LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g20 Rhif 1 tt. 5-7
  • Beth Ydy Straen?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Ydy Straen?
  • Deffrwch!—2020
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • STRAEN POSITIF A NEGYDDOL
  • Cynnwys
    Deffrwch!—2020
  • Ydych Chi o dan Straen?
    Deffrwch!—2020
  • Sut i Ddelio â Straen
    Deffrwch!—2020
Deffrwch!—2020
g20 Rhif 1 tt. 5-7
Dyn busnes mewn dinas yn rhedeg i fyny grisiau tuag at adeilad swyddfa.

GALLWCH LEDDFU STRAEN

Beth Ydy Straen?

Straen ydy ymateb eich corff i sefyllfa anodd. Mae’r ymennydd yn rhyddhau hormonau drwy eich corff i gyd. Mae’r rhain yn cyflymu curiad y galon, yn rheoli pwysedd gwaed, yn effeithio ar gynhwysedd yr ysgyfaint, ac yn tynhau cyhyrau. Cyn ichi fod yn ymwybodol ohono, mae’ch corff yn rhoi ei hun mewn “cyflwr parod” i weithredu. Ar ôl i’r sefyllfa anodd ddod i ben, ac i’r straen leihau, mae’ch corff yn dychwelyd i normal.

STRAEN POSITIF A NEGYDDOL

Ymateb naturiol ydy straen sy’n dechrau yn yr ymennydd i’ch galluogi chi i ddelio â sefyllfaoedd anodd neu beryglus. Gall straen positif eich galluogi i weithredu ac ymateb yn gyflym. Gall rhywfaint o straen hefyd eich helpu i gyrraedd eich nod, neu i berfformio’n well yn ystod arholiadau, cyfweliadau am swyddi, neu ddigwyddiadau chwaraeon.

Sut bynnag, gall straen hirdymor, eithafol, neu gronig fod yn niweidiol. Pan fydd eich corff mewn “cyflwr parod” yn aml neu drwy’r amser, gallech chi ddioddef yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn feddyliol. Efallai bydd eich ymddygiad yn newid, gan gynnwys y ffordd rydych chi’n trin eraill. Mae rhai yn camddefnyddio sylweddau neu’n troi at arferion drwg eraill er mwyn ceisio ymdopi â straen cronig. Gallai hyd yn oed arwain at iselder, gorflinder, neu feddyliau hunanladdol.

Er nad ydy straen yn effeithio ar bawb yn yr un ffordd, mae’n gallu cyfrannu at amryw o glefydau, ac mae’n gallu effeithio ar bron bob rhan o’r corff.

SUT GALL STRAEN EFFEITHIO AR EICH CORFF

System nerfol.

Dyn a’i ben yn ei law, yn teimlo effaith straen.

Mae’ch system nerfol yn achosi i hormonau fel cortisol ac adrenalin gael eu rhyddhau. Mae’r rhain yn cynyddu curiad eich calon, eich pwysedd gwaed, a lefelau glwcos yn eich gwaed—mae hyn i gyd yn eich galluogi i ymateb yn gyflym i beryg. Gall gormod o straen arwain at

  • bryder, iselder, pen tost neu gur pen, methu cysgu, bod yn bigog

System gyhyrsgerbydol.

Mae’ch cyhyrau’n tynhau i’ch amddiffyn rhag niwed. Gall gormod o straen arwain at

  • boenau yn y corff, pen tost tyndra, gwayw yn y cyhyrau

System resbiradol.

Rydych chi’n anadlu’n gyflymach i gael mwy o ocsigen. Gall gormod o straen arwain at

  • ddiffyg anadlu neu oranadlu, yn ogystal â phyliau o banig yn y rhai sy’n dueddol o’u cael

System gardiofasgwlar.

Mae’ch calon yn curo’n gyflymach ac yn galetach i wneud i’r gwaed lifo trwy eich corff. Mae pibellau gwaed yn ymateb drwy gludo’r gwaed i’r rhannau o’r corff lle mae’r angen mwyaf, fel eich cyhyrau. Gall gormod o straen arwain at

  • bwysedd gwaed uchel, trawiad ar y galon, strôc

System endocrinaidd.

Mae’ch chwarennau yn cynhyrchu’r hormonau cortisol ac adrenalin, sy’n helpu’r corff i ymateb i straen. Mae’ch iau yn codi lefel y siwgr yn y gwaed er mwyn rhoi mwy o egni ichi. Gall gormod o straen arwain at

  • glefyd siwgr, hwyliau ansefydlog, imiwnedd isel a mwy o salwch, ennill pwysau

System gastroberfeddol.

Mae’r ffordd mae’ch corff yn prosesu bwyd yn cael ei hamharu. Gall gormod o straen arwain at

  • deimlo’n sâl, chwydu, dolur rhydd, rhwymedd

System atgenhedlu.

Gall straen effeithio ar yr awydd am ryw ac achosi diffyg rhywiol. Gall gormod o straen arwain at

  • analluedd rhywiol, problemau â chylchred fislifol

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu