GALLWCH LEDDFU STRAEN
Mae Bywyd Heb Straen yn Bosib
Mae doethineb y Beibl yn gallu ein helpu i osgoi llawer o straen diangen. Er ein bod ni’n ffaelu cael gwared ar bob dim sy’n achosi straen inni, mae gan ein Creawdwr y gallu i wneud hynny. Mae Ef hyd yn oed wedi penodi rhywun i’n helpu ni, sef Iesu Grist. Yn fuan, drwy’r ddaear gyfan, bydd Iesu yn cyflawni pethau mwy rhyfeddol fyth na’r hyn a wnaeth pan oedd ar y ddaear. Er enghraifft:
DANGOSODD IESU Y BYDD YN IACHÁU’R SÂL.
“Dyma nhw’n dod â’r holl rai ato a oedd yn dioddef o wahanol afiechydon . . . a dyma’n eu hiacháu nhw.”—MATHEW 4:24.
BYDD IESU’N DARPARU RHYWLE I FYW A BWYD I BAWB.
“Byddan nhw’n [deiliaid Crist] adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth.”—ESEIA 65:21, 22.
BYDD TEYRNASIAD IESU YN DOD Â HEDDWCH A DIOGELWCH LEDLED Y BYD.
“[Bydd ef yn gwneud] i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau, ac i heddwch gynyddu tra bo’r lleuad yn yr awyr. Boed iddo deyrnasu o fôr i fôr, ac o’r Afon Ewffrates i ben draw’r byd! Gwna . . . i’w elynion lyfu’r llwch.”—SALM 72:7-9.
BYDD IESU’N CAEL GWARED AR ANGHYFIAWNDER.
“Mae’n gofalu am y gwan a’r anghenus, ac yn achub y tlodion. Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.”—SALM 72:13, 14.
BYDD IESU’N CAEL GWARED AR DDIODDEFAINT A MARWOLAETH.
“Ni fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.”—DATGUDDIAD 21:4.