LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w21 Hydref tt. 14-17
  • Ailadeiladu Dy Berthynas â Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ailadeiladu Dy Berthynas â Jehofa
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH YDY’R HERIAU?
  • GOSODA AMCANION RHESYMOL WRTH ITI AILADEILADU
  • DALIA ATI!
  • Galwa’r Henuriaid
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Mae Jehofa yn Dy Drysori Di!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Henuriaid—Daliwch Ati i Efelychu’r Apostol Paul
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Gyda Jehofa, Fyddi Di Byth ar Dy Ben Dy Hun
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
w21 Hydref tt. 14-17
Brawd yn edrych ar ei dŷ sydd wedi dymchwel, yn amlwg yn teimlo bod yr amser a’r egni fydd eu hangen i’w ailadeiladu yn ormod iddo.

Ailadeiladu Dy Berthynas â Jehofa

BOB blwyddyn, mae llawer o ddefaid annwyl yn cael eu hadfer i’r gynulleidfa. Dychmyga’r llawenydd yn y nefoedd bob tro bydd un yn dychwelyd. (Luc 15:7, 10) Os wyt ti wedi cael dy adfer, gelli di fod yn sicr fod Iesu, yr angylion, a Jehofa ei hun wrth eu boddau yn dy weld di’n gwneud safiad dros y gwir unwaith eto. Ond eto, wrth iti ailadeiladu dy berthynas â Jehofa, efallai byddi di’n wynebu heriau. Beth yw rhai ohonyn nhw, a beth all dy helpu di?

BETH YDY’R HERIAU?

Mae llawer yn brwydro teimladau negyddol ar ôl dod yn ôl i’r gynulleidfa. Efallai dy fod ti’n deall sut roedd y Brenin Dafydd yn teimlo. Hyd yn oed ar ôl iddo gael maddeuant am ei bechodau, dywedodd eu bod nhw’n dal yn ei lethu. (Salm 40:12; 65:3) Ar ôl i rywun droi yn ôl at Jehofa, gall teimladau o euogrwydd neu gywilydd eu dilyn nhw am flynyddoedd. Dywedodd Isabelle,a oedd wedi ei diarddel am dros 20 mlynedd, “Oedd hi’n anodd iawn imi gredu y gallai Jehofa faddau imi.” Os wyt ti’n digalonni, gall dy berthynas â Jehofa droi’n fregus unwaith eto. (Diar. 24:10) Tria beidio â gadael i hynny ddigwydd i ti.

Mae eraill yn poeni na fyddan nhw’n gallu gwneud popeth sydd ei angen er mwyn ailadeiladu eu perthynas â Jehofa. Ar ôl cael ei adfer, dywedodd Antoine, “O’n i’n teimlo fy mod i wedi anghofio popeth am fy hen fywyd fel Cristion.” Oherwydd teimladau o’r fath, mae rhai yn dal yn ôl rhag cael rhan lawn mewn pethau ysbrydol.

Er enghraifft, os ydy cartref rhywun wedi cael ei ddifetha gan gorwynt, efallai bydd hi’n ormod iddo feddwl am faint o amser ac ymdrech bydd ei angen er mwyn ei ailadeiladu. Mewn ffordd debyg, os ydy dy berthynas â Jehofa wedi cael ei difetha gan bechod difrifol, efallai byddi di’n teimlo bod trwsio eich perthynas yn gofyn am gryn dipyn o ymdrech. Ond, mae help ar gael.

Mae Jehofa’n dweud wrthon ni: “Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd.” (Esei. 1:18) Rwyt ti eisoes wedi gweithio’n galed i wneud pethau’n iawn rhyngot ti a Jehofa, ac mae Jehofa’n dy garu di am wneud yr ymdrech honno. Meddylia: Rwyt ti wedi rhoi sail i Jehofa roi ateb pwerus i gyhuddiadau Satan!—Diar. 27:11.

Drwy wneud hyn, rwyt ti eisoes wedi closio at Jehofa ac mae ef yn addo closio atat tithau. (Iago 4:8) Mae’n beth da bod eraill yn gweld dy fod ti’n rhan o’r gynulleidfa unwaith eto, ond mae angen iti wneud mwy. Mae’n rhaid iti ddal ati i gryfhau dy gariad tuag at dy dad a dy ffrind, Jehofa. Sut gelli di wneud hynny?

GOSODA AMCANION RHESYMOL WRTH ITI AILADEILADU

Ceisia osod amcanion rhesymol. Mae’n debyg bod gen ti sylfaen ysbrydol o hyd, hynny ydy, rwyt ti’n cofio am Jehofa a’i addewidion am y dyfodol. Ond nawr, mae angen iti ailadeiladu strwythur Cristnogol yn dy fywyd, gan gynnwys pregethu’n aml, mynd i’r cyfarfodydd, a threulio amser gyda dy frodyr a chwiorydd. Ystyria’r amcanion canlynol.

Siarad â Jehofa’n aml. Mae dy Dad yn deall bod y teimladau o euogrwydd sy’n aros gyda ti yn gallu ei gwneud hi’n anodd iti weddïo arno. (Rhuf. 8:26) Er hynny, ‘dalia ati i weddïo,’ gan ddweud wrth Jehofa gymaint rwyt ti eisiau bod yn ffrind iddo. (Rhuf. 12:12) Mae Andrej yn cofio: “O’n i’n teimlo gymaint o euogrwydd a chywilydd, ond gyda phob gweddi, roedd y teimladau hynny yn lleihau. O’n i’n dawelach fy meddwl.” Os nad wyt ti’n gwybod beth i weddïo amdano, ystyria weddïau’r Brenin Dafydd ar ôl iddo edifarhau, yn Salm 51 a 65.

Astudio’r Beibl yn rheolaidd. Bydd hyn yn cryfhau dy ffydd, ac yn helpu i dy gariad tuag at Jehofa dyfu. (Salm 19:7-11) “Peidio â chael rwtîn ysbrydol yn y lle cyntaf oedd y rheswm pam es i’n wan a siomi Jehofa,” meddai Felipe. “Do’n i ddim eisiau gwneud yr un camgymeriad eto, felly wnes i benderfynu amddiffyn fy hun drwy wneud astudiaeth bersonol reolaidd.” Gelli dithau wneud yr un fath. Os wyt ti angen help i ddewis pynciau ar gyfer dy astudiaeth bersonol, beth am ofyn i ffrind aeddfed am syniadau?

Ailadeiladu dy berthynas â dy frodyr a chwiorydd. Mae rhai sy’n dychwelyd i’r gynulleidfa yn poeni y bydd eraill yn meddwl yn ddrwg ohonyn nhw. Gwnaeth Larissa gyfaddef: “Oedd gen i gywilydd. O’n i’n teimlo fy mod i wedi bradychu’r gynulleidfa, ac arhosodd y teimladau hynny efo fi am oes.” Plîs cofia fod yr henuriaid a rhai aeddfed eraill yn awyddus i dy helpu di i ailadeiladu dy berthynas â Jehofa. (Gweler y blwch “Beth Gall Henuriaid ei Wneud?”) Maen nhw wrth eu boddau dy fod ti wedi dod yn ôl, ac maen nhw eisiau iti lwyddo!—Diar. 17:17.

Beth all dy helpu i glosio at y gynulleidfa? Cael rhan yn yr hyn mae’r brodyr a chwiorydd yn ei wneud, sef mynd i’r cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth yn rheolaidd. Sut bydd hyn yn helpu? Dywedodd Felix: “Oedd y gynulleidfa yn edrych ymlaen imi ddod yn ôl. O’n i’n teimlo eu cariad. Gwnaethon nhw i gyd fy helpu i deimlo’n rhan o deulu unwaith eto, i deimlo mod i wedi cael maddeuant, ac i symud ymlaen.”—Gweler y blwch “Beth Gelli Di ei Wneud?”

Beth Gelli Di ei Wneud?

Ailadeiladu strwythur ysbrydol dy fywyd

Henuriad yn gweddïo gyda brawd sydd wedi troi’n ôl at Jehofa.

SIARAD Â JEHOFA’N AML

Dyweda wrth Jehofa gymaint rwyt ti eisiau bod yn ffrind iddo. Bydd yr henuriaid yn gweddïo drostot ti a gyda ti

Yr henuriad yn defnyddio’r llyfr “Draw Close to Jehovah” i gynnal astudiaeth Feiblaidd gyda’r brawd.

ASTUDIO’R BEIBL YN RHEOLAIDD

Cryfha dy ffydd, a bydd dy gariad tuag at Jehofa yn tyfu

Y brawd yn sgwrsio ag eraill o’r gynulleidfa wrth gymdeithasu.

TREULIO AMSER GYDA’R GYNULLEIDFA

Cael rhan lawn yn y cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth

DALIA ATI!

Bydd Satan yn anfon un corwynt ar ôl y llall i drio dy wanhau wrth iti ailadeiladu dy berthynas â Jehofa. (Luc 4:13) Bydda’n barod drwy gryfhau dy berthynas ag Ef nawr.

Mae Jehofa yn addo: “Dw i’n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â’r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i’n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu, a helpu’r rhai sy’n wan.” (Esec. 34:16) Mae Jehofa wedi helpu llawer o rai eraill sydd wedi llithro’n ysbrydol. Gelli di fod yn sicr ei fod eisiau dy helpu di i ailadeiladu perthynas ag ef sy’n gryfach nag erioed.

Beth Gall Henuriaid ei Wneud?

Yr henuriad yn helpu’r brawd i ailadeiladu ei dŷ.

Mae’r henuriaid yn chwarae rôl allweddol wrth helpu cyhoeddwyr sydd newydd ddod yn ôl i’r gynulleidfa ailadeiladu eu perthynas â Jehofa. Sylwa beth gallan nhw ei wneud i’w helpu nhw.

Cysuro nhw. Gwyddai’r apostol Paul fod rhywun sydd wedi troi yn ôl at Jehofa yn gallu ‘cael ei lethu’n llwyr a suddo i anobaith.’ (2 Cor. 2:7) Efallai bydd yn aml yn teimlo cywilydd ac yn digalonni. Rhoddodd Paul gyngor i’r gynulleidfa i “faddau iddo a’i helpu i droi yn ôl.” Mae rhywun sydd wedi cael ei adfer i’r gynulleidfa angen cael ei atgoffa bod Jehofa a’i frodyr a’i chwiorydd yn ei garu’n fawr. Efallai bydd canmoliaeth gyson a help ymarferol yn ei rwystro rhag digalonni.

Gweddïo gyda nhw. “Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol.” (Iago 5:16) Dywedodd Larissa, a ddyfynnwyd yn yr erthygl: “Wnes i ddweud wrth yr henuriaid am fy amheuon a fy mhryderon. Gwnaethon nhw weddïo drosto i a gyda mi. Wedyn wnes i ddeall bod yr henuriaid ddim yn flin efo fi. Oedden nhw eisiau fy helpu i adfer fy mherthynas â Jehofa.” Dywedodd Theo: “Ar ôl i’r henuriaid weddïo drosto i, o’n i’n sicr bod Jehofa yn fy ngharu i, a’i fod yn gweld y da yno i yn hytrach na dim ond y drwg.”

Bod yn ffrind iddyn nhw. Mae’r rhai sydd wedi eu hadfer angen ffrindiau yn y gynulleidfa. “Bacha ar unrhyw gyfle i weithio gyda nhw ar y weinidogaeth, ac yn bwysicach byth, i alw draw i’w gweld nhw. Mae hi’n hynod o bwysig i fod yn ffrind iddyn nhw!” meddai henuriad o’r enw Justin. Dywedodd henuriad arall o’r enw Henry, “Os bydd eraill yn y gynulleidfa yn gweld yr henuriaid yn gwneud ffrindiau efo’r un gafodd ei adfer, byddan nhw’n trio gwneud yr un peth.”

Helpu nhw i astudio. Gall ffrind aeddfed helpu rhywun sydd wedi ei adfer i’r gynulleidfa i gadw at rwtîn da o astudio. Dywedodd un henuriad o’r enw Darko: “Dw i wrth fy modd yn rhannu’r trysorau ysbrydol dw i wedi eu ffeindio yn fy astudiaeth bersonol a dangos iddyn nhw gymaint dw i’n mwynhau astudio’r Beibl. Dw i hefyd yn trefnu i astudio rhywbeth gyda’n gilydd.” Mae henuriad arall o’r enw Clayton yn dweud: “Dw i’n eu hannog nhw i chwilio am hanesion pobl yn y Beibl sydd wedi mynd drwy rywbeth tebyg iddyn nhw.”

Bugeilio nhw. Mae’r rhai sydd wedi cael eu hadfer i’r gynulleidfa wedi gweld yr henuriaid yn eu rôl fel barnwyr. Ond nawr, yn fwy nag erioed, maen nhw angen eu gweld nhw fel bugeiliaid sy’n gofalu amdanyn nhw. (Jer. 23:4) Bydda’n gyflym i wrando ac yn barod i ganmol. Cysyllta â nhw’n aml. Sylwa beth mae un henuriad o’r enw Marcus yn ei wneud ar alwadau bugeiliol: “’Dyn ni’n rhannu rhywbeth ysbrydol, yn eu canmol nhw, ac yn eu sicrhau nhw ein bod ni’n prowd ohonyn nhw am weithio mor galed i ddod yn ôl, a bod Jehofa yn teimlo fel ’na hefyd. Ar ddiwedd pob galwad, ’dyn ni’n trefnu’r un nesaf.”

a Newidiwyd yr enwau yn yr erthygl hon.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu