Exodus
19 Yn y trydydd mis ar ôl i’r Israeliaid adael gwlad yr Aifft, daethon nhw i anialwch Sinai. 2 Gwnaethon nhw adael Reffidim a dod i anialwch Sinai a gwersylla yn yr anialwch. Gwersyllodd Israel yno o flaen y mynydd.
3 Yna aeth Moses i fyny at y gwir Dduw, a galwodd Jehofa arno o’r mynydd, gan ddweud: “Dyma beth mae’n rhaid iti ei ddweud wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel, 4 ‘Rydych chi wedi gweld drostoch chi’ch hunain beth wnes i i’r Eifftiaid, er mwyn eich cario chi ar adenydd eryrod a’ch dod â chi yma. 5 Nawr os byddwch chi’n gwrando’n ofalus ar fy llais ac yn cadw fy nghyfamod, bydda i’n bendant yn eich dewis chi fel eiddo arbennig* allan o’r holl bobloedd, oherwydd mae’r ddaear gyfan yn perthyn imi. 6 Byddwch chi’n deyrnas o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd sy’n perthyn i mi.’ Dyna beth dylet ti ei ddweud wrth yr Israeliaid.”
7 Felly aeth Moses a galw henuriaid y bobl a chyhoeddi iddyn nhw bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn iddo. 8 Ar ôl hynny atebodd y bobl i gyd yn llwyr gytûn: “Rydyn ni’n fodlon gwneud pob peth mae Jehofa wedi ei ddweud.” Ar unwaith dyma Moses yn dweud wrth Jehofa beth oedd ymateb y bobl. 9 A dywedodd Jehofa wrth Moses: “Edrycha! Rydw i’n dod atat ti mewn cwmwl tywyll, er mwyn i’r bobl fy nghlywed wrth imi siarad â ti ac er mwyn iddyn nhw wastad rhoi ffydd ynot tithau hefyd.” Yna dyma Moses yn adrodd geiriau’r bobl wrth Jehofa.
10 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos at y bobl a’u sancteiddio nhw heddiw ac yfory, ac mae’n rhaid iddyn nhw olchi eu dillad. 11 Ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn barod ar gyfer y trydydd dydd, oherwydd ar y trydydd dydd fe fydd Jehofa’n ymddangos ar Fynydd Sinai o flaen llygaid y bobl i gyd. 12 Mae’n rhaid iti osod ffin ar gyfer y bobl o amgylch y mynydd a dweud wrthyn nhw, ‘Peidiwch â mynd i fyny at y mynydd na chyffwrdd â’i ffin. Bydd unrhyw un sy’n cyffwrdd â’r mynydd yn sicr o gael ei roi i farwolaeth. 13 Ni ddylai neb ei gyffwrdd, neu fel arall fe fyddai naill ai’n cael ei labyddio neu ei saethu.* P’un a yw’n anifail neu’n ddyn, bydd rhaid iddo farw.’ Ond pan fydd corn hwrdd* yn canu, fe allan nhw ddod i fyny at y mynydd.”
14 Yna aeth Moses i lawr o’r mynydd at y bobl, a dechreuodd sancteiddio’r bobl, ac fe wnaethon nhw olchi eu dillad. 15 Dywedodd wrth y bobl: “Byddwch yn barod ar gyfer y trydydd dydd. Peidiwch â chael cyfathrach rywiol.”
16 Ar fore’r trydydd dydd, roedd ’na fellt a tharanau, ac roedd ’na gwmwl trwchus ar y mynydd a sŵn corn yn seinio’n uchel, a dyma’r holl bobl yn y gwersyll yn dechrau crynu mewn ofn. 17 Nawr daeth Moses â’r bobl allan o’r gwersyll i gasglu at ei gilydd o flaen y gwir Dduw, a chymeron nhw eu lle wrth waelod y mynydd. 18 Roedd ’na fwg dros Fynydd Sinai i gyd am fod Jehofa wedi dod i lawr arno mewn tân, ac roedd y mwg yn codi fel mwg ffwrnais, ac roedd y mynydd cyfan yn ysgwyd yn ffyrnig. 19 Wrth i sŵn y corn fynd yn uwch ac yn uwch, siaradodd Moses, ac atebodd llais y gwir Dduw.
20 Felly daeth Jehofa i lawr ar ben Mynydd Sinai. Yna galwodd Jehofa ar Moses i ddod i gopa’r mynydd, ac aeth Moses i fyny. 21 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos i lawr a rhybuddia’r bobl i beidio â chroesi’r ffin er mwyn edrych ar Jehofa, neu bydd llawer ohonyn nhw’n marw. 22 A gad i’r offeiriaid, sy’n dod yn agos at Jehofa yn rheolaidd, eu sancteiddio eu hunain, fel na fydd Jehofa’n eu taro nhw.” 23 Yna dywedodd Moses wrth Jehofa: “Dydy’r bobl ddim yn gallu dod i fyny i Fynydd Sinai oherwydd gwnest ti ein rhybuddio ni’n barod, gan ddweud, ‘Mae’n rhaid ichi osod ffin o amgylch y mynydd, a’i wneud yn sanctaidd.’” 24 Fodd bynnag, dywedodd Jehofa wrtho: “Dos i lawr, ac yna tyrd yn ôl i fyny, ti ac Aaron gyda ti, ond paid â gadael i’r offeiriaid a’r bobl groesi’r ffin i ddod i fyny at Jehofa, fel na fydda i’n eu taro nhw.” 25 Felly aeth Moses i lawr at y bobl a dweud wrthyn nhw beth roedd Duw wedi ei ddweud.