LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w19 Mehefin tt. 20-25
  • Helpa Eraill i Ymdopi â Straen

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Helpa Eraill i Ymdopi â Straen
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BYDDA’N AMYNEDDGAR
  • BYDDA’N DOSTURIOL
  • RHO ANOGAETH
  • Ruth a Naomi
    Storïau o’r Beibl
  • Daliwch Ati i Ddangos Cariad Ffyddlon Tuag at Eich Gilydd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Gwraig Lot
    Storïau o’r Beibl
  • ‘Mae Jehofa’n Achub y Rhai Sydd Wedi Anobeithio’
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
w19 Mehefin tt. 20-25

ERTHYGL ASTUDIO 26

Helpa Eraill i Ymdopi â Straen

“Dylai pob un ohonoch chi ddysgu dod ymlaen gyda’ch gilydd. Dylech gydymdeimlo â’ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â’ch gilydd.”—1 PEDR 3:8.

CÂN 107 Patrwm Dwyfol Gariad

CIPOLWGa

1. Sut gallwn ni efelychu ein Tad cariadus, Jehofa?

MAE Jehofa yn ein caru ni yn fawr iawn. (Ioan 3:16) Rydyn ni eisiau efelychu ein Tad cariadus. Felly, rydyn ni’n ceisio cydymdeimlo â’n gilydd, dangos gofal go iawn tuag at ein gilydd, a bod yn dyner wrth bawb ond yn enwedig wrth y rhai sy’n rhan o’n “teulu o gredinwyr.” (1 Pedr 3:8; Gal. 6:10) Pan fydd aelodau o’n teulu ysbrydol yn wynebu heriau, rydyn ni eisiau eu helpu.

2. Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Bydd pawb sydd eisiau bod yn rhan o deulu Jehofa yn wynebu sefyllfaoedd sy’n achosi straen. (Marc 10:29, 30) Mae’n debyg y byddwn ni’n gorfod wynebu mwy o dreialon wrth i ddiwedd y system hon agosáu. Sut gallwn ni helpu ein gilydd? Gad inni ystyried beth allwn ni ei ddysgu o hanesion Lot, Job, a Naomi yn y Beibl. Byddwn ni hefyd yn trafod rhai o’r heriau mae ein brodyr a’n chwiorydd yn eu hwynebu heddiw ac yn gweld sut gallwn ninnau eu helpu nhw i ymdopi â phroblemau.

BYDDA’N AMYNEDDGAR

3. Yn ôl 2 Pedr 2:7, 8, pa benderfyniad gwael a wnaeth Lot, a beth oedd y canlyniadau?

3 Gwnaeth Lot benderfyniad gwael pan ddewisodd fyw ymhlith pobl anfoesol iawn Sodom. (Darllen 2 Pedr 2:7, 8.) Roedd yr ardal yn un gyfoethog, ond talodd Lot bris uchel am symud i Sodom. (Gen. 13:8-13; 14:12) Mae’n ymddangos bod ei wraig wedi dod i garu’r ddinas gymaint, neu rai o’r bobl ynddi, nes iddi anufuddhau i Jehofa. Bu farw hithau pan achosodd Duw i dân a brwmstan ddisgyn ar yr ardal. A meddylia am ddwy ferch Lot. Roedden nhw wedi dyweddïo â dau ddyn o Sodom. Collodd Lot ei gartref, ei eiddo, ac yn fwyaf poenus, ei wraig. (Gen. 19:12-14, 17, 26) Yn ystod y cyfnod anodd hwnnw, a wnaeth Jehofa golli amynedd â Lot? Naddo.

Angel yn arwain Lot a’i deulu allan o Sodom

Yn ei drugaredd, anfonodd Jehofa angylion i achub Lot a’i deulu (Gweler paragraff 4)

4. Sut roedd Jehofa’n amyneddgar â Lot? (Gweler y llun ar y clawr.)

4 Er bod Lot wedi dewis byw yn Sodom, dangosodd Jehofa dosturi drwy anfon angylion ato i’w achub ef a’i deulu. Ond, yn hytrach nag ufuddhau yn syth i orchymyn pwysig yr angel am adael Sodom, dyma Lot yn “oedi.” Roedd rhaid i’r angylion gydio yn ei law a’i helpu ef a’i deulu i ffoi o’r ddinas. (Gen. 19:15, 16, BCND) Wedyn, dywedodd yr angylion wrtho am redeg i’r mynyddoedd. Ond yn hytrach nag ufuddhau i Jehofa, gofynnodd Lot am gael mynd i dref gyfagos. (Gen. 19:17-20) Gwrandawodd Jehofa’n amyneddgar arno, a chaniataodd i Lot fynd i’r dref honno. Yn nes ymlaen, dechreuodd Lot deimlo’n ofnus yno a symudodd i’r mynyddoedd, yr union ardal roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo fynd iddi yn y lle cyntaf. (Gen. 19:30) Dyna esiampl dda o amynedd ar ran Jehofa! Sut gallwn ni ei efelychu?

5-6. Sut gallwn ni roi 1 Thesaloniaid 5:14 ar waith wrth inni efelychu Duw?

5 Yn debyg i Lot, gallai aelod o’n teulu ysbrydol wneud penderfyniadau gwael ac achosi problemau difrifol iddo’i hun. Petai hynny’n digwydd, sut dylen ni ymateb? Efallai cawn ni ein temtio i ddweud ei fod yn medi’r hyn y mae wedi ei hau, a byddai hynny’n wir. (Gal. 6:7) Ond, gallwn ni wneud yn well na hynny. Gallwn efelychu’r ffordd gwnaeth Jehofa helpu Lot. Sut?

6 Anfonodd Jehofa’r angylion, nid yn unig i rybuddio Lot, ond hefyd i’w helpu i ffoi rhag y trychineb oedd am ddigwydd i Sodom. Mewn modd tebyg, efallai bydd rhaid i ninnau rybuddio ein brawd os ydyn ni’n gweld ei fod yn mynd i drwbl. Ond, efallai y bydd hi’n bosib inni ei helpu hefyd. Hyd yn oed os yw’n araf yn rhoi’r cyngor y mae wedi ei dderbyn o’r Beibl ar waith, mae angen inni fod yn amyneddgar. Efelycha’r ddau angel. Yn hytrach na rhoi’r ffidil yn y to ac ymbellhau oddi wrth ein brawd, dylen ni edrych am ffyrdd ymarferol i’w helpu. (1 Ioan 3:18) Efallai bydd rhaid inni gynnig cydio yn ei law, fel petai, a’i helpu i roi ar waith y cyngor da y mae wedi ei dderbyn.—Darllen 1 Thesaloniaid 5:14.

7. Sut gallwn ni efelychu’r ffordd roedd Jehofa’n teimlo am Lot?

7 Gallai Jehofa fod wedi canolbwyntio ar amherffeithrwydd Lot. Yn hytrach, ysbrydolodd yr apostol Pedr i ddisgrifio Lot fel dyn cyfiawn. Mor hapus ydyn ni fod Jehofa yn maddau inni am ein camgymeriadau! (Salm 130:3) A allwn ni efelychu’r ffordd roedd Jehofa’n teimlo am Lot? Os ydyn ni’n canolbwyntio ar rinweddau ein brodyr a’n chwiorydd, byddwn ni’n fwy amyneddgar â nhw. Byddan nhw, wedyn, yn fwy tebygol o dderbyn ein help.

BYDDA’N DOSTURIOL

8. Beth fydd tosturi yn ein cymell i’w wneud?

8 Yn wahanol i Lot, nid penderfyniad gwael a achosodd i Job ddioddef. Ond eto, wynebodd Job drychinebau erchyll, collodd ei eiddo, ei safle yn y gymuned, a’i iechyd. Yn waeth byth, collodd ef a’i wraig eu plant i gyd. Cafodd Job ei gyhuddo gan dri chyfaill ffals. Beth yw un rheswm dros ddiffyg cydymdeimlad cysurwyr ffals Job? Wnaethon nhw ddim ceisio deall beth oedd yn wir yn digwydd iddo. O ganlyniad, daethon nhw i’r casgliad anghywir a barnu Job yn llym. Sut gallwn ni osgoi gwneud yr un camgymeriad? Drwy gydnabod mai Jehofa ydy’r unig un sy’n gwybod yr holl ffeithiau am sefyllfa rhywun. Gwranda’n ofalus ar beth mae’r person yn ei ddweud. Paid â chlywed ei eiriau yn unig, ceisia deimlo ei boen hefyd. Dim ond drwy wneud hyn y gelli di ddangos cydymdeimlad go iawn tuag at dy frawd neu dy chwaer.

9. Beth fydd tosturi yn ein helpu i’w osgoi, a pham?

9 Bydd tosturi yn ein dal ni yn ôl rhag lledaenu clecs maleisus am broblemau pobl eraill. Dydy rhywun sy’n hel clecs ddim yn adeiladu’r gynulleidfa; ond mae’n ei rhwygo. (Diar. 20:19; Rhuf. 14:19) Dydy person felly ddim yn garedig ond yn ddifeddwl, ac mae ei eiriau’n gallu brifo rhywun sydd eisoes yn dioddef. (Diar. 12:18; Eff. 4:31, 32) Cymaint gwell yw chwilio am rinweddau da rhywun a meddwl am sut gallwn ni ei helpu i ddelio â’i dreialon!

Henuriad yn gwrando ar frawd sydd wedi cynhyrfu ac sy’n siarad yn fyrbwyll; yn nes ymlaen mae’r ddau frawd yn mynd am dro gyda’i gilydd

Gwranda’n amyneddgar os yw cyd-grediniwr yn dechrau “siarad yn fyrbwyll,” a rho gysur yn ei bryd (Gweler paragraffau 10-11)c

10. Beth mae Job 6:2, 3 yn ei ddysgu inni?

10 Darllen Job 6:2, 3. Ar adegau, gwnaeth Job “siarad yn fyrbwyll.” Ond, yn nes ymlaen, cyfaddefodd fod rhai o’r pethau a ddywedodd yn anghywir. (Job 42:6) Yn debyg i Job, gallai person sy’n dioddef problemau mawr heddiw ddechrau siarad yn fyrbwyll a dweud pethau mae’n eu difaru yn nes ymlaen. Sut dylen ni ymateb? Yn hytrach na bod yn feirniadol, dylen ni fod yn dosturiol. Cofia nad oedd Jehofa’n bwriadu i unrhyw un ohonon ni wynebu’r problemau a’r straen sy’n bodoli heddiw. Felly, gallwn ddeall pam y byddai un o weision ffyddlon Jehofa yn siarad heb feddwl pan fydd o dan straen aruthrol. Hyd yn oed os yw’n dweud pethau anghywir am Jehofa neu amdanon ninnau, ddylen ni ddim bod yn gyflym i wylltio nac i’w farnu am yr hyn mae’n ei ddweud.—Diar. 19:11.

11. Sut gall henuriaid efelychu Elihw wrth roi cyngor?

11 Weithiau, bydd unigolyn sy’n ymdopi â phroblem fawr angen rhywfaint o gyngor neu ddisgyblaeth adeiladol. (Gal. 6:1) Sut gall henuriaid wneud hynny? Peth da fyddai efelychu Elihw, a wrandawodd ar Job a chydymdeimlo ag ef. (Job 33:6, 7) Rhoddodd Elihw ei gyngor dim ond ar ôl iddo ddeall meddylfryd Job. Bydd henuriaid sy’n dilyn esiampl Elihw yn gwrando’n astud ac yn ceisio deall sefyllfa’r unigolyn. Wedyn, pan fyddan nhw’n rhoi’r cyngor, byddan nhw’n fwy tebygol o gyffwrdd â chalon y gwrandawr.

RHO ANOGAETH

12. Sut gwnaeth profedigaeth effeithio ar Naomi?

12 Dynes ffyddlon a oedd yn caru Jehofa oedd Naomi. Ond, ar ôl i’w gŵr a’i dau fab farw, roedd hi eisiau newid ei henw o Naomi i “Mara,” sy’n golygu “chwerw.” (Ruth 1:3, 5, 20, tdn BCND, 21) Glynodd Ruth, merch yng nghyfraith Naomi, wrth ei hochr drwy gydol ei threialon. Rhoddodd Ruth help ymarferol ac annog Naomi hefyd. Mynegodd Ruth ei chariad a’i chefnogaeth i Naomi mewn geiriau syml o’r galon.—Ruth 1:16, 17.

13. Pam mae angen cefnogaeth ar y rhai sydd wedi colli eu cymar?

13 Pan fydd cymar un o’n teulu ysbrydol yn marw, bydd angen cefnogaeth arno. Mae cwpl priod yn debyg i ddwy goeden sydd wedi tyfu ochr yn ochr â’i gilydd. Dros y blynyddoedd, mae gwreiddiau’r coed yn cydblethu. Pan fydd un goeden yn cael ei dadwreiddio ac yn marw, gallai hynny effeithio’n fawr ar y goeden arall. Mewn ffordd debyg, pan fydd rhywun yn colli ei gymar, gallai ef neu hi deimlo emosiynau cryf iawn am amser maith. Mae Paula,b a gollodd ei gŵr yn sydyn iawn, yn dweud: “Aeth fy mywyd ar chwâl, ac roeddwn i’n anobeithio. Collais fy ffrind gorau. Roeddwn i wedi siarad â fy ngŵr am bopeth. Roedd yntau’n llawenhau gyda fi ac yn fy nghefnogi trwy amseroedd caled. Roedd yn gwrando arna’ i bob tro. Roeddwn i’n teimlo fel petaswn i wedi cael fy nhorri yn fy hanner.”

Gŵr gweddw yn cael ei gysuro gan gwpl sy’n dangos lluniau ohono ef a’i wraig

Sut gallwn ni gefnogi’r rhai sydd wedi colli eu cymar? (Gweler paragraffau 14-15)d

14-15. Sut gallwn ni gysuro rhywun sydd wedi colli ei gymar?

14 Sut gallwn ni gysuro rhywun ar ôl i’w cymar farw? Y cam pwysig cyntaf yw siarad ag ef neu hi, er dy fod ti efallai’n teimlo’n anghyfforddus neu’n ansicr ynglŷn â beth i’w ddweud. Mae Paula, a ddyfynnwyd uchod, yn dweud: “Dw i’n deall bod marwolaeth yn gwneud i bobl deimlo’n anghyfforddus. Maen nhw’n poeni bod eu geiriau yn mynd i ddod allan yn anghywir. Ond, yr unig beth gwaeth na chlywed rhywbeth anghyfforddus ydy clywed dim byd o gwbl.” Yn ôl pob tebyg, dydy rhywun sy’n galaru ddim yn disgwyl inni ddweud rhywbeth doeth. Mae Paula’n dweud: “Roeddwn i’n gwerthfawrogi pan oedd ffrindiau’n dweud y geiriau, ‘mae’n ddrwg gen i am dy golled.’”

15 Mae William, a gollodd ei wraig rai blynyddoedd yn ôl, yn dweud: “Dw i wrth fy modd pan fydd pobl yn hel atgofion am fy ngwraig; mae’n fy atgoffa bod pobl wedi ei charu hi a’i pharchu. Mae’r gefnogaeth honno’n help mawr imi. Mae’n fy nghysuro’n fawr, oherwydd roedd fy ngwraig mor werthfawr imi ac roedd hi’n rhan fawr o fy mywyd.” Mae gwraig weddw o’r enw Bianca yn esbonio: “Rhywbeth sy’n fy nghysuro i ydy pobl eraill yn gweddïo gyda mi ac yn rhannu adnod neu ddwy â mi. Mae’n helpu pan fyddan nhw’n siarad am fy ngŵr a phan fyddan nhw’n gwrando arna’ i’n siarad amdano.”

16. (a) Beth dylen ni ei roi i rywun sydd wedi colli anwylyn? (b) Yn ôl Iago 1:27, pa gyfrifoldeb sydd gennyn ni?

16 Yn union fel y gwnaeth Ruth lynu wrth y wraig weddw Naomi, mae angen i ninnau gynnig help parhaol i’r rhai sydd wedi colli anwylyn. Mae Paula, y soniwyd amdani yn gynharach, yn dweud: “Yn syth ar ôl i fy ngŵr farw, ges i lawer o gefnogaeth. Wrth i amser fynd heibio, aeth pobl eraill yn ôl i’w bywydau arferol. Ond, roedd fy mywyd innau wedi newid yn llwyr. Mae’n help mawr pan fydd pobl yn sylweddoli bod angen cefnogaeth ar rywun sy’n galaru am fisoedd—neu flynyddoedd—ar ôl y brofedigaeth.” Wrth gwrs, mae pob unigolyn yn wahanol. Mae’n ymddangos bod rhai yn addasu’n gyflym i’w hamgylchiadau newydd. I eraill, fodd bynnag, mae popeth roedden nhw’n arfer ei wneud gyda’u hanwylyn yn eu hatgoffa o’r boen a’r golled. Mae’r ffordd y mae rhywun yn galaru yn amrywio o un person i’r llall. Gad inni gofio mai i ni y mae Jehofa yn rhoi’r fraint a’r cyfrifoldeb o ofalu am y rhai sydd wedi colli anwylyn.—Darllen Iago 1:27.

17. Pam mae angen cefnogaeth ar bobl briod sydd wedi cael eu bradychu gan eu cymar?

17 Mae rhai pobl briod yn gorfod ymdopi â’r boen a’r straen ofnadwy sy’n dod ar ôl i’w cymar gefnu arnyn nhw. Gwnaeth gŵr Joyce ei gadael hi am ddynes arall. Mae Joyce yn dweud: “Roedd poen yr ysgariad bron cymaint â phetasai fy ngŵr wedi marw. Petasai wedi marw mewn damwain neu oherwydd salwch, ni fyddai unrhyw ddewis ganddo. Ond, yn yr achos hwn, dewisodd fy ngŵr gefnu arna’ i. Teimlais gywilydd mawr.”

18. Beth gallwn ni ei wneud i helpu’r rhai sydd bellach heb gymar?

18 Pan ydyn ni’n gwneud pethau bach cariadus ar gyfer y rhai sydd bellach heb gymar, rydyn ni’n eu hatgoffa o’n cariad. Mae angen ffrindiau da arnyn nhw yn fwy nag erioed. (Diar. 17:17) Sut gelli di brofi dy fod ti’n ffrind iddyn nhw? Gelli di eu gwahodd nhw draw am bryd o fwyd syml. A gelli di gynnig treulio amser gyda nhw yn ymlacio neu yn y weinidogaeth. Opsiwn arall ydy gofyn iddyn nhw ymuno yn dy addoliad teuluol bob hyn a hyn. Os gwnei di hynny, bydd Jehofa’n hapus, oherwydd mae’n “agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau.”—Salm 34:18; 68:5.

19. O gadw mewn cof 1 Pedr 3:8, beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

19 Yn fuan, pan fydd Teyrnas Dduw yn rheoli dros y ddaear, “bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio.” Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr amser pan fydd “pethau’r gorffennol wedi eu hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.” (Esei. 65:16, 17) Yn y cyfamser, gad inni gefnogi ein gilydd a phrofi drwy ein geiriau a’n gweithredoedd ein bod ni’n caru ein teulu ysbrydol i gyd.—Darllen 1 Pedr 3:8.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth Jehofa helpu Lot a Job?

  • Beth mae profiad Naomi yn ei ddysgu inni?

  • Sut gallwn ni gefnogi’r rhai sydd bellach heb gymar?

CÂN 111 Sail Ein Llawenydd

a Roedd Lot, Job, a Naomi yn gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon, ond roedden nhw’n dal i ddod o dan straen ar adegau. Mae’r erthygl hon yn trafod yr hyn gallwn ni ei ddysgu o’u profiadau. Mae hefyd yn trafod pam mae’n bwysig inni fod yn amyneddgar, yn dosturiol, ac inni annog ein brodyr a’n chwiorydd pan fyddan nhw’n wynebu treialon.

b Newidiwyd yr enwau yn yr erthygl hon.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd wedi cynhyrfu ac yn “siarad yn fyrbwyll” wrth i henuriad wrando’n amyneddgar. Yn nes ymlaen, ar ôl i’r brawd blin ymdawelu, mae’r henuriad yn rhoi cyngor caredig.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae cwpl priod ifanc yn treulio amser gyda brawd sydd wedi colli ei wraig yn ddiweddar. Maen nhw’n hel atgofion pleserus amdani hi.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu