LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Brenhinoedd 22
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Brenhinoedd

      • Joseia, brenin Jwda (1, 2)

      • Cyfarwyddiadau ar gyfer atgyweirio’r deml (3-7)

      • Llyfr y Gyfraith yn cael ei ddarganfod (8-13)

      • Y broffwydes Hulda yn rhagfynegi trychineb (14-20)

2 Brenhinoedd 22:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “18fed.”

2 Brenhinoedd 22:20

Troednodiadau

  • *

    Ymadrodd barddonol am farwolaeth yw hwn.

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Brenhinoedd 22:1-20

Ail Brenhinoedd

22 Roedd Joseia yn wyth mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 31 mlynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Jedida, merch Adaia o Boscath. 2 Gwnaeth beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa a dilynodd ôl traed Dafydd ei gyndad heb wyro i’r dde nac i’r chwith.

3 Yn y ddeunawfed* flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Joseia, dyma’r brenin yn anfon Saffan yr ysgrifennydd, mab Asaleia, mab Mesulam, i dŷ Jehofa, yn dweud: 4 “Dos i fyny at Hilceia yr archoffeiriad, a gad iddo gasglu’r holl arian sy’n dod i mewn i deml Jehofa, yr arian mae’r porthorion wedi ei gasglu gan y bobl. 5 Wedyn dylai’r arian gael ei roi i’r rhai sydd wedi eu penodi dros y gwaith yn nhŷ Jehofa. A byddan nhwthau, yn eu tro, yn ei roi i’r gweithwyr yn nhŷ Jehofa, y rhai a fydd yn trwsio’r tŷ, 6 hynny yw, i’r crefftwyr, yr adeiladwyr, a’r seiri maen; a dylen nhw ei ddefnyddio i brynu cerrig wedi eu naddu a choed i atgyweirio’r tŷ. 7 Ond ni fydd rhaid iddyn nhw gofnodi sut maen nhw’n gwario’r arian, am eu bod nhw’n ddibynadwy.”

8 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Hilceia yr archoffeiriad wrth Saffan yr ysgrifennydd: “Rydw i wedi dod o hyd i lyfr y Gyfraith yn nhŷ Jehofa.” Felly rhoddodd Hilceia y llyfr i Saffan a dechreuodd yntau ei ddarllen. 9 Yna aeth Saffan yr ysgrifennydd at y brenin a dweud wrtho: “Mae dy weision wedi gwagio’r gist arian oedd yn y tŷ, ac maen nhw wedi rhoi’r arian i’r rhai sydd wedi eu penodi dros y gwaith yn nhŷ Jehofa.” 10 Hefyd, dywedodd Saffan yr ysgrifennydd wrth y brenin: “Mae Hilceia yr offeiriad wedi rhoi llyfr imi.” Yna dechreuodd Saffan ei ddarllen o flaen y brenin.

11 Unwaith i’r brenin glywed geiriau llyfr y Gyfraith, rhwygodd ei ddillad. 12 Yna rhoddodd y brenin y gorchymyn hwn i Hilceia yr offeiriad, Ahicam fab Saffan, Achbor fab Michea, Saffan yr ysgrifennydd, ac Asaia gwas y brenin: 13 “Ewch i ofyn am arweiniad Jehofa ar fy rhan i, ar ran y bobl, ac ar ran Jwda i gyd ynglŷn â geiriau’r llyfr hwn sydd wedi cael ei ddarganfod; mae Jehofa wedi gwylltio’n lân â ni, oherwydd doedd ein cyndadau ddim yn ufudd i’r hyn roedden ni i fod i’w wneud yn ôl geiriau’r llyfr hwn.”

14 Felly aeth Hilceia yr offeiriad, Ahicam, Achbor, Saffan, ac Asaia at Hulda y broffwydes. Hi oedd gwraig Salum, mab Ticfa, mab Harhas, gofalwr y gwisgoedd. Roedd hi’n byw yn rhan newydd Jerwsalem, a gwnaethon nhw siarad â hi yno. 15 Dywedodd hi wrthyn nhw: “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud, ‘Dywedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i: 16 “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Bydda i’n dod â thrychineb ar y lle hwn a’r bobl sy’n byw yma, a bydd holl eiriau’r llyfr mae brenin Jwda wedi ei ddarllen yn dod yn wir. 17 Am eu bod nhw wedi cefnu arna i, ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau o flaen duwiau eraill er mwyn fy nigio i â holl waith eu dwylo, bydd fy nicter yn erbyn y lle hwn fel tân na fydd yn cael ei ddiffodd.’” 18 Ond dyma beth dylech chi ei ddweud wrth frenin Jwda sydd wedi eich anfon chi i ofyn am arweiniad Jehofa, “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Ynglŷn â’r geiriau rwyt ti wedi eu clywed, 19 am fod dy galon wedi meddalu, ac am dy fod ti wedi gwneud dy hun yn isel o flaen Jehofa ar ôl clywed beth ddywedais i yn erbyn y lle hwn ac yn erbyn y bobl sy’n byw yma—y bydden nhw’n cael eu melltithio ac y byddai pobl yn dychryn o weld beth ddigwyddodd iddyn nhw—ac am dy fod ti wedi rhwygo dy ddillad ac wylo o fy mlaen i, rydw i hefyd wedi dy glywed di, meddai Jehofa. 20 Dyna pam bydda i’n dy gasglu di at dy hynafiaid* a byddi di’n cael dy gladdu mewn heddwch, a fydd dy lygaid ddim yn gweld yr holl drychineb bydda i’n dod ar y lle hwn.’”’” A dyma nhw’n adrodd hyn yn ôl wrth y brenin.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu