LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Brenhinoedd 1
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Brenhinoedd

      • Elias yn rhagfynegi marwolaeth Ahaseia (1-18)

2 Brenhinoedd 1:2

Troednodiadau

  • *

    Efallai agoriad yn y to a oedd wedi ei orchuddio â latis pren.

2 Brenhinoedd 1:3

Troednodiadau

  • *

    Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.

  • *

    Sy’n golygu “Jehofa Yw Fy Nuw.”

2 Brenhinoedd 1:8

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 1

2 Brenhinoedd 1:9

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 1

2 Brenhinoedd 1:11

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 1

2 Brenhinoedd 1:13

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Efelychu Eu Ffydd, erthygl 1

2 Brenhinoedd 1:17

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, brawd Ahaseia.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Brenhinoedd 1:1-18

Ail Brenhinoedd

1 Ar ôl i Ahab farw, gwrthryfelodd Moab yn erbyn Israel.

2 Dyna pryd disgynnodd Ahaseia drwy’r agoriad* yn llawr ei ystafell ar y to yn Samaria a chael ei anafu. Felly anfonodd negeswyr a dweud wrthyn nhw: “Ewch, a gofynnwch i Baal-sebub, duw Ecron, i ddarganfod a fydda i’n gwella o’r anaf hwn.” 3 Ond dywedodd angel Jehofa* wrth Elias* o Tisbe: “Cod, dos i gyfarfod negeswyr brenin Samaria a dweud wrthyn nhw, ‘A ydych chi’n mynd at Baal-sebub, duw Ecron, oherwydd does ’na ddim Duw yn Israel? 4 Dyna pam mae Jehofa yn dweud: “Fyddi di ddim yn gadael y gwely rwyt ti’n gorwedd arno, oherwydd byddi di’n sicr o farw.”’” Gyda hynny, aeth Elias ar ei ffordd.

5 Pan ddaeth y negeswyr yn ôl ato, dywedodd wrthyn nhw ar unwaith: “Pam rydych chi wedi dod yn ôl?” 6 Atebon nhw: “Daeth dyn i fyny i’n cyfarfod ni, a dywedodd wrthon ni, ‘Ewch yn ôl at y brenin a wnaeth eich anfon chi a dywedwch wrtho, “Dyma beth mae Jehofa yn ei ddweud: ‘A wyt ti’n anfon rhywun at Baal-sebub, duw Ecron, oherwydd does ’na ddim Duw yn Israel? Dyna pam fyddi di ddim yn gadael y gwely rwyt ti’n gorwedd arno; byddi di’n sicr o farw.’”’” 7 Gyda hynny, gofynnodd iddyn nhw: “Sut roedd y dyn hwn yn edrych? Yr un a ddaeth i fyny i’ch cyfarfod chi a dweud y pethau hyn wrthoch chi.” 8 Felly dywedon nhw wrtho: “Roedd yn gwisgo dilledyn blewog ac roedd ganddo felt lledr am ei ganol.” Dywedodd ar unwaith: “Elias o Tisbe oedd ef.”

9 Yna anfonodd y brenin bennaeth ar 50 gyda’i 50 o ddynion at Elias. Pan aeth i fyny ato, roedd yn eistedd ar ben y mynydd. Dywedodd wrtho: “Ddyn y gwir Dduw, mae’r brenin yn dweud, ‘Tyrd i lawr.’” 10 Ond dyma Elias yn ateb: “Wel, gan fy mod i’n was i Dduw, gad i dân ddod i lawr o’r nefoedd a dy lyncu di a dy 50 o ddynion.” A daeth tân i lawr o’r nefoedd a’i lyncu, ef a’i 50 o ddynion.

11 Felly anfonodd y brenin bennaeth arall ar 50 gyda’i 50 o ddynion at Elias. Aeth yntau a dweud wrtho: “Ddyn y gwir Dduw, dyma mae’r brenin yn ei ddweud, ‘Tyrd i lawr yn gyflym.’” 12 Ond atebodd Elias: “Gan fy mod i’n was i’r gwir Dduw, gad i dân ddod i lawr o’r nefoedd a dy lyncu di a dy 50 o ddynion.” A daeth tân oddi wrth Dduw i lawr o’r nefoedd a’i lyncu ef a’i 50 o ddynion.

13 Yna anfonodd y brenin drydydd pennaeth ar 50 gyda’i 50 o ddynion at Elias. Ond aeth y trydydd pennaeth ar 50 i fyny ac ymgrymu ar ei liniau o flaen Elias a dechrau erfyn arno gan ddweud: “Ddyn y gwir Dduw, plîs, gad i fy mywyd i a bywydau’r 50 hyn, dy weision, fod yn werthfawr yn dy olwg. 14 Mae tân eisoes wedi dod i lawr o’r nefoedd ac wedi llyncu dau bennaeth ar 50 a’u grwpiau o 50, ond nawr, gad i fy mywyd fod yn werthfawr yn dy olwg.”

15 Gyda hynny, dywedodd angel Jehofa wrth Elias: “Dos i lawr gydag ef. Paid â’i ofni.” Felly cododd a mynd i lawr gydag ef at y brenin. 16 Yna dywedodd Elias wrth y brenin, “Dyma beth mae Jehofa yn ei ddweud: ‘A wnest ti anfon negeswyr at Baal-sebub, duw Ecron, oherwydd does ’na ddim Duw yn Israel? Pam na wnest ti ofyn am arweiniad Duw? Dyna pam fyddi di ddim yn gadael y gwely rwyt ti’n gorwedd arno; byddi di’n sicr o farw.’” 17 Felly bu farw yn ôl beth ddywedodd Jehofa drwy Elias; ac am ei fod heb gael mab, daeth Jehoram* yn frenin ar Israel yn ei le, yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Jehoram, mab Jehosaffat, brenin Jwda.

18 Ynglŷn â gweddill hanes Ahaseia, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel?

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu