LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Brenhinoedd 14
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Brenhinoedd

      • Amaseia, brenin Jwda (1-6)

      • Rhyfel yn erbyn Edom ac yn erbyn Israel (7-14)

      • Marwolaeth Jehoas o Israel (15, 16)

      • Marwolaeth Amaseia (17-22)

      • Jeroboam II, brenin Israel (23-29)

2 Brenhinoedd 14:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “dy balas.”

2 Brenhinoedd 14:13

Troednodiadau

  • *

    Tua 178 m (584 tr).

2 Brenhinoedd 14:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “yn nhrysordai palas y brenin.”

  • *

    Llyth., “gwystlon.”

2 Brenhinoedd 14:16

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Jehoas i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

  • *

    Hynny yw, Jeroboam II.

2 Brenhinoedd 14:21

Troednodiadau

  • *

    Sy’n golygu “Mae Jehofa Wedi Helpu.” Mae’n cael ei alw’n Usseia yn 2Br 15:13; 2Cr 26:1-23; Esei 6:1; a Sech 14:5.

2 Brenhinoedd 14:22

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, ei dad Amaseia.

  • *

    Neu “ar ôl i’r brenin orwedd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

2 Brenhinoedd 14:23

Troednodiadau

  • *

    Neu “15fed.”

2 Brenhinoedd 14:25

Troednodiadau

  • *

    Neu “o fynedfa Hamath.”

  • *

    Hynny yw, y Môr Heli, neu y Môr Marw.

2 Brenhinoedd 14:29

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Jeroboam i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Brenhinoedd 14:1-29

Ail Brenhinoedd

14 Yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Jehoas fab Jehoahas brenin Israel, daeth Amaseia fab Jehoas brenin Jwda yn frenin. 2 Roedd yn 25 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin a theyrnasodd am 29 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Jehoadin o Jerwsalem. 3 Parhaodd i wneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, ond nid fel gwnaeth ei gyndad Dafydd. Gwnaeth bopeth fel roedd ei dad Jehoas wedi gwneud. 4 Ond roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno, ac roedd y bobl yn dal i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau. 5 Unwaith iddo sicrhau ei afael ar y deyrnas, gwnaeth ef ladd ei weision a oedd wedi lladd ei dad y brenin. 6 Ond ni wnaeth ef ladd meibion y llofruddion, yn ôl gorchymyn Jehofa a oedd wedi ei ysgrifennu yn llyfr Cyfraith Moses: “Ni ddylai tadau gael eu lladd am bechodau eu meibion, ac ni ddylai meibion gael eu lladd am bechodau eu tadau; ond dylai pob un gael ei ladd am ei bechod ei hun.” 7 Tarodd yr Edomiaid i lawr yn Nyffryn yr Halen, 10,000 o ddynion, a chipiodd Sela yn y rhyfel, cafodd Sela ei galw’n Joctheel, a dyna yw ei henw hyd heddiw.

8 Yna anfonodd Amaseia negeswyr at Jehoas, mab Jehoahas, mab Jehu brenin Israel, yn dweud: “Tyrd, gad inni wynebu ein gilydd mewn brwydr.” 9 Anfonodd Jehoas brenin Israel y neges hon at Amaseia brenin Jwda: “Anfonodd y chwynnyn pigog yn Lebanon neges at y gedrwydden yn Lebanon, ‘Rho dy ferch yn wraig i fy mab.’ Ond daeth anifail gwyllt o Lebanon heibio a sathru ar y chwynnyn pigog. 10 Mae’n wir, rwyt ti wedi taro Edom i lawr, felly mae dy galon wedi troi’n falch. Mwynha dy ogoniant, ond arhosa yn dy dŷ* dy hun. Pam dylet ti achosi dinistr a chwympo gan ddod â Jwda i lawr gyda ti?” 11 Ond wnaeth Amaseia ddim gwrando.

Felly aeth Jehoas brenin Israel i fyny, a dyma ef ac Amaseia brenin Jwda yn wynebu ei gilydd mewn brwydr yn Beth-semes, sy’n perthyn i Jwda. 12 Cafodd Jwda ei threchu gan Israel, felly dyma bob un yn ffoi i’w gartref. 13 Gwnaeth Jehoas brenin Israel gipio Amaseia brenin Jwda, mab Jehoas, mab Ahaseia, yn Beth-semes. Yna aethon nhw i Jerwsalem, a thynnodd ran o wal Jerwsalem i lawr, o Borth Effraim i Borth y Gornel, 400 cufydd.* 14 Cymerodd yr aur a’r arian i gyd, a’r holl bethau gwerthfawr a oedd wedi cael eu darganfod yn nhŷ Jehofa ac yn nhrysordai tŷ y brenin,* yn ogystal â chaethion.* Yna aeth yn ôl i Samaria.

15 Ynglŷn â gweddill hanes Jehoas, beth wnaeth ef, ei weithredoedd nerthol, a sut brwydrodd ef yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 16 Yna bu farw Jehoas* a chafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; a daeth ei fab Jeroboam* yn frenin yn ei le.

17 Gwnaeth Amaseia fab Jehoas brenin Jwda fyw am 15 mlynedd ar ôl marwolaeth Jehoas fab Jehoahas brenin Israel. 18 Ynglŷn â gweddill hanes Amaseia, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 19 Yn nes ymlaen, dyma nhw’n cynllwynio yn ei erbyn yn Jerwsalem, a gwnaeth ef ffoi i Lachis, ond anfonon nhw ddynion i Lachis ar ei ôl a’i ladd yno. 20 Felly gwnaethon nhw ei gludo yn ôl ar geffylau, a chafodd ei gladdu yn Jerwsalem gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd. 21 Yna dyma holl bobl Jwda yn cymryd Asareia,* a oedd yn 16 mlwydd oed, a’i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia. 22 Ailadeiladodd Elath a’i hadfer i Jwda ar ôl i’r brenin* farw.*

23 Yn y bymthegfed* flwyddyn o deyrnasiad Amaseia fab Jehoas brenin Jwda, daeth Jeroboam fab Jehoas brenin Israel yn frenin yn Samaria, a theyrnasodd am 41 mlynedd. 24 Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. Ni wnaeth ef gefnu ar yr holl bechodau roedd Jeroboam fab Nebat wedi achosi i Israel eu cyflawni. 25 Gwnaeth ef adfer ffin Israel fel ei bod yn mynd o Lebo-hamath* hyd at Fôr yr Araba,* yn ôl beth roedd Jehofa, Duw Israel, wedi ei ddweud drwy ei was Jona fab Amitai, y proffwyd o Gath-heffer. 26 Roedd Jehofa wedi gweld cymaint roedd Israel yn dioddef. Doedd ’na neb ar ôl i helpu Israel, ddim hyd yn oed y rhai mwyaf dibwys. 27 Ond roedd Jehofa wedi addo peidio â chael gwared ar enw Israel oddi ar wyneb y ddaear. Felly gwnaeth ef eu hachub nhw drwy law Jeroboam fab Jehoas.

28 Ynglŷn â gweddill hanes Jeroboam, popeth a wnaeth, ei weithredoedd nerthol, sut gwnaeth ef frwydro, a sut gwnaeth ef adfer Damascus a Hamath i Jwda yn Israel, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 29 Yna bu farw Jeroboam* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau, gyda brenhinoedd Israel; a daeth ei fab Sechareia yn frenin yn ei le.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu