LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp23 Rhif 1 tt. 12-13
  • 4 | Mae’r Beibl yn Cynnig Cyngor Ymarferol

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 4 | Mae’r Beibl yn Cynnig Cyngor Ymarferol
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Mae Hynny’n ei Olygu?
  • Sut Gall Hyn Helpu?
  • Sut Mae Cyngor Ymarferol y Beibl yn Helpu Rhai Sy’n Dioddef
  • Sut i Ddelio â Phroblem Iechyd Annisgwyl
    Pynciau Eraill
  • Creisis Iechyd Meddwl Fyd-Eang
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • 3 | Sut Gall Esiamplau o’r Beibl Eich Helpu?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
  • Sut i Helpu’r Rhai Sydd â Iechyd Meddwl Gwael
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2023
wp23 Rhif 1 tt. 12-13
Dynes hapus yn reidio beic.

4 | Mae’r Beibl yn Cynnig Cyngor Ymarferol

MAE’R BEIBL YN DWEUD: “Mae’r holl Ysgrythurau . . . yn fuddiol.”—2 TIMOTHEUS 3:16.

Beth Mae Hynny’n ei Olygu?

Dydy’r Beibl ddim yn llyfr meddygol. Ond, mae’n cynnwys cyngor ymarferol all helpu pobl sy’n stryglo â phroblemau iechyd meddwl. Dyma rai enghreifftiau.

Sut Gall Hyn Helpu?

“Does dim angen meddyg ar bobl iach, ond mae angen un ar y rhai sy’n sâl.”—MATHEW 9:12.

Mae’r Beibl yn cydnabod ein bod ni weithiau angen help meddygol. Mae gwybodaeth ddibynadwy a help gan ddoctor wedi helpu rhai i ddeall eu cyflwr yn well a gweld gwelliant.

“Mae ymarfer corff yn fuddiol.”—1 TIMOTHEUS 4:8.

Gall cymryd yr amser i ddatblygu arferion iach fel ymarfer corff, bwyta’n iach, a chael digon o gwsg wella eich iechyd meddwl.

“Mae llawenydd yn iechyd i’r corff; ond mae iselder ysbryd yn sychu’r esgyrn.”—DIARHEBION 17:22.

Gall darllen adnodau calonogol o’r Beibl yn ogystal â gosod amcanion rhesymol eich helpu chi i deimlo’n hapusach. Gall canolbwyntio ar y pethau da mewn bywyd a chael agwedd bositif tuag at y dyfodol eich helpu i gadw cydbwysedd emosiynol wrth ichi ddelio â’ch heriau personol chi.

“Pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.”—DIARHEBION 11:2.

Allwch chi ddim wastad llwyddo ar eich pen eich hun, felly byddwch yn fodlon derbyn help gan eraill. Mae’n debyg bydd teulu a ffrindiau eisiau eich helpu chi, ond efallai ddim yn gwybod sut. Felly, gadewch iddyn nhw wybod pa bethau rydych chi angen help gyda nhw. Byddwch yn realistig, peidiwch â disgwyl gormod, a byddwch yn ddiolchgar am unrhyw help rydych chi’n ei gael.

Sut Mae Cyngor Ymarferol y Beibl yn Helpu Rhai Sy’n Dioddef

“O’n i’n teimlo bod rhywbeth o’i le, felly es i at y doctor. Roedd hi’n gallu dweud wrtho i beth oedd yn bod. Gwnaeth hynny fy helpu i i dderbyn bod gen i broblem ac i wybod pa opsiynau meddygol fyddai’n gweithio orau imi.”—Nicole,a sy’n dioddef o anhwylder deubegwn.

Dynes yn cael help meddygol.

“Dw i wedi ffeindio bod darllen y Beibl bob bore gyda fy ngwraig yn fy helpu i i feddwl mewn ffordd bositif ac adeiladol o’r cychwyn cyntaf. Ac yn aml iawn, ar ddyddiau pan dw i’n stryglo, dw i’n dod ar draws adnod sy’n cyffwrdd fy nghalon.”—Peter, sy’n dioddef o iselder.

“Roedd hi’n anodd sôn wrth eraill am fy mhroblem oherwydd oedd gen i gymaint o gywilydd. Ond roedd un o fy ffrindiau agos yn barod i wrando a gwnaeth hi drio deall sut o’n i’n teimlo. Gwnaeth hynny godi fy nghalon a gwneud imi deimlo nad oeddwn i ar fy mhen fy hun.”—Ji-yoo, sy’n byw gydag anhwylder bwyta.

“Mae’r Beibl wedi fy helpu i i gadw agwedd gytbwys a rhesymol tuag at waith a gorffwys. Mae ei ddoethineb wedi fy helpu i i ddelio â’r problemau emosiynol dw i’n gorfod brwydro yn eu herbyn drwy’r adeg.”—Timothy, sy’n delio ag anhwylder gorfodaeth obsesiynol.

a Mae rhai enwau wedi cael eu newid.

Y fideo bwrdd gwyn “O Galon Drom i Galon Lon.”
Am Fwy o Help:

Gwyliwch yr animeiddiad bwrdd gwyn O Galon Drom i Galon Lon ar jw.org/cy.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu