i’w gymryd o ddifri. Pan wyt ti’n rhoi Jehofa’n gyntaf, bydd dy fywyd yn llawn bendithion. Wedi’r cwbl, mae e’n gallu gofalu amdanon ni yn well na allwn ni ei wneud ein hunain.”—Mijin.

      Ember.

      ”Mae Jehofa wedi dangos yn barod ei fod yn dy garu di. Drwy gael dy fedyddio, gelli di ddangos gymaint rwyt ti’n ei garu e. Mae cael dy fedyddio yn fraint ac yn fendith enfawr!”—Ember.

      Julian.

      ”Penderfynu cysegru dy hun i Dduw a chael dy fedyddio yw’r penderfyniad pwysicaf gall rhywun ei wneud. Ond ddylai hynny ddim codi ofn arnat ti. Os wyt ti’n barod, ac yn ei wneud am y rhesymau iawn, dyma’r penderfyniad gorau wnei di.”—Julian.

      Camsyniadau a ffeithiau

      CAMSYNIAD — Dim ond oedolion sy’n ddigon aeddfed i gael eu bedyddio.

      FFAITH — Nid oedran yn unig sy’n gwneud rhywun yn aeddfed, ond ei gariad tuag at Jehofa a’i barodrwydd i ufuddhau iddo. Tra oedden nhw’n dal yn ifanc, dangosodd Joseff, Samuel, a Joseia y fath aeddfedrwydd. Ac mae llawer o rai ifanc heddiw yn gwneud yr un fath.

      Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn yn dangos ydy e’n gymeriad glân a gonest ai peidio.”—Diarhebion 20:11.

      CAMSYNIAD — Os ydy dy ffrindiau yn cael eu bedyddio, dylet tithau hefyd.

      FFAITH — Mae’r penderfyniad i gysegru dy hun a chael dy fedyddio yn un personol, a dylet ti ond ei wneud os wyt ti wir eisiau. Dydy hi ddim yn ddefod rwyt ti’n ei gwneud pan wyt ti’n cyrraedd rhyw oedran arbennig. Dydy hi ddim chwaith yn rhywbeth sy’n rhaid i ti ei wneud am fod eraill wedi ei wneud, neu am dy fod yn meddwl bod eraill yn disgwyl iti ei wneud.

      Mae’r Beibl yn dweud: “Mae dy bobl [pobl Dduw] yn barod i dy ddilyn.”—Salm 110:3.

      CAMSYNIAD — Os nad wyt ti wedi cael dy fedyddio, dwyt ti ddim yn atebol am dy weithredoedd.

      FFAITH — Rwyt ti’n dod yn atebol i Jehofa, nid pan wyt ti’n cael dy fedyddio, ond pan wyt ti’n gwybod beth sy’n dda ac yn ddrwg yn ei olwg.

      Mae’r Beibl yn dweud: “Os dych chi’n gwybod beth ydy’r peth iawn i’w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi’n pechu.”—Iago 4:17.

      AWGRYM: Os ydy’r cyfrifoldeb o fod yn Gristion sydd wedi ei gysegru a’i fedyddio yn codi ofn arnat ti, efallai dylet ti feddwl am pam rwyt ti’n teimlo fel hyn, a chymryd camau i dawelu dy bryderon. Gelli di wneud hynny drwy ddarllen Pennod 37 y llyfr Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrol 2.

      Adolygiad: Pam mae bedydd yn bwysig?

      • Dywedodd Iesu fod rhaid i’w ddisgyblion gael eu bedyddio.

      • Mae bedydd yn hanfodol ar gyfer cael ein hachub.

      • Mae’n fraint enfawr gwasanaethu Jehofa fel Cristion sydd wedi ei ymgysegru a’i fedyddio.

  • A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 2: Paratoi ar Gyfer Bedydd
    Cwestiynau Pobl Ifanc
    • Merch ifanc yn gwneud ymchwil ar fedydd, gan ddefnyddio’r Beibl a chyhoeddiadau wedi eu seilio ar y Beibl.

      CWESTIYNAU POBL IFANC

      A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 2: Paratoi ar Gyfer Bedydd

      Os wyt ti’n cadw safonau’r Beibl ac yn meithrin cyfeillgarwch â Duw, mae hi ond yn naturiol y byddi di’n meddwl am gael dy fedyddio. Sut wyt ti’n gwybod dy fod yn barod am hynny?a

      Yn yr erthygl hon

      • Faint ydw i angen gwybod?

      • Beth dylwn i fod yn ei wneud?

      • Barn dy gyfoedion

      Faint ydw i angen gwybod?

      Dydy paratoi ar gyfer bedydd ddim yn golygu bod angen cofio ffeithiau, fel byddai rhywun yn ei wneud i basio arholiad yn yr ysgol. Ond, dylet ti ddefnyddio dy ‘allu i feddwl’ i bwyso a mesur y ffeithiau er mwyn cryfhau dy argyhoeddiad. (Rhufeiniaid 12:1) Er enghraifft:

      • Wyt ti’n gwbl sicr fod Duw yn bodoli a’i fod yn haeddu cael ei addoli gen ti?

        Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’n rhaid i bwy bynnag sy’n mynd at Dduw gredu ei fod yn bodoli a’i fod yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio’n daer.”—Hebreaid 11:6.

        Gofynna i ti dy hun: ‘Pam ydw i’n credu yn Nuw?’ (Hebreaid 3:4) ‘Pam dylwn i roi fy addoliad iddo?’—Datguddiad 4:11.

        Angen help? Gweler “Creation or Evolution?—Part 1: Why Believe in God?”

      • Wyt ti’n gwbl sicr fod neges y Beibl yn dod oddi wrth Dduw?

        Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r holl Ysgrythurau wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol ar gyfer dysgu, ar gyfer ceryddu, ar gyfer cywiro, ar gyfer disgyblu mewn cyfiawnder.”—2 Timotheus 3:16.

        Gofynna i ti dy hun: ‘Pam ydw i’n credu fod y Beibl yn fwy na llyfr o syniadau gan ddynion?’—Eseia 46:10; 1 Thesaloniaid 2:13.

        Angen help? Gweler “Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 1: Dod i ’Nabod Dy Feibl.”

      • Wyt ti’n gwbl sicr fod Jehofa yn defnyddio’r gynulleidfa Gristnogol i gyflawni ei ewyllys?

        Mae’r Beibl yn dweud: “Mae [Duw] yn haeddu’r gogoniant drwy gyfrwng y gynulleidfa a thrwy gyfrwng Crist Iesu, i bob cenhedlaeth byth bythoedd.”—Effesiaid 3:21.

        Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n ystyried beth dw i’n dysgu o’r Beibl yn y cyfarfodydd Cristnogol yn rhywbeth gan ddynion neu gan Jehofa?’ (Mathew 24:45) ‘Ydw i’n mynd i’r cyfarfodydd hyd yn oed pan fydd fy rhieni’n methu mynd (os fyddan nhw’n caniatáu iti wneud hynny)?’—Hebreaid 10:24, 25.

        Angen help? Gweler “Pam Mynd i’r Cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas?”

      Beth dylwn i fod yn ei wneud?

      Does dim rhaid iti fod yn berffaith i gael dy fedyddio. Ond, dylet ti ddangos dy fod ti eisiau “troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy’n dda.” (Salm 34:14) Er enghraifft:

      • Wyt ti’n byw yn ôl safonau Jehofa?

        Mae’r Beibl yn dweud: “Cadwch gydwybod dda.”—1 Pedr 3:16.

        Gofynna i ti dy hun: ‘Sut ydw i wedi dangos fy mod i wedi hyfforddi fy ngallu meddyliol “i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg”?’ (Hebreaid 5:14) ‘Ydw i’n gallu meddwl am sefyllfaoedd penodol pan wnes i wrthod pwysau negyddol gan gyfoedion? Ydy fy ffrindiau yn annog fi i wneud beth sy’n iawn?’—Diarhebion 13:20.

        Angen help? Gweler “Sut Galla i Hyfforddi Fy Nghydwybod?”

      • Wyt ti’n deall dy fod ti’n atebol i Jehofa am yr hyn rwyt ti’n ei wneud?

        Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb droston ni’n hunain o flaen Duw.”—Rhufeiniaid 14:12.

        Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n onest gyda fi fy hun a gyda phobl eraill?’ (Hebreaid 13:18) ‘Ydw i’n cyfaddef fy nghamgymeriadau, neu ydw i’n eu celu nhw neu’n beio eraill amdanyn nhw?’—Diarhebion 28:13.

        Angen help? Gweler “How Can I Deal With My Mistakes?”

      • Wyt ti’n cadw perthynas glòs â Jehofa?

        Mae’r Beibl yn dweud: “Nesewch at Dduw, ac fe fydd yntau’n nesáu atoch chi.”—Iago 4:8.

        Gofynna i ti dy hun: ‘Ym mha ffyrdd ydw i’n closio at Jehofa?’ Er enghraifft, ‘Pa mor aml ydw i’n darllen y Beibl?’ (Salm 1:1, 2) ‘Ydw i’n gweddïo’n aml?’ (1 Thesaloniaid 5:17) ‘Pa mor benodol ydy fy ngweddïau? Ydy fy ffrindiau i yn ffrindiau i Jehofa?’—Salm 15:1, 4.

        Angen help? Gweler “Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 2: Mwynhau Darllen y Beibl” a “Pam Dylwn i Weddïo?”

      AWGRYM: I dy helpu di baratoi ar gyfer bedydd, darllena bennod 37 o’r llyfr Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrol 2. Hefyd mae’n werth edrych ar y daflen waith ar dudalennau 308 a 309.

      a Darllena’r erthygl “A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 1,” sy’n trafod ystyr a phwysigrwydd cysegru dy hun i Dduw a chael dy fedyddio.

      Barn dy gyfoedion

      Gabriella.

      “Mi wnaeth y daflen waith am fedydd yn y llyfr Young People Ask fy helpu i weld beth o’n i angen gweithio arno cyn cael fy medyddio. Hefyd gwnaeth o fy helpu i osod nodau o’n i eisiau eu cyrraedd ar ôl bedydd. Mae cysegru dy hun i Jehofa yn gyfrifoldeb mawr, ond mae hefyd yn fraint, yr un fwyaf gall rhywun ei chael.”—Gabriella.

      Caleb.

      “Yn y Beibl, cafodd Timotheus gyngor: ‘Parha i ddilyn y pethau y gwnest ti eu dysgu ac y cest ti dy berswadio i’w credu.‘” (2 Timotheus 3:14) “Cymera amser i astudio Gair Duw fel dy fod ti’n gwbl sicr yn dy galon fod yr hyn mae’n ei ddysgu yn wir. Cysegru dy hun wyt ti i Jehofa—dim i bobl eraill—felly dylai sut mae Jehofa’n teimlo am bethau fod y peth pwysicaf iti wrth feddwl am gael dy fedyddio.”—Caleb.

      Adolygu: Sut galla i baratoi ar gyfer bedydd?

      Meddylia’n ddwys am dy ddaliadau. Wyt ti’n gwbl sicr fod Duw yn bodoli? Ei fod yn haeddu dy addoliad? Bod y Beibl yn air ysbrydoledig Duw? Bod Jehofa yn defnyddio cyfundrefn i gyflawni ei ewyllys?

      Meddylia’n ddwys am dy ymddygiad. Wyt ti’n byw yn unol â safonau Jehofa? Wyt ti’n deall dy fod ti’n atebol i Jehofa am yr hyn rwyt ti’n ei wneud? Wyt ti’n cadw perthynas glòs â Jehofa?

  • A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 3: Beth Sy’n Dal Fi’n Ôl?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
    • Dyn yn cael ei fedyddio mewn llyn wrth i eraill wylio o’r lanfa.

      CWESTIYNAU POBL IFANC

      A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?—Rhan 3: Beth Sy’n Dal Fi’n Ôl?

      Ydy’r syniad o gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio yn dy wneud di’n nerfus? Os felly, bydd yr erthygl hon yn dy helpu di i ddod dros yr ofnau hynny.

      Yn yr erthygl hon

      • Beth os ydw i’n gwneud camgymeriad difrifol ar ôl cael fy medyddio?

      • Beth os ydw i’n ofni’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda bedydd?

      • Beth os ydw i’n teimlo nad ydw i’n haeddu gwasanaethu Jehofa?

      • Barn dy gyfoedion

      Beth os ydw i’n gwneud camgymeriad difrifol ar ôl cael fy medyddio?

      Y rheswm dros y pryder: Efallai dy fod ti’n adnabod rhywun sydd wedi pechu’n ddifrifol ac wedi cael ei ddiarddel. (1 Corinthiaid 5:11-13) Hwyrach dy fod ti’n poeni y bydd hyn yn digwydd i ti.

      “Pan ddechreuais i feddwl am gael fy medyddio, roedd y syniad o wneud cawl o bethau yn codi ofn arna i. O’n i’n jest yn meddwl, petasai hynny’n digwydd, fyddai’n adlewyrchu’n ddrwg ar fy rhieni.”—Rebekah.

      Adnod allweddol: “Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a . . . troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.”—Eseia 55:7.

      Meddylia am hyn: Er bod drwgweithredwyr diedifar yn cael eu diarddel o’r gynulleidfa, mae Jehofa yn estyn trugaredd i’r rhai sy’n edifarhau yn ostyngedig ac yn derbyn disgyblaeth.—Salm 103:13, 14; 2 Corinthiaid 7:11.

      Y ffaith amdani yw: Er dy fod ti’n amherffaith, mi elli di wrthsefyll temtasiwn gyda help Duw. (1 Corinthiaid 10:13) Wedi’r cyfan, pwy sy’n penderfynu sut byddi di’n gweithredu? Ti? Neu rywun arall?

      “O’n i’n poeni am wneud camgymeriad difrifol ar ôl bedydd. Ond wedyn wnes i sylweddoli y byddwn i’n gwneud camgymeriad petaswn i’n dal yn ôl rhag cael fy medyddio. Des i i’r casgliad na ddylwn i adael i’r petai-a-phetasai sy’n perthyn i yfory fy nal i’n ôl heddiw.”—Karen.

      Y gwir yw: Os wyt ti’n dewis gwneud hynny, mi elli di osgoi pechodau difrifol—fel y mae’r rhan fwyaf o weision Jehofa yn ei wneud.—Philipiaid 2:12.

      Angen mwy o help? Gweler “Sut Galla’i Wrthsefyll Temtasiwn?”

      Beth os ydw i’n ofni’r cyfrifoldeb sy’n dod gyda bedydd?

      Y rheswm dros y pryder: Er enghraifft, efallai dy fod ti’n adnabod rhai ifanc sydd wedi symud oddi cartref yn bell o’u ffrindiau a’u teuluoedd er mwyn gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Rwyt ti’n pryderu y bydd pobl yn disgwyl iti wneud yr un peth.

      “Mae bedydd yn agor y drws i lawer o freintiau ysbrydol, ond dydy rhai pobl jest ddim yn barod i wneud mwy eto, neu does ganddyn nhw ddim yr amgylchiadau i wneud hynny.”—Marie.

      Adnod allweddol: “Dylai pob un dalu sylw i’w weithredoedd ei hun, ac yna y bydd ganddo achos i lawenhau ynddo ef ei hun yn unig, ac nid mewn cymhariaeth â rhywun arall.”—Galatiaid 6:4.

      Meddylia am hyn: Yn hytrach na chymharu dy hun ag eraill, canolbwyntia ar y geiriau ym Marc 12:30: “Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon.”

      Sylwa y dylet ti wasanaethu Jehofa â’th holl galon di—nid calon neb arall. Os wyt ti wir yn caru Jehofa, mi fyddi di’n ffeindio ffyrdd i’w wasanaethu’r gorau fedri di.

      “Tra bod bedydd yn gam pwysig, dydy o ddim yn faich trwm. Os wnei di gadw cwmni da, mi fyddan nhw yno i dy helpu di. Bydd cymryd mwy o gyfrifoldebau fesul tipyn yn dy wneud di’n hapusach. Byddai osgoi cael dy fedyddio yn niweidiol iti.”—Julia.

      Y gwir yw: Os wnei di feithrin gwerthfawrogiad am y cariad mae Jehofa wedi ei ddangos iti, bydd hynny yn dy ysgogi di i roi dy orau iddo.—1 Ioan 4:19.

      Angen mwy o help? Gweler “How Responsible Am I?”

      Beth os ydw i’n teimlo nad ydw i’n haeddu gwasanaethu Jehofa?

      Y rheswm dros y pryder: Jehofa yw Sofran y bydysawd; mae dynion yn ddim mewn cymhariaeth! Hwyrach dy fod ti wedi amau nad ydy Jehofa yn gwybod dy fod ti’n bodoli.

      “Gan fod fy rhieni yn Dystion Jehofa, o’n i’n poeni fy mod i wedi ‘etifeddu’ fy nghyfeillgarwch â Jehofa oddi wrthyn nhw, a bod Jehofa heb fy nhynnu ato’n bersonol.”—Natalie.

      Adnod allweddol: “Does yr un dyn yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad, a wnaeth fy anfon i, yn ei ddenu.”—Ioan 6:44.

      Meddylia am hyn: Gall y ffaith dy fod ti’n ystyried bedydd ddangos bod Jehofa yn dy dynnu i berthynas mwy clòs ag ef. Wyt ti eisiau ymateb i’r gwahoddiad hwnnw?

      Cofia hefyd, mai Jehofa—nid ti nac unrhyw un arall—sy’n gosod y safon ar gyfer y rhai y bydd ef yn eu tynnu. Ac mae ei Air yn dy sicrhau di: “Nesewch at Dduw, ac fe fydd yntau’n nesáu atoch chi.”—Iago 4:8.

      “Mae’r ffaith dy fod ti’n gwybod am Jehofa ac wedi cael dy dynnu ato yn brawf ei fod yn dy garu. Felly, os wyt ti’n meddwl nad wyt ti’n haeddu ei wasanaethu, atgoffa dy hun nad yw e’n cytuno. Ac mae Jehofa bob amser yn iawn.”—Selina.

      Y gwir yw: Os wyt ti’n cwrdd â gofynion y Beibl ar gyfer bedydd, yna rwyt ti’n gymwys i addoli Jehofa. A chofia, mae ef yn haeddu dy addoliad.—Datguddiad 4:11.

      Angen mwy o help? Gweler “Pam Dylwn i Weddïo?”

      Barn dy gyfoedion

      Skye.

      “Ddylai ofn methu ddim dy ddal di’n ôl rhag cael dy fedyddio. Mae fel rhedeg ras. Gallet ti benderfynu peidio â rhedeg am fod gen ti ofn disgyn. Ond os wyt ti’n disgyn, gelli di godi ar dy draed. Fyddi di ddim yn croesi’r llinell derfyn os nad wyt ti’n rhedeg yn y lle cyntaf.”—Skye.

      Vinicio.

      “Dydy ofn cael damwain ddim yn stopio person ifanc rhag cael trwydded yrru. Mae hi’r un peth gyda bedydd. Dylen ni ganolbwyntio ar fod yn ffrind agos â Jehofa yn hytrach na phoeni am beth allai ddigwydd.”—Vinicio.

      Adolygu: Beth sy’n dal fi’n ôl rhag cael fy medyddio?

      • Ofn gwneud camgymeriad difrifol. Os wyt ti’n dewis osgoi pechodau difrifol, mi elli di wneud hynny—fel y mae’r rhan fwyaf o weision Jehofa yn ei wneud.

      • Ofn cyfrifoldeb. Dos ati i feithrin gwerthfawrogiad am y cariad mae Jehofa wedi ei ddangos iti, bydd hynny yn dy ysgogi di i roi dy orau iddo.

      • Ofn nad wyt ti’n gymwys. Os wyt ti’n cwrdd â gofynion y Beibl ar gyfer bedydd, yna rwyt ti’n gymwys i addoli Jehofa. A chofia, mae ef yn haeddu dy addoliad.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu