Exodus
20 Yna, dywedodd Duw y geiriau hyn:
2 “Fi yw Jehofa eich Duw, a ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, allan o wlad eich caethiwed. 3 Ni ddylech chi addoli unrhyw dduwiau eraill heblaw amdana i.
4 “Ni ddylech chi gerfio eilun i chi’ch hunain na gwneud llun sy’n debyg i unrhyw beth yn y nefoedd neu ar y ddaear neu yn y dyfroedd o dan y ddaear. 5 Ni ddylech chi blygu i lawr iddyn nhw na chael eich temtio i’w gwasanaethu nhw, gan fy mod i, Jehofa eich Duw, yn Dduw sy’n mynnu eich bod chi’n fy addoli i yn unig, sy’n cosbi meibion oherwydd camgymeriadau eu tadau, gan gynnwys y drydedd genhedlaeth a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai sy’n fy nghasáu i, 6 ond sy’n dangos cariad ffyddlon at filoedd o genedlaethau o’r rhai sy’n fy ngharu i ac sy’n cadw fy ngorchmynion.
7 “Ni ddylech chi ddefnyddio enw Jehofa eich Duw mewn ffordd ddiwerth, oherwydd bydd Jehofa’n cosbi’r rhai sy’n defnyddio ei Enw mewn ffordd ddiwerth.
8 “Cofiwch ddydd y Saboth er mwyn ei gadw’n sanctaidd. 9 Dylech chi lafurio a gwneud eich holl waith mewn chwe diwrnod, 10 ond mae’r seithfed dydd yn Saboth i Jehofa eich Duw. Ni ddylech chi wneud unrhyw waith, nid chi na’ch meibion na’ch merched na’ch caethweision na’ch caethferched na’ch anifeiliaid domestig na’r bobl estron sy’n byw yn eich dinasoedd. 11 Oherwydd mewn chwe diwrnod creodd Jehofa’r nefoedd a’r ddaear, y môr, a phopeth sydd ynddyn nhw, a dyma’n gorffwys ar y seithfed dydd. Dyna pam gwnaeth Jehofa fendithio dydd y Saboth a’i wneud yn sanctaidd.
12 “Anrhydeddwch eich tad a’ch mam, er mwyn ichi allu byw am amser hir yn y wlad y mae Jehofa eich Duw wedi ei rhoi ichi.
13 “Peidiwch â llofruddio.
14 “Peidiwch â godinebu.
15 “Peidiwch â dwyn.
16 “Peidiwch â rhoi camdystiolaeth yn erbyn eich cyd-ddyn.
17 “Peidiwch â dyheu am dŷ eich cyd-ddyn. Peidiwch â dyheu am wraig eich cyd-ddyn na’i gaethwas na’i gaethferch na’i darw na’i asyn nac unrhyw beth arall sy’n perthyn i’ch cyd-ddyn.”
18 Nawr roedd y bobl i gyd yn gweld y mellt a’r taranau, yn clywed sŵn y corn, ac yn gweld mwg dros y mynydd i gyd; ac roedd hyn yn gwneud iddyn nhw grynu mewn ofn a sefyll yn bell i ffwrdd. 19 Felly dywedon nhw wrth Moses: “Siarada di â ni, a gwnawn ni wrando, ond paid â gadael i Dduw siarad â ni, oherwydd mae gynnon ni ofn marw.” 20 Felly dywedodd Moses wrth y bobl: “Peidiwch â phoeni, oherwydd mae’r gwir Dduw wedi dod i’ch rhoi chi ar brawf, er mwyn ichi barhau i’w ofni fel na fyddwch chi’n pechu.” 21 Felly parhaodd y bobl i sefyll yn bell i ffwrdd, ond aeth Moses yn agos at y cwmwl tywyll lle roedd y gwir Dduw.
22 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dyma beth dylet ti ei ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Rydych chi wedi gweld drostoch chi’ch hunain fy mod i wedi siarad â chi o’r nefoedd. 23 Peidiwch â gwneud duwiau allan o arian neu aur oherwydd ni ddylech chi gael unrhyw dduwiau eraill heblaw amdana i. 24 Gwnewch allor allan o bridd imi, er mwyn ichi aberthu eich offrymau llosg, eich aberthau heddwch, eich gwartheg, a’ch defaid. Bydda i’n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi ym mhob lle rydw i’n achosi i fy enw gael ei gofio. 25 Os byddwch chi’n gwneud allor imi allan o gerrig, peidiwch â’i hadeiladu gan ddefnyddio cerrig sydd wedi eu naddu. Oherwydd os byddwch chi’n ei naddu â chŷn byddwch chi’n ei halogi. 26 Peidiwch â mynd i fyny grisiau er mwyn cyrraedd fy allor, rhag ichi ddangos eich rhannau preifat.’*