LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Brenhinoedd 13
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Brenhinoedd

      • Jehoahas, brenin Israel (1-9)

      • Jehoas, brenin Israel (10-13)

      • Eliseus yn rhoi prawf ar sêl Jehoas (14-19)

      • Eliseus yn marw; ei esgyrn yn atgyfodi dyn (20, 21)

      • Proffwydoliaeth olaf Eliseus yn cael ei chyflawni (22-25)

2 Brenhinoedd 13:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “23ain flwyddyn.”

2 Brenhinoedd 13:5

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, mewn heddwch a diogelwch.

2 Brenhinoedd 13:9

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Jehoahas i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

2 Brenhinoedd 13:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “37ain flwyddyn.”

2 Brenhinoedd 13:13

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Jehoas i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

  • *

    Hynny yw, Jeroboam II.

2 Brenhinoedd 13:20

Troednodiadau

  • *

    Yn y gwanwyn mae’n debyg.

2 Brenhinoedd 13:21

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    12/2017, t. 5

2 Brenhinoedd 13:25

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn trechu Ben-hadad.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Brenhinoedd 13:1-25

Ail Brenhinoedd

13 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad Jehoas fab Ahaseia brenin Jwda, daeth Jehoahas fab Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria, a theyrnasodd am 17 mlynedd. 2 Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, a chyflawnodd yr un pechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. Wnaeth ef ddim cefnu ar y pechodau hynny. 3 Felly roedd dicter Jehofa yn erbyn yr Israeliaid yn danbaid, a dyma’n eu rhoi nhw yn nwylo Hasael, brenin Syria, ac yn nwylo Ben-hadad fab Hasael eu holl ddyddiau.

4 Ymhen amser, erfyniodd Jehoahas am ffafr Jehofa, a gwrandawodd Jehofa arno oherwydd roedd wedi gweld y dioddefaint roedd brenin Syria wedi ei achosi i Israel. 5 Felly rhoddodd Jehofa achubwr i Israel i’w rhyddhau nhw o afael Syria, ac roedd yr Israeliaid yn gallu byw yn eu tai fel o’r blaen.* 6 (Ond ni wnaethon nhw gefnu ar bechod teulu Jeroboam, y pechod roedd Jeroboam wedi achosi i Israel ei gyflawni. Roedden nhw’n parhau yn y pechod hwn, ac roedd y polyn cysegredig yn dal i sefyll yn Samaria.) 7 Cafodd Jehoahas ei adael gyda byddin o ddim ond 50 o farchogion, 10 o gerbydau, a 10,000 o filwyr, oherwydd roedd brenin Syria wedi dinistrio’r gweddill, gan sathru arnyn nhw fel llwch ar y llawr dyrnu.

8 Ynglŷn â gweddill hanes Jehoahas, popeth a wnaeth a’i weithredoedd nerthol, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 9 Yna bu farw Jehoahas* a chafodd ei gladdu yn Samaria; a daeth ei fab Jehoas yn frenin yn ei le.

10 Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain* o deyrnasiad Jehoas brenin Jwda, daeth Jehoas fab Jehoahas yn frenin ar Israel yn Samaria, a theyrnasodd am 16 mlynedd. 11 Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa ac i gyflawni’r holl bechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. Wnaeth ef ddim cefnu ar y pechodau hyn.

12 Ynglŷn â gweddill hanes Jehoas, popeth a wnaeth, ei weithredoedd nerthol, a sut gwnaeth ef frwydro yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 13 Yna bu farw Jehoas* ac eisteddodd Jeroboam* ar ei orsedd. A chafodd Jehoas ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel.

14 Nawr pan aeth Eliseus yn sâl â’r salwch a wnaeth ei ladd yn y pen draw, daeth Jehoas brenin Israel i lawr ato ac wylo drosto, gan ddweud: “Fy nhad, fy nhad! Cerbyd Israel a’i farchogion!” 15 Yna dywedodd Eliseus wrtho: “Cymera fwa a saethau.” Felly cymerodd fwa a saethau. 16 Yna dywedodd Eliseus wrth frenin Israel: “Gafael yn y bwa.” Felly gafaelodd ynddo ac yna rhoddodd Eliseus ei ddwylo ef ar ddwylo’r brenin. 17 Yna dywedodd: “Agora’r ffenest tua’r dwyrain.” Felly agorodd y ffenest. Dywedodd Eliseus: “Saetha!” Felly saethodd. Yna dywedodd: “Saeth fuddugoliaeth Jehofa, saeth fuddugoliaeth dros Syria! Byddi di’n taro Syria i lawr yn Affec nes iti drechu’r fyddin yn llwyr.”

18 Aeth ymlaen i ddweud: “Gafael yn y saethau,” felly gafaelodd ynddyn nhw. Yna dywedodd wrth frenin Israel: “Taro’r llawr.” Felly dyma’n taro’r llawr dair gwaith cyn stopio. 19 Gyda hynny, dyma ddyn y gwir Dduw yn digio ag ef a dweud: “Dylet ti fod wedi taro’r llawr bump neu chwe gwaith! Yna byddet ti wedi taro Syria i lawr nes iti ei threchu’n llwyr, ond nawr byddi di ond yn taro Syria i lawr dair gwaith.”

20 Wedyn bu farw Eliseus a chafodd ei gladdu. Ar ôl hynny, dechreuodd grwpiau o ladron o Moab ddod i mewn i’r wlad ar ddechrau pob blwyddyn.* 21 Un diwrnod, roedd ’na ddynion yn claddu dyn pan welson nhw grŵp o ladron. Felly dyma nhw’n taflu’r dyn i mewn i fedd Eliseus a rhedeg i ffwrdd. Pan wnaeth corff y dyn gyffwrdd ag esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a sefyll ar ei draed.

22 Nawr dyma Hasael, brenin Syria, yn erlid Israel holl ddyddiau Jehoahas. 23 Ond dangosodd Jehofa ffafr a thrugaredd tuag atyn nhw, a dangosodd ei fod yn gofalu amdanyn nhw er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob. Doedd ef ddim eisiau eu difetha nhw, a dydy ef ddim wedi eu gyrru nhw i ffwrdd o’i olwg hyd heddiw. 24 Unwaith i Hasael brenin Syria farw, daeth ei fab Ben-hadad yn frenin yn ei le. 25 Dyma Jehoas fab Jehoahas yn cymryd oddi ar Ben-hadad fab Hasael y dinasoedd roedd Hasael wedi eu cymryd oddi ar Jehoahas yn ystod adeg rhyfel. Dyma Jehoas yn taro Ben-hadad i lawr* dair gwaith ac yn cymryd dinasoedd Israel yn ôl.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu