Exodus
11 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Rydw i am daro Pharo a’r Aifft ag un pla arall. Ar ôl hynny fe fydd yn eich anfon chi i ffwrdd, ie, yn sicr, fe fydd yn eich gyrru chi i ffwrdd. 2 Nawr dyweda wrth y bobl y dylai’r holl ddynion a merched* ofyn i’w cymdogion am bethau wedi eu gwneud o arian ac aur.” 3 Ac achosodd Jehofa i’r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl. Ar ben hynny, roedd Moses ei hun wedi ennill enw da yng ngwlad yr Aifft ymhlith gweision Pharo ac ymhlith y bobl.
4 Yna dywedodd Moses: “Dyma beth mae Jehofa wedi ei ddweud, ‘Am tua hanner nos rydw i am fynd allan ymhlith yr Eifftiaid, 5 a bydd pob cyntaf-anedig yn yr Aifft yn marw, o gyntaf-anedig Pharo sy’n eistedd ar ei orsedd i gyntaf-anedig y gaethferch sy’n gweithio wrth y felin law, a chyntaf-anedig yr holl anifeiliaid. 6 Trwy wlad yr Aifft i gyd, fe fydd ’na grio uchel sydd erioed wedi digwydd o’r blaen ac na fydd yn digwydd byth eto. 7 Ond ni fydd hyd yn oed ci yn cyfarth ar yr Israeliaid, nid ar y dynion nac ar eu hanifeiliaid, er mwyn ichi wybod bod Jehofa’n gallu gwahaniaethu rhwng yr Eifftiaid a’r Israeliaid.’ 8 A bydd dy holl weision yn sicr o ddod i lawr ata i ac yn ymgrymu imi, gan ddweud, ‘Dos, ti a’r holl bobl sy’n dy ddilyn di.’ Ac ar ôl hynny, fe fydda i’n mynd allan.” Ar hynny, fe aeth allan oddi wrth Pharo, wedi gwylltio’n lân.
9 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Fydd Pharo ddim yn gwrando arnoch chi, er mwyn imi wneud mwy o wyrthiau yng ngwlad yr Aifft.” 10 Fe wnaeth Moses ac Aaron yr holl wyrthiau hyn o flaen Pharo, ond gadawodd Jehofa i galon Pharo droi’n ystyfnig, fel na fyddai’n anfon yr Israeliaid i ffwrdd o’i wlad.