Exodus
21 “Dyma’r penderfyniadau barnwrol mae’n rhaid iti eu cyfleu iddyn nhw:
2 “Os ydych chi’n prynu caethwas sy’n Hebread, bydd ef yn gwasanaethu fel caethwas am chwe mlynedd, ond yn y seithfed flwyddyn, bydd ef yn cael ei ryddhau heb iddo dalu unrhyw beth. 3 Os daeth ef i mewn ar ei ben ei hun, fe fydd yn gadael ar ei ben ei hun. Os oes ganddo wraig, yna bydd rhaid i’w wraig adael gydag ef. 4 Os ydy ei feistr yn rhoi gwraig iddo ac mae hi’n geni meibion neu ferched iddo, bydd y wraig a’i phlant yn dod yn eiddo i’r meistr, a bydd y caethwas yn gadael ar ei ben ei hun. 5 Ond os bydd y caethwas yn mynnu ac yn dweud, ‘Rydw i’n caru fy meistr, fy ngwraig, a fy meibion, dydw i ddim eisiau mynd yn rhydd,’ 6 bydd rhaid i’w feistr ddod ag ef o flaen y gwir Dduw. Yna fe fydd yn gwneud iddo sefyll yn erbyn drws ei dŷ neu ffrâm y drws, a bydd ei feistr yn gwneud twll drwy ei glust gyda mynawyd,* a bydd ef yn gaethwas iddo am weddill ei fywyd.
7 “Os ydy dyn yn gwerthu ei ferch fel caethferch, ni fydd hi’n cael ei rhyddhau yn yr un ffordd ag y mae caethwas yn cael ei ryddhau. 8 Os nad ydy hi’n plesio ei meistr ac os nad ydy ef eisiau iddi hi fod yn wraig arall* iddo bellach, ond mae’n ei gwerthu hi i rywun arall, ni fydd ganddo’r hawl i’w gwerthu hi i bobl estron, gan ei fod wedi ei bradychu hi. 9 Os ydy ef yn ei dewis hi yn wraig i’w fab, bydd rhaid iddo ei thrin hi fel merch. 10 Os bydd yn cymryd gwraig arall iddo’i hun, ni ddylai bwyd y wraig gyntaf, na’i dillad, na’r hyn sy’n ddyledus iddi mewn priodas* gael eu lleihau. 11 Os na fydd ef yn rhoi’r tri pheth hyn iddi, yna bydd hi’n rhydd i fynd heb dalu dim arian.
12 “Bydd rhaid i unrhyw un sy’n taro dyn a’i ladd gael ei roi i farwolaeth. 13 Ond os digwyddodd hynny’n anfwriadol ac os gadawodd y gwir Dduw i hynny ddigwydd, bydda i’n gwneud yn siŵr fod ganddo rywle i ffoi iddo. 14 Os ydy dyn yn gwylltio’n lân gyda’i gyd-ddyn ac yn ei ladd yn fwriadol, bydd rhaid i’r dyn farw hyd yn oed os ydych chi’n gorfod ei gymryd i ffwrdd oddi wrth fy allor. 15 Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n taro ei dad neu ei fam gael ei roi i farwolaeth.
16 “Os ydy unrhyw un yn herwgipio rhywun arall ac yn ei werthu neu’n cael ei ddal yn cadw’r person hwnnw’n gaeth, bydd rhaid iddo gael ei roi i farwolaeth.
17 “Bydd rhaid i unrhyw un sy’n melltithio ei dad neu ei fam gael ei roi i farwolaeth.
18 “Dyma beth ddylai ddigwydd os ydy dynion yn ffraeo ac mae un yn taro’r llall â charreg neu ddwrn* ac nid yw’n marw ond mae’n cael ei anafu ac yn gorfod aros yn ei wely: 19 Os ydy ef yn gallu codi a cherdded o gwmpas y tu allan gyda ffon i’w helpu, yna bydd yr un a wnaeth ei daro yn rhydd o gosb. Tra bod y dyn sydd wedi ei anafu yn methu gweithio, bydd yr un a wnaeth ei daro yn ei gefnogi nes iddo wella’n llwyr.
20 “Os ydy dyn yn taro ei gaethwas neu ei gaethferch gyda ffon ac mae ef neu hi yn marw tra ei fod yn cael ei guro, bydd rhaid i’r dyn hwnnw gael ei gosbi. 21 Fodd bynnag, os ydy ef neu hi yn goroesi am un neu ddau ddiwrnod, ni fydd y perchennog yn cael ei gosbi, gan ei fod wedi prynu’r caethwas gyda’i arian ei hun.
22 “Os ydy dynion yn ymladd â’i gilydd ac yn brifo dynes* feichiog ac mae hi’n rhoi genedigaeth yn rhy fuan oherwydd hynny, yna os bydd hi a’r babi yn aros yn fyw, bydd rhaid i’r troseddwr dalu beth bynnag mae gŵr y ddynes* yn ei ofyn amdano, er dydy’r un ohonyn nhw wedi marw;* a bydd rhaid iddo ei dalu drwy’r barnwyr. 23 Ond os bydd un ohonyn nhw’n cael ei ladd, yna bydd rhaid ichi dalu bywyd am fywyd, 24 llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed, 25 llosg am losg, anaf am anaf, clais am glais.
26 “Os ydy dyn yn taro llygad ei gaethwas neu ei gaethferch, ac mae ef neu hi’n mynd yn ddall, bydd rhaid iddo adael i’r caethwas fynd yn rhydd fel iawndal am ei lygad. 27 Ac os bydd yn taro dannedd ei gaethwas neu ei gaethferch ac mae dant yn disgyn allan, bydd rhaid iddo adael i’r caethwas fynd yn rhydd fel iawndal am ei ddant.
28 “Os ydy tarw yn cornio dyn neu ddynes* ac mae’r unigolyn yn cael ei ladd, bydd rhaid i’r tarw gael ei labyddio i farwolaeth ac ni ddylai neb fwyta’r cig; ond ni fydd perchennog y tarw yn cael ei gosbi. 29 Ond os ydy tarw yn mynd i’r arfer o gornio a dydy ei berchennog ddim yn ei gadw o dan reolaeth er iddo gael ei rybuddio, yna os bydd y tarw yn lladd dyn neu ddynes,* bydd rhaid i’r tarw gael ei labyddio a bydd rhaid i’w berchennog gael ei roi i farwolaeth hefyd. 30 Os bydd pris yn cael ei osod fel iawndal er mwyn i berchennog y tarw beidio â chael ei roi i farwolaeth, yna bydd rhaid iddo dalu’r pris hwnnw. 31 Mae’r un gyfraith yn berthnasol i berchennog y tarw os ydy’r tarw yn cornio plentyn. 32 Os ydy’r tarw yn cornio caethwas neu gaethferch, bydd rhaid i berchennog y tarw roi 30 sicl* i feistr y caethwas neu’r gaethferch, a bydd y tarw yn cael ei labyddio i farwolaeth.
33 “Os ydy dyn yn gadael pydew ar agor neu’n cloddio pydew heb ei gau ac mae tarw neu asyn yn syrthio i mewn iddo, 34 bydd rhaid i’r dyn dalu am yr anifail sydd wedi marw. Dylai roi’r arian i berchennog yr anifail, a bydd yr anifail marw yn perthyn iddo ef. 35 Os ydy tarw un dyn yn anafu tarw dyn arall ac mae’r tarw hwnnw’n marw, bydd rhaid iddyn nhw werthu’r tarw sy’n fyw a rhannu’r arian rhyngddyn nhw; bydd rhaid iddyn nhw hefyd rannu’r anifail sydd wedi marw rhyngddyn nhw. 36 Neu os oedd y bobl yn ymwybodol bod y tarw wedi mynd i’r arfer o gornio ond ni wnaeth y perchennog ei gadw o dan reolaeth, bydd rhaid iddo dalu tarw am darw, a bydd y tarw sydd wedi marw yn eiddo iddo.