LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • es25 tt. 67-77
  • Gorffennaf

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gorffennaf
  • Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
  • Isbenawdau
  • Dydd Mawrth, Gorffennaf 1
  • Dydd Mercher, Gorffennaf 2
  • Dydd Iau, Gorffennaf 3
  • Dydd Gwener, Gorffennaf 4
  • Dydd Sadwrn, Gorffennaf 5
  • Dydd Sul, Gorffennaf 6
  • Dydd Llun, Gorffennaf 7
  • Dydd Mawrth, Gorffennaf 8
  • Dydd Mercher, Gorffennaf 9
  • Dydd Iau, Gorffennaf 10
  • Dydd Gwener, Gorffennaf 11
  • Dydd Sadwrn, Gorffennaf 12
  • Dydd Sul, Gorffennaf 13
  • Dydd Llun, Gorffennaf 14
  • Dydd Mawrth, Gorffennaf 15
  • Dydd Mercher, Gorffennaf 16
  • Dydd Iau, Gorffennaf 17
  • Dydd Gwener, Gorffennaf 18
  • Dydd Sadwrn, Gorffennaf 19
  • Dydd Sul, Gorffennaf 20
  • Dydd Llun, Gorffennaf 21
  • Dydd Mawrth, Gorffennaf 22
  • Dydd Mercher, Gorffennaf 23
  • Dydd Iau, Gorffennaf 24
  • Dydd Gwener, Gorffennaf 25
  • Dydd Sadwrn, Gorffennaf 26
  • Dydd Sul, Gorffennaf 27
  • Dydd Llun, Gorffennaf 28
  • Dydd Mawrth, Gorffennaf 29
  • Dydd Mercher, Gorffennaf 30
  • Dydd Iau, Gorffennaf 31
Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
es25 tt. 67-77

Gorffennaf

Dydd Mawrth, Gorffennaf 1

Aeth ef drwy’r wlad yn gwneud daioni ac yn iacháu.—Act. 10:38.

Roedd Iesu yn efelychu teimladau a ffordd o feddwl ei Dad yn berffaith ym mhob peth roedd yn ei ddweud a’i wneud, gan gynnwys ei wyrthiau. (Ioan 14:9) Beth gallwn ni ei ddysgu o’i wyrthiau? Mae Iesu a’i Dad yn ein caru ni’n fawr iawn. Yn ystod ei fywyd ar y ddaear, dangosodd Iesu gymaint roedd yn caru pobl drwy ddefnyddio ei nerth gwyrthiol i helpu’r rhai oedd yn dioddef. Meddylia am yr adeg pan wnaeth dau ddyn dall erfyn arno am help. (Math. 20:​30-34) Sylwa fod Iesu “yn teimlo trueni” cyn iddo eu hiacháu. Mae’r gair Groeg sydd wedi ei gyfieithu’n “teimlo trueni” yn cyfeirio at gydymdeimlad dwys sy’n cael ei deimlo’n ddwfn y tu mewn i rywun. Roedd y fath gydymdeimlad yn dangos cariad Iesu a hefyd yn ei gymell i fwydo’r rhai llwglyd ac i iacháu dyn gwahanglwyfus. (Math. 15:32; Marc 1:41) Felly, gallwn ni fod yn sicr bod Jehofa, y Duw sy’n dangos “tosturi tyner,” a’i Fab yn ein caru ni’n fawr a bod gweld ein dioddefaint yn eu brifo nhw. (Luc 1:78; 1 Pedr 5:7) Meddylia gymaint maen nhw’n dyheu am gael gwared ar holl broblemau’r ddynolryw! w23.04 3 ¶4-5

Dydd Mercher, Gorffennaf 2

Mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n casáu drygioni. Mae e’n amddiffyn y rhai sy’n ffyddlon iddo, ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.—Salm 97:10.

Gallwn ni gadw’n glir o’r syniadau drwg sy’n boblogaidd ym myd Satan. A gallwn ni lenwi ein meddyliau â phethau da drwy ddarllen ac astudio’r Beibl. Bydd pregethu a mynd i’r cyfarfodydd hefyd yn gwarchod ein meddyliau. Ac mae Jehofa’n addo gwneud ei ran drwy beidio â gadael inni gael ein temtio y tu hwnt i’r hyn gallwn ei oddef. (1 Cor. 10:​12, 13) Mae angen inni i gyd weddïo’n fwy nag erioed er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa yn ystod y dyddiau olaf hyn sydd mor anodd. Mae Jehofa eisiau inni ‘dywallt beth sydd ar ein calon o’i flaen’ mewn gweddi. (Salm 62:8) Mola Jehofa a diolch iddo am bopeth mae’n ei wneud. Gofynna iddo am help i fod yn ddewr yn y weinidogaeth. Erfyn arno am help i ddelio â phroblemau ac i wrthod unrhyw demtasiwn sy’n codi. Paid â gadael i neb na dim dy rwystro di rhag gweddïo ar Jehofa yn rheolaidd. w23.05 7 ¶17-18

Dydd Iau, Gorffennaf 3

Gadewch inni ystyried ein gilydd . . . , calonogi ein gilydd.—Heb. 10:​24, 25.

Pam rydyn ni’n mynychu cyfarfodydd y gynulleidfa? Yn bennaf, er mwyn moli Jehofa. (Salm 26:12; 111:1) Rydyn ni hefyd yn mynd i’r cyfarfodydd er mwyn calonogi ein gilydd yn yr amserau anodd hyn. (1 Thes. 5:11) Rydyn ni’n gwneud y ddau beth hynny pan fyddwn ni’n codi ein llaw ac yn rhoi sylwad. Ond gallwn ni wynebu heriau wrth wneud sylwadau. Efallai ein bod ni’n teimlo’n nerfus am wneud sylwad, neu efallai rydyn ni’n rhoi ein llaw i fyny’n aml ond ddim yn cael ein dewis i ateb bob tro. Sut gallwn ni ddelio â’r heriau hyn? Dywedodd yr apostol Paul y dylen ni ganolbwyntio ar ‘galonogi ein gilydd.’ Pan fyddwn ni’n sylweddoli ein bod ni’n gallu calonogi eraill yn y gynulleidfa drwy roi sylwad syml sy’n mynegi ein ffydd, byddwn ni’n teimlo’n well am roi ein llaw i fyny. Ac os nad ydyn ni’n cael ein dewis bob tro i roi sylwad, gallwn ni fod yn hapus bod eraill yn y gynulleidfa wedi cael cyfle i roi eu sylwadau nhw.—1 Pedr 3:8. w23.04 20 ¶1-3

Dydd Gwener, Gorffennaf 4

Cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i’r ARGLWYDD.—Esra 1:3.

Ar ôl i’r Iddewon fod yn gaeth ym Mabilon am tua 70 mlynedd, dyma’r brenin yn rhoi newyddion da iddyn nhw. Roedden nhw’n cael mynd yn ôl i’w mamwlad, Israel, o’r diwedd! (Esra 1:​2-4) Mae’n rhaid mai Jehofa oedd y tu ôl i hynny oherwydd fel arfer doedd Babilon byth yn rhyddhau ei chaethweision. (Esei. 14:​4, 17) Ond roedd Babilon wedi cael ei gorchfygu a dywedodd y rheolwr newydd wrth yr Iddewon y bydden nhw’n cael gadael. Roedd gan bob Iddew, yn enwedig pennau teuluoedd, benderfyniad i’w wneud—naill ai i adael Babilon neu i aros yno. Efallai nad oedd hynny’n benderfyniad hawdd ei wneud. Roedd llawer yn rhy hen i wneud y daith anodd. Ac am fod y rhan fwyaf o’r Iddewon wedi cael eu geni ym Mabilon, dyna’r unig le roedden nhw wedi ei alw’n gartref. Iddyn nhw, gwlad eu cyndadau oedd Israel. Mae’n ymddangos bod rhai Iddewon wedi dod yn gyfoethog ym Mabilon, ac felly byddai’n anodd iddyn nhw adael eu cartrefi clyd a’u busnesau llwyddiannus i fyw mewn gwlad anghyfarwydd. w23.05 14 ¶1-2

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 5

Dangoswch . . . eich bod chi’n barod.—Math. 24:44.

Mae Gair Duw yn ein hannog ni i ddal ati i feithrin dyfalbarhad, tosturi, a chariad. Mae Luc 21:19 yn dweud: “Trwy eich dyfalbarhad byddwch chi’n achub eich bywydau.” Mae Colosiaid 3:12 yn dweud: ‘Gwisgwch dosturi.’ Ac mae 1 Thesaloniaid 4:​9, 10 yn dweud: ‘Rydych chi’ch hunain yn cael eich dysgu gan Dduw i garu eich gilydd. Ond rydyn ni’n erfyn arnoch chi, frodyr, i ddal ati i wneud hyn yn fwy ac yn fwy.’ Cafodd yr adnodau hyn eu hysgrifennu at ddisgyblion oedd eisoes wedi dangos dyfalbarhad, tosturi, a chariad. Ond roedd rhaid iddyn nhw ddal ati i feithrin y rhinweddau hyn. Mae’n rhaid inni wneud yr un fath. Bydd ystyried sut roedd y Cristnogion cynnar yn dangos y rhinweddau hyn yn dy helpu di i’w hefelychu nhw. Yna, byddi di’n barod ar gyfer y trychineb mawr. Felly, pan ddaw’r trychineb mawr, byddi di wedi dysgu sut i ddyfalbarhau a byddi di’n benderfynol o ddal ati. w23.07 2-3 ¶4, 8

Dydd Sul, Gorffennaf 6

Bydd priffordd; ie, . . . ‘Y Ffordd Sanctaidd.’—Esei. 35:8.

P’un a ydyn ni’n un o’r eneiniog neu’n un o’r ‘defaid eraill,’ mae’n rhaid inni aros ar “y Ffordd Sanctaidd.” (Ioan 10:16) Mae hi’n ein harwain ni drwy’r baradwys ysbrydol ac at fendithion yn y dyfodol o dan y Deyrnas. Ers 1919, mae miliynau o ddynion, merched, a phlant wedi gadael Babilon Fawr, ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, ac wedi dechrau teithio ar hyd y ffordd ffigurol honno. Gwnaeth Jehofa sicrhau y byddai unrhyw rwystr yn cael ei glirio i’r Iddewon wrth iddyn nhw adael Babilon. (Esei. 57:14) Beth am “y Ffordd Sanctaidd” yn yr oes fodern? Yn y canrifoedd oedd yn arwain at 1919, defnyddiodd Jehofa ddynion duwiol i glirio’r ffordd allan o Fabilon Fawr. (Cymhara Eseia 40:3.) Fe wnaethon nhw’r gwaith oedd ei angen i baratoi’r ffordd ysbrydol fel bod pobl ddiffuant yn gallu gadael Babilon Fawr ac addoli Jehofa gyda’i bobl. w23.05 15-16 ¶8-9

Dydd Llun, Gorffennaf 7

Addolwch yr ARGLWYDD yn llawen; a dod o’i flaen gan ddathlu! —Salm 100:2.

Mae Jehofa eisiau inni fod yn fodlon ac yn hapus wrth ei wasanaethu. (2 Cor. 9:7) Felly a ddylen ni barhau i weithio at nod ysbrydol os nad ydyn ni’n teimlo fel gwneud? Ystyria esiampl yr apostol Paul. Dywedodd: “Rydw i’n ceryddu’n llym fy nghorff ac yn ei arwain fel caethwas.” (1 Cor. 9:​25-27, tdn) Roedd Paul yn ei orfodi ei hun i wneud beth oedd yn iawn hyd yn oed pan doedd ef ddim eisiau gwneud hynny. Oedd Jehofa’n hapus gyda’r hyn roedd Paul yn ei wneud i’w wasanaethu? Yn bendant! A gwnaeth Jehofa ei wobrwyo am ei waith. (2 Tim. 4:​7, 8) Mewn ffordd debyg, mae Jehofa wrth ei fodd o’n gweld ni’n gweithio tuag at ein nod er gwaethaf diffyg awydd. Er efallai nad ydyn ni wastad yn caru beth rydyn ni’n ei wneud, mae Jehofa’n gwybod ein bod ni’n ei wneud allan o gariad ato ef. Dyna sy’n ei blesio. Yn union fel gwnaeth Jehofa fendithio Paul, bydd yn ein bendithio ni hefyd. (Salm 126:5) Ac wrth inni fwynhau bendith Jehofa, efallai bydd ein hawydd yn cryfhau. w23.05 29 ¶9-10

Dydd Mawrth, Gorffennaf 8

[Mae] dydd Jehofa yn dod. —1 Thes. 5:2.

Fe wnaeth yr apostol Paul gymharu’r rhai fydd ddim yn goroesi dydd Jehofa â phobl sy’n cysgu. Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o beth sy’n digwydd o’u cwmpas, nac o amser. Felly dydyn nhw ddim yn gwybod pan mae pethau pwysig yn digwydd, nac yn gallu ymateb iddyn nhw. Mae’r rhan fwyaf o bobl heddiw yn cysgu mewn ffordd ysbrydol. (Rhuf. 11:8) Dydyn nhw ddim yn credu ein bod ni’n byw yn “y dyddiau olaf” a bod y trychineb mawr yn dod yn fuan. (2 Pedr 3:​3, 4) Ond wrth i bob dydd fynd heibio, rydyn ni’n sylweddoli ei bod hi mor bwysig inni ddilyn cyngor y Beibl i aros yn effro. (1 Thes. 5:6) Felly mae’n rhaid inni gadw ein pennau a pheidio cynhyrfu. Pam? Er mwyn inni osgoi cymryd rhan mewn dadlau gwleidyddol a chymdeithasol. Wrth i ddydd Jehofa agosáu, bydd ’na fwy o bwysau arnon ni i gymryd rhan mewn dadlau o’r fath. Ond does dim rhaid inni boeni am sut byddwn ni’n ymateb, achos bydd ysbryd Duw yn ein helpu ni i beidio â chynhyrfu ac i wneud penderfyniadau doeth.—Luc 12:​11, 12. w23.06 9-10 ¶6-7

Dydd Mercher, Gorffennaf 9

O Feistr, ARGLWYDD, cofia amdana i! Gwna fi’n gryf.—Barn. 16:28.

Beth sy’n dod i dy feddwl pan wyt ti’n clywed yr enw Samson? Mae’n debygol dy fod ti’n meddwl am ddyn hynod o gryf. Ac mae hynny’n wir. Ond fe wnaeth Samson benderfyniad gwael a wnaeth achosi llawer o ddioddefaint iddo. Er hynny, roedd Jehofa yn canolbwyntio ar ffyddlondeb Samson, ac fe wnaeth gynnwys esiampl Samson yn y Beibl er mwyn inni elwa ohoni. Gwnaeth Jehofa ddefnyddio Samson i gyflawni pethau anhygoel er mwyn helpu Ei bobl yr Israeliaid. Ganrifoedd ar ôl i Samson farw, fe wnaeth Jehofa ysbrydoli’r apostol Paul i gynnwys enw Samson mewn rhestr o rai ffyddlon. (Heb. 11:​32-34) Roedd Samson yn dibynnu ar Jehofa hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd. Gall esiampl Samson ein calonogi ni a dysgu gwersi ymarferol inni. w23.09 2 ¶1-2

Dydd Iau, Gorffennaf 10

Rhowch wybod i Dduw am y pethau rydych chi’n eu ceisio.—Phil. 4:6.

Gallwn ni gryfhau ein dyfalbarhad drwy weddïo ar Jehofa yn aml a dweud wrtho am ein holl bryderon. (1 Thes. 5:17) Efallai nad wyt ti’n wynebu problemau mawr ar hyn o bryd. Er hynny, a wyt ti’n troi at Jehofa am arweiniad pan wyt ti’n teimlo’n emosiynol, wedi dy ddrysu, neu ddim yn gwybod beth i’w wneud? Os wyt ti’n troi at Jehofa am help nawr, gyda phroblemau bach, bydd yn haws iti droi ato gyda phroblemau mwy yn y dyfodol. Yna byddi di’n hyderus ei fod yn gwybod yn union pryd a sut i weithredu ar dy ran. (Salm 27:​1, 3) Os ydyn ni’n dysgu i ddyfalbarhau heddiw, bydd hi’n haws inni oroesi yn ystod y trychineb mawr. (Rhuf. 5:3) Sut gallwn ni ddweud hynny? Mae llawer o frodyr yn dweud bod goroesi un her yn eu helpu nhw i wynebu’r her nesaf. Roedd dyfalbarhad yn eu coethi nhw ac yn cryfhau eu ffydd bod Jehofa yn barod ac yn awyddus i’w helpu. Yna, roedd ffydd yn eu helpu nhw i ddal ati drwy’r treial nesaf.—Iago 1:​2-4. w23.07 3 ¶7-8

Dydd Gwener, Gorffennaf 11

Fe wna i ganiatáu’r hyn rwyt ti’n gofyn amdano.—Gen. 19:21.

Roedd gostyngeiddrwydd a thrugaredd Jehofa yn ei ysgogi i fod yn rhesymol. Er enghraifft, daeth gostyngeiddrwydd Jehofa i’r amlwg pan oedd ef ar fin dinistrio’r bobl ddrwg yn Sodom. Drwy ei angylion, dywedodd Jehofa wrth y dyn cyfiawn Lot i ddianc i’r mynyddoedd. Roedd gan Lot ofn i fynd yno. Felly plediodd iddo ef a’i deulu gael mynd i Soar am loches, tref fach a oedd i fod i gael ei dinistrio. Gallai Jehofa fod wedi mynnu bod Lot yn dilyn ei gyfarwyddiadau i’r dim. Yn hytrach, gwrandawodd ar Lot, er bod hynny’n golygu arbed Soar. (Gen. 19:​18-22) Canrifoedd yn hwyrach, dangosodd Jehofa drugaredd tuag at bobl Ninefe. Gyrrodd y proffwyd Jona i ddweud wrth bobl ddrwg Ninefe eu bod nhw a’u dinas yn mynd i gael eu dinistrio. Ond pan edifarhaodd pobl Ninefe, teimlodd Jehofa drostyn nhw ac achubodd y ddinas.—Jona 3:​1, 10; 4:​10, 11. w23.07 21 ¶5

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 12

Dyma nhw [yn llofruddio Jehoas] . . . Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond ddim ym mynwent y brenhinoedd.—2 Cron. 24:25.

Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Jehoas? Roedd yn debyg i goeden heb wreiddiau dwfn sydd angen postyn er mwyn peidio â chwympo drosodd. Roedd Jehoiada yn debyg i’r postyn—yn cefnogi Jehoas. Ond ar ôl i Jehoiada farw, dechreuodd Jehoas wrando ar wrthgilwyr, ac roedd yn anffyddlon i Jehofa. Mae’r esiampl hon yn dangos ddylwn ni ddim dibynnu ar ein teulu neu eraill yn y gynulleidfa i’n cadw ni’n gryf yn ysbrydol. Ond mae’n rhaid inni ofni a charu Duw fel unigolion drwy astudio, myfyrio, a gweddïo yn rheolaidd. (Jer. 17:​7, 8; Col. 2:​6, 7) Mewn gwirionedd, dydy Jehofa ddim yn disgwyl llawer gynnon ni. Mae Pregethwr 12:​13, BCND, yn crynhoi beth mae’n ei ofyn, gan ddweud: “Ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un.” Byddwn ni’n gallu aros yn ffyddlon i Jehofa ni waeth beth sy’n digwydd yn y dyfodol tra bod gynnon ni ofn at Dduw. Fydd dim byd yn gallu gwneud niwed i’n perthynas â Jehofa. w23.06 18-19 ¶17-19

Dydd Sul, Gorffennaf 13

Edrychwch! Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.—Dat. 21:5.

Mae adnod 5 yn dechrau drwy ddweud: “Dywedodd yr Un a oedd yn eistedd ar yr orsedd.” (Dat. 21:5a) Mae’r geiriau hyn yn werthfawr oherwydd dim ond tair gwaith yn llyfr Datguddiad mae Jehofa yn siarad, a dyma un ohonyn nhw. Felly, cafodd yr addewid hwn ei sicrhau, nid gan angel pwerus, na hyd yn oed Iesu, ond gan Jehofa ei hun! Mae hyn yn profi y gallwn ni drystio beth sy’n cael ei ddweud nesaf. Pam felly? Oherwydd dydy Jehofa “ddim yn gallu dweud celwydd.” (Titus 1:2) Mae’r datganiad hwnnw yn gwneud y geiriau yn Datguddiad 21:​5, 6 yn hollol ddibynadwy. Ystyria’r gair “Edrychwch!” Mae’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “edrychwch!” yn cael ei ddefnyddio sawl gwaith yn llyfr Datguddiad. Beth sy’n dilyn yr ebychiad? Datganiad Duw, sef: “Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.” Er bod hyn am ddigwydd yn y dyfodol, mae Jehofa yn siarad fel bod y newidiadau yn digwydd nawr oherwydd y mae mor sicr o gyflawni ei addewid.—Eseia 46:10. w23.11 3-4 ¶7-8

Dydd Llun, Gorffennaf 14

Aeth allan a chrio’n chwerw. —Math. 26:75.

Roedd yr apostol Pedr yn dal i frwydro â’i wendidau. Ystyria rai enghreifftiau. Pan esboniodd Iesu y byddai’n rhaid iddo ddioddef a marw er mwyn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl, fe wnaeth Pedr ei geryddu. (Marc 8:​31-33) Roedd Pedr a’r apostolion eraill yn dadlau dro ar ôl tro am bwy oedd y gorau. (Marc 9:​33, 34) Ar y noson cyn i Iesu farw, fe wnaeth Pedr ymosod ar ddyn a thorri ei glust i ffwrdd. (Ioan 18:10) Ar yr un noson, ildiodd Pedr i ofn dyn a gwadu dair gwaith ei fod yn adnabod ei ffrind Iesu. (Marc 14:​66-72) O ganlyniad, criodd Pedr yn chwerw. Er bod Pedr wedi digalonni’n llwyr, ni wnaeth Iesu gefnu arno. Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, rhoddodd y cyfle i Pedr ddangos ei fod yn dal i’w garu. Gofynnodd Iesu i Pedr fugeilio ei ddefaid. (Ioan 21:​15-17) Ymatebodd Pedr yn bositif. Roedd ef yn Jerwsalem ar ddiwrnod Pentecost, ac ymysg y rhai cyntaf i gael eu heneinio â’r ysbryd glân. w23.09 22 ¶6-7

Dydd Mawrth, Gorffennaf 15

Bugeilia fy nefaid bach.—Ioan 21:16.

Gwnaeth yr apostol Pedr annog ei gyd-henuriaid: “Bugeiliwch braidd Duw.” (1 Pedr 5:​1-4) Os wyt ti’n henuriad, rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n caru dy frodyr a dy chwiorydd ac eisiau eu bugeilio nhw. Ond, efallai byddi di mor flinedig, byddi di’n teimlo nad wyt ti’n gallu cyflawni’r aseiniad hwnnw. Beth gelli di ei wneud? Gweddïa ar Jehofa am dy bryderon. Ysgrifennodd Pedr: “Os oes unrhyw un yn gweini, gadewch iddo wneud hynny drwy ddibynnu ar y nerth mae Duw’n ei roi.” (1 Pedr 4:11) Efallai dydy hi ddim yn bosib i broblemau dy frodyr a dy chwiorydd gael eu datrys yn y system hon. Cofia mai Iesu Grist, “y pen bugail,” ydy’r unig un sy’n gallu datrys eu problemau. Y cyfan mae Duw yn ei ofyn gan henuriaid ydy iddyn nhw garu eu brodyr a’u bugeilio nhw, ac i fod yn “esiamplau i’r praidd.” w23.09 29-30 ¶13-14

Dydd Mercher, Gorffennaf 16

Mae Jehofa yn gwybod bod rhesymu’r dynion doeth yn ofer.—1 Cor. 3:20.

Ddylen ni ddim dibynnu ar resymu dynol. Os ydyn ni’n edrych ar bethau o safbwynt dynol, mae ’na beryg y byddwn ni’n dechrau anwybyddu Jehofa a’i safonau. (1 Cor. 3:19) Yn aml, mae “doethineb y byd hwn” yn apelio at chwantau cnawdol. Gwnaeth rhai Cristnogion ddechrau meddwl fel y bobl eilunaddolgar ac anfoesol yn Pergamus a Thyatira. Rhoddodd Iesu gyngor cryf i’r ddwy gynulleidfa am dderbyn anfoesoldeb rhywiol. (Dat. 2:​14, 20) Heddiw, rydyn ni o dan bwysau i gael yr un meddylfryd â’r byd. Gallai aelodau ein teulu neu ffrindiau drio ein perswadio ni i gyfaddawdu. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n dweud bod dilyn safonau hen ffasiwn y Beibl ddim o bwys, a’i bod hi’n iawn inni ddilyn ein calonnau. Ar adegau, mae ’na beryg inni feddwl nad ydy arweiniad Jehofa yn ddigon. Efallai byddwn ni hyd yn oed yn cael ein temtio i fynd “y tu hwnt i’r pethau sy’n ysgrifenedig.”—1 Cor. 4:6. w23.07 16 ¶10-11

Dydd Iau, Gorffennaf 17

Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.—Diar. 17:17.

Roedd angen cryfder ar Mair, mam Iesu. Doedd hi ddim yn briod, ond roedd hi’n feichiog. Doedd ganddi ddim profiad yn magu plant. Ond roedd rhaid iddi edrych ar ôl y bachgen a oedd am fod y Meseia. A gan ei bod hi byth wedi cael rhyw, sut byddai hi’n esbonio hyn i’w darpar ŵr, Joseff? (Luc 1:​26-33) Sut gwnaeth Mair dderbyn y cryfder? Chwiliodd hi am gymorth gan eraill. Gwnaeth hi siarad â Gabriel a gofyn am fwy o wybodaeth am yr aseiniad. (Luc 1:34) Yn fuan ar ôl hynny, teithiodd i “ardal fynyddig” Jwda i weld Elisabeth. Rhannodd Elisabeth broffwydoliaeth am y babi yng nghroth Mair a’i chalonogi hi. (Luc 1:​39-45) Dywedodd Mair fod Jehofa wedi “gweithredu’n rymus â’i fraich.” (Luc 1:​46-51) Gwnaeth Jehofa ddefnyddio Gabriel ac Elisabeth i gryfhau Mair. w23.10 14-15 ¶10-12

Dydd Gwener, Gorffennaf 18

Fe’n gwnaeth ni yn deyrnas, yn offeiriaid i’w Dduw a’i Dad.—Dat. 1:6.

Mae ’na rif penodol o ddisgyblion Crist sydd wedi cael eu heneinio â’r ysbryd glân, ac y maen nhw’n mwynhau perthynas agos â Jehofa. Bydd y 144,000 hyn yn gwasanaethu fel offeiriaid yn y nefoedd gyda Iesu. (Dat. 14:1) Mae Sanctaidd y tabernacl yn cynrychioli cyflwr yr eneiniog tra eu bod nhw ar y ddaear fel meibion sydd wedi eu mabwysiadu gan Dduw. (Rhuf. 8:​15-17) Mae Mwyaf Sanctaidd y tabernacl yn cynrychioli’r nefoedd, lle mae Jehofa. Mae’r “llen,” sy’n gwahanu’r Sanctaidd a’r Mwyaf Sanctaidd, yn cynrychioli corff cnawdol Iesu. Tra oedd ar y ddaear, doedd Iesu ddim yn gallu mynd i’r nefoedd a bod yn Archoffeiriad yn y deml ysbrydol. Drwy aberthu ei gorff cnawdol, fe wnaeth Iesu agor y ffordd i’r rhai eneiniog fyw yn y nefoedd am byth. Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd adael eu cyrff cnawdol er mwyn iddyn nhw allu derbyn eu gwobr nefol.—Heb. 10:​19, 20; 1 Cor. 15:50. w23.10 28 ¶13

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 19

Does gen i ddim digon o amser i fynd ymlaen i sôn am Gideon.—Heb. 11:32.

Ymatebodd Gideon yn addfwyn pan aeth dynion Effraim ato i gwyno. (Barn. 8:​1-3) Yn hytrach na digio, dangosodd ei fod yn ostyngedig drwy wrando ar eu pryderon a siarad yn garedig â nhw. Roedd hyn yn tawelu’r sefyllfa. Pan fydd henuriaid yn efelychu Gideon drwy wrando’n ofalus ac ymateb yn addfwyn, mae’n cyfrannu at heddwch y gynulleidfa. (Iago 3:13) Pan gafodd Gideon ei ganmol am y fuddugoliaeth dros Midian, cyfeiriodd y clod at Jehofa. (Barn. 8:​22, 23) Gall dynion apwyntiedig efelychu Gideon drwy roi’r clod i Jehofa am y pethau maen nhw’n eu cyflawni. (1 Cor. 4:​6, 7) Er enghraifft, os bydd henuriad yn cael ei ganmol am ei sgiliau dysgu, gallai dynnu sylw at Air Duw, ffynhonnell yr arweiniad, neu at yr hyfforddiant rydyn ni’n ei gael gan gyfundrefn Jehofa. Byddai’n dda i henuriaid ystyried a ydyn nhw’n tynnu gormod o sylw atyn nhw eu hunain. w23.06 4 ¶7-8

Dydd Sul, Gorffennaf 20

Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â’ch bwriadau chi.—Esei. 55:8.

Os nad ydyn ni’n cael beth rydyn ni wedi gweddïo amdano, gallwn ni ofyn: ‘Ydw i’n gweddïo am y peth iawn?’ Yn aml, rydyn ni’n meddwl ein bod ni’n gwybod yn union beth sydd orau inni. Ond efallai ni fydd y peth hwnnw yn dda inni yn y tymor hir. Efallai bod ’na ateb gwell i’r broblem rydyn ni’n gweddïo amdani. Ac mae’n bosib ein bod ni’n gweddïo am rywbeth sydd ddim yn unol â phwrpas Duw. (1 Ioan 5:14) Er enghraifft, ystyria esiampl rhieni a oedd wedi gofyn i Jehofa gadw eu plentyn yn y gwir. Gall hynny deimlo’n ddigon rhesymol. Ond ni fydd Jehofa byth yn gorfodi unrhyw un i’w wasanaethu. Mae eisiau i bob un ohonon ni, gan gynnwys ein plant, ddewis ei addoli. (Deut. 10:​12, 13; 30:​19, 20) Felly gallai’r rhieni weddïo am help i gyffwrdd â chalon y plentyn er mwyn iddo gael ei ysgogi i garu Jehofa a dod yn ffrind iddo.—Diar. 22:6; Eff. 6:4. w23.11 21 ¶5; 23 ¶12

Dydd Llun, Gorffennaf 21

Daliwch ati i gysuro eich gilydd.—1 Thes. 4:18.

Pam mae cysuro eraill yn rhan mor bwysig o ddangos cariad? Yn ôl un cyfeirlyfr am y Beibl, mae’r gair a ddefnyddiodd Paul ar gyfer “cysur” yn golygu sefyll wrth ochr person er mwyn ei annog wrth iddo fynd drwy broblemau difrifol. Felly, drwy roi cysur, gallwn ni helpu cyd-grediniwr sy’n cael amser anodd i godi a dal ati ar hyd y ffordd i fywyd. Bob amser rydyn ni’n cysuro’r brawd, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ei garu. (2 Cor. 7:​6, 7, 13.) Mae teimlo tosturi a rhoi cysur yn debyg iawn i’w gilydd. Ym mha ffordd? Mae person tosturiol yn cysuro eraill ac yn gwneud ei orau i’w helpu nhw pan fyddan nhw’n dioddef. Yn gyntaf, rydyn ni’n teimlo tosturi ac wedyn rydyn ni’n rhoi cysur. Sylwa ar sut mae Paul yn sôn am y tosturi a’r cysur mae Jehofa yn eu rhoi. Mae Paul yn disgrifio Jehofa fel “y Tad sy’n llawn trugaredd a Duw pob cysur.”—2 Cor. 1:3. w23.11 9-10 ¶8-10

Dydd Mawrth, Gorffennaf 22

Gallwn ni lawenhau pan fyddwn ni’n wynebu dioddefaint.—Rhuf. 5:3.

Mae disgyblion Crist yn disgwyl wynebu treialon. Ystyria esiampl yr apostol Paul. Dywedodd wrth y rhai yn Thesalonica: “Roedden ni’n arfer dweud wrthoch chi o flaen llaw y bydden ni’n dioddef erledigaeth, a dyna beth sydd wedi digwydd.” (1 Thes. 3:4) Ac ysgrifennodd at y Corinthiaid: “Rydyn ni eisiau i chi fod yn ymwybodol, frodyr, o’r treialon a wynebon ni . . . Roedden ni’n ansicr iawn hyd yn oed o’n bywydau.” (2 Cor. 1:8; 11:​23-27) Gall Cristnogion heddiw ddisgwyl dioddefaint o ryw fath. (2 Tim. 3:12) Wrth iti roi ffydd yn Iesu a’i ddilyn, efallai fod ffrindiau neu deulu wedi bod yn gas atat ti. A wyt ti wedi cael problem yn y gwaith oherwydd ceisio bod yn onest? (Heb. 13:18) A wyt ti wedi cael dy erlid gan y llywodraeth am bregethu? Ni waeth pa fath o drychineb rydyn ni’n ei wynebu, mae Paul yn dweud wrthon ni y dylen ni lawenhau. w23.12 10-11 ¶9-10

Dydd Mercher, Gorffennaf 23

Dych chi wedi achosi trwbwl go iawn i mi.—Gen. 34:30.

Roedd Jacob wedi wynebu llawer o broblemau. Gwnaeth dau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, ddod â chywilydd ar y teulu ac ar enw Jehofa. Ar ben hynny, bu farw Rachel, gwraig annwyl Jacob, wrth roi genedigaeth i’w hail blentyn. A phan oedd Jacob mewn oed, roedd yn gorfod symud i wlad yr Aifft oherwydd newyn difrifol. (Gen. 35:​16-19; 37:28; 45:​9-11, 28) Er gwaethaf y treialon hyn i gyd, ni wnaeth Jacob erioed golli ei ffydd yn Jehofa a’i addewidion. O ganlyniad, gwnaeth Jehofa fendithio Jacob. Er enghraifft, gwnaeth Jehofa fendithio Jacob â llawer o eiddo. A dychmyga pa mor ddiolchgar i Jehofa oedd Jacob pan welodd ef Joseff unwaith eto—y mab roedd yn meddwl fuodd farw flynyddoedd yn ôl! Gan fod Jacob yn ffrind mor agos i Jehofa, roedd yn gallu wynebu ei dreialon yn llwyddiannus. (Gen. 30:43; 32:​9, 10; 46:​28-30) Gallwn ninnau hefyd ddelio â threialon annisgwyl drwy gadw perthynas agos â Jehofa. w23.04 15 ¶6-7

Dydd Iau, Gorffennaf 24

Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.—Salm 23:1.

Mae Salm 23 yn gân sy’n mynegi hyder yng nghariad Jehofa a’i ofal tyner. Yn y salm hon, disgrifiodd Dafydd y berthynas gref a oedd rhyngddo ef a’i Fugail, Jehofa. Teimlodd Dafydd yn hollol saff yn gadael i Jehofa ddangos y ffordd iddo, ac roedd yn dibynnu arno’n llwyr. Roedd Dafydd yn gwybod byddai Jehofa’n dangos cariad tuag ato bob diwrnod o’i fywyd. Beth oedd yn rhoi gymaint o hyder iddo? Roedd Dafydd yn teimlo bod Jehofa’n wir yn gofalu amdano gan ei fod yn rhoi popeth roedd ei angen iddo. Roedd Dafydd hefyd yn mwynhau cael bod yn ffrind i Jehofa a chael ei ffafr. Dyna pam roedd yn gwybod, dim ots beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol, byddai Jehofa’n dal i ofalu am ei anghenion. Gan fod tryst Dafydd yng nghariad tyner Jehofa yn fwy pwerus na’i bryderon, roedd yn hapus ac yn fodlon.—Salm 16:11. w24.01 28-29 ¶12-13

Dydd Gwener, Gorffennaf 25

Rydw i gyda chi bob dydd hyd gyfnod olaf y system hon.—Math 28:20.

Ers yr Ail Ryfel Byd, mae pobl Jehofa mewn nifer mawr o wledydd wedi mwynhau rhywfaint o heddwch a rhyddid i bregethu. A dweud y gwir, mae’r gwaith wedi ffynnu. Heddiw, mae aelodau’r Corff Llywodraethol yn parhau i edrych i’r Crist am arweiniad. Maen nhw eisiau i’r arweiniad maen nhw’n ei roi i’r brodyr adlewyrchu’r ffordd mae Jehofa ac Iesu yn gweld pethau. Mae’r Corff Llywodraethol yn defnyddio arolygwyr cylchdaith a henuriaid i roi arweiniad i’r cynulleidfaoedd. Mae henuriaid eneiniog, ac o ganlyniad, pob henuriad yn y gynulleidfa, yn ‘llaw dde’ Iesu. (Dat. 2:1) Wrth gwrs, mae’r henuriaid hyn yn amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau. Gwnaeth Moses a Josua gamgymeriadau weithiau, a’r apostolion hefyd. (Num. 20:12; Jos. 9:​14, 15; Rhuf. 3:23) Ond mae Crist yn dal i arwain y gwas ffyddlon a’r henuriad yn ofalus, a bydd yn parhau i wneud hynny. Felly, mae gynnon ni bob rheswm i drystio’r arweiniad mae’n ei roi drwy’r rhai mae ef wedi eu penodi i gymryd y blaen. w24.02 23-24 ¶13-14

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 26

Byddwch yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl.—Eff. 5:1.

Heddiw, gallwn ni blesio Jehofa drwy siarad amdano gyda chynhesrwydd, diolchgarwch, a chariad. Ar y weinidogaeth, rydyn ni’n cofio ein prif nod—denu pobl at Jehofa er mwyn iddyn nhw deimlo fel rydyn ni am ein Tad nefol. (Iago 4:8) Rydyn ni’n llawenhau wrth ddangos i bobl sut mae’r Beibl yn disgrifio Jehofa, yn datgelu ei gariad, ei gyfiawnder, ei ddoethineb, ei bŵer, a’i rinweddau apelgar eraill. Rydyn ni hefyd yn moli Jehofa a’i blesio wrth geisio ei efelychu. Drwy wneud hynny rydyn ni’n sefyll allan yn wahanol yn y byd drygionus hwn, ac efallai bydd pobl yn sylwi ac yn gofyn pam. (Math. 5:​14-16) Wrth inni dreulio amser â nhw mae’n bosib cawn ni gyfle i esbonio. O ganlyniad, mae pobl ddiffuant yn cael eu denu at ein Duw. Pan ydyn ni’n moli Jehofa yn y ffyrdd hyn, rydyn ni’n dod â llawenydd i’n Tad.—1 Tim. 2:​3, 4. w24.02 10 ¶7

Dydd Sul, Gorffennaf 27

[Dylai] fedru annog eraill . . . a cheryddu.—Titus 1:9.

Er mwyn bod yn frawd aeddfed, bydd rhaid iti ddatblygu sgiliau ymarferol. Byddan nhw’n dy helpu di i ysgwyddo cyfrifoldebau yn y gynulleidfa, i gadw swydd er mwyn edrych ar ôl dy hun neu dy deulu, ac i gael perthynas dda ag eraill. Er enghraifft, dysga i ddarllen ac ysgrifennu yn dda. Mae’r Beibl yn dweud bod dyn hapus a llwyddiannus yn treulio amser yn darllen Gair Duw ac yn myfyrio arno. (Salm 1:​1-3) Drwy ddarllen y Beibl bob dydd, byddi di’n dod i adnabod ffordd Jehofa o feddwl. Bydd hyn yn dy helpu i feddwl yn glir ac i resymu’n dda. (Diar. 1:​3, 4) Mae ein brodyr a’n chwiorydd yn edrych i ddynion galluog i arwain a rhoi cyngor. Bydd darllen ac ysgrifennu’n dda yn dy helpu di i baratoi anerchiadau a sylwadau a fydd yn dysgu eraill a chryfhau eu ffydd. Bydd hefyd yn dy helpu di i gymryd nodiadau a fydd yn dy helpu di i gryfhau dy ffydd dy hun a chalonogi eraill. w23.12 26-27 ¶9-11

Dydd Llun, Gorffennaf 28

[Mae’r] un sydd mewn undod â chi yn fwy na’r un sydd mewn undod â’r byd.—1 Ioan 4:4.

Pan wyt ti’n teimlo’n ofnus, meddylia am beth mae Jehofa yn mynd i’w wneud yn y dyfodol ar ôl cael gwared ar Satan. Roedd dangosiad yng nghynhadledd ranbarthol 2014 yn dangos tad yn trafod gyda’i deulu sut byddai 2 Timotheus 3:​1-5 yn gallu cael ei ysgrifennu’n wahanol petasai’n disgrifio’r Baradwys: “Yn y byd newydd bydd gynnon ni’r amser mwyaf hapus. Oherwydd bydd dynion yn caru eraill, yn caru trysorau ysbrydol, yn wylaidd, yn ostyngedig, yn moli Duw, yn ufudd i’w rhieni, yn ddiolchgar, yn ffyddlon, gyda chariad mawr tuag at eu teulu, yn barod i gytuno â phobl eraill, yn siarad yn dda am eraill, gyda hunanreolaeth, yn addfwyn, gyda chariad at ddaioni, yn ddibynadwy, yn barod i ildio, heb feddwl gormod ohonyn nhw eu hunain, yn caru Duw yn hytrach na charu pleser, wedi eu cymell gan ddefosiwn Duwiol, cadw’n agos at y bobl hyn.” A wyt ti’n trafod bywyd yn y byd newydd gyda dy deulu neu gyd-addolwyr? w24.01 6 ¶13-14

Dydd Mawrth, Gorffennaf 29

Rwyt ti wedi fy mhlesio i’n fawr iawn.—Luc 3:22.

Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda’i bobl!” (Salm 149:4) Am beth calonogol i wybod! Ond yn anffodus, weithiau gall rhai deimlo mor ddigalon nes eu bod nhw’n amau a ydyn nhw’n gallu plesio Jehofa fel unigolion. Gwnaeth llawer o bobl ffyddlon Jehofa yn adeg y Beibl hefyd brwydro yn erbyn teimladau o’r fath. (1 Sam. 1:​6-10; Job 29:​2, 4; Salm 51:11) Mae’r Beibl yn dangos yn glir gall pobl amherffaith blesio Jehofa. Sut? Mae’n rhaid inni ymarfer ffydd yn Iesu a chael ein bedyddio. (Ioan 3:16) Drwy wneud hynny, rydyn ni’n dangos yn gyhoeddus ein bod ni wedi edifarhau am ein pechodau ac wedi addo i Dduw i wneud ei ewyllys. (Act. 2:38; 3:19) Mae Jehofa wrth ei fodd pan ydyn ni’n cymryd y camau hyn i feithrin perthynas ag ef. Os ydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gadw ein haddewid i Jehofa, rydyn ni’n ei blesio, ac mae’n ein hystyried ni’n ffrindiau iddo.—Salm 25:14. w24.03 26 ¶1-2

Dydd Mercher, Gorffennaf 30

Dydyn ni ddim yn gallu stopio siarad am y pethau rydyn ni wedi eu gweld a’u clywed.—Act. 4:20.

Os bydd yr awdurdodau seciwlar yn mynnu ein bod ni’n stopio pregethu, gallwn ni efelychu’r disgyblion drwy ddal ati beth bynnag. Gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn ein helpu ni i wneud ein gweinidogaeth. Felly, gweddïa am ddewrder a doethineb. Gofynna i Jehofa am help i ddelio â dy broblemau. Mae llawer ohonon ni’n wynebu problemau fel salwch, colli anwylyn, sefyllfa anodd yn y teulu, erledigaeth, neu rywbeth arall. Ac mae pethau fel pandemigau neu ryfeloedd wedi gwneud y problemau hyn yn anoddach byth. Dyweda wrth Jehofa yn union sut rwyt ti’n teimlo, fel byddet ti gyda ffrind agos. A thrystia y bydd Jehofa yn “gweithredu ar dy ran.” (Salm 37:​3, 5) Bydd dal ati i weddïo yn ein helpu ni i ‘ddyfalbarhau pan fyddwn ni’n wynebu problemau.’ (Rhuf. 12:12) Mae Jehofa yn gwybod yn union beth mae ei bobl yn ei wynebu—“mae’n eu clywed nhw’n galw” am help.—Salm 145:​18, 19. w23.05 5-6 ¶12-15

Dydd Iau, Gorffennaf 31

Parhewch i wneud yn siŵr o’r hyn sy’n dderbyniol i’r Arglwydd.—Eff. 5:10.

Pan fydd rhaid inni wneud penderfyniadau pwysig, mae’n hanfodol inni “ddeall beth ydy ewyllys Jehofa” a gweithredu’n unol â hynny. (Eff. 5:17) Wrth inni ddod o hyd i egwyddorion o’r Beibl sy’n berthnasol i’n sefyllfa ni, rydyn ni’n wir yn ceisio meddylfryd Duw ar y mater. Ac yna, wrth inni roi’r egwyddorion hyn ar waith, byddwn ni’n gallu gwneud penderfyniadau da. Mae’r “un drwg,” ein gelyn Satan, eisiau ein cadw ni’n rhy brysur i wasanaethu Duw. (1 Ioan 5:19) Byddai’n hawdd iawn i Gristion flaenoriaethu arian, addysg, neu waith. Er nad ydy’r pethau hyn yn anghywir ynddyn nhw eu hunain, byddai eu ceisio nhw’n gyntaf yn arwydd fod person yn dechrau meddwl fel pobl y byd. Ddylai’r pethau hyn byth gymryd lle ein gwasanaeth i Jehofa. w24.03 24 ¶16-17

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu