BYD MEWN HELYNT
4 | Gwarchod Eich Gobaith
PAM MAE’N BWYSIG
Mae pryderu am helyntion y byd yn gallu effeithio ar bobl yn gorfforol ac yn emosiynol. Dydy llawer sydd wedi cael eu heffeithio gan y pethau hyn ddim yn gweld unrhyw obaith am y dyfodol. Sut maen nhw’n ymateb?
Mae rhai’n gwrthod hyd yn oed meddwl am yr hyn sydd o’n blaenau ni.
Mae eraill yn ceisio dianc rhag eu problemau gan ddefnyddio alcohol neu gyffuriau.
Mae rhai pobl wedi dod i’r casgliad y byddai’n well ganddyn nhw farw na byw. Maen nhw’n gofyn, “Beth ydy’r pwynt?”
Beth Dylech Chi ei Wybod?
Efallai bydd rhai o’ch problemau ond yn para dros dro a gall pethau wella’n annisgwyl.
Hyd yn oed os nad ydy eich sefyllfa’n newid, mae ’na bethau y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu i ddyfalbarhau.
Mae’r Beibl yn rhoi gobaith go iawn—ateb parhaol i broblemau’r ddynoliaeth.
Beth Gallwch Chi ei Wneud Nawr?
Mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch byth â bod yn bryderus am yfory, oherwydd y bydd gan yfory ei bryderon ei hun. Mae gan bob diwrnod ddigon o’i drafferthion ei hun.”—Mathew 6:34.
Cymerwch un dydd ar y tro. Peidiwch â gadael i bryderon am yfory eich rhwystro chi rhag delio â’r pethau sydd angen eu gwneud heddiw.
Bydd poeni am bethau negyddol a allai ddigwydd ond yn ychwanegu at eich stres a gwanhau eich gobaith am ddyfodol gwell.
Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Go Iawn
Dywedodd Salmydd wrth weddïo ar Dduw: “Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr.” (Salm 119:105) Ystyriwch sut mae’r Beibl—Gair Duw—yn gwneud hynny:
Ar noson dywyll, mae lamp yn ein helpu ni i weld ble i gamu nesaf. Mewn ffordd debyg, mae gan y Beibl ddoethineb ymarferol sy’n gallu ein harwain pan ydyn ni angen gwneud penderfyniad anodd.
Mae golau hefyd yn ein helpu ni i weld ymhellach i lawr y llwybr. Mewn ffordd debyg, mae’r Beibl yn dangos y gobaith hyfryd sydd o’n blaenau.