Exodus
9 Felly dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dos i mewn at Pharo a dyweda wrtho, ‘Dyma beth mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi ei ddweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i. 2 Ond os wyt ti’n gwrthod eu hanfon nhw i ffwrdd ac yn parhau i ddal gafael ynddyn nhw, 3 edrycha! bydd llaw Jehofa’n dod yn erbyn dy anifeiliaid yn y caeau. Yn erbyn y ceffylau, yr asynnod, y camelod, y gwartheg, a’r defaid, fe fydd ’na bla ofnadwy. 4 A bydd Jehofa’n bendant yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aifft, ac ni fydd unrhyw beth sy’n perthyn i’r Israeliaid yn marw.”’” 5 Ar ben hynny, penododd Jehofa amser, gan ddweud: “Yfory bydd Jehofa’n gwneud hyn yn y wlad.”
6 A dyma Jehofa’n gwneud hyn y diwrnod wedyn, a dechreuodd pob math o anifeiliaid yr Aifft farw, ond ni wnaeth yr un o anifeiliaid Israel farw. 7 Pan ofynnodd Pharo beth oedd wedi digwydd, edrycha! doedd yr un o anifeiliaid Israel wedi marw. Er hynny, parhaodd calon Pharo i fod yn ystyfnig, ac ni wnaeth anfon y bobl i ffwrdd.
8 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: “Llanwch eich dwylo â lludw o ffwrnais, ac mae’n rhaid i Moses ei daflu i’r awyr o flaen Pharo. 9 Ac fe fydd yn troi’n llwch mân dros holl wlad yr Aifft, ac fe fydd yn troi’n gornwydydd difrifol iawn ar ddynion ac anifeiliaid drwy wlad yr Aifft i gyd.”
10 Felly cymeron nhw ludw o ffwrnais a sefyll o flaen Pharo, a gwnaeth Moses ei daflu i’r awyr, a dyma’n troi’n gornwydydd difrifol iawn ar ddynion ac anifeiliaid. 11 Doedd y dewiniaid ddim yn gallu sefyll o flaen Moses oherwydd y cornwydydd, gan eu bod nhw dros y dewiniaid a’r Eifftiaid i gyd. 12 Ond dyma Jehofa’n gadael i galon Pharo droi’n ystyfnig, ac ni wnaeth wrando arnyn nhw, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrth Moses.
13 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: “Coda’n gynnar yn y bore a saf o flaen Pharo, a dyweda wrtho, ‘Dyma beth mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi ei ddweud: “Anfona fy mhobl i ffwrdd er mwyn iddyn nhw allu fy ngwasanaethu i. 14 Oherwydd nawr rydw i am anfon fy holl blâu yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy weision a dy bobl, er mwyn iti wybod does ’na neb tebyg imi ar yr holl ddaear. 15 Oherwydd erbyn hyn byddwn i wedi gallu estyn fy llaw i dy daro di a dy bobl â phla ofnadwy, a byddet ti wedi cael dy ddinistrio oddi ar y ddaear. 16 Rydw i wedi dy gadw di’n fyw am y rheswm hwn: er mwyn dangos fy ngrym iti ac i gyhoeddi fy enw drwy’r holl ddaear. 17 A wyt ti’n dal i ymddwyn yn falch yn erbyn fy mhobl drwy beidio â’u hanfon nhw i ffwrdd? 18 Bydda i’n achosi iddi fwrw cenllysg* mawr iawn tua’r adeg hon yfory, mewn ffordd sydd erioed wedi digwydd o’r blaen yn yr Aifft. 19 Felly, rho orchymyn i ddod â dy holl anifeiliaid a phopeth sy’n perthyn iti yn y caeau i mewn. Bydd pob dyn ac anifail sydd yn y caeau ac sydd ddim yn dod i mewn i’r tŷ yn marw pan fydd y cenllysg* yn bwrw arnyn nhw.”’”
20 Dyma bawb o blith gweision Pharo a oedd yn ofni geiriau Jehofa yn brysio i ddod â’i weision ei hun a’i anifeiliaid i mewn i’w tai, 21 ond gwnaeth pwy bynnag nad oedd yn talu sylw i eiriau Jehofa adael ei weision a’i anifeiliaid yn y caeau.
22 Nawr dywedodd Jehofa wrth Moses: “Estynna dy law tuag at y nefoedd, er mwyn iddi fwrw cenllysg* ar holl wlad yr Aifft, ar ddynion ac anifeiliaid ac ar holl blanhigion y caeau yng ngwlad yr Aifft.” 23 Felly estynnodd Moses ei ffon tuag at y nefoedd, ac anfonodd Jehofa daranau a chenllysg,* a syrthiodd tân* i lawr i’r ddaear, ac roedd Jehofa’n parhau i achosi iddi fwrw cenllysg* ar wlad yr Aifft. 24 Roedd ’na genllysg,* ac roedd ’na dân yn fflachio yng nghanol y cenllysg.* Roedd yn drwm iawn; doedd y fath beth erioed wedi digwydd ers i’r Aifft gael ei sefydlu fel cenedl. 25 Dyma’r cenllysg* yn taro popeth yn holl gaeau’r Aifft, gan gynnwys dynion ac anifeiliaid, a dyma’n taro’r holl blanhigion ac yn dinistrio holl goed y caeau. 26 Yr unig le heb genllysg* oedd Gosen, lle roedd yr Israeliaid.
27 Felly anfonodd Pharo am Moses ac Aaron a dweud wrthyn nhw: “Rydw i wedi pechu y tro hwn. Mae Jehofa’n gyfiawn, a fi a fy mhobl sydd ar fai. 28 Erfyniwch ar Jehofa er mwyn i daranau a chenllysg* Duw ddod i ben. Yna bydda i’n fodlon eich anfon chi i ffwrdd, a fyddwch chi ddim yn aros yma bellach.” 29 Felly dywedodd Moses wrtho: “Unwaith imi adael y ddinas, fe wna i weddïo ar Jehofa. Bydd y taranau’n stopio a bydd diwedd ar y cenllysg,* er mwyn iti wybod mai Jehofa biau’r ddaear. 30 Ond rydw i eisoes yn gwybod, hyd yn oed wedyn, fyddi di a dy weision ddim yn ofni Jehofa Dduw.”
31 Nawr roedd y llin* a’r haidd wedi cael eu taro i lawr, oherwydd roedd yr haidd wedi aeddfedu yn y dywysen ac roedd y llin wedi blodeuo. 32 Ond doedd y gwenith na’r sbelt* ddim wedi cael eu taro i lawr, am eu bod nhw’n blaguro’n hwyrach ymlaen. 33 Nawr aeth Moses allan o’r ddinas oddi wrth Pharo a gweddïo ar Jehofa, a dyma’r taranau a’r cenllysg* yn stopio, a stopiodd y glaw fwrw i lawr ar y ddaear. 34 Pan welodd Pharo fod y glaw, y cenllysg,* a’r taranau wedi stopio, dyma’n pechu unwaith eto ac yn caledu ei galon, ef a’i weision hefyd. 35 Ac arhosodd calon Pharo’n ystyfnig, ac ni wnaeth anfon yr Israeliaid i ffwrdd, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud drwy Moses.