Exodus
23 “Peidiwch â lledaenu straeon sydd ddim yn wir. Peidiwch â chydweithio â pherson drwg na bod yn dyst maleisus. 2 Peidiwch â dilyn y dorf er mwyn gwneud drwg, na rhoi tystiolaeth sy’n mynd yn erbyn cyfiawnder er mwyn ochri â’r dorf.* 3 Wrth ddelio ag achos, peidiwch â barnu o blaid rhywun tlawd dim ond oherwydd ei fod yn dlawd.
4 “Os ydych chi’n dod ar draws tarw neu asyn eich gelyn yn crwydro, mae’n rhaid ichi ei roi yn ôl iddo. 5 Os ydych chi’n gweld bod asyn rhywun rydych chi’n ei gasáu wedi disgyn o dan ei faich, ni ddylech chi ei anwybyddu a’i adael. Mae’n rhaid ichi ei helpu i ryddhau’r anifail.
6 “Mewn achos llys, peidiwch â gwyrdroi barn wrth ystyried achos rhywun tlawd.
7 “Peidiwch â chael dim i’w wneud â chyhuddiad ffals, a pheidiwch â lladd yr un dieuog na’r un cyfiawn, oherwydd ni fydda i’n cyhoeddi’r un drwg yn gyfiawn.*
8 “Peidiwch â derbyn breib, oherwydd gall breib dwyllo’r un sy’n barnu’n ddoeth, a gall hyd yn oed achosi i’r un cyfiawn newid ei benderfyniadau.
9 “Peidiwch â cham-drin rhywun estron sy’n byw yn eich plith. Rydych chi’n gwybod sut mae’n teimlo i fod yn estroniaid,* oherwydd roeddech chi’n estroniaid yng ngwlad yr Aifft.
10 “Mae’n rhaid ichi hau eich tir â hadau a chasglu cynnyrch am chwe mlynedd. 11 Ond yn ystod y seithfed flwyddyn bydd rhaid i’r tir gael gorffwys a pheidio â chael ei drin, a bydd y rhai tlawd yn eich plith chi yn bwyta ohono, a bydd anifeiliaid gwyllt y cae yn bwyta’r hyn byddan nhw’n ei adael ar ôl. A dyna beth dylech chi ei wneud gyda’ch gwinllannoedd a’ch coed olewydd hefyd.
12 “Dylech chi weithio am chwe diwrnod; ond ar y seithfed diwrnod, ni ddylech chi weithio, er mwyn i’ch teirw a’ch asynnod gael gorffwys ac i fab eich caethferch a’r estronwr eu hadfywio eu hunain.
13 “Mae’n rhaid ichi dalu sylw i bopeth rydw i wedi ei ddweud wrthoch chi, ac ni ddylech chi sôn am dduwiau eraill; ni ddylech chi hyd yn oed ddweud eu henwau.
14 “Dylech chi ddathlu tair gŵyl i mi bob blwyddyn. 15 Byddwch chi’n dathlu Gŵyl y Bara Croyw. Byddwch chi’n bwyta bara croyw am saith diwrnod, yn union fel rydw i wedi gorchymyn ichi, ar yr amser apwyntiedig ym mis Abib, oherwydd dyna pryd y daethoch chi allan o’r Aifft. Ni ddylai neb ddod o fy mlaen i yn waglaw. 16 Hefyd, mae’n rhaid ichi ddathlu Gŵyl y Cynhaeaf* pan fyddwch chi’n casglu ffrwyth cyntaf eich llafur, a Gŵyl Casglu’r Cynhaeaf* ar ddiwedd y flwyddyn, pan fyddwch chi’n casglu ffrwyth eich llafur o’r caeau. 17 Dair gwaith y flwyddyn bydd rhaid i’ch holl ddynion fynd o flaen y gwir Arglwydd, Jehofa.
18 “Pan ydych chi’n offrymu aberth imi, ni ddylech chi offrymu gwaed ynghyd â bara sydd a burum ynddo. Ac ni ddylai’r offrymau o fraster sy’n cael eu cyflwyno imi yn ystod fy ngwyliau gael eu gadael dros nos tan y bore.
19 “Dylech chi ddod â’r gorau o ffrwyth cyntaf eich tir i dŷ Jehofa eich Duw.
“Peidiwch â berwi gafr ifanc yn llaeth ei mam.
20 “Rydw i am anfon angel o’ch blaenau chi i’ch gwarchod chi ar y ffordd ac i’ch arwain chi i’r lle rydw i wedi ei baratoi ar eich cyfer chi. 21 Talwch sylw iddo, ac ufuddhewch i’w lais. Peidiwch â gwrthryfela yn ei erbyn, oherwydd ni fydd yn maddau ichi am eich troseddau, gan ei fod yn dod yn fy enw i. 22 Fodd bynnag, os ydych chi’n gwrando ar ei lais yn ofalus, ac yn gwneud popeth rydw i’n ei ddweud wrthoch chi, bydda i’n elyn i’ch gelynion a bydda i’n gwrthwynebu’r rhai sy’n eich gwrthwynebu chi. 23 Oherwydd bydd fy angel yn mynd o’ch blaenau ac yn eich arwain chi at yr Amoriaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid, a bydda i’n eu dinistrio. 24 Peidiwch â phlygu i lawr i’w duwiau nhw na chael eich perswadio i’w gwasanaethu, a pheidiwch ag efelychu eu harferion. Yn hytrach, mae’n rhaid ichi eu chwalu nhw a malu eu colofnau sanctaidd. 25 Mae’n rhaid ichi wasanaethu Jehofa eich Duw, a bydd ef yn bendithio eich bara a’ch dŵr. Bydda i’n cael gwared ar salwch o’ch plith. 26 Ni fydd yr un o ferched* eich gwlad yn colli babi cyn iddo gael ei eni nac yn methu cael plant, a byddwch chi’n cael byw am yn hir.
27 “Hyd yn oed cyn ichi gyrraedd byddan nhw’n fy ofni’n barod, a bydda i’n drysu’r holl bobl byddwch chi’n eu cyfarfod, a bydda i’n achosi i’ch holl elynion ffoi wrth ichi eu gorchfygu.* 28 Cyn ichi gyrraedd bydda i’n gwneud i’ch gelynion ddigalonni,* a bydda i’n gyrru’r Hefiaid, y Canaaneaid, a’r Hethiaid i ffwrdd oddi wrthoch chi. 29 Ni fydda i’n eu gyrru nhw allan o fewn blwyddyn, er mwyn i’r wlad beidio â throi’n anialwch ac i’r anifeiliaid gwyllt beidio â lluosogi yn eich erbyn chi. 30 Fesul tipyn bydda i’n eu gyrru nhw allan o’ch blaenau chi nes ichi gael llawer o blant a meddiannu’r wlad.
31 “Bydd eich ffin yn ymestyn o’r Môr Coch i fôr y Philistiaid ac o’r anialwch i’r Afon,* oherwydd bydda i’n rhoi pobl y wlad yn eich dwylo, a byddwch chi’n eu gyrru nhw allan. 32 Peidiwch â gwneud cyfamod â nhw na’u duwiau. 33 Peidiwch â gadael iddyn nhw fyw yn eich gwlad, fel na fyddan nhw’n achosi ichi bechu yn fy erbyn i. Os byddwch chi’n gwasanaethu eu duwiau nhw, byddai hynny’n sicr yn fagl ichi.”