LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 83
  • Sut Galla’ i Wrthsefyll Temtasiwn?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Galla’ i Wrthsefyll Temtasiwn?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth ddylet ti ei wybod?
  • Beth elli di ei wneud?
  • Temtasiwn
    Deffrwch!—2017
  • Fel “Nad Ewch Chi Ddim I Demtasiwn”
    Byddwch Wyliadwrus!
  • Bydda’n Effro yn Erbyn Temtasiwn
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Sut i Ennill y Frwydr yn Erbyn Chwantau Drwg
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
Gweld Mwy
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 83
Mae dyn ifanc yn teimlo temtasiwn wrth iddo weld pâr o gariadon, dau fachgen yn gwylio dyfais electronig, a merch sy’n cerdded heibio

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla’ i Wrthsefyll Temtasiwn?

Dyma ysgrifennodd yr apostol Paul: “Er fy mod i eisiau gwneud beth sy’n iawn, mae’r drwg yno yn cynnig ei hun i mi.” (Rhufeiniaid 7:​21) Wyt ti wedi teimlo fel Paul weithiau? Os felly, gall yr erthygl hon ddangos iti sut i wrthsefyll y temtasiwn i ddilyn awydd drwg.

  • Beth ddylet ti ei wybod?

  • Beth elli di ei wneud?

  • Barn dy gyfoedion

Beth ddylet ti ei wybod?

Yn aml, mae temtasiwn a phwysau gan gyfoedion yn dod gyda’i gilydd. Yn wir, dyma rybudd y Beibl: “Mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” (1 Corinthiaid 15:33) Gall pwysau gan gyfoedion neu’r cyfryngau godi awydd cryf yn dy galon a all dy arwain i demtasiwn, ac achosi iti ‘ddilyn y dorf i wneud drwg.’​—Exodus 23:2.

“Gall yr awydd i fod yn hoffus ac yn un o’r criw achosi i ti ymuno â holl bethau’r criw, er mwyn cadw eu ffafr.”​—Jeremy.

Rhywbeth i’w ystyried: Pam gall temtasiwn fod yn gryfach os wyt ti’n poeni’n ormodol am beth mae eraill yn ei feddwl amdanat ti?​—Diarhebion 29:25.

Y gwir yw: Paid â gadael i bwysau gan dy gyfoedion achosi iti gefnu ar dy safonau.

Beth elli di ei wneud?

Gwna dy gred yn gryf. Os nad wyt ti’n gwybod beth rwyt ti’n ei gredu, gelli di fod fel pyped y mae eraill yn ei reoli. Well o lawer iti wrando ar gyngor y Beibl: “Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy’n dda.” (1 Thesaloniaid 5:​21) Os wyt ti’n dod i ddeall dy gredoau’n well, yna bydd yn haws iti ddal atyn nhw, yn hytrach nag ildio i’r temtasiwn.

Rhywbeth i’w ystyried: Pam rwyt ti’n credu bod safonau moesol Duw er dy les di?

“Dyma wela’ i, os dw i’n cadw at fy nghredoau, yn hytrach nag ildio i demtasiwn, dw i’n ennill mwy o barch gan eraill.”​—Kimberly.

Esiampl dda yn y Beibl: Daniel. Mae’n debyg roedd Daniel dal yn ei arddegau wrth iddo benderfynu y byddai’n cadw cyfraith Duw.​—Daniel 1:8.

Dyn ifanc ynghlwm â llinynnau fel y mae rhywun yn rheoli pyped

Os nad yw dy gredoau di yn gryf, yna gelli di fod fel pyped dan reolaeth pobl eraill

Bydda’n ymwybodol o dy wendidau. Mae’r Beibl yn sôn am “chwantau gwamal ieuenctid”​—chwantau sy’n arbennig o gryf pan wyt ti’n ifanc. (2 Timotheus 2:​22) Mae’r rhain yn cynnwys teimladau rhywiol, yr awydd i ffitio i mewn, a’r awydd i fod yn annibynnol cyn iti fod yn barod amdano.

Rhywbeth i’w ystyried: Mae’r Beibl yn dweud mai “chwantau drwg eu hunain sy’n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd.” (Iago 1:​14) Pa awydd sy’n dy demtio di fwyaf?

“Bydda’n onest gyda ti dy hun am y temtasiynau sy’n dy ddenu di fwyaf. Gwna ymchwil ar sut i ymladd yn erbyn dy demtasiynau, gwna nodyn o bopeth sy’n berthnasol i ti. Yna y tro nesa’ rwyt ti’n wynebu’r temtasiwn hwnnw, byddi di’n gallu ei wrthsefyll.”​—Sylvia.

Esiampl dda yn y Beibl: Dafydd. Ar adegau fe ildiodd i bwysau gan eraill ac i’w chwantau ei hun. Ond dysgodd Dafydd o’i gamgymeriadau a cheisiodd fod yn ddyn gwell. Fe weddïodd ar Jehofa: “Crea galon lân yno i, O Dduw, a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.”​—Salm 51:10.

Cymera reolaeth. Dywed y Beibl: “Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau.” (Rhufeiniaid 12:21) Does dim rhaid i ti gael dy ddal gan demtasiwn. Mi fedri di ddewis gwneud y peth iawn.

Rhywbeth i’w ystyried: Pan wyt ti mewn sefyllfa lle mae ’na demtasiwn i wneud drwg, sut medri di reoli pethau a ‘newid y diweddglo’?

“Dwi’n meddwl am sut bydda i’n teimlo os wna i ildio i’r temtasiwn. A fydda i’n teimlo rhyddhad? O bosib, am ychydig. A fydda i’n teimlo’n dda yn y pen draw? Na, bydda i’n teimlo’n waeth. Ydy’r pris yn un gwerth ei dalu? Na!”​—Sophia.

Esiampl dda yn y Beibl: Paul. Er iddo gydnabod ei dueddiadau drwg, fe gymerodd reolaeth. Ysgrifennodd: “Dw i’n gwthio fy hun i’r eithaf ac yn ennill rheolaeth lwyr.”​—1 Corinthiaid 9:​27.

Y gwir yw: Pan mae’n dod at ymdrin â themtasiwn, ti sydd yn sêt y gyrrwr.

Cofia, pethau dros dro yw temtasiynau. “Erbyn hyn, pethau bach yw’r temtasiynau a oedd yn teimlo’n fawr yn yr ysgol uwchradd,” meddai Melissa, sy’n ugain oed. “Mae cofio hyn yn galonogol, oherwydd dw i’n gwybod bydd fy nhemtasiynau presennol yn pasio, a ryw ddydd wna i edrych yn ôl a gweld mai ymladd yn eu herbyn oedd y peth gorau i mi.”

Barn dy gyfoedion

Olivia

“Mae gwneud penderfyniad a bod yn barod i’w amddiffyn yn fy helpu i wrthsefyll temtasiwn. Er enghraifft, unwaith mod i wedi penderfynu peidio â gwneud rhywbeth, dyna fo, dw i ddim yn ail-feddwl nac yn caniatáu i benderfyniad neb arall ddylanwadu arna’ i.”​—Olivia.

Jared

“Mae’r rhai yn eu harddegau yn wynebu pwysau mawr i bartïo ac i wneud yr holl bethau sy’n digwydd yno—yfed alcohol, cymryd cyffuriau, a chael rhyw. Mae siarad yn agored gyda fy rhieni am y fath bwysau yn helpu. Hefyd dw i’n cadw’n brysur yn fy amser rhydd sy’n helpu fi i osgoi’r temtasiwn i wneud drwg.”​—Jared.

Mayan

“Un o’r temtasiynau anoddaf i’w wrthsefyll yw’r temtasiwn i wneud rhywbeth sydd ddim o reidrwydd yn ddrwg i rywun arall ond efallai’n ddrwg i mi​—fel dewis adloniant. Rhaid iti wybod dy feddwl dy hun i osgoi pwysau o’r fath, ac mae hynny’n gofyn am amser a phrofiad.”​—Mayan.

Julian

“Pan mae’n dod i demtasiwn, bydda’n onest gyda ti dy hun. Rhaid iti ddeall pa rannau o’r We sy’n debygol o dy demtio di gyda deunydd anfoesol, a rhaid iti wybod sut i ymateb pan mae’n digwydd. Rwyt ti angen cynllun fel nad wyt ti’n ildio i demtasiwn.”​—Julian.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu