LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp19 Rhif 2 tt. 6-7
  • Pan Fo Anwylyn yn Marw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pan Fo Anwylyn yn Marw
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • AWGRYMIADAU I’CH HELPU I YMDOPI
  • Sut ’Medra’ i Fyw Gyda’m Galar?
    Pan Fo Rhywun ’Rydych yn ei Garu yn Marw
  • Ai Peth Normal Ydi Teimlo Fel Hyn?
    Pan Fo Rhywun ’Rydych yn ei Garu yn Marw
  • Crio Gyda’r Rhai Sy’n Crio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Beth i’w Ddisgwyl?
    Deffrwch!—2018
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2019
wp19 Rhif 2 tt. 6-7
Cwpl sy’n galaru yn syllu i’r pellter tra’n cydio yn ei gilydd ar y traeth

Pan Fo Anwylyn yn Marw

“Pan fu farw fy mrawd hŷn yn sydyn, o’n i’n anobeithio. Fisoedd wedyn, byddai atgofion ohono yn fy nharo yn sydyn a gwneud imi deimlo poen fel cyllell yn fy nhrywanu. Ar adegau, o’n i’n ddig. Pam oedd rhaid iddo farw? Teimlais yn euog am beidio â threulio mwy o amser gydag ef.”—Vanessa, Awstralia.

OS YDYCH chi wedi colli un o’ch anwyliaid, efallai eich bod chithau hefyd wedi profi llawer o emosiynau, fel gofid, unigrwydd, a rhwystredigaeth, neu ddicter, euogrwydd, ac ofn. Efallai ichi hyd yn oed ofyn, ‘a yw bywyd yn dal yn werth ei fyw?’

Cofiwch, dydy galar yn sicr ddim yn arwydd o wendid. Mae’n dangos dyfnder eich cariad at eich anwylyn. Ond, a yw hi’n bosib lleddfu poen eich galar i ryw raddau?

AWGRYMIADAU I’CH HELPU I YMDOPI

Er y gall eich poen deimlo’n ddiddiwedd, efallai y bydd yr awgrymiadau canlynol yn gysur ichi:

CANIATEWCH AMSER I ALARU

Nid yw pawb yn galaru yn yr un ffordd, nac am yr un hyd. Eto, mae crio yn gallu lleddfu eich poen emosiynol. Dywedodd Vanessa, a ddyfynnwyd ynghynt: “Byddwn i’n wylo’n aml am fy mod angen rhyddhad o’r boen.” Ychwanegodd Sofía, a gollodd ei chwaer yn sydyn: “Mae meddwl am beth ddigwyddodd yn boenus iawn. Mae fel agor briw heintus a’i lanhau. Mae’r boen bron yn annioddefol, ond mae’n caniatáu i’r briw wella.”

SIARADWCH AM EICH TEIMLADAU

Mae’n ddealladwy os byddwch eisiau llonydd, ond mae galar yn faich trwm i’w gario heb gymorth. Ar ôl colli ei dad, dywedodd Jared, sy’n 17: “Siaradais ag eraill am fy nheimladau. Dw i ddim yn meddwl bod fy ngeiriau wedi gwneud llawer o synnwyr, ond o’n i jest yn falch o allu siarad am y peth.” Ac yn ôl Janice, a ddyfynnwyd ynghynt: “Oedd siarad ag eraill yn gysur mawr. Do’n i ddim yn teimlo mor unig am fod eraill yn fy neall.”

DERBYNIWCH GYMORTH

Yn ôl un meddyg: “Pan mae’r rhai sy’n galaru yn derbyn help gan eu ffrindiau a’u perthnasau yn fuan wedi eu colled, mae’n aml yn haws iddyn nhw oddef eu galar a’i drechu.” Esboniwch wrth eich ffrindiau sut gallan nhw fod o gymorth ichi, achos mae’n siŵr bod ganddyn nhw awydd i helpu, ond heb wybod sut.—Diarhebion 17:17.

CLOSIWCH AT DDUW

Esboniodd Tina: “Pan gollais fy ngŵr i ganser yn sydyn, o’n i’n methu troi ato mwyach i rannu fy nheimladau, felly byddwn i’n bwrw fy mol i Dduw! Bob bore byddwn i’n gweddïo am help i wynebu’r diwrnod. Ces i help ganddo mewn mwy o ffyrdd nag y gallaf eu rhifo.” Dywedodd Tarsha, a oedd yn 22 mlwydd oed pan fu farw ei mam: “Ces i wir gysur drwy ddarllen y Beibl yn ddyddiol. Rhoddodd hynny rywbeth calonogol imi feddwl amdano.”

DYCHMYGWCH YR ATGYFODIAD

Ychwanegodd Tina: “Ar y dechrau, doedd y gobaith o weld fy ngŵr eto yn yr atgyfodiad ddim yn fy nghysuro i, achos o’n i a’r meibion ei angen bryd hynny. Ond, heddiw, bedair blynedd yn ddiweddarach, dw i’n glynu wrth y gobaith hwn. Dyna sy’n fy nghynnal. Dw i’n dychmygu ei weld eto, a hyn sy’n rhoi heddwch dwfn a llawenydd imi!”

Mae’n annhebygol y bydd eich gofid yn diflannu’n syth. Ond, gall profiad Vanessa eich calonogi. Dywedodd, “’Dych chi’n meddwl na fyddwch chi byth yn dod drwyddi, ond mi wnewch chi weld dyddiau gwell.”

Mae’n debyg y byddwch chi’n dal i fethu cwmni eich anwylyn, ond er hynny, mae bywyd yn dal yn werth ei fyw. Gyda chymorth cariadus Duw, mae’n bosib ichi barhau i fwynhau cyfeillgarwch cynnes ag eraill, a chael pwrpas i’ch bywyd. Ac yn fuan, fe fydd Duw yn atgyfodi’r meirw. Mae Ef eisiau ichi allu cofleidio eich anwylyn eto. Yna, bydd y boen yn eich calon wedi diflannu am byth!

Adnodau o’r Beibl a All Helpu

Mae’ch galar a’ch gofid yn cyffwrdd â chalon Duw.

Yn ôl un o ysgrifenwyr y Beibl: “Ti’n casglu fy nagrau mewn costrel. Mae’r cwbl wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr.”—Salm 56:8.

Gallwch dywallt eich calon o flaen Duw.

‘Dw i’n tywallt y cwbl sy’n fy mhoeni o flaen Duw, ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.’—Salm 142:2.

Gallwch gael gobaith.

Mae “Duw yn mynd i ddod â phobl . . . yn ôl yn fyw.”—Actau 24:15.

Mae Duw wedi addo atgyfodi nifer mawr o bobl sydd wedi marw, ac mae’n hiraethu am wneud hynny.a—Job 14:14, 15.

a I ddysgu mwy am yr atgyfodiad, gwelwch wers 30 y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a gyhoeddir gan Dystion Jehofa ac sydd ar gael i lawrlwytho am ddim oddi ar www.pr2711.com/cy.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu