Mai
Dydd Iau, Mai 1
[Roedd] newyn mawr ar fin dod.—Act. 11:28.
Cafodd y Cristnogion cynnar eu heffeithio gan newyn mawr “ar yr holl fyd.” Mae’n rhaid bod rhieni wedi poeni am sut bydden nhw’n bwydo eu plant. A meddylia am y rhai ifanc oedd wedi bod yn cynllunio i wneud mwy yn y weinidogaeth. Oedden nhw’n teimlo bod rhaid iddyn nhw aros nes bod y newyn drosodd? Fe wnaeth y Cristnogion addasu ni waeth beth oedd eu sefyllfa. Roedden nhw’n parhau i bregethu mewn unrhyw ffordd bosib, ac roedden nhw’n hapus i rannu eu pethau materol â’u brodyr a’u chwiorydd yn Jwdea. (Act. 11:29, 30) Gwelodd y rhai a dderbyniodd gymorth materol fod Jehofa yn eu helpu nhw. (Math. 6:31-33) Mae’n rhaid eu bod nhw wedi teimlo’n fwy agos at y brodyr a chwiorydd oedd wedi eu helpu. A byddai’r rhai oedd wedi gwneud cyfraniadau, neu a roddodd gymorth mewn ffyrdd eraill, wedi teimlo’r hapusrwydd sy’n dod o roi i eraill.—Act. 20:35. w23.04 16 ¶12-13
Dydd Gwener, Mai 2
Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i gael y pethau rydyn ni’n gofyn amdanyn nhw, gan ein bod ni wedi gofyn iddo ef.—1 Ioan 5:15.
Weithiau mae Jehofa’n ateb gweddïau ei bobl drwy ysgogi’r rhai sydd ddim yn ei addoli i’w helpu nhw. Er enghraifft, gwnaeth ef gymell y Brenin Artaxerxes i adael i Nehemeia fynd yn ôl i Jerwsalem i helpu i ailadeiladu’r ddinas. (Neh. 2:3-6) Yn yr un ffordd heddiw, gall Jehofa ysgogi hyd yn oed rhai sydd ddim yn ei addoli i’n helpu ni pan ydyn ni mewn angen. Fel arfer, dydy ein gweddïau ddim yn cael eu hateb mewn ffyrdd dramatig. Ond mae’r atebion bob amser yr union beth rydyn ni ei angen i aros yn ffyddlon i’n Tad nefol. Felly edrycha am y ffyrdd mae Jehofa’n ateb dy weddïau. O bryd i’w gilydd, stopia a meddwl am y ffordd mae Jehofa’n ateb dy weddïau. (Salm 66:19, 20) Rhaid inni ddangos ffydd, nid yn unig drwy weddïo ar Jehofa, ond hefyd drwy dderbyn ei atebion i’n gweddïau beth bynnag ydyn nhw.—Heb. 11:6. w23.05 11 ¶13; 12 ¶15-16
Dydd Sadwrn, Mai 3
[Rwy’n] hoffi gwneud ewyllys fy Nuw.—Salm 40:8, BCND.
Pan wnaethon ni gysegru ein hunain i Jehofa, gwnaethon ni adduned i’w addoli ac i wneud ei ewyllys. Mae’n rhaid inni gadw’r adduned honno. Mae’n rhaid inni gymryd ein hymgysegriad o ddifri. Wedi’r cwbl, gwnaeth Jehofa ein creu ni i fyw yn unol â’i ewyllys. (Dat. 4:11) Mae wedi rhoi angen ysbrydol ynon ni ac wedi ein creu ni ar ei ddelw. O ganlyniad, gallwn ni agosáu ato a mwynhau gwneud ei ewyllys. Ar ben hynny, pan ydyn ni’n gwneud ewyllys Duw ac yn dilyn ei Fab, byddwn ni’n ‘cael ein hadfywio.’ (Math. 11:28-30) Felly, cryfha dy gariad at Jehofa drwy fyfyrio ar y pethau da mae wedi eu gwneud ar dy gyfer a’r bendithion sydd i ddod yn y dyfodol. Y mwyaf yn y byd mae dy gariad at Dduw yn tyfu, yr haws bydd hi iti ufuddhau iddo. (1 Ioan 5:3) Llwyddodd Iesu i wneud ewyllys Duw gan ei fod wedi gweddïo ar Jehofa am help a chadw ei lygad ar y wobr. (Heb. 5:7; 12:2) Fel Iesu, gweddïa am nerth a chanolbwyntia ar dy obaith o fyw am byth. w23.08 27-28 ¶4-5
Dydd Sul, Mai 4
Onid wyt ti’n gwybod ei fod yn dangos iti ei garedigrwydd mawr a’i oddefgarwch a’i amynedd? Onid wyt ti’n sylweddoli bod Duw yn ei garedigrwydd yn ceisio dy helpu di i edifarhau?—Rhuf. 2:4.
Rydyn ni i gyd yn hoffi pobl sy’n amyneddgar. Pam felly? Gan ein bod ni’n parchu’r rhai sy’n gallu disgwyl am rywbeth heb deimlo’n rhwystredig. Rydyn ni’n ddiolchgar pan fydd eraill yn amyneddgar gyda ni pan ydyn ni’n gwneud camgymeriadau. Rydyn ni’n gwerthfawrogi amynedd ein hathro wrth inni geisio deall, derbyn, a rhoi ar waith ddysgeidiaethau’r Beibl. Yn bennaf oll, rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa Dduw yn dangos amynedd tuag at bob un ohonon ni! Er ein bod ni’n gwerthfawrogi pan fydd pobl eraill yn dangos amynedd aton ni, ar adegau, gall fod yn anodd inni ddangos amynedd. Er enghraifft, gall fod yn anodd bod yn amyneddgar mewn rhes o draffig, yn enwedig os ydyn ni’n rhedeg yn hwyr. Hefyd, gallwn golli ein tymer pan fydd eraill yn mynd ar ein nerfau ni. Ac weithiau mae’n anodd disgwyl ar Jehofa i ddod â’i fyd newydd. Ond ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn mae angen inni fod yn fwy amyneddgar. w23.08 20 ¶1-2
Dydd Llun, Mai 5
Dyma Gideon yn [anfon y milwyr eraill] adre. Dim ond y tri chant arhosodd gydag e.—Barn. 7:8.
Dilynodd Gideon gyfarwyddyd Jehofa ac anfon 99 y cant o’i fyddin adref. Efallai ei fod wedi meddwl: ‘Oes wir angen gwneud hyn? A fydd hyn yn gweithio?’ Er hynny, roedd Gideon yn ufudd. Heddiw, mae henuriaid yn efelychu Gideon drwy ufuddhau pan mae’r gyfundrefn yn dweud wrthyn nhw am newid y ffordd maen nhw’n gwneud pethau. (Heb. 13:17) Er bod Gideon yn ofnus a gydag aseiniad peryglus, roedd yn ufudd i Jehofa. (Barn. 9:16, 17) Dywedodd Jehofa wrth Gideon y byddai’n ei gefnogi wrth iddo amddiffyn pobl Dduw. Roedd Gideon felly yn hollol hyderus yn Nuw. Mae henuriaid sy’n byw mewn gwledydd lle mae’r gwaith wedi ei wahardd yn efelychu Gideon. Maen nhw’n cymryd y blaen yn y cyfarfodydd ac yn y weinidogaeth, er gwaetha’r posibilrwydd y byddan nhw’n cael eu harestio, eu croesholi, colli eu swyddi, neu gael eu curo. Yn ystod y trychineb mawr, bydd angen i henuriaid fod yn ddewr er mwyn ufuddhau i’r cyfarwyddiadau ni waeth beth fydd y peryglon. w23.06 5-6 ¶12-13
Dydd Mawrth, Mai 6
Dw i’n rhoi parch i’r rhai sy’n fy mharchu i.—1 Sam. 2:30.
Gwnaeth Jehofa gynnwys hanes Jehoiada yn y Beibl, er mwyn i ni ddysgu ohono. (Rhuf. 15:4) A phan fu farw Jehoiada, cafodd ei anrhydeddu drwy gael ei gladdu “yn ninas Dafydd gyda’r brenhinoedd, am ei fod wedi gwneud cymaint o dda i Israel ar ran Duw a’i deml.” (2 Cron. 24:15, 16) Gall yr hanes am Jehoiada ein helpu ni i gyd i ddysgu i ofni Duw. Gall henuriaid efelychu Jehoiada drwy edrych am ffyrdd i helpu’r gynulleidfa. (Act. 20:28) Beth gall rhai hŷn ei ddysgu o esiampl Jehoiada? Pan maen nhw’n ofni Duw ac yn aros yn ffyddlon, mae Ef yn gallu eu defnyddio nhw i gyflawni ei bwrpas. A gall rhai ifanc efelychu’r ffordd gwnaeth Jehofa drin Jehoiada drwy ddangos parch ac urddas at rai hŷn, yn enwedig y rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon am flynyddoedd maith. (Diar. 16:31) Dewch inni i gyd gefnogi ‘y rhai sy’n ein harwain’ drwy fod yn ufudd iddyn nhw.—Heb. 13:17. w23.06 17 ¶14-15
Dydd Mercher, Mai 7
Mae cyngor person da yn fwyd i gynnal pobl.—Diar. 10:21.
Yn y cyfarfodydd, meddylia’n ofalus am ba mor aml byddi di’n codi dy law. Os gwnei di hynny yn rhy aml, efallai bydd yr arweinydd yn teimlo dan bwysau i ofyn iti dro ar ôl tro am dy sylwad, er bod ’na eraill heb gael cyfle eto. Wedyn mae ’na beryg i eraill ddigalonni a pheidio â rhoi eu llaw i fyny. (Preg. 3:7) Pan fydd llawer o gyhoeddwyr yn codi llaw yn ystod astudiaeth, efallai chawn ni ddim cyfle i ateb mor aml ag y byddwn ni’n hoffi. Ar adegau, fydd yr arweinydd ddim yn gallu galw am ein hateb o gwbl. Yn lle digalonni, ceisia beidio â chymryd y peth yn bersonol. (Preg. 7:9) Os wyt ti’n methu ateb mor aml ag y byddet ti’n hoffi, beth am wrando’n astud ar eraill yn cyfrannu, ac wedyn ar ôl y cyfarfod eu canmol nhw am eu hatebion? Efallai bydd y ganmoliaeth rwyt ti’n ei rhoi i dy frodyr a dy chwiorydd yr un mor galonogol â’r sylwadau roeddet ti eisiau eu rhoi. w23.04 23-24 ¶14-16
Dydd Iau, Mai 8
Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw.—Salm 57:7, BCND.
Astudia Gair Duw a myfyria arno. Yn union fel coeden sy’n gallu sefyll yn gadarn oherwydd ei gwreiddiau dwfn, gallwn ni sefyll yn gadarn os ydy ein ffydd wedi ei gwreiddio yng Ngair Duw. Wrth i goeden dyfu, mae ei gwreiddiau’n tyfu’n ddyfnach ac yn lledaenu. Wrth inni astudio a myfyrio, mae ein ffydd yn cael ei chryfhau ac rydyn ni’n dod yn fwy sicr mai ffyrdd Jehofa sydd orau. (Col. 2:6, 7) Meddylia am sut gwnaeth Jehofa hyfforddi, arwain, ac amddiffyn ei weision yn y gorffennol. Er enghraifft, talodd Eseciel sylw manwl wrth i angel yn ei weledigaeth fesur y deml yn ofalus. Gwnaeth y weledigaeth gryfhau Eseciel, ac mae’n rhoi gwersi ymarferol inni am sut gallwn ni gadw at safonau uchel Jehofa ynglŷn ag addoliad pur. (Esec. 40:1-4; 43:10-12) Wrth inni ddysgu am bethau dwfn Duw yn ei Air, a myfyrio arnyn nhw, mae’n gwneud lles i ninnau hefyd. Gallwn ni gael calon gadarn wrth drystio Jehofa yn llwyr.—Salm 112:7. w23.07 18 ¶15-16
Dydd Gwener, Mai 9
‘Gwarchoda’r gallu i feddwl.’ —Diar. 3:21, NWT.
Mae’r Beibl yn llawn esiamplau i frodyr ifanc eu hefelychu. Roedd y dynion hynny yn caru Jehofa ac yn ysgwyddo nifer o gyfrifoldebau wrth edrych ar ôl pobl Dduw. Gelli di hefyd ddysgu o esiamplau da dynion ffyddlon yn dy deulu ac yn y gynulleidfa. (Heb. 13:7) Ac mae gen ti’r esiampl berffaith o Iesu Grist. (1 Pedr 2:21) Wrth iti feddwl am yr esiamplau hyn, meddylia am eu rhinweddau arbennig. (Heb. 12:1, 2) Yna, ystyria sut byddi di yn eu hefelychu nhw. Mae rhywun sy’n datblygu’r gallu i feddwl yn ystyried ei opsiynau cyn gwneud penderfyniadau. Felly gweithia’n galed i ddatblygu’r gallu hwn ac yna dal ati i’w gadw. Yn gyntaf, dysga am egwyddorion y Beibl a meddylia am pam maen nhw o les inni. Yna defnyddia’r egwyddorion hynny i wneud penderfyniadau a fydd yn plesio Jehofa. (Salm 119:9) Dyna gam pwysig tuag at ddod yn Gristion aeddfed.—Diar. 2:11, 12; Heb. 5:14. w23.12 24-25 ¶4-5
Dydd Sadwrn, Mai 10
Byddwch yn barod bob amser i amddiffyn y gobaith sydd gynnoch chi o flaen pob un sy’n mynnu rheswm amdano, ond gwnewch hynny gydag ysbryd addfwyn a pharch dwfn.—1 Pedr 3:15.
Mae rhieni yn gallu cael canlyniadau da wrth ddysgu eu plant sut i ymateb mewn ffordd addfwyn pan mae daliadau yn cael eu herio. (Iago 3:13) Mae rhai rhieni yn defnyddio addoliad teuluol fel cyfle i gael sesiynau ymarfer. Maen nhw’n edrych ar bynciau sy’n debygol o gael eu codi yn yr ysgol. Maen nhw’n trafod ac yn dangos sut gallen nhw ymateb i’r rhain ac yn dysgu eu plant sut i siarad mewn ffordd addfwyn ac apelgar. Gall sesiynau ymarfer helpu Cristnogion i gyflwyno rhesymau da dros gredu yn eu daliadau er mwyn perswadio eraill a nhw eu hunain. Mae taflenni gwaith i’r arddegau ar gael ar jw.org. Bydd y rhain yn helpu pobl ifanc i gryfhau eu daliadau ac i baratoi atebion yn eu geiriau eu hunain. Drwy astudio pethau felly fel teulu, byddwn ni i gyd yn gallu amddiffyn ein ffydd mewn ffordd addfwyn ac apelgar. w23.09 17 ¶10; 18 ¶15-16
Dydd Sul, Mai 11
Mae’n rhaid inni beidio â rhoi’r gorau i wneud daioni, oherwydd pan ddaw’r amser penodedig fe fyddwn ni’n medi os nad ydyn ni’n blino’n lân.—Gal. 6:9.
Wyt ti erioed wedi gosod nod ysbrydol ond wedi methu ei gyrraedd? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Er enghraifft, roedd Philip eisiau gweddïo’n amlach a gwella safon ei weddïau, ond roedd hi’n anodd iddo gael digon o amser. Nod Erika oedd i gyrraedd cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth ar amser. Eto, roedd hi’n hwyr ar gyfer bron pob un. Os oes gen ti nod ar hyn o bryd nad wyt ti wedi’i gyrraedd, plîs paid â digalonni. Yn aml mae angen amser a gwaith caled er mwyn cyrraedd nod, hyd yn oed un syml. Mae’r ffaith dy fod ti’n dal eisiau cyrraedd dy nod yn dangos dy fod ti’n trysori dy berthynas â Jehofa ac eisiau rhoi dy orau iddo. Mae Jehofa’n gwerthfawrogi dy ymdrechion, a dydy ef ddim yn disgwyl mwy nag y gelli di ei roi. (Salm 103:14; Mich. 6:8) Felly pan fyddi di’n dewis nod, gwna’n siŵr ei fod yn rhesymol ac o fewn dy gyrraedd. w23.05 26 ¶1-2
Dydd Llun, Mai 12
Os ydy Duw ar ein hochr ni, pwy fydd yn ein herbyn ni?—Rhuf. 8:31.
Gall pobl ddewr deimlo ofn, ond dydyn nhw ddim yn gadael iddo eu stopio nhw rhag gwneud beth sy’n iawn. Roedd Daniel yn ddyn ifanc hynod o ddewr. Roedd yn astudio ysgrifau proffwydi Duw, gan gynnwys proffwydoliaethau Jeremeia. Drwy astudio, dysgodd Daniel fod caethiwed yr Iddewon ym Mabilon ar fin dod i ben. (Dan. 9:2) Gwelodd Daniel fod geiriau Jehofa yn dod yn wir. Gwnaeth hyn gryfhau ei hyder yn Jehofa ac mae’r rhai sy’n ymddiried yn llwyr yn Jehofa yn gallu bod yn ddewr iawn. (Cymhara Rhufeiniaid 8:32, 37-39) Yn bwysicach byth, roedd Daniel yn gweddïo ar Jehofa yn aml. (Dan. 6:10) Roedd yn cyffesu eu pechodau i Jehofa, yn rhannu ei deimladau, ac yn gofyn am ei help. (Dan. 9:4, 5, 19) Fel pob un ohonon ni, doedd Daniel ddim wedi ei eni’n ddewr. Yn hytrach, drwy astudio, gweddïo, ac ymddiried yn Jehofa, llwyddodd Daniel i feithrin y rhinwedd honno. w23.08 3 ¶4; 4 ¶7
Dydd Mawrth, Mai 13
Gadewch i’ch goleuni ddisgleirio gerbron dynion, fel y gallan nhw weld eich gweithredoedd da a rhoi gogoniant i’ch Tad sydd yn y nefoedd.—Math. 5:16.
Pan fyddwn ni’n ufudd i’r awdurdodau, mae pawb yn elwa. Sut felly? Rydyn ni’n osgoi cael ein cosbi fel y rhai sy’n torri’r gyfraith. (Rhuf. 13:1, 4) Gall ein hufudd-dod personol ni effeithio ar sut mae’r awdurdodau’n gweld Tystion Jehofa. Er enghraifft, nifer o flynyddoedd yn ôl yn Nigeria, aeth milwyr i mewn i Neuadd y Deyrnas yn ystod cyfarfod. Roedden nhw’n edrych am bobl a oedd yn protestio yn erbyn talu trethi. Ond dywedodd y prif swyddog wrth y milwyr am adael, gan ddweud: “Dydy Tystion Jehofa ddim yn osgoi talu trethi.” Bob tro rwyt ti’n ufuddhau i’r gyfraith, gelli di wella agwedd pobl eraill tuag at Dystion Jehofa a chreu enw da a all helpu i warchod dy frodyr a dy chwiorydd. w23.10 9 ¶13
Dydd Mercher, Mai 14
Mae angen dyfalbarhad arnoch chi, er mwyn ichi allu derbyn cyflawniad yr addewid ar ôl ichi wneud ewyllys Duw.—Heb. 10:36.
Mae rhai o weision Jehofa wedi bod yn disgwyl am ddiwedd y system hon ers amser hir. O safbwynt dynol, gall ymddangos fel petai Duw yn oedi cyn dod â’r diwedd. Dywedodd Jehofa wrth y proffwyd Habacuc: “Mae’n weledigaeth o beth sy’n mynd i ddigwydd; mae’n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e’n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar—mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.” (Hab. 2:3) Ai er lles Habacuc yn unig rhoddodd Duw yr addewid hwnnw? Neu ydy Ei eiriau yn golygu rhywbeth i ni heddiw? Cafodd yr apostol Paul ei ysbrydoli i esbonio bod y geiriau hyn yn berthnasol i Gristnogion sy’n edrych ymlaen at y byd newydd. (Heb. 10:37) Hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo bod Jehofa’n hwyr yn cyflawni ei addewid i’n hachub ni, “mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.” w23.04 30 ¶16
Dydd Iau, Mai 15
Dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a throi yn erbyn Moses.—Num. 14:2.
Fe wnaeth yr Israeliaid wrthod y dystiolaeth glir bod Jehofa’n defnyddio Moses fel Ei gynrychiolwr. (Num. 14:10, 11) Dro ar ôl tro, gwnaethon nhw wrthod cydnabod rôl Moses. O ganlyniad i hyn, gwnaeth Ef ddim caniatáu iddyn nhw fynd i mewn i Wlad yr Addewid. (Num. 14:29, 30) Er hynny, dilynodd rhai o’r Israeliaid arweiniad Jehofa. Er enghraifft, dywedodd Jehofa fod “Caleb . . . yn ffyddlon.” (Num. 14:24) Dyma Dduw yn gwobrwyo Caleb, a hyd yn oed gadael iddo ddewis lle i fyw yng ngwlad Canaan. (Jos. 14:12-14) Gwnaeth y genhedlaeth nesaf o Israeliaid osod esiampl dda o ddilyn arweiniad Jehofa. Ar ôl i Moses farw, cafodd Josua ei benodi i arwain yr Israeliaid, ac “roedden nhw’n ei barchu e tra buodd e byw.” (Jos. 4:14) O ganlyniad, bendithiodd Jehofa nhw drwy ddod â nhw i mewn i’r wlad roedd wedi ei addo.—Jos. 21:43, 44. w24.02 21 ¶6-7
Dydd Gwener, Mai 16
Rhaid i bwy bynnag sy’n caru Duw garu ei frawd hefyd.—1 Ioan 4:21.
Yn union fel mae doctor yn gallu dysgu am gyflwr ein calon trwy fesur ein pwls, gallwn ninnau ddysgu pa mor gryf ydy ein cariad tuag at Dduw drwy fesur faint o gariad sydd gynnon ni tuag at eraill. Os ydyn ni’n gweld bod ein cariad tuag at eraill yn gwanhau, efallai bod hynny’n arwydd bod ein cariad tuag at Dduw hefyd yn gwanhau. Ond, os ydyn ni’n dangos ein cariad tuag at ein cyd-gredinwyr yn aml, mae hynny’n arwydd bod ein cariad tuag at Dduw yn gryf. Os ydy ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn gwanhau, mae hynny’n broblem. Pam? Oherwydd bydd hyn yn golygu ein bod ni mewn peryg ysbrydol. Mae’r apostol Ioan yn egluro hyn yn glir drwy ein hatgoffa ni: “Ni all neb sydd ddim yn caru ei frawd, sy’n weledig iddo, garu Duw, sy’n anweledig iddo.” (1 Ioan 4:20) Beth ydy’r wers inni? Byddwn ni ond yn dod â phleser i Jehofa os ydyn ni’n ‘caru ein gilydd.’—1 Ioan 4:7-9, 11. w23.11 8 ¶3; 9 ¶5-6
Dydd Sadwrn, Mai 17
Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau.—Diar. 23:25.
Pan oedd Jehoas yn ifanc, bu farw ei dad, ac felly cafodd ei fagu gan yr archoffeiriad Jehoiada, a oedd yn ei ddysgu am Jehofa. Roedd Jehoas yn ddoeth oherwydd dilynodd gyngor Jehoiada. Ac oherwydd ei esiampl, penderfynodd Jehoas wasanaethu Jehofa a helpu’r bobl i wneud hynny hefyd. Ar ben hynny, fe wnaeth Jehoas drefnu i bobl drwsio teml Jehofa.(2 Cron. 24:1, 2, 4, 13, 14) Os wyt ti’n cael dy ddysgu i garu Jehofa ac i fyw yn ôl ei safonau, rwyt ti’n derbyn rhodd werthfawr. (Diar. 2:1, 10-12) Mae dy rieni yn dy hyfforddi di mewn sawl ffordd. Byddan nhw’n hapus pan fyddi di’n rhoi cyngor y Beibl ar waith yn dy fywyd. Ond yn bwysicach byth, bydd Jehofa’n hapus a byddi di’n cryfhau dy berthynas ag ef. (Diar. 22:6; 23:15, 24) Dyna resymau da dros efelychu esiampl Jehoas pan oedd yn ifanc. w23.09 8-9 ¶3-5
Dydd Sul, Mai 18
Bydda i’n gwrando.—Jer. 29:12.
Mae Jehofa yn addo gwrando ar ein gweddïau. Mae ein Duw yn caru ei addolwyr ffyddlon, felly ni fydd byth yn anwybyddu eu gweddïau. (Salm 10:17; 37:28) Ond dydy hynny ddim yn golygu y bydd yn rhoi inni bopeth rydyn ni eisiau. Efallai bydd rhaid inni ddisgwyl am y byd newydd cyn inni dderbyn rhai o’r pethau rydyn ni wedi gofyn amdanyn nhw. Mae gan Jehofa ei bwrpas mewn meddwl wrth wrando ar ein gweddïau. (Esei. 55:8, 9) Rhan o’i bwrpas ydy llenwi’r ddaear â phobl sy’n hapus i fod yn ufudd iddo. Ond mae Satan yn honni y byddai pawb yn hapusach petasen nhw’n eu rheoli eu hunain. (Gen. 3:1-5) Er mwyn profi bod Satan yn gelwyddog, mae Jehofa wedi caniatáu i bobl eu rheoli eu hunain. Ond mae llywodraethau dynol wedi achosi llawer o’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu heddiw. (Preg. 8:9) Rydyn ni’n deall na fydd Jehofa yn dileu’r problemau hyn i gyd ar hyn o bryd. w23.11 21 ¶4-5
Dydd Llun, Mai 19
Rydw i wedi dy benodi di yn dad i lawer o genhedloedd.—Rhuf. 4:17.
Addawodd Jehofa y byddai ‘llawer o genhedloedd’ yn cael eu bendithio drwy Abraham. Fodd bynnag, pan oedd Abraham yn 100 mlwydd oed a Sara yn 90 mlwydd oed, doedden nhw dal ddim wedi cael plentyn. O safbwynt dynol, roedd yn ymddangos yn amhosib i Abraham a Sara gael mab. Roedd hynny’n brawf go iawn i Abraham. “Ar sail gobaith, roedd ganddo ffydd y byddai’n dod yn dad i lawer o genhedloedd.” (Rhuf. 4:18, 19) Ac yn ddigon wir, cafodd y gobaith hwnnw ei wireddu. Daeth yn dad i Isaac, y mab roedd wedi hir obeithio amdano. (Rhuf. 4:20-22) Gallwn ni gael cymeradwyaeth Duw, cael ein hystyried yn gyfiawn, a bod yn ffrind i Dduw fel roedd Abraham. Yn wir, gwnaeth Paul gyffwrdd ar hynny pan ysgrifennodd: “Ni chafodd y geiriau ‘roedd yn cael ei ystyried yn’ eu hysgrifennu [am Abraham] yn unig. Fe gawson nhw eu hysgrifennu hefyd ar ein cyfer ni. Fe fyddwn ninnau hefyd yn cael ein hystyried yn gyfiawn oherwydd ein bod ni’n credu yn yr Hwn a wnaeth godi Iesu.” (Rhuf. 4:23, 24) Fel Abraham mae angen inni gael ffydd a gweithredoedd yn ogystal â gobaith. w23.12 7 ¶16-17
Dydd Mawrth, Mai 20
Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo.—Salm 31:7.
Pan wyt ti’n wynebu her sy’n dy wneud di’n ofnus, cofia fod Jehofa yn sylwi ar dy dreial ac yn gwybod sut mae’r treial hwnnw yn gwneud iti deimlo. Er enghraifft, gwnaeth Jehofa sylwi ar sut cafodd yr Israeliaid eu cam-drin yn yr Aifft ac roedd yn “teimlo drostyn nhw.” (Ex. 3:7) Efallai byddi di’n cwestiynu sut mae Jehofa yn dy gefnogi di wrth iti fynd trwy dreial sy’n codi ofn. Gofynna iddo dy helpu di i weld ei gefnogaeth. (2 Bren. 6:15-17) Yna, ystyria: A ydy anerchiad neu sylwad yn ystod y cyfarfod wedi dy gryfhau? A ydy cyhoeddiad, fideo, neu gân wreiddiol wedi dy galonogi? A ydy rhywun wedi rhannu gair caredig neu ysgrythur â ti? Mae’n ddigon hawdd inni gymryd yn ganiataol gariad ein brodyr a’n chwiorydd a’r bwyd ysbrydol rydyn ni yn ei dderbyn. Ond, maen nhw’n anrhegion arbennig gan Jehofa. (Esei. 65:13; Marc 10:29, 30) Maen nhw’n profi ei fod yn edrych ar dy ôl di. (Esei. 49:14-16) Hefyd, maen nhw’n rhoi sail iti ei drystio. w24.01 4-5 ¶9-10
Dydd Mercher, Mai 21
‘Caniatâ i dy gaethweision barhau i gyhoeddi dy air â phob hyder.’—Act. 4:29.
Yn y munudau cyn iddo ddychwelyd i’r nef, gwnaeth Iesu atgoffa ei ddisgyblion o’u haseiniad i dystiolaethu amdano “yn Jerwsalem, yn holl Jwdea a Samaria, ac i ben draw’r byd.” (Act. 1:8; Luc 24:46-48) Yn fuan ar ôl hynny, fe wnaeth yr arweinwyr Iddewig arestio’r apostolion Pedr ac Ioan, a dod â nhw o flaen y Sanhedrin. Wedyn, cawson nhw eu bygwth a’u gorchymyn i roi’r gorau i bregethu. (Act. 4:18, 21) Dywedodd Pedr ac Ioan: “Barnwch chi a yw’n iawn yng ngolwg Duw inni wrando arnoch chi yn hytrach nag ar Dduw. Ond o’n rhan ni, dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad am y pethau rydyn ni wedi eu gweld a’u clywed.” (Act. 4:19, 20) Pan gafodd Pedr ac Ioan eu rhyddhau, gweddïodd y disgyblion ar Jehofa am ei ewyllys.Atebodd Jehofa y weddi ddiffuant honno.—Act. 4:31. w23.05 5 ¶11-12
Dydd Iau, Mai 22
Hwn ydy fy Mab annwyl, ac mae’n fy mhlesio i’n fawr iawn.—Math. 17:5.
Am filiynau o flynyddoedd, mae Jehofa a’i Fab annwyl wedi cael perthynas agos llawn cariad. Eu perthynas nhw ydy’r hynaf yn y bydysawd. Dangosodd Jehofa ei gariad tuag at Iesu’n glir yng ngeiriau ein testun heddiw. Byddai Jehofa wedi gallu dweud, ‘Hwn ydy’r un sy’n fy mhlesio i’n fawr iawn.’ Ond, roedd ef eisiau inni wybod faint mae’n caru Iesu, felly galwodd ef “fy Mab annwyl.” Roedd Jehofa’n prowd iawn o Iesu ac o beth roedd ef am ei wneud. (Eff. 1:7) A doedd gan Iesu ddim amheuon am sut roedd ei Dad yn teimlo amdano. Roedd Iesu’n hollol siŵr o gariad Jehofa tuag ato. Dywedodd sawl gwaith gyda hyder fod ei Dad yn ei garu.—Ioan 3:35; 10:17; 17:24. w24.01 28 ¶8
Dydd Gwener, Mai 23
Mae enw da yn well na chyfoeth mawr.—Diar. 22:1.
Dychmyga hyn: Mae rhywun sy’n agos iawn atat ti yn dweud rhywbeth ofnadwy amdanat ti. Rwyt ti’n gwybod ei fod yn gelwydd, ond eto mae rhai yn ei gredu. Ac yn waeth na hynny, maen nhw’n ailadrodd y celwydd, ac mae nifer arall yn ei gredu hefyd. Sut byddet ti’n teimlo? Oni fyddai’r celwydd yn dy frifo? Gall y sefyllfa hon ein helpu ni i ddeall sut roedd Jehofa yn teimlo pan gafodd ei enw da ei bardduo. Dywedodd un o’i angylion gelwydd amdano i’r ddynes gyntaf, Efa. Credodd hi’r celwydd a gwnaeth hwnnw arwain ein rhieni cyntaf i wrthryfela yn erbyn Jehofa. Oherwydd hynny, daeth pechod a marwolaeth i’r teulu dynol. (Gen. 3:1-6; Rhuf. 5:12) Mae’r problemau i gyd rydyn ni’n eu gweld yn y byd—y marwolaethau, y rhyfeloedd, y gofid—wedi dod o ganlyniad i gelwyddau Satan. Ydy’r celwyddau hyn a’u canlyniadau yn brifo Jehofa? Does dim dwywaith amdani. Er hynny i gyd, dydy Jehofa ddim yn chwerw nac yn digio, ond mae’n ‘Dduw hapus.’—1 Tim. 1:11. w24.02 8 ¶1-2
Dydd Sadwrn, Mai 24
Sut galla i wneud rhywbeth mor ofnadwy o ddrwg, a phechu yn erbyn Duw ei hun?—Gen. 39:9.
Sut gelli di fod yr un mor benderfynol â Joseff? Gelli di benderfynu nawr beth i’w wneud pan wyt ti’n cael dy demtio. Dysga sut i wrthod y pethau mae Jehofa yn eu casáu yn syth, heb hyd yn oed meddwl amdanyn nhw. (Salm 97:10; 119:165) Yna, wrth i demtasiwn godi, byddi di’n gwneud y peth iawn yn hytrach na simsanu. Efallai rwyt ti’n gwybod dy fod ti wedi dod o hyd i’r gwir ac rwyt ti eisiau gwasanaethu Jehofa â dy holl galon, ond mae ’na rywbeth yn dy ddal di’n ôl rhag cysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio. Os felly, gelli di efelychu y Brenin Dafydd ac erfyn ar Jehofa: “Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; treiddia’n ddwfn, a deall fel dw i’n poeni. Edrych i weld a ydw i’n gwneud rhywbeth o’i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr.” (Salm 139:23, 24) Mae Jehofa’n gwobrwyo’r rhai “sy’n ei geisio’n daer,” ac rwyt ti’n dangos dy fod ti’n gwneud hynny drwy weithio tuag at dy nod o gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio.—Heb. 11:6. w24.03 6 ¶13-15
Dydd Sul, Mai 25
Does dim angen iddo offrymu aberthau bob dydd.—Heb. 7:27.
Roedd yr archoffeiriad yn cynrychioli’r bobl o flaen Duw. Cafodd Aaron, archoffeiriad cyntaf Israel, ei benodi gan Jehofa pan gafodd y tabernacl ei gysegru. Ond fel esboniodd yr apostol Paul, “roedd rhaid i lawer o offeiriaid ddod, un ar ôl y llall, oherwydd bod marwolaeth yn eu rhwystro nhw rhag parhau i wasanaethu.” (Heb. 7:23-26) A gan fod yr archoffeiriaid hynny yn amherffaith, roedd rhaid iddyn nhw offrymu aberthau dros eu pechodau nhw eu hunain. Mae hyn yn wahaniaeth mawr rhwng archoffeiriaid Israel a’r Archoffeiriad mawr, Iesu Grist. Fel ein Harchoffeiriad, mae Iesu Grist “yn weinidog y . . . wir babell, a gafodd ei gosod gan Jehofa, nid dynion.” (Heb. 8:1, 2) Esboniodd Paul: “Oherwydd ei fod ef [Iesu] yn parhau i fyw am byth, ni fydd neb yn dod yn offeiriad ar ei ôl.” Ychwanegodd Paul fod Iesu “yn bur, wedi ei wahanu oddi wrth y pechaduriaid” ac yn wahanol i archoffeiriaid Israel, “does dim angen iddo offrymu aberthau bob dydd” am ei bechodau. w23.10 26 ¶8-9
Dydd Llun, Mai 26
Roedd yr hen nef a’r hen ddaear wedi diflannu.—Dat. 21:1.
Mae’r “hen nef” yn cyfeirio at lywodraethau sydd wedi cael eu dylanwadu gan Satan a’i gythreuliaid. (Math. 4:8, 9; 1 Ioan 5:19) Yn y Beibl, gall y gair “ddaear” gyfeirio at y bobl sy’n byw ar y ddaear. (Gen. 11:1; Salm 96:1) Felly, mae’r “hen ddaear” yn cyfeirio at bobl ddrwg. Ni fydd Jehofa yn ceisio diwygio, neu atgyweirio, y “nef” a’r “ddaear” presennol, ond bydd yn cael gwared arnyn nhw yn gyfan gwbl. Bydd yn disodli’r “nef” a’r “ddaear” presennol gyda “nef newydd a daear newydd”—sef llywodraeth newydd a fydd yn rheoli dros bobl gyfiawn. Bydd y ddaear a dynolryw fel newydd oherwydd bydd Jehofa yn dod â nhw i berffeithrwydd. Fel rhagfynegodd Eseia, bydd y ddaear gyfan yn cael ei throi yn ardd hyfryd—fel gardd Eden. Hefyd, byddwn ni’n cael ein gwneud fel newydd drwy gael ein hiacháu yn llwyr. Bydd y cloff, y dall, a’r byddar yn cael eu hiacháu, a bydd hyd yn oed y meirw yn cael eu hatgyfodi.—Esei. 25:8; 35:1-7. w23.11 4 ¶9-10
Dydd Mawrth, Mai 27
Dangoswch . . . eich bod chi’n barod.—Math. 24:44.
Er bod y trychineb mawr am daro’n sydyn, bydd yn wahanol i drychinebau eraill oherwydd rydyn ni’n gwybod ei fod yn dod. (Math. 24:21) Tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl, rhybuddiodd Iesu ei ddilynwyr i fod yn barod am y diwrnod hwnnw. Os ydyn ni wedi paratoi, bydd yn haws inni oroesi’r amser anodd hwnnw, ac i helpu eraill i wneud yr un fath. (Luc 21:36) Bydd dyfalbarhad yn hanfodol er mwyn aros yn ufudd i Jehofa ac i drystio y bydd yn ein hamddiffyn. Petai ein brodyr yn colli eu heiddo, beth bydden ni’n ei wneud? (Hab. 3:17, 18) Bydd tosturi yn hanfodol er mwyn rhoi’r cymorth fydd ei angen. Petasen ni’n gorfod byw gyda’n brodyr a’n chwiorydd am gyfnod oherwydd yr ymosodiad gan gynghrair o genhedloedd, sut bydden ni’n ymateb? (Esec. 38:10-12) Bydd cariad cryf at ein brodyr a’n chwiorydd yn hanfodol i’n helpu ni i oroesi’r amser anodd hwnnw. w23.07 2 ¶2-3
Dydd Mercher, Mai 28
Felly gwyliwch yn ofalus iawn eich bod chi’n cerdded, nid fel pobl annoeth, ond fel pobl ddoeth, gan ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau. —Eff. 5:15, 16.
Gall cyplau priod ddysgu o esiampl Acwila a Priscila. Roedd llawer o’r Cristnogion cynnar yn caru’r cwpl hwnnw. (Rhuf. 16:3, 4) Roedden nhw’n gweithio, yn pregethu, ac yn helpu eraill gyda’i gilydd. (Act. 18:2, 3, 24-26) A dweud y gwir, bob tro mae’r Beibl yn sôn am Acwila a Priscila, maen nhw wastad gyda’i gilydd. Sut gall cyplau heddiw eu hefelychu? Mae’n siŵr bod gynnoch chi lawer o dasgau rydych chi angen eu gwneud. Allwch chi wneud rhai ohonyn nhw gyda’ch gilydd fel cwpl yn lle ar eich pennau eich hunain? Er enghraifft, ydych chi’n cynllunio i bregethu gyda’ch gilydd yn aml, fel roedd Acwila a Priscila’n ei wneud? Efallai nad ydych chi’ch dau yn gwneud yr un gwaith seciwlar fel roedd Acwila a Priscila. Ond a allwch chi wneud jobsys o gwmpas y tŷ gyda’ch gilydd? (Preg. 4:9) Bydd gwneud tasgau gyda’ch gilydd yn rhoi cyfle ichi siarad ac yn gwneud ichi deimlo fel eich bod chi ar yr un tîm. w23.05 22-23 ¶10-12
Dydd Iau, Mai 29
Pan mae gen i ofn, dw i’n dy drystio di.—Salm 56:3.
Mae pawb yn teimlo’n ofnus ar adegau. Er enghraifft, pan oedd y Brenin Saul yn rhedeg ar ôl Dafydd, gwnaeth Dafydd ffoi i Gath, un o ddinasoedd y Philistiaid. Gwnaeth brenin Gath, Achish, ddod i wybod mai Dafydd oedd y milwr dewr a oedd wedi lladd ‘degau o filoedd’ o Philistiaid. Gwnaeth hyn ‘godi ofn ar Dafydd.’ (1 Sam. 21:10-12) Roedd yn poeni’n arw am beth byddai Achish yn ei wneud iddo. Sut gwnaeth Dafydd ddod dros ei ofn? Yn Salm 56, mae Dafydd yn mynegi y teimladau roedd ganddo yn Gath. Yn y salm honno, mae Dafydd yn esbonio’n glir pam roedd ganddo ofn, ond mae hefyd yn esbonio beth gwnaeth ei helpu i ddod dros yr ofn hwnnw. Pan oedd Dafydd yn ofnus, trystiodd yn Jehofa. (Salm 56:1-3, 11) Roedd ganddo resymau da dros drystio yn Jehofa. Gyda bendith Jehofa, penderfynodd Dafydd i wneud rhywbeth rhyfedd. Gwnaeth cogio fod yn wallgof! Nawr, doedd Achish ddim yn gweld Dafydd fel bygythiad mwyach ac roedd Dafydd yn gallu ffoi.—1 Sam. 21:13–22:1. w24.01 2 ¶1-3
Dydd Gwener, Mai 30
Bydd y rhai gydag ef sy’n cael eu galw a’u dewis ac sy’n ffyddlon yn gwneud hynny hefyd.—Dat. 17:14.
Pwy ydy’r rhai y mae sôn amdanyn nhw yn y testun heddiw? Dyma’r eneiniog sydd wedi cael eu hatgyfodi! Felly, pan fydd y rhai olaf o’r eneiniog yn cael eu cymryd i’r nefoedd tuag at ddiwedd y trychineb mawr, un o’u haseiniadau cyntaf fydd i ymladd. Ar ôl cael eu hatgyfodi i’r nefoedd, byddan nhw’n gwasanaethu gyda Christ a’i angylion i frwydro yn y rhyfel olaf yn erbyn gelynion Duw. Meddylia amdani! Ar y ddaear, mae rhai o’r eneiniog yn hen neu’n fregus. Ond ar ôl iddyn nhw gael eu hatgyfodi i’r nefoedd, byddan nhw’n ysbryd greaduriaid anfarwol gyda’r aseiniad i ymladd ochr yn ochr â Iesu Grist. Ar ôl rhyfel Armagedon, byddan nhw’n helpu’r ddynoliaeth i gyrraedd perffeithrwydd. Heb os, byddan nhw’n gallu rhoi llawer mwy o gymorth inni o’r nefoedd bryd hynny nag ydyn nhw nawr ar y ddaear fel pobl amherffaith! w24.02 6-7 ¶15-16
Dydd Sadwrn, Mai 31
Daliwch ati i gerdded o dan arweiniad yr ysbryd ac ni fyddwch chi’n cyflawni unrhyw chwant cnawdol o gwbl. —Gal. 5:16.
Mae rhai yn dal yn ôl rhag cysegru eu hunain a chael eu bedyddio er eu bod nhw’n barod. Efallai eu bod nhw’n poeni, ‘Beth os dwi’n pechu’n ddifrifol ac yn cael fy niarddel?’ Os ydy hynny’n codi ofn arnat ti, paid â phoeni. Bydd Jehofa’n rhoi popeth rwyt ti ei angen i “gerdded yn deilwng [ohono] er mwyn . . . ei blesio’n llawn.” (Col. 1:10) Mae Jehofa wedi rhoi’r nerth i lawer o bobl wneud y peth iawn, a bydd yn dy helpu di hefyd. (1 Cor. 10:13) Mae Jehofa yn helpu ei bobl i aros yn ffyddlon, a dyna pam mae dim ond ychydig iawn o bobl yn cael eu rhoi allan o’r gynulleidfa Gristnogol. Mae pob un ohonon ni’n wynebu temtasiynau i wneud pethau anghywir. (Iago 1:14) Ond dy ddewis di ydy sut rwyt ti’n ymateb, a gelli di ddewis beth i wneud yn wyneb temtasiwn. Mae rhai pobl yn honni dydyn ni ddim yn gyfrifol am beth rydyn ni’n ei wneud, ond dydy hynny ddim yn wir. Gelli di ddysgu sut i reoli chwantau drwg. w24.03 5 ¶11-12