Wrth i helyntion y byd achosi mwy a mwy o bryder, dydy llawer o bobl ddim yn rhoi digon o sylw i’r rhai maen nhw yn eu caru.
Mae pobl yn ynysu eu hunain oddi wrth eu ffrindiau.
Mae cyplau priod yn dechrau trin ei gilydd yn angharedig.
Mae rhieni yn stopio talu sylw i bryderon eu plant.
Beth Dylech Chi ei Wybod?
Rydyn ni angen ffrindiau er mwyn cadw’n iach, yn gorfforol ac yn emosiynol, yn enwedig yn ystod amserau anodd.
Mae’r stres sy’n dod o achos yr helynt yn y byd yn gallu creu problemau annisgwyl i’ch teulu.
Gall adroddiadau ofnadwy ar y newyddion gael effaith waeth ar eich plant nag y byddwch chi’n ei feddwl.
Beth Gallwch Chi ei Wneud Nawr?
Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.
Meddyliwch am rywun sy’n eich cefnogi chi ac sy’n gallu rhoi cyngor da. Mae gwybod bod rhywun yn gofalu amdanoch chi yn gallu eich atgyfnerthu i wynebu heriau’r dydd.