Ail Brenhinoedd
2 Pan oedd Jehofa ar fin cymryd Elias i fyny i’r nefoedd* mewn storm wynt, aeth Elias ac Eliseus allan o Gilgal. 2 Dywedodd Elias wrth Eliseus: “Arhosa yma plîs, oherwydd mae Jehofa wedi fy anfon i ymlaen i Fethel.” Ond dywedodd Eliseus: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa a tithau yn fyw, wna i ddim dy adael di.” Felly aethon nhw i lawr i Fethel. 3 Yna daeth meibion y proffwydi* ym Methel allan at Eliseus a dweud wrtho: “Wyt ti’n gwybod y bydd Jehofa yn cymryd dy feistr i ffwrdd heddiw, ac na fydd yn ben arnat ti bellach?” Atebodd: “Ydw, rydw i’n gwybod. Peidiwch â sôn am y peth.”
4 Nawr dywedodd Elias wrtho: “Arhosa yma plîs Eliseus, oherwydd mae Jehofa wedi fy anfon i ymlaen i Jericho.” Ond dywedodd: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa a tithau yn fyw, wna i ddim dy adael di.” Felly dyma nhw’n mynd i Jericho. 5 Yna daeth meibion y proffwydi a oedd yn Jericho at Eliseus a dweud wrtho: “Wyt ti’n gwybod y bydd Jehofa yn cymryd dy feistr i ffwrdd heddiw, ac na fydd yn ben arnat ti bellach?” I hynny dywedodd: “Ydw, rydw i’n gwybod. Peidiwch â sôn am y peth.”
6 Nawr dywedodd Elias wrtho: “Arhosa yma plîs, oherwydd mae Jehofa wedi fy anfon i ymlaen at yr Iorddonen.” Ond dywedodd: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa a tithau yn fyw, wna i ddim dy adael di.” Felly aeth y ddau ohonyn nhw yn eu blaenau. 7 A dyma 50 o feibion y proffwydi yn eu dilyn ac yn gwylio o bellter tra bod y ddau ohonyn nhw yn sefyll wrth yr Iorddonen. 8 Yna cymerodd Elias ei ddilledyn swyddogol a’i rolio i fyny a tharo’r dŵr gan rannu’r afon yn ddwy, i’r chwith ac i’r dde, fel bod y ddau ohonyn nhw yn gallu croesi ar dir sych.
9 Unwaith iddyn nhw groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus: “Dyweda wrtho i beth rwyt ti eisiau imi ei wneud drostot ti cyn imi gael fy nghymryd oddi wrthot ti.” Felly dywedodd Eliseus: “Plîs ga i siâr ddwbl o dy ysbryd di?” 10 Atebodd: “Rwyt ti wedi gofyn am rywbeth anodd. Os byddi di’n fy ngweld i pan fydda i’n cael fy nghymryd oddi wrthot ti, byddi di’n cael hynny; ond os na fyddi di’n fy ngweld i, fyddi di ddim yn cael hynny.”
11 Fel roedden nhw’n cerdded ac yn sgwrsio, yn sydyn dyma gerbyd tanllyd a cheffylau tanllyd yn dod rhyngddyn nhw, a chafodd Elias ei gymryd i fyny i’r nefoedd* yn y storm wynt. 12 Tra oedd Eliseus yn gwylio, roedd yn gweiddi: “Fy nhad, fy nhad! Cerbyd Israel a’i farchogion!” Pan nad oedd yn gallu ei weld bellach, gafaelodd yn ei ddillad ei hun a’u rhwygo’n ddau. 13 Ar ôl hynny, cododd ef ddilledyn swyddogol Elias a oedd wedi syrthio oddi arno a mynd yn ôl a sefyll wrth lan yr Iorddonen. 14 Yna cymerodd ddilledyn swyddogol Elias a oedd wedi syrthio oddi arno a tharo’r dŵr a dweud: “Ble mae Jehofa, Duw Elias?” Pan wnaeth ef daro’r dŵr, cafodd yr afon ei rhannu i’r chwith ac i’r dde, fel bod Elias yn gallu croesi.
15 Unwaith i feibion y proffwydi yn Jericho ei weld o bellter, dywedon nhw: “Mae ysbryd Elias wedi disgyn ar Eliseus.” Felly aethon nhw i’w gyfarfod ac ymgrymu ar y llawr o’i flaen. 16 Dywedon nhw wrtho: “Mae ’na 50 o ddynion medrus ymysg dy weision. Gad iddyn nhw fynd, plîs, i chwilio am dy feistr. Efallai bod ysbryd* Jehofa wedi ei godi a’i daflu ar un o’r mynyddoedd neu i un o’r dyffrynnoedd.” Ond dywedodd: “Peidiwch â’u hanfon nhw.” 17 Ond, dalion nhw ati i bwyso arno nes ei fod yn teimlo’n anghyfforddus, felly dywedodd: “Anfonwch nhw.” Felly dyma nhw’n anfon y 50 dyn ac aethon nhw i chwilio amdano am dri diwrnod ond ddaethon nhw ddim o hyd iddo. 18 Pan ddaethon nhw yn ôl ato, roedd yn aros yn Jericho. Dywedodd wrthyn nhw: “Oni wnes i ddweud wrthoch chi am beidio â mynd?”
19 Ymhen amser dywedodd dynion y ddinas wrth Eliseus: “Mae fy meistr yn gallu gweld bod y ddinas mewn lleoliad da; ond mae’r dŵr yn wael, ac mae’r tir yn ddiffrwyth.”* 20 Gyda hynny dywedodd: “Dewch â phowlen fach newydd imi a rhowch halen ynddi.” Felly daethon nhw ag un ato. 21 Yna aeth allan at lygad y ffynnon a thaflu halen i mewn iddi a dweud: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Rydw i wedi puro’r dŵr hwn. Ni fydd yn achosi marwolaeth na diffrwythder* bellach.’” 22 Ac mae’r dŵr yn bur hyd heddiw, yn ôl beth ddywedodd Eliseus.
23 Aeth i fyny o fan ’na i Fethel. Tra oedd ar ei ffordd, daeth rhai bechgyn ifanc allan o’r ddinas a dechrau gwneud hwyl am ei ben, gan weiddi arno: “Dos o ’ma’r pen moel! Dos o ’ma’r pen moel!” 24 O’r diwedd dyma’n troi i edrych arnyn nhw ac yn eu melltithio nhw yn enw Jehofa. Yna daeth dwy arth* allan o’r goedwig a rhwygo 42 o’r plant yn ddarnau. 25 Aeth yn ei flaen i Fynydd Carmel, ac yna aeth yn ôl i Samaria.