Awst
Dydd Gwener, Awst 1
Mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion, ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy’r cwbl.—Salm 34:19.
Mae ’na ddwy wers bwysig yn y salm uchod: (1) Mae pobl gyfiawn yn wynebu problemau. (2) Mae Jehofa yn ein hachub ni o’n treialon. Sut mae Jehofa yn ein hachub? Un ffordd yw drwy ein helpu ni i gael agwedd realistig tuag at fywyd yn y system hon. Er bod Jehofa yn addo y cawn ni lawenydd yn ei wasanaeth, nid yw’n addo y bydd ein bywydau heb broblemau nawr. (Esei. 66:14) Mae’n ein hannog ni i ffocysu ar y dyfodol—yr amser pan fyddwn ni’n mwynhau’r bywyd tragwyddol mae Duw eisiau inni ei gael. (2 Cor. 4:16-18) Yn y cyfamser mae’n ein helpu ni i ddal ati bob dydd. (Galar. 3:22-24) Beth gallwn ni ei ddysgu o esiamplau gweision ffyddlon Jehofa, yn adeg y Beibl ac yn ein hamser ni. Mae’n bosib y byddwn ni’n wynebu problemau annisgwyl. Ond os ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa, bydd ef wastad yn ein cynnal ni.—Salm 55:22. w23.04 14-15 ¶3-4
Dydd Sadwrn, Awst 2
Dylen ni ufuddhau i’r rhai mewn awdurdod sy’n rheoli droston ni. —Rhuf. 13:1.
Gallwn ni ddysgu o esiamplau Joseff a Mair, a oedd yn barod i ufuddhau i’r llywodraethau hyd yn oed mewn sefyllfa anodd. (Luc 2:1-6) Pan oedd Mair wedi bod yn feichiog am tua naw mis, gwnaeth Awgwstus, ymerawdwr Rhufain, orchymyn i bawb fynd i’w dref ei hun i gael ei gofrestru. Roedd yn rhaid i Joseff a Mair deithio i Fethlehem, tua 93 milltir (150 km) i fyny ac i lawr tir mynyddog. Byddai’r daith yn anghyfforddus, yn enwedig i Mair. Efallai roedden nhw’n poeni am iechyd Mair a’r babi bach. Beth petai hi’n dechrau cael y babi wrth deithio? Roedd hi’n cario’r Meseia addawedig yn ei chroth. A fyddai hynny yn eu hesgusodi nhw rhag ufuddhau i’r llywodraeth? Er bod gan Joseff a Mair nifer o resymau dros bryderu, roedden nhw’n ufudd. Bendithiodd Jehofa eu hufudd-dod. Gwnaeth Mair gyrraedd Bethlehem yn saff, rhoi genedigaeth i fabi iach, a hyd yn oed helpu i gyflawni proffwydoliaeth o’r Beibl.—Mich. 5:2. w23.10 8 ¶9; 9 ¶11-12
Dydd Sul, Awst 3
[Calonogwch] eich gilydd.—Heb. 10:25.
Beth os ydy hyd yn oed y syniad o roi dy law i fyny yn y cyfarfodydd yn gwneud iti deimlo’n nerfus? Efallai byddai’n ddefnyddiol iti baratoi’n drylwyr. (Diar. 21:5) Y mwyaf rwyt ti’n gyfarwydd â’r deunydd, y mwyaf tebygol byddi di o deimlo’n ddigon cyfforddus i gynnig sylwad. Hefyd, gwna sylwad sy’n gryno. (Diar. 15:23; 17:27) Mae ateb byr yn rhywbeth llai i boeni amdano. Drwy roi sylwad byr yn dy eiriau dy hun, gelli di ddangos dy fod ti wedi paratoi’n drylwyr a dy fod ti’n deall y deunydd yn glir. Beth os wyt ti wedi ceisio rhoi ar waith rhai o’r awgrymiadau hyn, ac eto’n dal yn rhy bryderus i wneud mwy nag un neu ddau o sylwadau? Cofia fod Jehofa yn gwerthfawrogi dy ymdrech ddiffuant. (Luc 21:1-4) Dydy Jehofa ddim yn gofyn inni wneud mwy na’n gorau glas. (Phil. 4:5) Gosoda nod sydd o fewn dy allu, a gweddïa am galon dawel. Ar y dechrau, efallai dy nod fydd i wneud un sylwad byr. w23.04 21 ¶6-8
Dydd Llun, Awst 4
Gadewch inni roi amdanon ni’r arfogaeth sy’n amddiffyn y fron, a’r helmed.—1 Thes. 5:8.
Mae’r apostol Paul yn ein cymharu ni â milwyr sy’n effro ac sydd wedi eu gwisgo ar gyfer brwydr. Dylai milwr sydd ar ddyletswydd fod yn barod ar gyfer brwydr ar unrhyw adeg. Mae’r un peth yn wir amdanon ni. Er mwyn bod yn barod ar gyfer dydd Jehofa, dylen ni wisgo’r helmed o obaith a’r arfogaeth o ffydd a chariad sy’n amddiffyn y fron. Roedd arfogaeth yn amddiffyn calon milwr, ac mewn ffordd debyg mae cariad a ffydd yn amddiffyn ein calon ffigurol. Byddan nhw’n ein helpu ni i barhau i wasanaethu Duw a dilyn Iesu. Mae cael ffydd yn ein sicrhau ni y bydd Jehofa yn ein gwobrwyo ni os ydyn ni’n ei geisio â’n holl galon. (Heb. 11:6) Bydd yn ein hysgogi ni i aros yn ffyddlon i’n harweinydd Iesu, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd. Sut gallwn ni gryfhau ein ffydd, fel ein bod ni’n gallu wynebu heriau bywyd? Un ffordd ydy drwy ddysgu o esiamplau modern o rai sydd wedi aros yn ffyddlon yn wyneb erledigaeth neu galedi economaidd. A gallwn ni osgoi caru pethau materol drwy efelychu rhai sydd wedi symleiddio eu bywydau i roi’r Deyrnas yn gyntaf. w23.06 10 ¶8-9
Dydd Mawrth, Awst 5
Fydd . . . un sy’n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.—Preg. 11:4.
Mae hunanreolaeth ein helpu ni i reoli ein hymddygiad a’n teimladau. Mae hefyd yn hanfodol er mwyn ein cymell ni i gyrraedd nod, yn enwedig pan fydd hynny’n anodd, neu pan nad oes gynnon ni lawer o awydd i’w wneud. Cofia fod hunanreolaeth yn rhan o ffrwyth yr ysbryd, felly gofynna i Jehofa am ysbryd glân i dy helpu di i feithrin y rhinwedd bwysig hon. (Luc 11:13; Gal. 5:22, 23) Paid ag aros am amgylchiadau perffaith. Os gwnei di hynny, efallai wnei di byth gyrraedd dy nod oherwydd mae’n debyg chawn ni byth amgylchiadau perffaith yn y byd hwn. Os yw ein nod i’w weld yn anodd iawn ei gyrraedd, efallai fydd gynnon ni ddim awydd gweithio tuag ato. Os yw hynny’n wir yn dy achos di, a elli di droi un nod mawr yn rhai llai? Er enghraifft, os wyt ti’n ceisio meithrin rhinwedd benodol, beth am geisio ei dangos mewn ffyrdd bach yn gyntaf? Os oes gen ti’r nod o ddarllen y Beibl cyfan, elli di ddechrau drwy drefnu cyfnodau byr o ddarllen? w23.05 29 ¶11-13
Dydd Mercher, Awst 6
Mae llwybr y rhai sy’n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes mae’n ganol dydd. —Diar. 4:18.
Drwy gydol y dyddiau olaf, mae Jehofa wedi defnyddio ei gyfundrefn i roi bwyd ysbrydol inni yn gyson, i’n helpu ni i gyd i ddal ati i deithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd.” (Esei. 35:8; 48:17; 60:17) Bob tro mae rhywun yn derbyn astudiaeth Feiblaidd, mae ganddo gyfle i ddechrau teithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd.” Dydy rhai ddim yn mynd yn bell ar hyd y briffordd hon. Ond mae eraill yn benderfynol o barhau i deithio arni nes iddyn nhw gyrraedd pen eu taith. Ond i le mae’r ffordd hon yn arwain? Bydd “y Ffordd Sanctaidd” yn arwain y rhai sydd â’r gobaith nefol i ‘baradwys Duw’ yn y nef. (Dat. 2:7) Ond i’r rhai sydd â’r gobaith o fyw ar y ddaear, mae’r ffordd honno yn arwain at berffeithrwydd ar ddiwedd y Mil Blynyddoedd. Os wyt ti’n teithio ar hyd y ffordd honno heddiw, paid ag edrych yn ôl. A phaid â chamu oddi arni nes iti gyrraedd pen dy daith yn y byd newydd! w23.05 17 ¶15; 19 ¶16-18
Dydd Iau, Awst 7
Rydyn ni’n caru, oherwydd ei fod ef wedi ein caru ni’n gyntaf. —1 Ioan 4:19.
Mae’n ddigon naturiol i gysegru dy hun i Jehofa ar ôl meddwl am bopeth mae ef wedi ei wneud drostot ti. (Salm 116:12-14) Mae’r Beibl yn dweud bod “pob rhodd dda a phob anrheg berffaith” yn dod oddi wrth Jehofa. (Iago 1:17) Aberth Iesu ydy’r anrheg gorau oll. Meddylia amdani! Mae aberth Iesu wedi ei gwneud hi’n bosib iti gael perthynas agos â Jehofa ac wedi rhoi’r cyfle iti fyw am byth. (1 Ioan 4:9, 10) Drwy gysegru dy hun i Jehofa rwyt ti’n diolch iddo am yr anrheg arbennig honno a’r holl fendithion rwyt ti wedi eu cael ganddo.—Deut. 16:17; 2 Cor. 5:15. w24.03 5 ¶8
Dydd Gwener, Awst 8
Mae’r un sy’n rhodio’n gywir yn ofni’r ARGLWYDD.—Diar. 14:2, BCND.
Pan ydyn ni’n gweld safonau moesol drwg pobl yn y byd, rydyn ni’n teimlo fel roedd y dyn cyfiawn Lot. Roedd yn “hynod o ddigalon oherwydd bod y bobl ddigyfraith yn ymddwyn heb gywilydd.” (2 Pedr 2:7, 8) Yn amlwg, roedd Lot yn gwybod bod ein Tad nefol yn casáu ymddygiad o’r fath. Felly, gan ei fod yn ofni ac yn caru Duw, roedd ef hefyd yn casáu’r fath bethau. Rydyn ni’n byw ymhlith llawer o bobl sydd ddim yn parchu safonau moesol Jehofa. Er hynny, gallwn ni aros yn foesol lân os ydyn ni’n caru Duw a’i ofni. I’n helpu ni i wneud hynny, mae Jehofa wedi rhoi anogaeth gariadus inni yn llyfr Diarhebion. Mae pob Cristion, ni waeth beth yw ei oedran, yn wir yn gallu elwa o’r cyngor doeth sydd yno. Pan ydyn ni’n ofni Jehofa, dydyn ni ddim yn esgusodi ymddygiad drwg. w23.06 20 ¶1-2; 21 ¶5
Dydd Sadwrn, Awst 9
Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun a chodi ei stanc dienyddio ddydd ar ôl dydd a dal ati i fy nilyn i.—Luc 9:23.
Mae’n bosib dy fod ti wedi profi gwrthwynebiad gan dy deulu, neu wedi aberthu pethau materol er mwyn rhoi’r Deyrnas yn gyntaf. (Math. 6:33) Os felly, gelli di fod yn sicr bod Jehofa’n sylwi ar dy ffyddlondeb. (Heb. 6:10) Mae’n debyg dy fod ti wedi gweld gwirionedd geiriau Iesu yn dy fywyd: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, does neb sydd wedi gadael tŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu gaeau er fy mwyn i ac er mwyn y newyddion da na fydd yn cael canwaith mwy nawr yn ystod y cyfnod presennol—tai, brodyr, chwiorydd, mamau, plant, a chaeau, ynghyd ag erledigaeth—ac yn y system sydd i ddod, fywyd tragwyddol.” (Marc 10:29, 30) Yn bendant, mae’r bendithion rwyt ti wedi eu cael yn llawer gwell nag unrhyw aberth rwyt ti wedi ei wneud.—Salm 37:4. w24.03 9 ¶5
Dydd Sul, Awst 10
Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.—Diar. 17:17.
Pan ddaeth newyn ar Jwdea a chaledi i’r Cristnogion yno penderfynodd y brodyr yn y gynulleidfa yn Antiochia, “bob un yn ôl faint roedd yn gallu ei fforddio, anfon cymorth at y brodyr oedd yn byw yn Jwdea.” (Act. 11:27-30) Er bod y brodyr oedd wedi eu heffeithio gan y newyn yn byw yn bell i ffwrdd, roedd y Cristnogion yn Antiochia eisiau eu helpu nhw. (1 Ioan 3:17, 18) Gallwn ninnau heddiw ddangos tosturi at ein cyd-Gristnogion pan glywn ni eu bod nhw wedi eu heffeithio gan drychineb. Rydyn ni’n ymateb yn syth—efallai drwy ofyn i’r henuriaid a allwn ni helpu ar brosiect, drwy gyfrannu at y gwaith byd-eang, neu drwy weddïo dros y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y trychineb. Efallai bydd ein brodyr a’n chwiorydd angen pethau sylfaenol bywyd. Pan ddaw ein Brenin, Iesu Grist, i farnu, rydyn ni eisiau iddo nid yn unig weld ein bod ni’n dangos tosturi ond hefyd ein gwahodd ni i ‘etifeddu’r Deyrnas.’—Math. 25:34-40. w23.07 4 ¶9-10; 6 ¶12
Dydd Llun, Awst 11
Gadewch i bawb weld eich bod chi’n rhesymol.—Phil. 4:5.
Gwnaeth Iesu efelychu’r ffordd roedd Jehofa’n rhesymol. Cafodd ei yrru i’r ddaear i bregethu i “ddefaid coll tŷ Israel.” Ond dangosodd ei fod yn rhesymol wrth gyflawni ei aseiniad. Ar un achlysur, gwnaeth dynes doedd ddim o Israel erfyn arno i iacháu ei merch oedd “wedi ei meddiannu’n greulon gan gythraul.” Gwnaeth Iesu wrando ar y ddynes ac iacháu ei merch. (Math. 15:21-28) Ystyria esiampl arall. Yn gynnar yn ei weinidogaeth, dywedodd Iesu: “Pwy bynnag sy’n fy ngwadu i . . . , bydda innau hefyd yn ei wadu yntau.” (Math. 10:33) Ond a wnaeth Iesu wadu Pedr ac yntau wedi ei wadu dair gwaith? Cymerodd Iesu i ystyriaeth edifeirwch a ffydd Pedr. Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, ymddangosodd i Pedr a chadarnhau ei fod wedi maddau iddo ac yn ei garu. (Luc 24:33, 34) Mae Jehofa Dduw ac Iesu Grist yn rhesymol. Beth amdanon ni? Mae Jehofa yn disgwyl i ni fod yn rhesymol. w23.07 21 ¶6-7
Dydd Mawrth, Awst 12
Ni fydd marwolaeth mwyach.—Dat. 21:4.
Sut gallwn ni resymu gyda rhai sy’n amau addewid Jehofa am Baradwys? Yn gyntaf, Jehofa ei hun a wnaeth yr addewid. Mae llyfr Datguddiad yn dweud: “Dywedodd yr Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd: ‘Edrychwch! Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.’” Mae ganddo’r doethineb, y pŵer, a’r awydd i wireddu ei addewid. Yn ail, o safbwynt Jehofa, mae’r addewid mor sicr o ddod yn wir, mae fel petai wedi digwydd yn barod. Dyma pam ei fod yn dweud: “Mae’r geiriau hyn yn ffyddlon ac yn wir. . . . Maen nhw eisoes wedi digwydd!” Yn drydydd, pan mae Jehofa yn dechrau rhywbeth, mae’n siŵr o’i orffen yn llwyddiannus. Rydyn ni’n gweld hyn wrth iddo ddweud: “Fi ydy’r Alffa a’r Omega.” (Dat. 21:6) Bydd Jehofa yn profi Satan yn gelwyddog. Felly, y tro nesaf mae rhywun yn dweud bod yr addewid yn anodd i’w gredu, beth am ddarllen ac esbonio Datguddiad 21:5, 6? Dangosa sut mae Jehofa wedi sicrhau y bydd ei addewid yn dod yn wir drwy ei arwyddo, fel petai, gyda’i lofnod ei hun.—Esei. 65:16. w23.11 7 ¶18-19
Dydd Mercher, Awst 13
Bydda i’n dy wneud di yn genedl fawr.—Gen. 12:2.
Gwnaeth Jehofa yr addewid hwn pan oedd Abraham yn 75 mlwydd oed a heb blant. A wnaeth Abraham weld yr addewid yn cael ei gyflawni? Ddim yn gyfan gwbl. Ar ôl croesi Afon Ewffrates a disgwyl am 25 mlynedd, gwelodd Abraham y wyrth o’i fab Isaac yn cael ei eni, ac ar ôl 60 mlynedd arall, ei wyrion Esau a Jacob yn cael eu geni. (Heb. 6:15) Ond ni wnaeth Abraham weld ei ddisgynyddion yn dod yn genedl fawr ac etifeddu Gwlad yr Addewid. Er hynny, arhosodd yn ffyddlon a pharhaodd mewn perthynas dda â’i greawdwr. (Iago 2:23) A phan ddaw Abraham yn ôl yn yr atgyfodiad, bydd mor hapus i weld y bendithion a fydd wedi dod i’r byd i gyd oherwydd ei ffydd a’i amynedd! (Gen. 22:18) Beth yw’r wers inni? Efallai na fyddwn ni’n gweld pob addewid gan Jehofa yn cael ei gyflawni’n syth. Ond, os ydyn ni’n dangos yr un amynedd ag Abraham, gallwn ni fod yn sicr bydd Jehofa yn ein gwobrwyo ni nawr ac yn fwy byth yn ei fyd newydd.—Marc 10:29, 30. w23.08 24 ¶14
Dydd Iau, Awst 14
Roedd Wseia’n dilyn yr ARGLWYDD, ac roedd Duw yn gwneud iddo lwyddo.—2 Cron. 26:5.
Roedd y Brenin Usseia yn ostyngedig pan oedd yn ifanc. Dysgodd i ofni Duw. Bu farw Usseia yn 68 mlwydd oed, ac am y rhan fwyaf o’i fywyd fe wnaeth Jehofa ei fendithio. (2 Cron. 26:1-4) Gorchfygodd Usseia lawer o elynion y genedl, ac amddiffynnodd Jerwsalem. (2 Cron. 26:6-15) Mae’n rhaid bod Usseia wedi bod yn hapus gyda phopeth a gyflawnodd gyda help Jehofa. (Preg. 3:12, 13) Roedd y Brenin Usseia wedi arfer â phobl yn dilyn ei arweiniad. A oedd hynny yn gwneud iddo deimlo ei fod yn gallu gwneud beth bynnag oedd ef eisiau? Wel, un diwrnod, penderfynodd Usseia fynd i’r deml a llosgi arogldarth ar yr allor. Ond nid oedd brenhinoedd yn cael gwneud hynny. (2 Cron. 26:16-18) Ceisiodd yr Archoffeiriad Asareia ei gywiro, ond gwylltiodd Usseia. Yn drist, ni wnaeth Usseia aros yn ffyddlon a chafodd ei gosbi â’r gwahanglwyf. (2 Cron. 26:19-21) Byddai ei fywyd wedi bod yn wahanol iawn petasai wedi aros yn ostyngedig! w23.09 10 ¶9-10
Dydd Gwener, Awst 15
Dechreuodd ei gadw ei hun ar wahân, gan ofni’r rhai a oedd yn cefnogi enwaedu.—Gal. 2:12.
Hyd yn oed ar ôl i’r apostol Pedr ddod yn Gristion eneiniog, roedd yn dal i frwydro â’i wendidau. Yn 36 OG, roedd Pedr yn bresennol pan gafodd Cornelius, dyn o’r Cenhedloedd nad oedd wedi cael ei enwaedu, ei eneinio â’r ysbryd glân. Roedd y ffaith bod rhai nad oedd yn Iddewon yn gallu bod yn Gristnogion yn dystiolaeth glir nad ydy “Duw ddim yn dangos ffafriaeth.” (Act. 10:34, 44, 45) Ar ôl hynny dechreuodd Pedr fwyta gyda phobl y Cenhedloedd, rhywbeth na fyddai byth wedi ei wneud yn gynt. Ond roedd rhai Cristnogion o’r dras Iddewig yn teimlo bod hynny yn anaddas. Pan ddaeth rhai o’r Iddewon hynny i Antiochia, stopiodd Pedr fwyta gyda’i frodyr nad oedd yn Iddewon, oherwydd nad oedd eisiau pechu’r Cristnogion Iddewig. Gwelodd yr apostol Paul hyn, ac felly cywirodd Pedr yn gyhoeddus. (Gal. 2:13, 14) Ni wnaeth Pedr ddigalonni er gwaethaf ei gamgymeriad. w23.09 22 ¶8
Dydd Sadwrn, Awst 16
Bydd ef yn eich gosod chi ar sylfaen gadarn.—1 Pedr 5:10.
Bydda’n onest gyda ti dy hun i weld lle gelli di wella, ond paid â digalonni. Mae’r “Arglwydd yn garedig” a bydd yn dy helpu di i wneud yn well. (1 Pedr 2:3) Mae’r apostol Pedr yn rhoi’r sicrwydd inni: “Bydd Duw . . . yn cwblhau eich hyfforddiant. Bydd ef yn eich gwneud chi’n gadarn, bydd ef yn eich gwneud chi’n gryf.” Ar un adeg, roedd Pedr yn teimlo nad oedd yn ddigon da i fod gyda Iesu. (Luc 5:8) Ond oherwydd y cariad a chefnogaeth a gafodd gan Jehofa ac Iesu, llwyddodd Pedr i ddilyn Crist. O ganlyniad, cafodd Pedr ei gymeradwyo i fynd “i mewn i Deyrnas dragwyddol ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist.” (2 Pedr 1:11) Am wobr! Os wyt ti’n dal ati, fel gwnaeth Pedr, a gadael i Jehofa dy hyfforddi di, gelli di hefyd dderbyn y wobr o fywyd tragwyddol. Byddi di’n ‘cyrraedd nod dy ffydd, sef dy achubiaeth.’—1 Pedr 1:9. w23.09 31 ¶16-17
Dydd Sul, Awst 17
Addolwch yr Un a wnaeth y nef a’r ddaear.—Dat. 14:7.
Roedd gan y tabernacl gynt un cwrt—ardal fawr a oedd wedi cael ei ffensio lle roedd yr offeiriaid yn cyflawni eu dyletswyddau. Beth oedd yn y cwrt? Allor gopr i losgi aberthau, a dŵr mewn dysgl gopr i’r offeiriaid golchi eu hunain cyn cyflawni eu gwasanaeth cysegredig. (Ex. 30:17-20; 40:6-8) Heddiw, mae gweddill brodyr eneiniog Crist yn gwasanaethu’n ffyddlon yng nghwrt mewnol y deml ysbrydol ar y ddaear. Mae’r ddysgl gopr, sy’n llawn dŵr, yn eu hatgoffa nhw i aros yn foesol ac yn ysbrydol lân, fel y dylai pob Cristion. Ble, felly, mae’r “tyrfa fawr” yn gwasanaethu? Gwnaeth yr apostol Ioan eu gweld “yn sefyll o flaen” gorsedd Duw, sef y cwrt allanol ar y ddaear,“yn cyflawni gwasanaeth cysegredig ddydd a nos yn ei deml.” (Dat. 7:9, 13-15) Rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa wedi rhoi’r cyfle inni allu ei wasanaethu yn ei deml fawr ysbrydol. w23.10 28-29 ¶15-16
Dydd Llun, Awst 18
Oherwydd addewid Duw, . . . ei ffydd a wnaeth ef yn rymus.—Rhuf. 4:20.
Un ffordd gall Jehofa roi pŵer inni ydy trwy’r henuriaid. (Esei. 32:1, 2) Felly, os wyt ti’n teimlo’n bryderus, tro at yr henuriaid. Pan maen nhw’n rhoi cymorth iti, bydda’n barod i’w dderbyn. Gall Jehofa eu defnyddio nhw i dy wneud di’n gryf. Mae ein gobaith o fywyd tragwyddol—naill ai ar y ddaear neu yn y nefoedd, yn rhoi nerth inni. (Rhuf. 4:3, 18, 19) Mae’n ein cryfhau ni i ddelio â threialon, i bregethu’r newyddion da, a derbyn aseiniadau yn y gynulleidfa. (1 Thes. 1:3) Gwnaeth y gobaith hwn gryfhau’r apostol Paul. Roedd yn ‘cael ei wasgu’n galed,’ yn “pendroni,” ‘yn cael ei erlid,’ a ‘wedi ei daro i lawr.’ Roedd ei fywyd yn y fantol. (2 Cor. 4:8-10) Trwy ffocysu ar ei obaith, cafodd Paul y cryfder i ddyfalbarhau. (2 Cor. 4:16-18) Canolbwyntiodd Paul ar y gobaith o gael bywyd tragwyddol yn y nef. Roedd Paul yn myfyrio ar ei obaith, ac felly, roedd yn cael ei “adfywio o ddydd i ddydd.” w23.10 15-16 ¶14-17
Dydd Mawrth, Awst 19
Mae’r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf. Mae’r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i’w bobl.—Salm 29:11.
Wrth weddïo, ystyria ai nawr ydy’r amser i Jehofa ateb dy weddi. Gallwn ni deimlo ein bod ni angen ateb i’n gweddïau’n syth. Ond mae Jehofa yn gwybod yr amser gorau i’n helpu. (Heb. 4:16) Pan na fyddwn ni’n derbyn y peth gofynnon ni amdano yn syth, efallai byddwn ni’n meddwl mai ateb Jehofa yw ‘Na.’ Ond mewn gwirionedd efallai ei ateb yw ‘Dim eto.’ Er enghraifft, roedd brawd ifanc wedi gweddïo am gael ei iacháu. Ond ni wnaeth ei iechyd wella. Petai wedi cael ei iacháu’n wyrthiol, gallai Satan fod wedi dadlau mai dim ond oherwydd hynny gwnaeth y brawd ddal ati i wasanaethu Jehofa. (Job 1:9-11; 2:4) Hefyd, mae Jehofa eisoes wedi penodi amser i wella pob salwch. (Esei. 33:24; Dat. 21:3, 4) Tan hynny, fedrwn ni ddim disgwyl i Jehofa wneud gwyrthiau i’n hiacháu. Felly gall y brawd ofyn i Jehofa am gryfder a heddwch meddwl i ddyfalbarhau er gwaethaf ei salwch a pharhau i wasanaethu Duw yn ffyddlon. w23.11 24 ¶13
Dydd Mercher, Awst 20
Wnaeth e ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu, na talu’n ôl i ni am ein holl fethiant. —Salm 103:10.
Fe wnaeth Samson gamgymeriad gwael, ond daliodd ati i wasanaethu Duw. Edrychodd am gyfle i gyflawni ei aseiniad oddi wrth Dduw yn erbyn y Philistiaid. (Barn. 16:28-30) Erfyniodd Samson ar Jehofa, “Gad i mi daro’r Philistiaid . . . a dial arnyn nhw.” Atebodd Jehofa weddi Samson a rhoddodd ei gryfder gwyrthiol yn ôl iddo. O ganlyniad, roedd Samson yn fwy llwyddiannus yn erbyn y Philistiaid ar yr achlysur hwn nag erioed o’r blaen. Er bod Samson wedi teimlo effeithiau poenus ei gamgymeriad, ni wnaeth stopio gwasanaethu Jehofa. Hyd yn oed os ydyn ni’n gwneud camgymeriad ac angen cael ein ceryddu, neu yn colli braint, mae’n hollbwysig inni ddal ati. Cofia, dydy Jehofa byth yn troi ei gefn arnon ni. (Salm 103:8, 9) Er gwaethaf ein camgymeriadau, gallwn ni fod yn ddefnyddiol iawn i Dduw, yn union fel roedd Samson. w23.09 6 ¶15-16
Dydd Iau, Awst 21
Mae ein dyfalbarhad yn dod â chymeradwyaeth Duw, mae ei gymeradwyaeth yn rhoi gobaith inni.—Rhuf. 5:4.
Drwy ddyfalbarhau, byddi di’n cael dy gymeradwyo gan Jehofa. Cofia, ti sy’n gwneud Jehofa’n hapus, nid y ffaith dy fod ti’n dioddef. Oherwydd dy ddyfalbarhad, bydd Duw yn dy gymeradwyo. Am fendith arbennig! (Salm 5:12) Cofia fod Abraham wedi mynd trwy dreialon ac wedi cael cymeradwyaeth Jehofa. Roedd Jehofa yn ei weld fel ffrind ac yn ei ystyried yn gyfiawn. (Gen. 15:6; Rhuf. 4:13, 22) Gall yr un peth fod yn wir amdanon ni. Dydy Duw ddim yn ein cymeradwyo ni oherwydd faint o freintiau sydd gynnon ni yn ei gyfundrefn nac oherwydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Mae’n rhoi ei gymeradwyaeth ar sail ein dyfalbarhad. Ac ni waeth beth ydy ein hoed, ein hamgylchiadau, neu ein galluoedd, gallwn ni i gyd ddyfalbarhau. A wyt ti’n dal ati er gwaethaf treial ar hyn o bryd? Os wyt ti, cofia fod Duw yn hapus gyda ti. Gall sylwi bod Duw yn hapus gyda ni gael effaith fawr arnon ni. Gall cryfhau ein gobaith. w23.12 11 ¶13-14
Dydd Gwener, Awst 22
Dangos dy fod yn ddyn.—1 Bren. 2:2.
Mae’n rhaid i ddyn Cristnogol ddysgu i gyfathrebu’n dda. Mae dyn sy’n cyfathrebu’n dda yn gwrando ac yn cydnabod teimladau pobl eraill. (Diar. 20:5) Bydd yn gallu darllen sut mae pobl yn teimlo o dôn eu llais, eu hwynebau, neu iaith eu corff. Mae’n rhaid iddo dreulio amser gyda phobl er mwyn dysgu gwneud hyn. Os wyt ti’n defnyddio dyfeisiau electronig gormod i anfon ebyst neu tecstio, gall gwanhau dy sgiliau cyfathrebu wyneb yn wyneb. Felly, ceisia greu cyfleoedd i dreulio amser â phobl a siarad â nhw. (2 Ioan 12) Mae’n rhaid i frawd aeddfed hefyd allu edrych ar ôl ei hun a’i deulu. (1 Tim. 5:8) Mae dysgu sgìl a fydd yn dy helpu di i ddod o hyd i waith yn bwysig. (Act. 18:2, 3; 20:34; Eff. 4:28) Ceisia gael enw da am weithio’n galed ac am orffen tasg. Os wyt ti’n gwneud hyn, gei di mwy na thebyg gael jòb a’i gadw. w23.12 27 ¶12-13
Dydd Sadwrn, Awst 23
[Mae] dydd Jehofa yn dod yn union fel lleidr yn y nos.—1 Thes. 5:2.
Beth mae “dydd Jehofa” yn ei olygu yn y Beibl? Mae’n cyfeirio at Jehofa yn barnu ei elynion ac yn achub ei bobl. Mae Jehofa wedi gwneud hynny yn y gorffennol. (Esei. 13:1, 6; Esec. 13:5; Seff. 1:8) Yn ein hoes ni, bydd “dydd Jehofa” yn dechrau pan fydd arweinwyr gwleidyddol yn ymosod ar Fabilon Fawr, a bydd yn gorffen gyda rhyfel Armagedon. Er mwyn goroesi’r “dydd” hwnnw, dywedodd Iesu fod rhaid inni baratoi nawr ar gyfer y ‘trychineb mawr.’ Ond mae angen mwy, mae’n rhaid inni ‘aros yn barod’ amdano. (Math. 24:21; Luc 12:40) Yn 1 Thesaloniaid defnyddiodd yr apostol Paul lawer o eglurebau. Roedd hynny er mwyn helpu Cristnogion i aros yn barod am ddydd barn Jehofa. Er bod Paul yn gwybod na fyddai dydd Jehofa yn dod yn syth, gwnaeth ef annog ei frodyr i baratoi amdano fel petai’n dod y diwrnod wedyn. (2 Thes. 2:1-3) Gallwn ni ddilyn yr un cyngor. w23.06 8 ¶1-2
Dydd Sul, Awst 24
Fy mrodyr annwyl, byddwch yn gadarn, yn sefydlog.—1 Cor. 15:58.
Yn y 1970au hwyr, roedd ’na adeilad uchel oedd gyda chwe deg llawr yn edrych dros Tokyo, Japan. Roedd llawer o bobl yn poeni a fyddai’r adeilad yn gallu gwrthsefyll yr holl ddaeargrynfeydd y bydden nhw’n eu cael. Y gyfrinach? Gwnaeth peirianwyr adeiladu’r adeilad i fod yn gadarn, ond hefyd iddo allu gwrthsefyll tirgryniadau. Mae Cristnogion fel yr adeilad hwnnw. Ym mha ffordd? Mae’n rhaid i Gristion gadw’r ddysgl yn wastad drwy fod yn gadarn a thrwy fod yn hyblyg. Mae ef angen bod yn gryf ac yn benderfynol i fod yn ufudd i gyfreithiau a safonau Jehofa. Y mae’n “barod i ufuddhau” a ddim yn cyfaddawdu. Ar y llaw arall, mae ef angen bod “yn rhesymol,” neu’n hyblyg, pan mae angen. (Iago 3:17) Ni fydd Cristion sy’n dysgu i fod yn gytbwys yn rhy llym nac yn rhy llac wrth wneud penderfyniadau. w23.07 14 ¶1-2
Dydd Llun, Awst 25
Er nad ydych chi erioed wedi ei weld ef, rydych chi’n ei garu.—1 Pedr 1:8.
Roedd rhaid i Iesu wrthsefyll temtasiynau gan Satan y Diafol, gan gynnwys ymosodiadau uniongyrchol ar ei ffyddlondeb i Dduw. (Math. 4:1-11) Roedd Satan yn benderfynol o wneud i Iesu bechu fel na fyddai’n gallu talu’r pris. Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, roedd Iesu’n wynebu heriau eraill. Roedd ei elynion yn ei erlid ac yn ceisio ei ladd. (Luc 4:28, 29; 13:31) Roedd rhaid iddo ddelio ag amherffeithion ei ddilynwyr. (Marc 9:33, 34) Cafodd ei arteithio ac roedd pobl yn chwerthin am ei ben yn y llys. Yna cafodd ei ladd mewn ffordd hynod o boenus a chywilyddus. (Heb. 12:1-3) Roedd rhaid iddo fynd drwy ran olaf ei fywyd ar ei ben ei hun heb Jehofa yn ei amddiffyn na’i warchod. (Math. 27:46) Yn amlwg, talodd Iesu bris uchel iawn. Pan ydyn ni’n meddwl am yr holl bethau roedd Iesu yn barod i’w haberthu droston ni, rydyn ni’n ei garu yn fwy byth. w24.01 10-11 ¶7-9
Dydd Mawrth, Awst 26
Dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi.—Diar. 21:5.
Mae amynedd yn ein helpu ni i ddelio ag eraill. Mae’n ein helpu ni i wrando’n astud wrth i eraill siarad. (Iago 1:19) Mae amynedd hefyd yn hybu heddwch. Mae’n ein gwarchod ni rhag ymateb yn rhy gyflym a rhag dweud rhywbeth cas pan ydyn ni o dan straen. Ac os ydyn ni’n amyneddgar, byddwn ni’n araf i ddigio pan fydd rhywun yn brifo ein teimladau. Yn lle talu’r pwyth yn ôl, mae’r Beibl yn annog: “Parhewch i oddef eich gilydd ac i faddau i’ch gilydd heb ddal yn ôl.” (Col. 3:12, 13) Gall amynedd hefyd ein helpu ni i wneud penderfyniadau gwell. Yn lle gweithredu’n rhy gyflym, byddwn ni’n cymryd yr amser i wneud ymchwil ac asesu pa benderfyniad fydd orau. Er enghraifft, os ydyn ni’n edrych am waith, efallai bydden ni’n dueddol o dderbyn y cynnig cyntaf rydyn ni’n ei gael. Ond, os ydyn ni’n amyneddgar, byddwn ni’n cymryd yr amser i ystyried yr effaith bydd y swydd yn ei chael ar ein teulu a’n bywyd ysbrydol. Pan ydyn ni’n amyneddgar, gallwn ni osgoi gwneud penderfyniad drwg. w23.08 22 ¶8-9
Dydd Mercher, Awst 27
Rydw i’n gweld cyfraith arall yn fy nghorff sy’n brwydro yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac mae hi’n fy ngwneud i’n garcharor i gyfraith pechod sydd yn fy nghorff.” —Rhuf. 7:23.
Os wyt ti’n digalonni fel roedd yr apostol Paul, bydd cofio’r addewid wnest ti wrth gysegru dy hun i Jehofa yn gwneud iti deimlo’n benderfynol o frwydro yn erbyn temtasiwn. Sut? Pan wyt ti’n cysegru dy hun i Jehofa rwyt ti’n gwadu dy hun, sy’n golygu gwrthod dilyn unrhyw chwantau neu amcanion sydd ddim yn plesio Jehofa. (Math. 16:24) Felly wrth iti gael dy brofi, fydd dim rhaid iti bendroni am beth i’w wneud. Byddi di wedi cau’r drws ar bob opsiwn heb law am un—ffyddlondeb i Jehofa. Byddi di, fel Job, yn benderfynol o blesio Jehofa. Er bod Job wedi wynebu treialon hynod o anodd, dywedodd yn gadarn: “Bydda i’n onest [ffyddlon, NWT] hyd fy medd!”—Job 27:5. w24.03 9 ¶6-7
Dydd Iau, Awst 28
Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy’n galw arno; at bawb sy’n ddidwyll pan maen nhw’n galw arno.—Salm 145:18.
Mae Jehofa, “Duw cariad,” gyda ni! (2 Cor. 13:11) Mae ganddo ddiddordeb ynon ni’n bersonol. Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni “ei drystio fe.” (Salm 32:10) Y mwyaf rydyn ni’n myfyrio ar sut mae wedi dangos cariad tuag aton ni, y mwyaf real bydd ef yn dod inni, ac yna byddwn ni’n teimlo’n agosach ato. Rydyn ni’n gallu siarad ag ef yn rhwydd a dweud wrtho faint rydyn ni angen ei gariad. Rydyn ni’n gallu rhannu’r pethau sy’n ein poeni ni, ac rydyn ni’n llawn hyder ei fod yn ein deall ni ac yn awyddus i’n helpu ni. (Salm 145:18, 19) Yn union fel rydyn ni’n cael ein denu at dân cynnes ar ddiwrnod oer, rydyn ni hefyd yn cael ein denu at gariad cynnes Jehofa. Er bod cariad Jehofa’n bwerus, mae hefyd yn dyner. Felly bydda’n awyddus i groesawu cariad cynnes Jehofa yn dy fywyd. A gad inni i gyd ymateb i’w gariad drwy ddweud: “Dw i wir yn caru’r ARGLWYDD.”—Salm 116:1. w24.01 31 ¶19-20
Dydd Gwener, Awst 29
Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di.—Ioan 17:26.
Roedd Iesu yn gwneud mwy na datgelu mai enw Duw ydy Jehofa. Roedd yr Iddewon a oedd yn cael eu dysgu ganddo yn gwybod hynny. Roedd Iesu yn “esbonio pwy ydy Ef.” (Ioan 1:17, 18) Er enghraifft, mae’r Ysgrythurau Hebraeg yn datgelu bod Jehofa yn drugarog ac yn dosturiol. (Ex. 34:5-7) Mae’r gwirionedd hwn yn glir yn nameg Iesu am y mab colledig a’i dad. Pan ydyn ni’n darllen am y tad yn gweld ei fab edifar “tra oedd ef yn dal yn bell i ffwrdd,” yn rhedeg ato, yn ei gofleidio, ac yn maddau iddo o’i galon, rydyn ni’n gweld darlun clir o dosturi a thrugaredd Jehofa. (Luc 15:11-32) Roedd Iesu yn helpu pobl i wir adnabod ei Dad. w24.02 10 ¶8-9
Dydd Sadwrn, Awst 30
Cysuro eraill . . . drwy’r cysur rydyn ni’n ei dderbyn gan Dduw. —2 Cor. 1:4.
Mae Jehofa yn adfywio ac yn rhoi cysur i’r rhai sy’n dioddef. Sut gallwn ni efelychu Jehofa drwy deimlo tosturi a rhoi cysur i eraill? Un ffordd ydy trwy feithrin rhinweddau sydd i’w wneud â chysur. Beth ydy rhai o’r rhinweddau hyn? Beth fydd yn ein helpu ni i feithrin cariad angenrheidiol er mwyn ‘dal ati i gysuro ein gilydd’ bob dydd? (1 Thes. 4:18) Rydyn ni angen rhinweddau tyner fel cydymdeimlad, cariad brawdol, a charedigrwydd. (Col. 3:12; 1 Pedr 3:8) Sut bydd y rhinweddau hyn yn ein helpu ni? Pan mae tosturi a rhinweddau tebyg yn rhan o’n personoliaeth, mae’n hynod o naturiol inni helpu’r rhai sy’n dioddef. Dywedodd Iesu, “o lawnder y galon y mae’r geg yn siarad. Mae’r dyn da o’i drysor da yn anfon pethau da allan.” (Math. 12:34, 35) Mae cysuro ein brodyr a’n chwiorydd sydd angen help yn ffordd bwysig o ddangos cariad. w23.11 10 ¶10-11
Dydd Sul, Awst 31
Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy’n digwydd.—Dan. 12:10.
Rydyn ni angen help i ddeall proffwydoliaethau’r Beibl. Ystyria’r eglureb hon. Rwyt ti’n teithio i rywle anghyfarwydd, ond mae dy ffrind yn ’nabod yr ardal yn iawn. Mae’n gwybod i ba gyfeiriad mae pob ffordd yn mynd. Mae’n siŵr y byddet ti’n ddiolchgar am gael dy ffrind gyda ti. Mewn ffordd debyg, Jehofa yw’r ffrind sy’n gwybod beth sydd o’n blaenau ni. Felly er mwyn deall proffwydoliaethau’r Beibl, mae’n rhaid inni ofyn yn ostyngedig i Jehofa am help. (Dan. 2:28; 2 Pedr 1:19, 20) Fel unrhyw riant da, mae Jehofa eisiau i’w blant gael dyfodol hapus. (Jer. 29:11) Ond yn wahanol i unrhyw riant ar y ddaear, mae Jehofa’n gallu rhagweld y dyfodol, ac y mae bob tro’n gywir. Rhoddodd Jehofa broffwydoliaethau yn ei Air inni gael deall pethau pwysig cyn iddyn nhw ddigwydd.—Esei. 46:10. w23.08 8 ¶3-4