SGWRS Â CHYMYDOG
Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli?—Rhan 1
Dyma esiampl o sgwrs bydd Tystion Jehofa yn cael wrth fynd o dŷ i dŷ. Gadewch inni ddychmygu bod Tyst o’r enw Carwyn wedi dod i gartref dyn o’r enw Siôn.
DALIWCH ATI I “CHWILIO” AM DDOETHINEB
Carwyn: Siôn, dw i wir wedi mwynhau ein sgyrsiau rheolaidd am y Beibl.a Tro diwethaf oedden ni’n siarad, wnaethoch chi ofyn cwestiwn am Deyrnas Dduw. Wnaethoch chi ofyn pam mae Tystion Jehofa yn credu bod y Deyrnas wedi dechrau rheoli yn y flwyddyn 1914.
Siôn: Do, o’n i’n darllen un o’ch cyhoeddiadau, a oedd yn dweud bod Teyrnas Dduw wedi dechrau rheoli ym 1914. Wnaeth hynny godi cwestiwn yn fy meddwl am eich bod yn dweud bod chi’n seilio eich daliadau ar y Beibl.
Carwyn: Mae hynny’n wir.
Siôn: Wel, dw i wedi darllen y Beibl o glawr i glawr. Ond dw i erioed wedi gweld adnod yn y Beibl sy’n sôn am 1914. Felly es i i Feibl ar-lein a chwilio am “1914.” Ac fel o’n i’n disgwyl, doedd ’na ddim canlyniadau.
Carwyn: Mae rhaid imi’ch canmol am ddau reswm, Siôn. Yn gyntaf, am eich bod chi wedi darllen y Beibl cyfan. Mae’n rhaid eich bod chi wir yn caru Gair Duw.
Siôn: Wel, ydw. Does ’na ddim byd tebyg iddo.
Carwyn: Dw i’n cytuno. Yn ail, dw i eisiau’ch canmol am droi i’r Beibl i drio cael ateb i’ch cwestiwn. Wnaethoch chi’n union beth mae’r Beibl yn ein hannog ni i wneud: sef i ddal ati i “chwilio” am ddoethineb.b Mae’n dda bod chi’n gwneud ymdrech fel ’na.
Siôn: Diolch. Dw i’n awyddus iawn i ddysgu mwy. Wnes i fwy o ymchwil a chael hyd i wybodaeth am 1914 yn y llyfr ’dyn ni wedi bod yn astudio. Mae’n sôn am freuddwyd gafodd rhyw frenin—oedd hi am goeden fawr a gafodd ei thorri i lawr ac aildyfu wedyn, neu rywbeth fel ’na.
Carwyn: A, ie. Dyna’r broffwydoliaeth yn Daniel pennod 4. Mae’n sôn am freuddwyd a gafodd Nebwchadnesar, Brenin Babilon.
Siôn: Ie, dyna hi. Darllenais y broffwydoliaeth sawl gwaith drosodd. Ond a dweud y gwir, dw i’n methu gweld beth ydy’r cysylltiad â Theyrnas Dduw na’r flwyddyn 1914.
Carwyn: Wyddoch chi beth Siôn, doedd hyd yn oed y proffwyd Daniel ddim yn deall yn llawn yr hyn oedd e wedi cael ei ysbrydoli i ysgrifennu!
Siôn: Nac oedd?
Carwyn: Nac oedd. Mae’n dweud yn Daniel 12:8: “Rôn i wedi ei glywed, ond ddim yn deall.”
Siôn: Dim fi yw’r unig un felly. Mae hynny’n gwneud imi deimlo rywfaint yn well.
Carwyn: Y gwir amdani yw, doedd Daniel ddim yn deall am nad doedd Duw wedi bwriadu i bobl ddeall ystyr y proffwydoliaethau yn llyfr Daniel yn llawn bryd hynny. Ond nawr, yn ein hamser ni, ’dyn ni’n gallu eu deall nhw yn llawnach.
Siôn: Pam ’dych chi’n dweud hynny?
Carwyn: Wel, sylwch beth mae’n dweud yn yr adnod nesaf. Mae Daniel 12:9 yn dweud: “Mae’r neges yma i’w gadw’n gyfrinachol ac wedi ei selio nes bydd y diwedd wedi dod.” Felly byddai’r proffwydoliaethau hyn dim ond yn cael eu deall llawer hwyrach ymlaen, yn ystod amser “y diwedd.” Fel byddwn ni’n trafod yn ein hastudiaeth Feiblaidd, mae’r dystiolaeth i gyd yn dangos ein bod ni nawr yn byw yn y cyfnod hwnnw.c
Siôn: Felly, allwch chi esbonio proffwydoliaeth Daniel imi?
Carwyn: Mi wna i fy ngorau.
BREUDDWYD NEBWCHADNESAR
Carwyn: I ddechrau, gadewch imi esbonio’n fras beth welodd y Brenin Nebwchadnesar yn ei freuddwyd. Wedyn gallwn ni drafod ei ystyr.
Siôn: Iawn.
Carwyn: Yn y freuddwyd, gwelodd Nebwchadnesar anferth o goeden fawr a oedd yn ymestyn holl ffordd i’r nef. Yna mi glywodd negesydd Duw yn gorchymyn i’r goeden gael ei thorri i lawr. Ond, dywedodd Duw i adael y boncyff â’i gwreiddiau yn y ddaear. Ar ôl “saith cyfnod,” byddai’r goeden yn ail dyfu.d Yn wreiddiol roedd y broffwydoliaeth yn cyfeirio at y Brenin Nebwchadnesar ei hun. Er ei fod yn frenin uchel ei statws—fel y goeden oedd yn ymestyn hyd y nef—cafodd ei dorri i lawr am “saith cyfnod.” Ydych chi’n cofio beth ddigwyddodd?
Siôn: Na, dw i ddim yn cofio.
Carwyn: Popeth yn iawn. Mae’r Beibl yn dangos bod Nebwchadnesar wedi mynd o’i gof, am saith mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, doedd e ddim yn gallu rheoli fel brenin. Ond ar ddiwedd y saith cyfnod, daeth Nebwchadnesar yn ôl i’w iawn bwyll a dechrau rheoli eto.e
Siôn: Iawn dw i’n deall hyd yn hyn. Ond beth sydd gan hyn i wneud efo Teyrnas Dduw a’r flwyddyn 1914?
Carwyn: Yn fras, mae gan y broffwydoliaeth ddau gyflawniad. Digwyddodd y cyflawniad cyntaf pan gafodd teyrnasiad y Brenin Nebwchadnesar ei atal dros dro. Roedd yr ail gyflawniad yn golygu atal teyrnasiad Duw dros dro. Felly yr ail gyflawniad sy’n berthnasol i Deyrnas Dduw.
Siôn: Sut ’dych chi’n gwybod bod gan y broffwydoliaeth ail gyflawniad sy’n ymwneud â Theyrnas Dduw?
Carwyn: Yn gyntaf, mae’r broffwydoliaeth ei hun yn cyfeirio ati. Yn ôl Daniel 4:17, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig, bwriad y broffwydoliaeth oedd “i bawb byw wybod mai’r Goruchaf sy’n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i’r sawl a fyn.” A wnaethoch chi sylwi ar yr ymadrodd “teyrnasoedd pobl”?
Siôn: Do, mae’n dweud mai’r “Goruchaf sy’n rheoli teyrnasoedd pobl.”
Carwyn: Yn union. Pwy ’dych chi’n meddwl yw’r “Goruchaf”?
Siôn: Mae rhaid bod o’n siarad am Dduw.
Carwyn: Dyna chi. Felly mae hynny’n dweud wrthon ni nad yw’r broffwydoliaeth yn sôn am Nebwchadnesar yn unig. Mae’n ymwneud â “theyrnasoedd pobl” hefyd—hynny yw, rheolaeth Duw dros ddynolryw. Mae hynny’n gwneud synnwyr pan ’dyn ni’n edrych ar y broffwydoliaeth yn ei chyd-destun.
Siôn: Beth ’dych chi’n meddwl?
THEMA GANOLOG Y LLYFR
Carwyn: Mae llyfr Daniel yn cyfeirio at yr un pwnc, dro ar ôl tro. Mae’n cyfeirio’n aml at sefydliad Teyrnas Dduw o dan reolaeth ei Fab, Iesu. Er enghraifft, gadewch inni droi’n ôl gwpl o benodau. Wnewch chi plîs ddarllen Daniel 2:44?
Siôn: Iawn. Mae’n dweud: “Yn amser y brenhinoedd yna bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. Fydd y deyrnas yma byth yn cael ei choncro a’i chymryd drosodd gan bobl eraill. Bydd yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.”
Carwyn: Diolch yn fawr. A fyddech chi’n dweud bod yr adnod hon yn cyfeirio at Deyrnas Dduw?
Siôn: Hmm. Dw i ddim yn siŵr.
Carwyn: Wel, sylwch ar ddiwedd yr adnod mae’n dweud am y Deyrnas y bydd “yn aros am byth.” Mae hynny’n wir am Deyrnas Dduw, ond dydy e ddim yn rhywbeth gallwn ni ddweud am lywodraeth ddynol, nac yw e?
Siôn: Nac ydy, mae’n debyg.
Carwyn: Dyma broffwydoliaeth arall yn llyfr Daniel sy’n cyfeirio at Deyrnas Dduw. Y broffwydoliaeth sydd wedi cael ei chofnodi yn Daniel 7:13, 14, Beibl Cymraeg Diwygiedig. Ynglŷn â rheolwr y dyfodol, mae’r broffwydoliaeth yn dweud: “Rhoddwyd iddo arglwyddiaeth a gogoniant a brenhiniaeth, i’r holl bobloedd o bob cenedl ac iaith ei wasanaethu. Y mae ei arglwyddiaeth yn dragwyddol a digyfnewid, a’i frenhiniaeth yn un na ddinistrir.” Oes ’na rywbeth yn y broffwydoliaeth sy’n swnio’n gyfarwydd?
Siôn: Mae’n cyfeirio at frenhiniaeth.
Carwyn: Dyna chi. Gair arall am deyrnas yw frenhiniaeth. Ond nid unrhyw deyrnas neu frenhiniaeth. Sylwch dywedodd y byddai gan y Deyrnas awdurdod dros “bobloedd o bob cenedl ac iaith.” Mewn geiriau eraill, byddai’r deyrnas hon yn teyrnasu yn fyd-eang.
Siôn: Wnes i ddim sylweddoli mai dyna oedd ystyr yr adnod, ond ’dych chi’n iawn. Dyna beth mae’n ei ddweud.
Carwyn: Sylwch beth arall mae’r broffwydoliaeth yn ei ddweud: “Y mae ei arglwyddiaeth yn dragwyddol a digyfnewid, a’i frenhiniaeth yn un na ddinistrir.” Mae hynny’n swnio’n debyg iawn i’r broffwydoliaeth wnaethon ni ddarllen yn Daniel 2:44, on’d yw hi?
Siôn: Ydy, mae hi.
Carwyn: Gadewch inni adolygu beth ’dyn ni wedi trafod hyd yn hyn. Cafodd y broffwydoliaeth yn Daniel pennod 4 ei roi er mwyn “i bawb byw wybod mai’r Goruchaf sy’n rheoli teyrnasoedd pobl.” Mae hyn yn dangos bod gan y broffwydoliaeth gyflawniad mwy na’r hyn oedd yn ymwneud â Nebwchadnesar. Drwy gydol darlleniad llyfr Daniel, cawn hyd i broffwydoliaethau ynglŷn â sefydlu Teyrnas Dduw o dan reolaeth ei Fab. Felly, ydych chi’n meddwl ei fod yn rhesymol i ddod i’r casgliad fod gan y broffwydoliaeth yn Daniel pennod 4 rhywbeth i’w wneud gyda Theyrnas Dduw?
Siôn: Ydy, mae’n debyg. Ond dw i’n dal ddim yn gweld y cysylltiad efo 1914.
“MAE HYN DROS SAITH CYFNOD”
Carwyn: Wel, cofiwch fod y goeden yn y broffwydoliaeth yn cynrychioli’r Brenin Nebwchadnesar. Cafodd ei deyrnasiad ei atal dros dro pan dorrwyd y goeden i lawr a’i gadael am saith cyfnod—hynny yw, pan aeth e o’i gof am gyfnod. Daeth y saith cyfnod i ben pan ddaeth Nebwchadnesar yn ôl i’w iawn bwyll ac ailafael yn ei orsedd. Yn ail gyflawniad y broffwydoliaeth, byddai teyrnasiad Duw yn cael ei atal am gyfnod o amserond nid oherwydd unrhyw ddiffyg ar ran Duw.
Siôn: Beth ’dych chi’n meddwl?
Carwyn: Yn adeg y Beibl, y dywediad oedd fod brenhinoedd Israel a oedd yn rheoli yn Jerwsalem yn eistedd ar “orsedd Jehofa.”f Roedden nhw’n cynrychioli Duw wrth lywodraethu ei bobl. Felly roedd teyrnasiad y brenhinoedd hynny mewn gwirionedd yn fynegiad o deyrnasiad Duw. Ond, mewn amser, aeth y rhan fwyaf o’r brenhinoedd hynny yn anufudd i Dduw a dilynodd y rhan fwyaf o’u deiliaid eu hesiampl ddrwg. Oherwydd anufudd-dod yr Israeliaid, wnaeth Duw adael iddyn nhw gael eu concro gan y Babiloniaid yn 607 COG. O’r adeg honno ymlaen, doedd ’na ddim brenhinoedd bellach yn cynrychioli Jehofa yn Jerwsalem. Yn yr ystyr hwnnw felly, cafodd teyrnasiad Duw ei atal dros dro. Ydych chi gyda mi hyd yn hyn?
Siôn: Ydw, dw i’n meddwl.
Carwyn: Felly roedd 607 COG yn dynodi dechreuad y saith cyfnod, neu’r cyfnod pan fyddai teyrnasiad Duw yn cael ei atal. Ar ddiwedd y saith cyfnod, byddai Duw yn penodi rheolwr newydd i’w gynrychioli—a’r tro hwn, rhywun yn y nef. Dyna pryd byddai’r proffwydoliaethau eraill wnaethon ni ddarllen amdanyn nhw yn Daniel yn cael eu cyflawni. Felly dyma’r cwestiwn mawr: Pryd daeth y saith cyfnod i ben? Os gallwn ni ateb y cwestiwn hwnnw, byddwn ni’n gwybod pryd dechreuodd Teyrnas Dduw deyrnasu.
Siôn: Wela i. Ga i ddyfalu—daeth y saith cyfnod i ben ym 1914?
Carwyn: Yn union! ’Dych chi wedi ei hoelio hi.
Siôn: Ond sut ’dyn ni’n gwybod hynny?
Carwyn: Wel, yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, awgrymodd Iesu nad oedd y saith cyfnod wedi dod i ben bryd hynny.g Felly mae rhaid bod hyn yn cyfeirio at amser hir iawn. Dechreuodd y saith cyfnod gannoedd o flynyddoedd cyn i Iesu ddod i’r ddaear, a wnaethon nhw barhau tan ryw dro ar ôl iddo fynd yn ôl i’r nef. Cofiwch, hefyd, nad oedd ystyr proffwydoliaethau Daniel i ddod yn glir tan “amser y diwedd.”h Mae’n ddiddorol nodi, bod myfyrwyr diffuant y Beibl yn ystod rhan olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi dangos diddordeb yn y proffwydoliaethau hyn ac wedi eu hastudio nhw yn ofalus iawn. Daethon nhw i’r casgliad y byddai’r saith cyfnod yn dod i ben yn y flwyddyn 1914. Mae digwyddiadau mawr ers hynny yn cadarnhau mai 1914 oedd y flwyddyn y dechreuodd Teyrnas Dduw reoli yn y nef. Dyna’r flwyddyn pan gychwynnodd y byd hwn ei ddyddiau olaf, hynny yw amser y diwedd. Nawr, mae’n debyg fod hyn yn dipyn i gymryd i mewn . . .
Siôn: Yn bendant dw i am ddarllen trwy hyn eto imi gael y cwbl yn glir yn fy meddwl.
Carwyn: Peidiwch â becso. Wnaeth hi gymryd amser i mi weld sut mae’r holl ddarnau yn ffitio. Ond dw i’n gobeithio o leiaf, bod ein sgwrs wedi eich helpu i weld bod Tystion Jehofa yn seilio’r hyn maen nhw’n credu am y Deyrnas ar y Beibl.
Siôn: Do dw i wedi sylwi hynny. Mae’r ffaith eich bod chi’n dibynnu ar y Beibl am eich daliadau wastad wedi creu argraff arna i.
Carwyn: A dw i’n gallu gweld bod dymuniad tebyg gyda chi. Fel dywedais i, mae hyn yn llawer i feddwl amdano ar unwaith. Mae’n debyg bydd gyda chi gwestiynau o hyd. Er enghraifft, ’dyn ni wedi sefydlu bod y saith cyfnod yn cyfeirio at Deyrnas Dduw a’u bod nhw wedi dechrau yn 607 COG. Ond sut yn union ’dyn ni’n gwybod bod y saith cyfnod wedi dod i ben ym 1914?i
Siôn: Ie, mae hyn wedi croesi fy meddwl.
Carwyn: Mae’r Beibl ei hun yn helpu ni weithio ma’s union hyd y saith cyfnod. Fyddech chi’n hoffi edrych i mewn i hynny tro nesaf dw i yma?j
Siôn: Fydda i’n hoffi hynny.
Oes gynnoch chi bwnc Beiblaidd rydych chi wedi bod yn meddwl amdano? Ydych chi eisiau holi ynglŷn ag unrhyw un o ddaliadau neu arferion crefyddol Tystion Jehofa? Os felly, peidiwch â dal yn ôl rhag gofyn i un o Dystion Jehofa. Bydd ef neu hi yn hapus i drafod y materion hyn gyda chi.
a Drwy gyfrwng y rhaglen o astudio’r Beibl yn y cartref sy’n rhad ac am ddim, mae Tystion Jehofa yn aml yn cael trafodaethau gydag eraill am y Beibl.
b Diarhebion 2:3-5.
c Gweler pennod 9 y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa. Hefyd ar gael ar www.pr2711.com/cy.
d Daniel 4:13-17, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
e Daniel 4:20-36, BCND.
g Yn ei broffwydoliaeth am y dyddiau diwethaf, dywedodd Iesu: “Bydd pobl o genhedloedd eraill yn concro Jerwsalem [a oedd yn cynrychioli teyrnasiad Duw] a’i sathru dan draed hyd nes i amser y cenhedloedd hynny ddod i ben.” (Luc 21:24) Roedd yr ataliad ar deyrnasiad Duw yn dal mewn grym yn adeg Iesu a byddai’n parhau felly tan y dyddiau diwethaf.
h Daniel 12:9.
i Gweler tudalennau 215-218 o’r llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? Hefyd ar gael ar www.pr2711.com/cy.
j Bydd erthygl nesaf y gyfres hon yn ystyried adnodau a fydd yn ein helpu ni weithio allan pa mor hir yw’r saith cyfnod.