LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g20 Rhif 1 t. 3
  • Ydych Chi o dan Straen?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ydych Chi o dan Straen?
  • Deffrwch!—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Ydy Straen?
    Deffrwch!—2020
  • Cynnwys
    Deffrwch!—2020
  • Sut i Ddelio â Straen
    Deffrwch!—2020
  • Beth Sy’n Achosi Straen?
    Deffrwch!—2020
Deffrwch!—2020
g20 Rhif 1 t. 3
Menyw sydd o dan straen yn y gweithle yn plygu ei phen ac yn edrych yn drist iawn.

GALLWCH LEDDFU STRAEN

Ydych Chi o dan Straen?

“Mae pawb o dan straen i ryw raddau, ond dw i wedi fy llethu’n llwyr. Nid un broblem yn unig sy’n fy rhoi o dan bwysau, ond llawer o sefyllfaoedd a heriau, yn ogystal â gofalu am fy ngŵr am flynyddoedd lawer sydd ag afiechyd corfforol a meddyliol.”—Jill.a

“Gwnaeth fy ngwraig fy ngadael i, ac roedd rhaid imi fagu fy nau blentyn ar fy mhen fy hun. Roedd hi’n anodd bod yn rhiant sengl. Ar ben hynny, collais fy swydd, ac o’n i’n ffaelu fforddio trwsio fy nghar er mwyn ei gofrestru. Doedd dim clem ’da fi sut i ddelio â phethau. Roedd y straen yn ormodol. O’n i’n gwybod yn fy nghalon bod lladd fy hun yn anghywir, felly erfyniais ar Dduw i adael imi farw.”—Barry.

Yn debyg i Jill a Barry, a ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch llethu o dan bwysau? Os felly, boed i’r erthyglau canlynol eich cysuro a’ch helpu. Maen nhw’n trafod beth sy’n achosi straen, sut mae’n effeithio arnon ni, a sut gallwn ni leddfu rhywfaint o’r straen.

a Newidiwyd yr enwau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu