LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • es25 tt. 57-67
  • Mehefin

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Mehefin
  • Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
  • Isbenawdau
  • Dydd Sul, Mehefin 1
  • Dydd Llun, Mehefin 2
  • Dydd Mawrth, Mehefin 3
  • Dydd Mercher, Mehefin 4
  • Dydd Iau, Mehefin 5
  • Dydd Gwener, Mehefin 6
  • Dydd Sadwrn, Mehefin 7
  • Dydd Sul, Mehefin 8
  • Dydd Llun, Mehefin 9
  • Dydd Mawrth, Mehefin 10
  • Dydd Mercher, Mehefin 11
  • Dydd Iau, Mehefin 12
  • Dydd Gwener, Mehefin 13
  • Dydd Sadwrn, Mehefin 14
  • Dydd Sul, Mehefin 15
  • Dydd Llun, Mehefin 16
  • Dydd Mawrth, Mehefin 17
  • Dydd Mercher, Mehefin 18
  • Dydd Iau, Mehefin 19
  • Dydd Gwener, Mehefin 20
  • Dydd Sadwrn, Mehefin 21
  • Dydd Sul, Mehefin 22
  • Dydd Llun, Mehefin 23
  • Dydd Mawrth, Mehefin 24
  • Dydd Mercher, Mehefin 25
  • Dydd Iau, Mehefin 26
  • Dydd Gwener, Mehefin 27
  • Dydd Sadwrn, Mehefin 28
  • Dydd Sul, Mehefin 29
  • Dydd Llun, Mehefin 30
Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
es25 tt. 57-67

Mehefin

Dydd Sul, Mehefin 1

Mae’n rhaid inni fynd i mewn i Deyrnas Dduw drwy lawer o dreialon.—Act. 14:22.

Fe wnaeth Jehofa fendithio’r Cristnogion yn y ganrif gyntaf wrth iddyn nhw ddygymod ag amgylchiadau newydd. Cawson nhw eu herlid yn aml, weithiau yn hollol annisgwyl. Meddylia am beth ddigwyddodd i Barnabas a’r apostol Paul tra oedden nhw’n pregethu yn ardal Lystra. Ar y dechrau, gwnaeth pobl roi croeso cynnes iddyn nhw a gwrando arnyn nhw. Ond yn nes ymlaen, gwnaeth rhai o’r un bobl labyddio Paul gan feddwl ei fod wedi marw. Roedd hynny am fod gwrthwynebwyr wedi “perswadio’r tyrfaoedd.” (Act. 14:19) Ond gwnaeth Barnabas a Paul barhau i bregethu yn rhywle arall. Beth oedd y canlyniad? Fe wnaethon nhw “nifer o ddisgyblion,” ac roedd eu geiriau a’u hesiampl yn cryfhau eu cyd-Gristnogion. (Act. 14:​21, 22) Oherwydd wnaeth Barnabas a Paul ddim rhoi’r gorau iddi yn wyneb erledigaeth annisgwyl, gwnaeth llawer elwa. Beth yw’r wers i ni? Os ydyn ni’n dal ati yn y gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni, cawn ninnau hefyd ein bendithio. w23.04 16-17 ¶13-14

Dydd Llun, Mehefin 2

Gwranda ar fy ngweddi, O ARGLWYDD! Edrych! Dw i’n erfyn am drugaredd! Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat, am mai ti sy’n gallu fy ateb i.—Salm 86:​6, 7.

Roedd y Brenin Dafydd yn wynebu llawer o elynion peryglus yn ystod ei oes, ac roedd yn troi at Jehofa mewn gweddi yn aml. Roedd yn sicr bod Jehofa’n clywed ei weddïau ac yn eu hateb. Gelli di fod yr un mor hyderus. Mae’r Beibl yn rhoi sicrwydd inni fod Jehofa’n gallu rhoi inni’r doethineb a’r nerth rydyn ni eu hangen i ddal ati. Efallai bydd yn defnyddio ein teulu ysbrydol, neu hyd yn oed y rhai sydd ddim yn ei wasanaethu ar hyn o bryd i’n helpu ni mewn rhyw ffordd. Efallai na fydd Jehofa bob tro’n ateb ein gweddïau yn y ffordd rydyn ni’n ei disgwyl, ond rydyn ni’n hollol hyderus y bydd yn eu hateb nhw. Bydd yn rhoi yn union beth rydyn ni ei angen, ar yr union adeg iawn. Felly dal ati i weddïo, yn llawn ffydd y bydd Jehofa’n gofalu amdanat ti nawr ac yn “rhoi iti bopeth wyt ti eisiau” yn y byd newydd sydd i ddod.—Salm 37:4. w23.05 8 ¶4; 13 ¶17-18

Dydd Mawrth, Mehefin 3

Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i?—Salm 116:12.

Peth da yw canolbwyntio ar y bendithion a ddaw o gyrraedd nod. Pa fendithion gelli di ganolbwyntio arnyn nhw? Os mai darllen y Beibl yn amlach neu wella dy weddïau yw dy nod, meddylia am sut bydd hynny’n cryfhau dy berthynas â Jehofa. (Salm 145:​18, 19) Os mai meithrin rhinwedd Gristnogol yw dy nod, canolbwyntia ar sut bydd hynny’n gwella dy berthynas ag eraill. (Col. 3:14) Beth am wneud rhestr o’r holl resymau sydd gen ti i gyrraedd dy nod, ac edrych arni’n aml? Hefyd, treulia amser gyda phobl fydd yn dy annog di i gyrraedd dy nod. (Diar. 13:20) Y gwir amdani yw ein bod ni i gyd yn cael dyddiau pan does gynnon ni ddim awydd i weithio at ein nod. Ond ddylai hynny ddim ein stopio ni. Gallwn ni symud ymlaen tuag at ein nod hyd yn oed heb fawr o awydd. Er bydd hyn yn gofyn am hunanddisgyblaeth, mae’n werth yr ymdrech. w23.05 27-28 ¶5-8

Dydd Mercher, Mehefin 4

Beth bynnag mae rhywun yn ei hau, hynny hefyd y bydd yn ei fedi. —Gal. 6:7.

Gall gwybod ein bod ni’n atebol am ein penderfyniadau wneud inni gyffesu ein pechodau, eu cywiro, ac osgoi eu gwneud nhw eto. Mae gwneud hyn yn ein helpu ni i aros yn y ras am fywyd. Os wyt ti wedi gwneud penderfyniad drwg, beth gelli di ei wneud? Paid â gwastraffu dy egni emosiynol a meddyliol yn cyfiawnhau dy hun na rhoi’r bai arnat ti dy hun nac eraill. Yn hytrach, derbynia dy gamgymeriadau a gwna dy orau o dan dy amgylchiadau presennol. Os wyt ti’n teimlo’n euog am rywbeth rwyt ti wedi ei wneud o’i le, tro at Jehofa mewn gweddi i gyfaddef dy bechod a gofyn iddo am faddeuant. (Salm 25:11; 51:​3, 4) Dyweda sori wrth unrhyw un rwyt ti wedi ei brifo, ac os oes angen, gofynna am help gan yr henuriaid. (Iago 5:​14, 15) Dysga o dy gamgymeriadau, a gwna dy orau i beidio â’u hailadrodd. Wrth iti wneud hyn, gelli di fod yn siŵr bydd Jehofa yn dangos trugaredd atat ti ac yn darparu y cefnogaeth rwyt ti ei angen.—Salm 103:​8-13. w23.08 28-29 ¶8-9

Dydd Iau, Mehefin 5

Gwnaeth Joas beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD, fel roedd Jehoiada’r offeiriad wedi ei ddysgu. —2 Bren. 12:2.

Gwnaeth Jehoiada helpu’r Brenin Jehoas i fod yn berson da. Felly pan oedd yn frenin ifanc, roedd ef eisiau plesio Jehofa. Ond ar ôl i Jehoiada farw, gwrandawodd Jehoas ar gyngor tywysogion gwrthgiliol. (2 Cron. 24:​4, 17, 18) Er bod Jehofa mor drist am hyn, “anfonodd yr ARGLWYDD broffwydi atyn nhw i’w cael i droi yn ôl ato, ond doedden nhw’n cymryd dim sylw.” Wnaethon nhw ddim hyd yn oed wrando ar Sechareia, fab Jehoiada. Roedd ef yn broffwyd ac yn offeiriad a hefyd yn gefnder i Jehoas. Aeth Jehoas mor bell â lladd Sechareia. (2 Cron. 22:11; 24:​19-22) Wnaeth Jehoas ddim parhau i ofni Jehofa. Roedd Jehofa wedi dweud: ‘Dw i’n dangos dirmyg at y rhai sy’n fy nghymryd i yn ysgafn.’ (1 Sam. 2:30) Yn nes ymlaen, gwnaeth fyddin fach Syria ennill buddugoliaeth dros “fyddin llawer mwy” Jehoas a’i “anafu’n ddrwg.” (2 Cron. 24:​24, 25) Cafodd Jehoas ei lofruddio gan ei weision ei hun oherwydd ei fod wedi lladd Sechareia. w23.06 18 ¶16-17

Dydd Gwener, Mehefin 6

Tywyllwch oeddech chi gynt, ond nawr goleuni ydych chi.—Eff. 5:8.

Roedd yr apostol Paul wedi treulio llawer o amser yn Effesus yn pregethu ac yn dysgu’r newyddion da. (Act. 19:​1, 8-10; 20:​20, 21) Roedd Paul yn caru ei frodyr yno yn fawr iawn ac eisiau eu helpu i aros yn ffyddlon i Jehofa. Roedd yr Effesiaid hyn ar un adeg yn gaeth i syniadau gau grefydd ac ofergoelion. Roedd pobl Effesus yn enwog am eu hanfoesoldeb difrifol ac am ymddwyn heb gywilydd. Roedd anfoesoldeb rhywiol yn cael ei drafod yn y theatrau a hyd yn oed yn ystod gwasanaethau crefyddol. (Eff. 5:3) Roedd llawer o’r bobl “heb unrhyw fath o synnwyr moesol,” ymadrodd sy’n golygu yn llythrennol, “wedi stopio teimlo poen.” (Eff. 4:​17-19) Cyn dysgu am safonau Jehofa, doedd eu cydwybodau ddim yn eu poeni nhw. O ganlyniad, roedd Paul yn gallu dweud: “Maen nhw mewn tywyllwch yn feddyliol ac yn bell i ffwrdd o’r bywyd sy’n perthyn i Dduw.” Ond, gwnaeth rhai o’r Effesiaid adael y tywyllwch. w24.03 20 ¶2, 4; 21 ¶5-6

Dydd Sadwrn, Mehefin 7

Bydd y rhai sy’n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw’n . . . rhedeg heb flino. —Esei. 40:31.

Roedd aseiniad Gideon fel barnwr yn cynnwys llawer o waith corfforol. Pan wnaeth y Midianiaid ffoi o’r frwydr yng nghanol y nos, aeth Gideon ar eu holau nhw. Roedd hynny’n golygu mynd yr holl ffordd o Ddyffryn Jesreel at afon Iorddonen. (Barn. 7:22) Ond wnaeth Gideon ddim stopio ar ôl cyrraedd yr afon. Er ei fod wedi blino, gwnaeth ef a’i 300 o ddynion groesi’r afon a pharhau i fynd ar ôl y Midianiaid. O’r diwedd, dyma nhw’n dal i fyny gyda nhw ac yn eu gorchfygu. (Barn. 8:​4-12.) Roedd Gideon yn hyderus y byddai Jehofa yn rhoi nerth iddo, a chafodd ef ddim ei siomi. (Barn. 6:​14, 34) Un tro, roedd Gideon a’i ddynion yn rhedeg ar ôl dau o frenhinoedd Midian, a oedd efallai ar gefn camelod. (Barn. 8:​12, 21) Ond gyda help Duw, gwnaeth yr Israeliaid ddal i fyny gyda nhw ac ennill y frwydr. Gall henuriaid hefyd ddibynnu ar Jehofa oherwydd “Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino.” Bydd yn rhoi nerth iddyn nhw pan maen nhw ei angen.—Esei. 40:​28, 29. w23.06 6 ¶14; 7 ¶16

Dydd Sul, Mehefin 8

Fydd e byth yn eich siomi chi, nac yn troi ei gefn arnoch chi.—Deut. 31:6.

Gallwn ni gael calon gadarn ni waeth pa dreialon rydyn ni’n eu hwynebu. Felly trystia Jehofa. Ystyria esiampl Barac a’r llwyddiant a gafodd pan drystiodd yn arweiniad Jehofa. Er nad oedd tarian na gwaywffon i’w gael yn y wlad, gwnaeth Jehofa ei arwain i ymladd yn erbyn byddin gref Canaan a’i chadfridog Sisera. (Barn. 5:8) Dywedodd y broffwydes Debora wrth Barac i fynd i lawr i gyfarfod Sisera a’i 900 o gerbydau. Byddai’n anodd i’r Israeliaid ymladd yn erbyn y cerbydau cyflym ar y tir gwastad. Ond er hynny, wnaeth Barac ufuddhau. Wrth i’r milwyr ddod i lawr llethrau Mynydd Tabor, dyma Jehofa’n achosi i’r cymylau dywallt â glaw. Aeth cerbydau Sisera yn sownd yn y mwd, a rhoddodd Jehofa y fuddugoliaeth i Barac. (Barn. 4:​1-7, 10, 13-16) Mewn ffordd debyg, bydd Jehofa’n rhoi’r fuddugoliaeth inni os ydyn ni’n trystio ynddo ef ac yn yr arweiniad mae ei gyfundrefn yn ei roi. w23.07 19 ¶17-18

Dydd Llun, Mehefin 9

Bydd yr un sydd wedi dyfalbarhau hyd y diwedd yn cael ei achub. —Math. 24:13.

Rhaid bod yn amyneddgar i gael byw am byth. Fel gweision ffyddlon yn y gorffennol, mae’n rhaid inni aros yn amyneddgar er mwyn i Dduw wireddu ei addewidion. (Heb. 6:​11, 12) Mae’r Beibl yn ein cymharu ni â ffermwr. (Iago 5:7, 8) Mae ffermwr yn gweithio’n galed i blannu ac i ddyfrio ei gnydau, ond dydy ef ddim yn gwybod yn union bryd byddan nhw’n tyfu. Felly, mae’r ffermwr yn disgwyl yn amyneddgar ac yn trystio y byddan nhw yn tyfu. Yn yr un modd, rydyn ni’n aros yn brysur gyda gweithgareddau ysbrydol er dydyn ni ‘ddim yn gwybod pa ddydd y bydd ein Harglwydd yn dod.’ (Math. 24:42) Arhoswn yn amyneddgar ac yn hyderus y bydd Jehofa yn cyflawni pob un o’i addewidion ar yr amser iawn. Petasen ni’n colli ein hamynedd, gallen ni gael llond bol a dechrau creu bwlch rhyngon ni a Jehofa. Gallen ni hefyd ddechrau canolbwyntio ar bethau rydyn ni’n meddwl bydd yn ein gwneud ni’n hapus nawr. Ond, os ydyn ni’n amyneddgar, byddwn ni’n dyfalbarhau i’r diwedd ac yn cael ein hachub.—Mich. 7:7. w23.08 22 ¶7

Dydd Mawrth, Mehefin 10

Cymysgedd o gryfder yr haearn a breuder y crochenwaith.—Dan. 2:42.

Drwy gymharu’r broffwydoliaeth yn Daniel 2:​41-43 ag eraill yn llyfr Daniel ac yn llyfr Datguddiad, rydyn ni’n gweld bod y traed yn cynrychioli’r cynghrair Eingl-Americanaidd, sef y grym byd mwyaf pwerus heddiw. Ynglŷn â’r grym byd hwn, dywedodd Daniel y byddai “rhan o’r frenhiniaeth yn gryf a rhan yn wan.” Pam mae rhan ohono yn wan? Oherwydd bod y bobl gyffredin, sy’n cael eu cynrychioli gan y clai, yn tanseilio ei allu i fod yn gryf fel haearn. Rydyn ni’n dysgu llawer o wirioneddau pwysig o’r ddelw y gwnaeth Daniel ei ddisgrifio. Yn gyntaf, mae’r Grym Byd Eingl-Americanaidd wedi dangos ei nerth mewn rhai ffyrdd. Er enghraifft, chwaraeodd ran allweddol yn y buddugoliaethau yn y ddau ryfel byd. Ond, mae ei ddinasyddion wedi brwydro yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn y llywodraeth. O ganlyniad, mae’r Grym Byd hwn wedi cael ei wanhau a bydd yn parhau i gael ei wanhau. Yn ail, hwn fydd y Grym Byd olaf i reoli cyn i Deyrnas Dduw ddod â llywodraethau dynol i ben. w23.08 11 ¶12-13

Dydd Mercher, Mehefin 11

Gelwais ar yr ARGLWYDD o ganol fy helynt, a gweiddi ar fy Nuw. Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais. —Salm 18:6.

Ar adegau, roedd Dafydd yn poeni gymaint am y treialon roedd yn eu hwynebu. (Salm 18: 4, 5) Ond eto, roedd cariad tyner Jehofa yn ei adfywio. Gwnaeth Jehofa arwain ei ffrind blinedig at ‘borfa hyfryd’ ac at “ddŵr glân sy’n llifo’n dawel.” O ganlyniad, cafodd Dafydd ei nerth yn ôl ac roedd yn gallu dal ati. (Salm 18:​28-32; 23:2) Yn debyg heddiw, “mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd” wrth inni wynebu treialon mewn bywyd. (Galar. 3:22; Col. 1:11) Roedd bywyd Dafydd yn aml mewn peryg, ac roedd ganddo lawer o elynion pwerus. Ond, roedd cariad Jehofa yn gwneud iddo deimlo’n saff a’i fod yn ei amddiffyn. Roedd Dafydd yn teimlo bod Jehofa gydag ef ym mhob sefyllfa, ac roedd hyn yn ei gysuro. Felly, roedd yn gallu canu: “Achubodd [Jehofa] fi o’m holl ofnau.” (Salm 34:4) Roedd ofn Dafydd yn real, ond roedd cariad Jehofa’n gryfach na’i ofn. w24.01 30 ¶15-17

Dydd Iau, Mehefin 12

Os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di, paid mynd gyda nhw.—Diar. 1:10.

Dysga oddi wrth benderfyniadau drwg Jehoas. Ar ôl i’r Archoffeiriad Jehoiada farw, roedd ffrindiau Jehoas yn dylanwadu arno i wneud penderfyniadau drwg. (2 Cron. 24:​17, 18) Dewisodd wrando ar dywysogion Jwda nad oedd yn caru Jehofa. A wyt ti’n cytuno y dylai Jehoas fod wedi eu hosgoi nhw gan eu bod nhw’n gwneud pethau drwg? Ond gwrandawodd ar gyngor ei ffrindiau, a phan oedd ei gefnder Sechareia yn ceisio ei gywiro, trefnodd Jehoas iddo gael ei ladd. (2 Cron. 24:​20, 21; Math. 23:35) Am beth ofnadwy i’w wneud! Dechreuodd ei fywyd yn dda, ond yn drist iawn, daeth Jehoas yn wrthgiliwr ac yn llofrudd. Yn y pen draw, cafodd ei ladd gan ei weision ei hun. (2 Cron. 24:​22-25) Byddai ei fywyd wedi bod mor wahanol petasai wedi gwrando ar Jehofa ac ar y rhai oedd yn ei garu Ef. w23.09 9 ¶6

Dydd Gwener, Mehefin 13

Stopia fod yn ofnus.—Luc 5:10.

Roedd Iesu yn gwybod bod yr apostol Pedr yn gallu aros yn ffyddlon. Felly dywedodd yn garedig wrth Pedr: “Stopia fod yn ofnus.” Newidiodd fywyd Pedr oherwydd yr hyder roddodd Iesu ynddo. Gwnaeth Pedr a’i frawd Andreas roi’r gorau i’w busnes pysgota a dechrau dilyn Iesu’n llawn amser. Daeth y penderfyniad hwn â bendithion mawr iddyn nhw. (Marc 1:​16-18) Cafodd Pedr lawer o brofiadau gwych wrth iddo ddilyn Crist. Fe welodd Iesu’n iacháu pobl sâl, yn bwrw cythreuliaid allan, a hyd yn oed yn atgyfodi’r meirw. (Math. 8:​14-17; Marc 5:​37, 41, 42) Cafodd Pedr hefyd weledigaeth arbennig o Iesu’n Frenin ar Deyrnas Dduw. Arhosodd hyn gyda Pedr am weddill ei oes. (Marc 9:​1-8; 2 Pedr 1:​16-18) Ni fyddai Pedr wedi gweld y pethau hyn heb ddilyn Iesu. Dychmyga pa mor hapus byddai Pedr wedi bod oherwydd nad oedd wedi gadael i deimladau negyddol wneud iddo golli allan ar y bendithion hyn. w23.09 21 ¶4-5

Dydd Sadwrn, Mehefin 14

Dywedodd Iesu wrtho: “Rydw i’n dweud wrthot ti, nid hyd at saith gwaith, ond hyd at 77 gwaith.” —Math. 18:22.

Yn ei lythyr cyntaf, defnyddiodd yr apostol Pedr yr ymadrodd, “cariad dwfn.” Mae cariad o’r fath yn “gorchuddio nifer mawr o bechodau.” (1 Pedr 4:8) Efallai bod Pedr wedi cofio’r wers gafodd gan Iesu flynyddoedd ynghynt am faddeuant. Mae’n debyg bod Pedr wedi teimlo ei fod yn hael wrth gynnig maddau i rywun “hyd at saith gwaith.” Ond dysgodd Iesu iddo i faddau “hyd at 77 gwaith,” sy’n golygu nifer heb derfyn. (Math. 18:21) Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd rhoi hyn ar waith, paid â digalonni! Ar adegau, mae holl weision Jehofa wedi ei chael hi’n anodd maddau i eraill. Y peth pwysig i’w wneud ydy cymryd y camau nawr i wneud heddwch â dy frawd a maddau iddo. w23.09 29 ¶12

Dydd Sul, Mehefin 15

Dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD, a dyma fe’n fy ateb i.—Jona 2:2.

Ym mol y pysgodyn enfawr, roedd Jona’n hyderus y byddai Jehofa’n gwrando ar ei weddi ostyngedig ac edrych ar ei ôl. Yn hwyrach, glaniodd Jona ar dir sych, yn barod i fynd i’w aseiniad nesaf. (Jona 2:10–3:4) Yn ystod treial, a wyt ti’n teimlo mor orbryderus nad wyt ti’n gallu gweddïo neu astudio? Cofia fod Jehofa yn deall dy sefyllfa yn berffaith. Felly hyd yn oed os wyt ti’n dweud gweddi syml, bydd Jehofa yn gallu rhoi unrhyw beth sydd ei angen arnat ti. (Eff. 3:20) Os ydy’r poen corfforol neu emosiynol yn ormod iti, tria wrando ar recordiadau o’r Beibl neu ein cyhoeddiadau. Gall gwrando ar ein caneuon neu wylio fideo ar jw.org helpu hefyd. Er mwyn cael ein cryfhau gan Jehofa, mae’n rhaid inni weddïo arno a chwilio am yr atebion yn ei Air a’n cyhoeddiadau. w23.10 13 ¶6; 14 ¶9

Dydd Llun, Mehefin 16

Mae’r ysbryd glân yn ei gwneud hi’n eglur nad oedd y ffordd i mewn i’r lle sanctaidd wedi cael ei datgelu eto tra oedd y babell gyntaf yn sefyll. —Heb. 9:8.

Roedd y tabernacl yn debyg iawn i’r temlau a gafodd eu hadeiladu yn Jerwsalem yn nes ymlaen. Roedd ’na ddwy ystafell tu mewn—y “Lle Sanctaidd” a’r “Mwyaf Sanctaidd”—a oedd yn cael eu gwahanu â llen. (Heb. 9:​2-5; Ex. 26:​31-33) Yn y Sanctaidd, roedd ’na ganhwyllbren aur, allor i losgi arogldarth, a bwrdd gyda bara cysegredig arno. Dim ond yr offeiriaid oedd yn cael mynd i mewn i’r Sanctaidd i gyflawni eu dyletswyddau. (Num. 3:​3, 7, 10) Roedd arch y cyfamod a oedd yn cynrychioli presenoldeb Jehofa o fewn y Mwyaf Sanctaidd. (Ex. 25:​21, 22) Dim ond yr archoffeiriad a oedd yn cael mynd heibio’r llen i’r Mwyaf Sanctaidd ar Ddydd y Cymod. (Lef. 16:​2, 17) Roedd yn mynd i mewn i’r Mwyaf Sanctaidd gyda gwaed anifeiliaid i wneud yn iawn am bechodau ei hun a phechodau’r genedl. Yn y pen draw, gwnaeth Jehofa ddangos arwyddocâd y pethau hyn.—Heb. 9:​6, 7. w23.10 27 ¶12

Dydd Mawrth, Mehefin 17

Caru eich gilydd.—Ioan 15:17.

Dro ar ôl tro, mae’r Beibl yn ein gorchymyn ni i “garu ein gilydd.” (1 Ioan 4:11; Ioan 15:12; Rhuf. 13:8; 1 Thes. 4:9; 1 Pedr 1:22) Ond, mae cariad yn deimlad yn ein calon na all neb arall ei weld. Felly, sut bydd eraill yn gallu gweld ein cariad tuag atyn nhw? Trwy ein geiriau a’n gweithredoedd. Mae ’na nifer o ffyrdd y gallwn ni ddangos i’n brodyr a’n chwiorydd ein bod ni yn eu caru nhw. Dyma rai enghreifftiau: “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd.” (Sech. 8:16) Cadwch “heddwch gyda’ch gilydd.” (Marc 9:50) “Byddwch yn awyddus i anrhydeddu eich gilydd.” (Rhuf. 12:10) “Mae’n rhaid ichi groesawu eich gilydd.” (Rhuf. 15:​7, tdn.) “Parhewch i . . . faddau i’ch gilydd.” (Col. 3:13) “Daliwch ati i gario beichiau eich gilydd.” (Gal. 6:2) “Daliwch ati i gysuro eich gilydd.” (1 Thes. 4:18) “Daliwch ati i . . . gryfhau eich gilydd.” (1 Thes. 5:11) “Gweddïwch dros eich gilydd.”—Iago 5:16. w23.11 9 ¶7-8

Dydd Mercher, Mehefin 18

Gadewch i’ch gobaith eich gwneud chi’n llawen.—Rhuf. 12:12.

Mae ’na benderfyniadau i’w gwneud bob dydd sy’n gofyn am ffydd gref. Er enghraifft, rydyn ni’n gwneud penderfyniadau am adloniant, addysg, priodi, plant, gwaith seciwlar, a’r cwmni rydyn ni’n ei gadw. Peth da ydy gofyn inni’n hunain: ‘Ydy fy mhenderfyniadau yn dangos fy mod i’n sicr bydd y system hon yn cael ei disodli gan fyd newydd Duw yn fuan? Neu ydw i’n byw fel y rhai sydd heb unrhyw obaith am y dyfodol?’ (Math. 6:​19, 20; Luc 12:​16-21) Gwnawn ni’r penderfyniadau gorau drwy gryfhau ein ffydd yn y ffaith ein bod ni’n byw ar drothwy’r byd newydd. Ar adegau byddwn ni’n wynebu treialon sy’n gofyn am ffydd gref. Mae erledigaeth, salwch difrifol, a phethau eraill yn gallu gwneud inni deimlo’n ddigalon. Ar y dechrau, efallai byddwn ni’n wynebu’r treial yn benderfynol o wneud y peth iawn. Ond wrth iddo barhau—fel mae treialon yn tueddu i wneud—byddwn ni angen ffydd gref i ddyfalbarhau a dal ati i wasanaethu Jehofa yn llawen.—1 Pedr 1:​6, 7. w23.04 27 ¶4-5

Dydd Iau, Mehefin 19

Gweddïwch yn ddi-baid.—1 Thes. 5:17.

Mae Jehofa yn disgwyl inni weithredu yn unol â’n gweddïau. Er enghraifft, gall brawd ofyn i Jehofa am help i gael amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn mynd i gynhadledd ranbarthol. Sut gall Jehofa ateb y weddi honno? Gallai helpu’r brawd i fod yn ddewr a gofyn i’w gyflogwr. Ond bydd yn dal yn rhaid iddo fynd at ei gyflogwr. Efallai bydd rhaid iddo ofyn mwy nag unwaith. Efallai bydd rhaid iddo wneud trefniadau gyda chyd-weithiwr i newid shifftiau neu gymryd yr amser i ffwrdd heb dâl. Mae Jehofa yn disgwyl inni weddïo’n ddi-baid am ein pryderon. Awgrymodd Iesu na fyddai rhai o’n gweddïau yn cael eu hateb yn syth. (Luc 11:9) Felly paid â rhoi’r gorau iddi. Gweddïa’n daer dro ar ôl tro. (Luc 18:​1-7) Drwy wneud hynny, rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni o ddifri. Rydyn ni hefyd yn dangos ein ffydd yn ei allu i’n helpu. w23.11 22-23 ¶10-11

Dydd Gwener, Mehefin 20

Dydy ein gobaith ddim yn arwain i siom.—Rhuf. 5:5.

Gwnaeth Jehofa addo i’w ffrind Abraham y byddai holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio drwy ei ddisgynyddion. (Gen. 15:5; 22:18) Oherwydd ffydd gref Abraham, roedd yn hollol sicr y byddai addewid Duw yn dod yn wir. Er hynny, pan oedd Abraham yn 100 mlwydd oed a’i wraig yn 90, doedden nhw dal ddim wedi cael plentyn. (Gen. 21:​1-7) Ond mae’r Beibl yn dweud: “Ar sail gobaith, roedd ganddo [Abraham] ffydd y byddai’n dod yn dad i lawer o genhedloedd yn ôl yr hyn roedd Duw wedi ei ddweud.” (Rhuf. 4:18) Rwyt ti’n gwybod bod beth roedd Abraham wedi gobeithio amdano wedi digwydd. Daeth yn dad i Isaac, y mab roedd wedi gobeithio amdano. Pam roedd Abraham mor sicr? Oherwydd ei berthynas agos â Jehofa, roedd yn “llawn hyder” y byddai beth roedd Jehofa wedi ei addo yn dod yn wir. (Rhuf. 4:21) Gwnaeth Jehofa gymeradwyo Abraham a dweud ei fod yn gyfiawn oherwydd ei ffydd.—Iago 2:23. w23.12 8 ¶1-2

Dydd Sadwrn, Mehefin 21

Mae’r person sy’n ffyddlon yn y pethau lleiaf yn ffyddlon yn y pethau mawr hefyd ac mae’r person sy’n anghyfiawn yn y pethau lleiaf yn anghyfiawn yn y pethau mawr hefyd. —Luc 16:10.

Bydd dyn ifanc sy’n hollol ddibynadwy yn gofalu am ei holl gyfrifoldebau. Ystyria esiampl berffaith Iesu. Roedd Iesu yn wastad yn ofalus ac yn gyfrifol. Gwnaeth ef gyflawni’r aseiniadau roedd Jehofa wedi eu rhoi iddo, hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd iddo. Roedd yn caru pobl—yn enwedig ei ddisgyblion—ac roedd yn barod i roi ei fywyd drostyn nhw. (Ioan 13:1) Er mwyn efelychu Iesu, gweithia’n galed i gyflawni unrhyw aseiniad rwyt ti’n ei gael. Os wyt ti’n ansicr o sut i wneud rhywbeth, bydda’n ostyngedig a gofynna i frawd aeddfed am help. Paid â bod yn hapus yn gwneud cyn lleied â phosib. (Rhuf. 12:11) Yn hytrach, bydda’n benderfynol o gyflawni dy aseiniad “i Jehofa, ac nid i ddynion.” (Col. 3:23) Wrth gwrs, dwyt ti ddim yn berffaith, felly bydda’n wylaidd a chyfaddef unrhyw gamgymeriad rwyt ti’n ei wneud.—Diar. 11:2. w23.12 26 ¶8

Dydd Sul, Mehefin 22

Mae yna fendith fawr i’r rhai sy’n fy nhrystio i.—Jer. 17:7.

Rydyn ni’n hapus iawn pan ydyn ni’n cael ein bedyddio ac yn dod yn rhan o deulu Jehofa. Byddai’r rhai sydd â’r fraint anhygoel honno’n cytuno â’r salmydd Dafydd, a ddywedodd: “Y fath fendith sydd i’r rhai rwyt ti’n eu dewis, a’u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.” (Salm 65:4) Dydy perthynas agos â Jehofa ddim yn rhywbeth sydd ar gael i bawb. Mae Jehofa’n dewis nesáu at y rhai sy’n profi eu bod nhw eisiau cael perthynas agos ag ef. (Iago 4:8) Ar ôl cysegru dy hun a chael dy fedyddio, gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa’n “tywallt bendith arnat ti; fyddi di’n brin o ddim byd!” (Mal. 3:10; Jer. 17:8)Ond dim ond y cam cyntaf ydy bedydd. Byddi di eisiau gwneud dy orau glas i gadw at dy ymgysegriad, hyd yn oed yn wyneb temtasiwn a threialon. (Preg. 5:​4, 5) Gan dy fod ti’n un o ddisgyblion Iesu, byddi di’n dilyn ei esiampl a’i orchmynion yn agos.—Math. 28:​19, 20; 1 Pedr 2:21 w24.03 8 ¶1-3

Dydd Llun, Mehefin 23

Bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth ei wraig.—Gen. 2:24.

Beth os dwyt ti a dy gymar ddim yn mwynhau treulio amser gyda’ch gilydd? Beth gallwch chi ei wneud? Ystyriwch yr eglureb hon. Dydy tân ddim yn dechrau llosgi’n wenfflam yn syth. Mae angen dechrau gyda darnau bach o bren ac yna rhoi darnau mwy a mwy arno. Yn yr un modd, beth am gychwyn drwy dreulio ychydig o amser gyda’ch gilydd bob dydd? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud rhywbeth y byddwch chi’ch dau yn ei fwynhau. (Iago 3:18) Drwy ddechrau gyda phethau bach, gallwch ail-gynnau eich cariad. Mae parch yn hanfodol mewn priodas. Mae’n debyg i’r ocsigen sy’n gwneud i dân losgi’n llachar. Heb ocsigen, bydd tân yn diffodd yn gyflym. Mewn ffordd debyg, os nad oes gan gwpl barch at ei gilydd, bydd eu cariad yn oeri’n gyflym. Ar y llaw arall, bydd gŵr a gwraig sy’n ceisio dangos parch at ei gilydd yn cadw eu cariad yn fyw. Ond mae ’na rywbeth pwysig i’w gofio. Hyd yn oed os wyt ti yn meddwl dy fod ti’n dangos parch, ydy dy gymar yn teimlo dy fod ti’n ei barchu? w23.05 22 ¶9; 24 ¶14-15

Dydd Mawrth, Mehefin 24

Pan oeddwn i’n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i’n llawen.—Salm 94:19.

Mae’r Beibl yn sôn am weision ffyddlon yn cael eu dychryn a’u llethu gan ofn o ganlyniad i’w gelynion neu eu problemau. (Salm 18:4; 55:​1, 5) Yn debyg, gallwn ni wynebu erledigaeth yn yr ysgol, yn y gwaith, yn y teulu, neu gan y llywodraeth. Efallai gall hyd yn oed problemau iechyd wneud inni ofni marw. Yn ystod amseroedd fel hyn, gallwn deimlo fel plentyn bach sydd ddim yn gallu newid y sefyllfa. Sut mae Jehofa yn ein helpu ar adegau felly? Mae’n ein cysuro ni ac yn lleddfu ein poen. Felly, treulia amser gyda Jehofa yn rheolaidd—yn gweddïo arno a darllen ei Air. (Salm 77:​1, 12-14) Yna, pan wyt ti o dan straen, mae’n debyg byddi di’n troi at dy Dad nefol heb oedi. Dyweda wrtho am dy bryderon. Gad iddo siarad â ti a dy gysuro drwy’r Ysgrythurau.—Salm 119:28. w24.01 24-25 ¶14-16

Dydd Mercher, Mehefin 25

Oherwydd Duw yw’r un sy’n rhoi egni ichi yn ogystal â’r dymuniad a’r grym i weithredu.—Phil. 2:13.

Er mwyn cyrraedd dy nod ysbrydol, mae angen awydd cryf. Pam? Y mwyaf yw dy awydd i wneud rhywbeth, y caletaf byddi di’n gweithio. Y mwyaf o awydd sydd gynnon ni, y mwyaf tebygol ydyn ni o gyrraedd ein nod. Felly beth gelli di ei wneud i fod yn fwy awyddus? Gweddïa am awydd cryfach. Mae Jehofa’n gallu defnyddio ei ysbryd glân i roi’r awydd iti gyrraedd dy nod. Weithiau rydyn ni’n gosod nod dim ond am ein bod ni’n gwybod y dylen ni wneud. Ac er bod hynny’n beth da, efallai nad oes gynnon ni wir awydd i’w gyrraedd. Myfyria ar beth mae Jehofa wedi ei wneud drostot ti. (Salm 143:5) Roedd yr apostol Paul yn myfyrio ar ba mor garedig oedd Jehofa tuag ato, a gwnaeth hyn ei gymell i weithio’n galed iddo. (1 Cor. 15:​9, 10; 1 Tim. 1:​12-14) Yn debyg, y mwyaf rwyt ti’n myfyrio ar beth mae Jehofa wedi ei wneud drostot ti, y cryfaf fydd dy awydd i gyrraedd dy nod.—Salm 116:12. w23.05 27 ¶3-5

Dydd Iau, Mehefin 26

Molwch enw’r ARGLWYDD.—Salm 113:1.

Rydyn ni’n plesio ein Tad nefol pan ydyn ni’n moli ei enw. (Salm 119:108) Ydy hynny’n golygu bod y Duw hollalluog yn debyg i bobl amherffaith sy’n crefu am foliant oherwydd eu bod nhw’n anghenus neu’n ansicr? Nac ydy. Pan ydyn ni’n moli ein tad nefol, rydyn ni’n helpu i wrthbrofi celwydd sy’n effeithio arnon ni’n bersonol. Mae Satan yn honni na fydd unrhyw berson dynol yn aros yn ffyddlon ac yn amddiffyn enw Duw pan fydd yn cael ei brofi. Mae’n dweud y bydden ni i gyd yn troi yn erbyn Duw petasen ni’n meddwl y bydden ni’n elwa. (Job 1:​9-11; 2:4) Ond gwnaeth ffyddlondeb Job brofi bod Satan yn dweud celwydd. Beth amdanat ti? Mae gan bob un ohonon ni’r fraint o sefyll i fyny dros enw ein Tad a’i blesio drwy ei wasanaethu yn ffyddlon. (Diar. 27:11) Mae’n anrhydedd i wneud hynny. w24.02 8-9 ¶3-5

Dydd Gwener, Mehefin 27

Credwch beth ddwedodd ei broffwydi a byddwch yn llwyddo.—2 Cron. 20:20.

Ar ôl i Moses a Josua farw, cododd Jehofa farnwyr i arwain ei bobl. Wedyn, yn amser y brenhinoedd, dyma Jehofa yn penodi proffwydi i arwain ei bobl. Roedd y brenhinoedd ffyddlon yn gwrando ar gyngor y proffwydi. Er enghraifft, gwnaeth y Brenin Dafydd wrando yn ostyngedig ar gyngor y proffwyd Nathan. (2 Sam. 12:​7, 13; 1 Cron. 17:​3, 4) Roedd y Brenin Jehosaffat yn dibynnu ar Iachsiel i’w helpu, a rhoddodd anogaeth i bobl Jwda ‘gredu beth ddywedodd proffwydi’ Duw. (2 Cron. 20:​14, 15) Pan oedd y Brenin Heseceia mewn trafferth, gwnaeth ef droi at y proffwyd Eseia. (Esei. 37:​1-6) Bob tro gwnaeth y brenhinoedd ddilyn arweiniad Jehofa, cawson nhw eu bendithio a chafodd y genedl ei hamddiffyn. (2 Cron. 20:​29, 30; 32:22) Roedd hi’n amlwg bod Jehofa yn defnyddio eu broffwydi i arwain ei bobl. w24.02 21 ¶8

Dydd Sadwrn, Mehefin 28

Peidiwch â gwneud fel y maen nhw’n gwneud.—Eff. 5:7.

Mae Satan eisiau inni dreulio amser gyda phobl sy’n gwneud hi’n anodd inni lynu at safonau Jehofa. Ond cofia fod rhaid inni fod yn fwy gofalus na’r Effesiaid oherwydd gall cwmni drwg o’r fath heddiw cynnwys nid yn unig cymdeithasu wyneb yn wyneb, ond hefyd ar gyfryngau cymdeithasol. Rhaid inni frwydro yn erbyn meddwl bod anfoesoldeb yn dderbyniol. Rydyn ni’n gwybod yn well. (Eff. 4:​19, 20) Byddai’n peth da inni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n ofalus i osgoi cymdeithasu yn ddiangen gydag eraill yn y gwaith, yn yr ysgol, neu gydag unrhyw un sydd ddim yn parchu safonau Jehofa? Ydw i’n cadw safonau Jehofa yn ddewr hyd yn oed os ydy rhai yn fy ngalw i’n berson cul?’ Ar ben hynny, fel mae 2 Timotheus 2:​20-22 yn dangos, efallai bydd rhaid inni fod yn ofalus wrth ddewis ffrindiau y tu mewn i’r gynulleidfa Gristnogol. Mae’n bosib ni fydd pawb yn ein helpu ni i aros yn ffyddlon i Jehofa. w24.03 22-23 ¶11-12

Dydd Sul, Mehefin 29

[Mae] Jehofa yn fawr ei dosturi. —Iago 5:11.

A wyt ti erioed wedi meddwl pa fath o berson ydy Jehofa? Er dydyn ni ddim yn gallu gweld Jehofa, mae’r Beibl yn ei ddisgrifio mewn llawer o ffyrdd. Mae Jehofa’n cael ei alw’n “haul ac yn darian” ac yn ‘dân dinistriol.’ (Salm 84:11; Heb. 12:29) Mae’n cael ei ddisgrifio fel saffir, metel sydd ar dân, ac enfys anhygoel. (Esec. 1:​26-28) Oherwydd dydyn ni ddim yn gallu gweld Jehofa, gall hynny ei gwneud hi’n anodd inni gredu bod Jehofa’n ein caru ni. Mae rhai’n meddwl ei bod hi’n amhosib i Jehofa eu caru nhw oherwydd y pethau drwg sydd wedi digwydd iddyn nhw. Mae Jehofa’n deall y fath deimladau ac yn deall sut maen nhw’n effeithio arnon ni. I’n helpu ni, mae’n datgelu ei bersonoliaeth hardd yn ei Air. Y gair sy’n disgrifio Jehofa orau ydy cariad. (1 Ioan 4:8) Mae cariad yn ei ddiffinio. Mae’n cymell popeth mae’n ei wneud. Mae cariad Duw mor gynnes ac mor bwerus nes iddo hyd yn oed garu’r rhai sydd ddim yn ei garu ef.—Math. 5:​44, 45. w24.01 26 ¶1-3

Dydd Llun, Mehefin 30

Siaradodd gyda nhw o’r golofn o niwl.—Salm 99:7.

Rhoddodd Jehofa dystiolaeth glir ei fod wedi penodi Moses i arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft drwy roi colofn o niwl yn ystod y dydd a cholofn o dân yn ystod y nos. (Ex. 13:21) Dilynodd Moses y golofn a wnaeth ei arwain ef a’r Israeliaid at y Môr Coch. Dyma’r bobl yn panicio pan oedden nhw rhwng y môr a byddin yr Eifftiaid, gan feddwl nad oedd ’na ffordd allan.. Ond nid camgymeriad oedd hyn; roedd Jehofa wedi defnyddio Moses i anfon ei bobl yno yn fwriadol. (Ex. 14:2) Gwnaeth Duw eu gwaredu nhw mewn ffordd ryfeddol iawn (Ex. 14:​26-28) Am y 40 mlynedd nesaf, gwnaeth Moses barhau i ddibynnu ar y golofn o niwl i arwain pobl Dduw drwy’r anialwch. (Ex. 33:​7, 9, 10) Siaradodd Jehofa â Moses o’r golofn. Wedyn, ailadroddodd Moses y cyfarwyddiadau i’r bobl. Roedd gan yr Israeliaid ddigon o dystiolaeth bod Jehofa’n defnyddio Moses i’w harwain nhw. w24.02 21 ¶4-5

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu