Pan Fo Cymar yn Anffyddlon
MAE anffyddlondeb yn y briodas yn ergyd drom. Mae’n wir bod rhai wedi gallu maddau eu priod edifar ac ailadeiladu eu perthynas.a P’un a yw’r briodas yn goroesi neu beidio, bydd y cymar dieuog yn wastad yn ei chael yn brofiad hynod o boenus. Sut gall y rhain ddelio â’u hemosiynau bregus?
ADNODAU O’R BEIBL A ALL HELPU
Er gwaethaf eu loes calon, mae sawl cymar dieuog wedi cael cysur o’r Ysgrythurau. Maen nhw wedi dysgu bod Duw yn gweld eu dagrau ac yn teimlo eu poen.—Malachi 2:13-16.
“Pan oeddwn i’n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i’n llawen.”—Salm 94:19.
“Wrth imi ddarllen yr adnod honno, wnes i ddychmygu Jehofa yn fy nghefnogi ac yn fy nghysuro yn dyner, fel y byddai tad cariadus yn ei wneud,” meddai Bill.
“Ti’n ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon.”—Salm 18:25.
Dywedodd Carmen, ar ôl i’w gŵr odinebu dros gyfnod o fisoedd, “Oedd fy ngŵr wedi bod yn anffyddlon, ond o’n i’n gallu ymddiried yn ffyddlondeb Jehofa. Fyddai ef byth yn fy siomi.”
“Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen. . . . Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg.”—Philipiaid 4:6, 7.
“Darllenais yr adnodau hyn drosodd a throsodd, ac wrth imi weddïo a gweddïo, rhoddodd Duw heddwch yn fy mywyd.” meddai Sasha.
Roedd pawb a ddyfynnwyd uchod yn teimlo fel rhoi’r ffidil yn y to ar brydiau. Ond roedden nhw’n ymddiried yn Nuw a chawson nhw nerth o’i Air. Yn ôl Bill: “Rhoddodd fy ffydd ystyr i fy mywyd pan oedd popeth arall yn mynd ar chwâl. Er imi dreulio cyfnod yn cerdded drwy’r ‘ceunant tywyll dychrynllyd,’ roedd Duw gyda mi.”—Salm 23:4.
a Am drafodaeth ar p’un ai maddau neu beidio, gweler y gyfres yn Deffrwch! Saesneg 22 Ebrill, 1999, “When a Mate Is Unfaithful.”