LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 58
  • Aros yn Ffyddlon i Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Aros yn Ffyddlon i Jehofa
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Sut Mae Gau Grefydd yn Rhoi Darlun Anghywir o Dduw
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Beth Yw’r Newyddion Da am Grefydd?
    Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • D’wedwch “Na!” Wrth Gau Grefydd
    Dod yn Ffrind i Dduw!
  • Sut Gallwn Ni Ddangos Ein Bod Ni’n Caru Jehofa?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 58
Gwers 58. Teulu’n cerdded heibio grŵp o wrthgilwyr sy’n gwawdio pobl sy’n cyrraedd cynhadledd Tystion Jehofa.

GWERS 58

Aros yn Ffyddlon i Jehofa

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Mae gwir Gristnogion yn benderfynol o beidio â gadael i unrhyw un neu unrhyw beth amharu ar eu perthynas â Jehofa. Mae’n debyg mai dyna sut rydych chi’n teimlo ac mae Jehofa yn trysori eich ffyddlondeb yn fawr. (Darllenwch 1 Cronicl 28:9.) Pa sefyllfaoedd all roi prawf ar eich ffyddlondeb iddo, a beth all eich helpu chi?

1. Sut gall eraill roi prawf ar ein ffyddlondeb i Jehofa?

Bydd rhai pobl yn ceisio ein stopio ni rhag gwasanaethu Jehofa. Pwy fyddai’n gwneud y fath beth? Mae rhai sydd wedi gadael y gwir a throi’n wrthgilwyr yn dweud celwyddau am gyfundrefn Duw er mwyn dinistrio ein ffydd. Hefyd mae rhai arweinwyr crefyddol yn dweud celwyddau amdanon ni er mwyn ceisio gwneud i bobl anwyliadwrus stopio gwasanaethu Jehofa. Peth peryglus ydy dadlau gyda gwrthwynebwyr, darllen eu llyfrau a’u blogiau, ymweld â’u gwefannau neu wylio eu fideos. Wrth sôn am y rhai sy’n ceisio stopio eraill rhag gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon, dywedodd Iesu: “Gadewch iddyn nhw fod. Arweinwyr dall ydyn nhw. Felly, os bydd dyn dall yn arwain dyn dall, bydd y ddau yn syrthio i mewn i ffos.”​—Mathew 15:14.

2. Sut gall ein penderfyniadau personol ddangos ein bod ni’n ffyddlon i Jehofa?

Oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa, byddwn ni eisiau sicrhau nad ydyn ni’n cael unrhyw beth i’w wneud â gau grefydd. Dylen ni sicrhau nad yw ein gwaith na’n gweithgareddau, nac unrhyw gyfundrefn rydyn ni’n perthyn iddi, yn gysylltiedig â gau grefydd. Mae Jehofa yn dweud wrthon ni: “Dewch allan [o Fabilon Fawr], fy mhobl.”​—Datguddiad 18:​2, 4.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut gallwch chi osgoi dylanwadau drwg all effeithio ar eich ffyddlondeb i Jehofa. Hefyd gwelwch sut gallwch brofi eich bod yn ffyddlon drwy adael Babilon Fawr.

3. Gwyliwch rhag gau athrawon

Sut dylen ni ymateb i straeon negyddol am gyfundrefn Jehofa? Darllenwch Diarhebion 14:​15, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam rydyn ni’n ofalus i beidio â chredu popeth rydyn ni’n ei glywed?

Darllenwch 2 Ioan 9-11, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut dylen ni drin gwrthgilwyr?

  • Hyd yn oed os nad ydyn ni’n siarad wyneb yn wyneb â gwrthgilwyr, sut gallen ni ddod ar draws eu dysgeidiaethau?

  • Sut rydych chi’n meddwl y byddai Jehofa yn teimlo petasen ni’n gwrando ar bethau negyddol amdano ef neu am ei gyfundrefn?

4. Aros yn ffyddlon i Dduw pan fydd brawd yn pechu

Os ydyn ni’n cael gwybod bod rhywun yn y gynulleidfa wedi pechu’n ddifrifol, pa ddyletswydd sydd arnon ni? Ystyriwch un o’r egwyddorion yng Nghyfraith Duw i Israel gynt. Darllenwch Lefiticus 5:1.

Fel mae’r adnod honno yn dweud, os ydyn ni’n cael gwybod bod rhywun wedi pechu’n ddifrifol, dylen ni ddweud wrth yr henuriaid. Ond cyn gwneud hynny, peth caredig fyddai siarad â’r person a’i annog i fynd at yr henuriaid a chyffesu. Os nad yw’n fodlon gwneud hynny, dylen ni fod yn ffyddlon i Jehofa a dweud wrth yr henuriaid beth rydyn ni’n ei wybod. Sut mae gwneud hyn yn dangos cariad tuag at . . .

  • Jehofa?

  • yr un sydd wedi pechu?

  • bobl eraill yn y gynulleidfa?

Collage: Brawd yn helpu brawd arall sydd wedi gwneud rhywbeth o’i le. 1. Mae’r brawd yn gweld rhywbeth ar ei ffôn sy’n gwneud iddo bryderu. 2. Mae’r brawd yn dangos ei ffôn i’r brawd arall, ond mae’r brawd arall yn gwrthod cydnabod y broblem. 3. Mae’r brawd yn siarad â dau henuriad ac yn dangos ei ffôn iddyn nhw.

Os ydy un o’ch cyd-Gristnogion mewn trafferth, rhowch help iddo!

5. Cadw draw o Fabilon Fawr!

Gwyliwch y FIDEO.

FIDEO: Dewch Allan o Fabilon Fawr! (5:​06)

Golygfa o’r fideo ‘Dewch Allan o Fabilon Fawr!’ Merch sydd wedi bod yn astudio’r Beibl yn cerdded allan o swyddfa’r offeiriad ar ôl ymddiswyddo o’i gwaith yn yr eglwys.

Darllenwch Luc 4:8 a Datguddiad 18:​4, 5, ac yna atebwch y cwestiynau hyn:

  • Ydy fy enw i’n dal ar restr aelodaeth unrhyw gau grefydd?

  • Ydw i’n perthyn i unrhyw gyfundrefn sy’n gysylltiedig â chrefydd arall?

  • Ydy fy ngwaith yn cefnogi gau grefydd mewn unrhyw ffordd?

  • A oes rhannau eraill o fy mywyd lle mae angen imi dorri cysylltiad â gau grefydd?

  • Os ydw i wedi rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, pa newidiadau mae’n rhaid imi eu gwneud?

Ym mhob achos, gwnewch benderfyniad sy’n rhoi cydwybod lân ichi ac sy’n dangos eich bod yn ffyddlon i Jehofa.

Chwaer a’i mab yn gadael yr archfarchnad a cherdded heibio dynes sy’n casglu arian i elusen grefyddol.

Beth byddech chi’n ei wneud petai rhywun yn gofyn ichi gyfrannu at elusen grefyddol?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae’n bwysig imi wybod beth mae gwrthgilwyr yn ei ddweud am Dystion Jehofa er mwyn imi allu amddiffyn enw Duw.”

  • A fyddai hynny yn beth call? Pam, neu pam ddim?

CRYNODEB

Er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa, mae angen inni osgoi cadw cwmni’r rhai syʼn ceisio ein camarwain.

Adolygu

  • Pam na ddylen ni wrando ar syniadau gwrthgilwyr?

  • Os ydyn niʼn dod i wybod bod brawd wedi pechuʼn ddifrifol, beth dylen ni ei wneud?

  • Sut gallwn ni ufuddhau i’r gorchymyn i ffoi oddi wrth gau grefydd?

Nod

DARGANFOD MWY

Dysgwch sut i ymateb pan fydd eraill yn lledaenu celwyddau am Dystion Jehofa.

“Oes Gen Ti’r Ffeithiau i Gyd?” (Y Tŵr Gwylio, Awst 2018)

Sut gallwch chi wybod pa gyfundrefnau neu weithgareddau sy’n cefnogi Babilon Fawr?

“Cadw’n Brysur yn Ystod Diwedd ‘y Dyddiau Diwethaf’” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 2019, paragraffau 16-​18)

Beth mae rhai gwrthwynebwyr wedi ei wneud i geisio gwanhau ein ffydd?

Gwyliwch rhag Twyll (9:​32)

Yn yr hanes “Oeddwn i Wedi Bod yn Chwilio am Dduw Ers Fy Mhlentyndod,” darllenwch am offeiriad Shinto a wnaeth dorri pob cysylltiad â gau grefydd.

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2011)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu