Ail Brenhinoedd
21 Roedd Manasse yn 12 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 55 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Heffsiba. 2 Gwnaeth beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, gan ddilyn arferion ffiaidd y cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen pobl Israel. 3 Ailadeiladodd yr uchelfannau roedd ei dad Heseceia wedi eu dinistrio, a chododd bolyn cysegredig ac allorau i Baal, yn union fel roedd Ahab brenin Israel wedi gwneud. Ac ymgrymodd i holl fyddin y nefoedd a’u gwasanaethu nhw. 4 Hefyd, adeiladodd allorau yn nhŷ Jehofa, y lle roedd Jehofa wedi dweud amdano: “Yn Jerwsalem y bydda i’n rhoi fy enw.” 5 Ac adeiladodd allorau i holl fyddin y nefoedd mewn dau gwrt yn nhŷ Jehofa. 6 A gwnaeth i’w fab ei hun fynd drwy’r tân; roedd yn dewino, yn chwilio am arwyddion,* ac yn penodi cyfryngwyr ysbrydion* a phobl sy’n dweud ffortiwn. Gwnaeth ar raddfa enfawr beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, er mwyn ei ddigio.
7 Rhoddodd y ddelw a oedd wedi ei cherfio, sef y polyn cysegredig roedd ef wedi ei wneud, yn y tŷ roedd Jehofa wedi sôn amdano wrth Dafydd a’i fab Solomon, gan ddweud: “Bydda i’n rhoi fy enw i yn barhaol yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle rydw i wedi ei ddewis allan o holl lwythau Israel. 8 A fydda i byth eto yn gyrru pobl Israel o’r wlad y gwnes i ei rhoi i’w cyndadau, ar yr amod eu bod nhw’n cadw at yr holl orchmynion rydw i wedi eu rhoi iddyn nhw, y Gyfraith gyfan y gwnaeth fy ngwas Moses orchymyn iddyn nhw ei dilyn.” 9 Ond wnaethon nhw ddim ufuddhau, a pharhaodd Manasse i’w harwain nhw ar gyfeiliorn, gan achosi iddyn nhw wneud pethau gwaeth na’r cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu dinistrio o flaen yr Israeliaid.
10 Parhaodd Jehofa i siarad drwy ei weision y proffwydi, gan ddweud: 11 “Mae Manasse brenin Jwda wedi gwneud yr holl bethau ffiaidd hyn; mae ef wedi ymddwyn yn waeth na’r holl Amoriaid o’i flaen, ac mae ef wedi achosi i Jwda bechu gyda’i eilunod ffiaidd.* 12 Felly dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Bydda i’n dod â’r fath ddinistr ar Jerwsalem a Jwda fel y bydd yn dychryn pwy bynnag sy’n clywed am y peth.* 13 A bydda i’n estyn yr un llinyn mesur ar Jerwsalem ag y gwnes i ei ddefnyddio ar Samaria ac yn defnyddio yr un llinyn plwm* ag y gwnes i ei ddefnyddio ar dŷ Ahab, a bydda i’n sychu Jerwsalem yn lân, yn union fel mae rhywun yn sychu powlen yn lân, gan ei sychu a’i throi hi ben i waered. 14 Bydda i’n cefnu ar weddill fy etifeddiaeth ac yn eu rhoi nhw yn nwylo eu gelynion, a byddan nhw a’u heiddo yn ysbail i’w holl elynion, 15 oherwydd gwnaethon nhw beth oedd yn ddrwg yn fy ngolwg i, ac maen nhw wedi fy ngwylltio i dro ar ôl tro o’r diwrnod daeth eu cyndadau allan o’r Aifft hyd heddiw.’”
16 Hefyd gwnaeth Manasse dywallt* llawer iawn o waed dieuog nes iddo lenwi Jerwsalem o un pen i’r llall, heb sôn am ei bechod o achosi i Jwda bechu drwy wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. 17 Ynglŷn â gweddill hanes Manasse, popeth a wnaeth a’r pechodau a gyflawnodd ef, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 18 Yna bu farw Manasse* a chafodd ei gladdu yng ngardd ei dŷ, yng ngardd Ussa; a daeth ei fab Amon yn frenin yn ei le.
19 Roedd Amon yn 22 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am ddwy flynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Mesulemeth, merch Harus o Jotba. 20 Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, yn union fel roedd ei dad Manasse wedi gwneud. 21 Dilynodd ôl traed ei dad, a pharhaodd i wasanaethu yr eilunod ffiaidd roedd ei dad wedi eu gwasanaethu ac ymgrymu iddyn nhw. 22 Felly cefnodd ar Jehofa, Duw ei gyndadau, ac ni cherddodd yn ffyrdd Jehofa. 23 Yn y pen draw, cynllwyniodd gweision Amon yn ei erbyn a lladd y brenin yn ei dŷ ei hun. 24 Ond dyma bobl y wlad yn taro i lawr bawb oedd wedi cynllwynio yn erbyn y Brenin Amon, ac yn gwneud ei fab Joseia yn frenin yn ei le. 25 Ynglŷn â gweddill hanes Amon, beth wnaeth ef, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 26 Felly gwnaethon nhw ei gladdu yn ei fedd yng ngardd Ussa, a daeth ei fab Joseia yn frenin yn ei le.