A Allwn Ni Roi Terfyn ar Ryfel a Gwrthdaro Arfog?
Mae pobl yn mynd i ryfel am wahanol resymau. Mae rhai eisiau newid y drefn wleidyddol, economaidd, neu gymdeithasol. Mae eraill yn ymladd er mwyn cael gafael ar dir ac adnoddau naturiol. Yn aml, mae gwrthdaro yn digwydd oherwydd gwahaniaethau crefyddol neu ethnig. Beth sy’n cael ei wneud i roi terfyn ar ryfela a chreu heddwch? A allwn ni ddisgwyl i’r ymdrechion hyn lwyddo?
Drazen_/E+ via Getty Images
DATBLYGIAD ECONOMAIDD
Y nod: Gwella safonau byw. Mae hyn yn gallu lleihau anghydraddoldeb economaidd, sydd yn un o’r prif resymau dros wrthdaro.
Pam mae’n anodd? Mae’n gofyn i lywodraethau newid y ffordd maen nhw’n gwario arian. Yn 2022, amcangyfrifir bod £27.5 biliwn ($34.1 biliwn) wedi ei wario ar hybu a chadw heddwch. Ond dim ond 0.4 y cant oedd hyn o’r swm a gafodd ei wario ar y lluoedd arfog yn yr un flwyddyn.
“Rydyn ni’n gwario llawer mwy o arian ac adnoddau ar liniaru effeithiau gwrthdaro nag ar osgoi gwrthdaro a hybu heddwch.”—António Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Mae’r Beibl yn dweud: Mae llywodraethau a sefydliadau’r byd yn gallu help pobl dlawd, ond fyddan nhw byth yn gallu cael gwared ar dlodi yn llwyr.—Deuteronomium 15:11; Mathew 26:11.
DIPLOMYDDIAETH
Y nod: Atal neu ddatrys anghytundeb mewn ffordd heddychlon drwy drafod a dod i delerau er lles y ddwy ochr.
Pam mae’n anodd? Gall un ochr, neu’r ddwy, wrthod trafod, cyfaddawdu, neu ddod i gytundeb. Mae’n hawdd torri cytundebau heddwch.
“Nid yw diplomyddiaeth bob amser yn llwyddo. Weithiau bydd y cytundeb sy’n cael ei wneud i ddod â rhyfel i ben mor annheg nes bod mwy o wrthdaro yn anochel.”—Raymond F. Smith, American Diplomacy.
Mae’r Beibl yn dweud: Dylai pobl ‘geisio heddwch.’ (Salm 34:14, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Ond mae llawer o bobl heddiw “yn anffyddlon, . . . yn gwrthod cytuno â phobl eraill, . . . yn fradwyr.” (2 Timotheus 3:1-4) Mae’r ffaeleddau hyn yn golygu bod arweinwyr gwleidyddol diffuant yn methu datrys anghytundeb.
DIARFOGI
Y nod: Lleihau neu chael gwared ar arfau, yn enwedig rhai niwclear, cemegol, neu fiolegol.
Pam mae’n anodd? Yn aml mae cenhedloedd yn anfodlon diarfogi gan ofni y byddan nhw’n colli grym a’r gallu i’w hamddiffyn eu hunain. Nid yw cael gwared ar arfau yn cael gwared ar y rhesymau y mae pobl yn mynd i ryfel.
“Mae llawer o’r cytundebau a’r addewidion diarfogi a gafodd eu gwneud ar ddiwedd y rhyfel oer wedi mynd heb eu cyflawni, gan gynnwys camau ymarferol i leihau peryg, i dawelu tensiynau rhyngwladol, ac i ddod â ni’n nes at fyd mwy diogel.”—“Securing Our Common Future: An Agenda for Disarmament.”
Mae’r Beibl yn dweud: Dylai pobl roi’r gorau i arfau a ‘churo eu cleddyfau yn sychau aradr.’ (Eseia 2:4) Ond mae angen gwneud mwy na hynny, oherwydd mae trais yn cychwyn yn y galon.—Mathew 15:19.
DIOGELWCH AR Y CYD
Y nod: Mae cenhedloedd yn cytuno i amddiffyn ei gilydd rhag gelyn sy’n ymosod. Mewn theori, ni fydd gelyn am ddechrau rhyfel os bydd hynny’n golygu ymladd yn erbyn lluoedd arfog nifer o genhedloedd.
Pam mae’n anodd? Nid yw peryg dialedd yn ddigon i sicrhau heddwch. Nid yw cenhedloedd bob amser yn cadw at gytundebau, nac yn cytuno ar sut a phryd dylen nhw weithredu yn erbyn ymosodwyr.
“Er bod diogelwch ar y cyd . . . wedi chwarae rhan bwysig yng Nghyfamod Cynghrair y Cenhedloedd ac wedi ei ymgorffori yn Siarter y Cenhedloedd Unedig, mae wedi methu’n llwyr yn y ddau achos.”—“Encyclopedia Britannica.”
Mae’r Beibl yn dweud: Fel arfer, mewn undeb y mae nerth. (Pregethwr 4:12) Ond, ni allwn ddibynnu ar sefydliadau dynol i ddod â heddwch parhaol. “Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu—dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub. Mae’r anadl yn mynd allan ohono, ac mae’n mynd yn ôl i’r pridd; a’r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!”—Salm 146:3, 4.
Er bod nifer o genhedloedd yn gweithio’n galed i greu heddwch parhaol, mae rhyfeloedd yn dal yn bla.