Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Rhagfyr 29, 2014.
Sut rydyn ni’n deall y gorchymyn yn Deuteronomium 14:1 sy’n gwahardd rhag archolli neu anafu ein hunain wrth inni alaru dros anwylyn sydd wedi marw? [Tach. 3, w04-E 9/15 t. 27 par. 5]
Pam roedd brenhinoedd Israel yn cael eu gofyn i gopïo Cyfraith Duw a’i ‘darllen holl ddyddiau eu bywydau’? (Deut. 17:18-20) [Tach. 3, w02-E 6/15 t. 12 par. 4]
Pam mae’r Beibl yn dweud “nid wyt i aredig gydag ych ac asyn ynghyd,” a sut mae’r gorchymyn ynglŷn â ieuo, neu ymgysylltu’n amhriodol, yn berthnasol i Gristnogion? (Deut. 22:10) [Tach. 10, w03-E 10/15 t. 32]
Pam roedd cymryd ‘melin neu faen uchaf melin’ fel gwarant ar fenthyciad yn cael ei gwahardd? (Deut. 24:6) [Tach. 17, w04-E 9/15 t. 26 par. 3]
Pa agwedd dylai’r Israeliaid fod wedi ei chael ynghyd â’u hufudd-dod, a beth ddylai ein hysgogi ni i wasanaethu Jehofa? (Deut. 28:47) [Tach. 24, w10-E 9/15 t. 8 par. 4]
Pa dri gofyniad sylfaenol ar gyfer bywyd sydd yn Deuteronomium 30:19, 20? [Tach. 24, w10-E 2/15 t. 28 par. 17]
Ydy’r ffaith ‘nad ydyn ni i ganiatáu i lyfr y gyfraith adael ein genau’ yn golygu y dylen ni ddarllen pob gair o Genesis i Ddatguddiad yn uchel? Esboniwch. (Jos. 1:8) [Rhag. 8, w13-E 4/15 t. 7 par. 4]
Pwy yw “pennaeth llu’r ARGLWYDD” yn Josua 5:14, 15, a sut gall yr hanes hwn ein calonogi? [Rhag. 8, w04-E 12/1 t. 9 par. 2]
Beth arweiniodd at bechod Achan, a beth gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl ddrwg? (Jos. 7:20, 21) [Rhag. 15, w10-E 4/15 tt. 20-21 par. 2, 5]
Sut mae esiampl Caleb yn ein calonogi ni heddiw? (Jos. 14:10-13) [Rhag. 29, w04-E 12/1 t. 12 par. 2]