Exodus
22 “Os ydy dyn yn dwyn tarw neu ddafad ac yn ei ladd neu’n ei werthu, bydd rhaid iddo dalu iawndal o bum tarw am un tarw a phedair dafad am un ddafad.
2 (“Os ydy lleidr yn cael ei ddal yn torri i mewn yn ystod y nos ac mae’n cael ei daro ac yn marw, ni fydd yr un a wnaeth ei ladd yn waed-euog. 3 Ond os ydy hyn yn digwydd ar ôl y wawr, fe fydd yn waed-euog.)
“Bydd rhaid iddo dalu iawndal. Os nad oes dim byd ganddo, bydd rhaid iddo gael ei werthu er mwyn talu am y pethau gwnaeth ef eu dwyn. 4 Os ydy’r hyn y gwnaeth ef ei ddwyn yn cael ei ddarganfod yn fyw, p’un a yw’n darw neu’n asyn neu’n ddafad, bydd rhaid iddo dalu iawndal sy’n gyfartal â dwywaith ei werth.
5 “Os ydy unrhyw un yn rhoi ei anifeiliaid allan i bori mewn cae neu mewn gwinllan ac yn gadael iddyn nhw bori mewn cae rhywun arall, bydd rhaid iddo dalu iawndal allan o gynnyrch gorau ei gae neu ei winllan ei hun.
6 “Os ydy tân yn cychwyn ac yn lledaenu i berthi drain ac mae naill ai ysgubau, ŷd sydd heb ei gasglu, neu gaeau yn cael eu llosgi, bydd rhaid i’r un a wnaeth gynnau’r tân dalu iawndal am yr hyn a gafodd ei losgi.
7 “Os ydy dyn yn rhoi arian neu rywbeth gwerthfawr i’w gyd-ddyn i’w gadw dros dro ac mae’n cael ei ddwyn o dŷ ei gyd-ddyn, yna os ydy’r lleidr yn cael ei ddal, bydd rhaid iddo dalu iawndal sy’n gyfartal â dwywaith ei werth. 8 Os nad ydy’r lleidr yn cael ei ddal, bydd rhaid i berchennog y tŷ sefyll o flaen y gwir Dduw er mwyn i Dduw ddweud os mai ef a wnaeth ddwyn yr eiddo. 9 Bryd bynnag mae rhywun yn cael ei gyhuddo o feddiannu rhywbeth sydd ddim yn perthyn iddo, naill ai tarw, asyn, dafad, dilledyn, neu unrhyw beth sydd wedi mynd ar goll ac mae rhywun yn dadlau, ‘Fi biau hwn!’ bydd rhaid cyflwyno achos y ddau o flaen y gwir Dduw. Bydd rhaid i’r un mae Duw’n ei gyhuddo’n euog dalu iawndal i’w gyd-ddyn sy’n gyfartal â dwywaith gwerth yr hyn y gwnaeth ef ei feddiannu.
10 “Os ydy dyn yn rhoi i’w gyd-ddyn asyn neu darw neu ddafad neu unrhyw anifail domestig i’w gadw dros dro ac mae’n marw neu’n cael ei anafu’n ddifrifol neu’n cael ei arwain i ffwrdd tra bod neb yn gwylio, 11 dylen nhw dyngu llw o flaen Jehofa, i ddweud ni wnaeth ef ddwyn eiddo ei gyd-ddyn; a bydd rhaid i’r perchennog dderbyn hynny. Does dim rhaid i’r dyn arall dalu iawndal. 12 Ond os ydy’r anifail wedi cael ei ddwyn, bydd rhaid iddo dalu iawndal i’r perchennog. 13 Os cafodd yr anifail ei rwygo gan anifail gwyllt, mae’n rhaid i’r dyn ddod â’r anifail marw fel tystiolaeth. Ni ddylai dalu iawndal am rywbeth sydd wedi cael ei rwygo gan anifail gwyllt.
14 “Ond os ydy unrhyw un yn gofyn am fenthyg anifail gan ei gyd-ddyn ac mae’r anifail hwnnw yn cael ei anafu’n ddifrifol neu’n marw pan nad yw’r perchennog gyda’r anifail, bydd rhaid i’r dyn a wnaeth ei fenthyg dalu iawndal amdano. 15 Os ydy’r perchennog gyda’r anifail, does dim angen i’r dyn dalu iawndal. Os cafodd yr anifail ei logi, yr arian a gafodd ei dalu i’w logi yw’r iawndal.
16 “Nawr os ydy dyn yn denu gwyryf sydd heb ddyweddïo ac mae’n gorwedd i lawr gyda hi, mae’n rhaid iddo dalu’r pris ar gyfer priodferch er mwyn iddi ddod yn wraig iddo. 17 Os ydy’r tad yn gwrthod yn llwyr rhoi ei ferch iddo, bydd rhaid iddo dalu’r swm sy’n cyfateb i’r pris ar gyfer priodferch beth bynnag.
18 “Peidiwch â gadael i swynwraig fyw.
19 “Yn bendant bydd rhaid i unrhyw un sy’n gorwedd gydag anifail gael ei ladd.
20 “Bydd rhaid i unrhyw un sy’n aberthu i dduwiau eraill heblaw am Jehofa’n unig gael ei ddinistrio.
21 “Peidiwch â cham-drin rhywun estron na’i ormesu, gan eich bod chithau wedi bod yn bobl estron yng ngwlad yr Aifft.
22 “Peidiwch â cham-drin gweddwon na phlant sydd heb dadau.* 23 Os byddwch chi’n eu cam-drin, ac maen nhw’n galw arna i, bydda i’n sicr o’u clywed; 24 a bydda i’n gwylltio’n lân, a bydda i’n eich lladd chi â’r cleddyf, a bydd eich gwragedd yn troi’n weddwon, a bydd eich plant heb dadau.
25 “Os ydych chi’n benthyg arian i unrhyw un o fy mhobl sy’n dlawd, rhywun sy’n byw yn eich plith chi, ni ddylech chi fod fel benthycwyr arian. Ni ddylech chi godi llog arno.
26 “Os ydych chi’n cymryd dilledyn eich cyd-ddyn fel gwarant am fenthyg arian, mae’n rhaid ichi ei roi yn ôl iddo cyn i’r haul fachlud. 27 Oherwydd dyna’r unig ddilledyn sydd ganddo i orchuddio ei gorff; fel arall beth bydd ef yn ei wisgo pan fydd yn gorwedd i lawr i gysgu? Pan fydd ef yn gweiddi arna i, bydda i’n sicr o’i glywed, gan fy mod i’n dosturiol.
28 “Peidiwch â melltithio* Duw na’r penaethiaid* ymhlith eich pobl.
29 “Peidiwch â dal yn ôl rhag gwneud offrymau pan fydd gynnoch chi lawer o gynnyrch a phan fydd eich cafnau’n* gorlifo. Mae’n rhaid ichi roi eich meibion cyntaf-anedig imi. 30 Dyma beth dylech chi ei wneud â’ch teirw a’ch defaid: Am saith diwrnod byddan nhw’n aros gyda’u mamau. Ar yr wythfed diwrnod, byddwch chi’n eu rhoi imi.
31 “Mae’n rhaid ichi brofi eich bod chi’n bobl sanctaidd imi, ac ni ddylech chi fwyta cnawd unrhyw beth o’r caeau sydd wedi cael ei rwygo gan anifail gwyllt. Dylech chi ei daflu i’r cŵn.