Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Chwefror 27, 2012. Nodir y dyddiad y caiff pob pwynt ei drafod fel y gellir gwneud ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr ysgol bob wythnos.
1. A yw hi’n gywir i ddweud bod trugaredd Jehofah yn lleddfu ei gyfiawnder? (Esei. 30:18) [Ion. 9, w02-E 3/1 t. 30]
2. Beth gallwn ni ei ddysgu o hanes diswyddo Sebna, arolygwr tŷ Heseceia? (Esei. 36:2, 3, 22) [Ion. 16, w07-E 1/15 t. 8 par. 6]
3. Beth rydyn ni’n ei ddysgu yn Eseia 37:1, 14-20 am sut i ymdopi â gofid? [Ion. 16, w07-E 1/15 t. 9 par. 1-2]
4. Sut mae’r eglureb yn Eseia 40:31 yn calonogi gweision Jehofah? [Ion. 23, w96-E 6/15 tt. 10-11]
5. Pa ymosodiad sydd ar fin digwydd, a pham mae geiriau Eseia 41:14 mor galonogol heddiw? [Ion. 23, ip-2-E t. 24 par. 16]
6. Sut rydyn ni’n dangos i Jehofah ein bod ni’n “dilyn cyfiawnder”? (Esei. 51:1) [Chwef. 6, ip-2-E t. 165 par. 2]
7. Pwy yw’r “mawrion” yn Eseia 53:12, a beth sy’n galonogol am y ffordd y gwnaeth Jehofah eu trin nhw? [Chwef. 13, ip-2-E t. 213 par. 34]
8. Sut mae Eseia 60:17 yn disgrifio profiad pobl Jehofah yn ystod y dyddiau diwethaf? [Chwef. 20, ip-2-E t. 316 par. 22]
9. Beth yw’r ‘flwyddyn ffafr’ y mae Crist a’i ddilynwyr yn ei chyhoeddi? (Esei. 61:2) [Chwef. 20, ip-2-E tt. 324-325 par. 7-8]
10. Pa rinwedd arbennig Jehofah y mae Eseia 63:9 yn sôn amdani? [Chwef. 27, w03-E 7/1 t. 19 par. 22-23]