Numeri
20 Yn y mis cyntaf, daeth y gynulleidfa gyfan o Israeliaid i anialwch Sin, a dechreuodd y bobl fyw yn Cades. Dyna lle bu farw Miriam, a lle cafodd hi ei chladdu.
2 Nawr doedd ’na ddim dŵr i’r bobl, a chasglon nhw at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron. 3 Roedd y bobl yn cweryla â Moses, gan ddweud: “O na fydden ni wedi marw pan fu farw ein brodyr o flaen Jehofa! 4 Pam rwyt ti wedi dod â chynulleidfa Jehofa i mewn i’r anialwch hwn, er mwyn i ni a’n hanifeiliaid farw yma? 5 A pham rwyt ti wedi dod â ni allan o’r Aifft i’r lle ofnadwy hwn? Dydyn ni ddim yn gallu hau hadau yma, a does ’na ddim ffigys na gwinwydd na phomgranadau yn tyfu yma, a does ’na ddim dŵr inni ei yfed.” 6 Yna aeth Moses ac Aaron i ffwrdd o’r gynulleidfa a mynd at fynedfa pabell y cyfarfod a syrthio â’u hwynebau ar y llawr, a dechreuodd gogoniant Jehofa ymddangos iddyn nhw.
7 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses: 8 “Cymera’r ffon a chasgla’r bobl at ei gilydd, ti ac Aaron dy frawd, a dywedwch wrth y graig o’u blaenau nhw i roi dŵr, a byddi di’n dod â dŵr allan o’r graig ar eu cyfer nhw ac yn rhoi i’r bobl a’u hanifeiliaid rywbeth i’w yfed.”
9 Felly cymerodd Moses y ffon a oedd o flaen Jehofa, yn union fel roedd ef wedi gorchymyn iddo. 10 Yna casglodd Moses ac Aaron y bobl at ei gilydd o flaen y graig, a dywedodd Moses wrthyn nhw: “Gwrandewch nawr, chi rebeliaid! A oes rhaid i ni ddod â dŵr allan o’r graig yma ichi?” 11 Gyda hynny, cododd Moses ei law a tharodd y graig ddwywaith gyda’i ffon. Dechreuodd llawer o ddŵr dywallt* allan ohoni, a dyma’r bobl a’u hanifeiliaid yn dechrau yfed.
12 Yn nes ymlaen, dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron: “Oherwydd na wnaethoch chi ddangos ffydd yno i, na fy sancteiddio i o flaen pobl Israel, fyddwch chi ddim yn dod â’r gynulleidfa hon i mewn i’r wlad rydw i am ei rhoi iddyn nhw.” 13 Y rhain ydy dyfroedd Meriba,* lle gwnaeth yr Israeliaid gweryla â Jehofa, felly dyma Duw yn ei sancteiddio ei hun yn eu plith.
14 Yna anfonodd Moses negeswyr o Cades at frenin Edom, gan ddweud: “Dyma beth mae dy frawd Israel yn ei ddweud, ‘Rwyt ti’n ymwybodol iawn o’r caledi rydyn ni wedi ei brofi. 15 Aeth ein tadau i’r Aifft, ac roedden ni’n byw yn yr Aifft am lawer o flynyddoedd, ac roedd yr Eifftiaid yn ein cam-drin ni a’n tadau. 16 O’r diwedd, dyma ni’n erfyn ar Jehofa am help, a gwnaeth ef ein clywed ni, ac anfonodd angel i ddod â ni allan o’r Aifft. Nawr, rydyn ni yn Cades, dinas ar ffiniau dy diriogaeth. 17 Plîs gad inni deithio drwy dy wlad. Fyddwn ni ddim yn mynd drwy unrhyw gae na gwinllan, nac yn yfed dŵr unrhyw ffynnon. Byddwn ni’n martsio* ar Briffordd y Brenin, heb droi i’r dde nac i’r chwith nes inni adael dy diriogaeth.’”
18 Ond dywedodd brenin Edom wrtho: “Chei di ddim dod drwy ein tiriogaeth. Os gwnei di hynny, gwna i ddod allan i dy gyfarfod di â chleddyf.” 19 Dywedodd yr Israeliaid wrtho: “Byddwn ni’n cadw at y briffordd, ac os ydyn ni neu ein hanifeiliaid yn yfed dy ddŵr, byddwn ni’n talu amdano. Rydyn ni ond eisiau cerdded drwy dy wlad.” 20 Ond parhaodd brenin Edom i ddweud: “Chei di ddim dod drwodd.” Gyda hynny, dyma frenin Edom yn dod allan i’w cyfarfod nhw gyda llawer o bobl a byddin gref. 21 Felly gwrthododd brenin Edom adael i Israel fynd drwy ei diriogaeth; gyda hynny, trodd Israel oddi wrtho.
22 Gwnaeth pobl Israel i gyd adael Cades a dod i Fynydd Hor. 23 Yna dywedodd Jehofa wrth Moses ac Aaron wrth Fynydd Hor ar ffiniau gwlad Edom: 24 “Bydd Aaron yn cael ei gasglu at ei bobl.* Fydd ef ddim yn mynd i mewn i’r wlad y bydda i’n ei rhoi i’r Israeliaid, oherwydd gwnaethoch chi’ch dau wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn ynglŷn â dyfroedd Meriba. 25 Cymera Aaron a’i fab Eleasar i fyny i Fynydd Hor. 26 Tynna ddillad Aaron a’u rhoi nhw ar Eleasar ei fab, a dyna lle bydd Aaron yn marw.”
27 Felly gwnaeth Moses yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo, a gwnaethon nhw ddringo Mynydd Hor o flaen y gynulleidfa i gyd. 28 Yna tynnodd Moses ddillad Aaron a’u rhoi nhw ar Eleasar ei fab. Ar ôl hynny bu farw Aaron yno ar ben y mynydd, a daeth Moses ac Eleasar i lawr o’r mynydd. 29 Pan welodd y gynulleidfa fod Aaron wedi marw, dyma Israel i gyd yn galaru dros Aaron am 30 diwrnod.