LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp20 Rhif 1 tt. 3-5
  • Chwilio am y Gwir

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Chwilio am y Gwir
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • YDY HI’N BOSIB CAEL HYD I’R GWIR?
  • EICH YMDRECH I GAEL Y GWIR
  • LLYFR UNIGRYW LLAWN GWIRIONEDD
  • “Byw’n Ffyddlon i’r Gwir”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Bydda’ i’n Cerdded yn Dy Wirionedd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Ydy’r Gwir yn Bwysig Erbyn Hyn?
    Pynciau Eraill
  • Hoffech Chi Wybod Y Gwir?
    Hoffech Chi Wybod y Gwir?
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2020
wp20 Rhif 1 tt. 3-5
Dyn yn edrych i fyny ar silffoedd llawn llyfrau

Chwilio am y Gwir

Gall gwybod y gwir achub ein bywydau. Er enghraifft, ystyriwch gymaint gwell yw bywyd o wybod yr ateb i’r cwestiwn, Sut mae clefydau heintus yn lledaenu?

Am filoedd o flynyddoedd, doedd neb wir yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw, ac yn y cyfamser bu farw miliynau o bobl oherwydd plâu a heintiau eraill. Yn y pen draw, dysgodd gwyddonwyr y gwir. Dysgon nhw mai un o brif achosion afiechyd yw germau, sef micro-organebau fel bacteria a firysau. Drwy ddarganfod y gwirionedd hwnnw, mae pobl wedi gallu gwella nifer o afiechydon, a hyd yn oed eu hatal, gan helpu biliynau o bobl i gael bywyd iach a hir.

Beth am gwestiynau pwysig eraill? Sut gall yr atebion i’r cwestiynau canlynol effeithio arnoch chi?

  • Pwy yw Duw?

  • Pwy yw Iesu Grist?

  • Beth yw Teyrnas Dduw?

  • Beth sydd o’ch blaen chi?

Drwy gael yr atebion i’r cwestiynau hynny, mae miliynau o bobl wedi gwella eu bywydau. Gallwch chithau hefyd gael budd o’r atebion.

YDY HI’N BOSIB CAEL HYD I’R GWIR?

Efallai eich bod yn meddwl, ‘Ydy hi’n bosib cael hyd i’r gwir am unrhyw beth?’ Wedi’r cyfan, mae’n ymddangos fel petai darganfod y gwir am lawer o bethau yn dod yn anoddach byth. Pam?

Dydy llawer o bobl ddim yn credu bod llywodraethau, busnesau, na chyfryngau’r byd yn dweud y gwir. Gallai fod yn anodd gwahaniaethu’r ffeithiau oddi wrth yr holl syniadau, hanner gwirioneddau, neu gelwyddau sy’n cael eu cyflwyno fel y gwir. Ynghanol cymaint o wybodaeth anghywir a’r drwgdybio, mae pobl yn anghytuno â’i gilydd am sut i ddehongli’r ffeithiau, a hyd yn oed am beth yw’r ffeithiau go iawn.

Er gwaethaf heriau o’r fath, mae hi’n bosib cael hyd i’r atebion i gwestiynau pwysicaf bywyd. Sut? Drwy ddefnyddio sgiliau rydych chi’n eu defnyddio yn eich bywyd bob dydd.

EICH YMDRECH I GAEL Y GWIR

I raddau, rydych chi’n chwilio am wirionedd yn ddyddiol. Ystyriwch sefyllfa Jessica. Dywedodd: “Mae alergedd fy merch i gnau mwnci mor ddifrifol, y byddai bwyta hyd yn oed y mymryn lleiaf o brotein cnau mwnci yn beryg bywyd iddi.” Mae angen i Jessica wybod y bydd y bwyd mae hi’n ei brynu yn saff i’w merch. “Y peth cyntaf wna’ i ydy darllen label y bwyd yn ofalus i weld ei gynhwysion. Yna, ’dw i’n gwneud ymchwil bellach a hyd yn oed yn cysylltu â’r gwneuthurwr i sicrhau does dim peryg fod protein cnau mwnci wedi ei gymysgu â’r bwyd. ’Dw i hefyd yn ystyried ffynonellau dibynadwy eraill sy’n gallu cefnogi enw da’r cwmni a’u ffordd saff o baratoi bwyd.”

Yr un dyn yn edrych ar lyfr y mae wedi ei ddewis oddi ar y silffoedd ac yn ei gymharu â’r hyn sydd ar ei ddyfais electronig

Efallai dydy ceisio’r gwir ddim mor hanfodol i chi ag y mae i Jessica, ond fel hithau, gallwch chi ddefnyddio’r dull canlynol i gael atebion i’ch cwestiynau:

  • Cael hyd i’r ffeithiau.

  • Gwneud ymchwil bellach.

  • Sicrhau bod eich ffynonellau yn ddibynadwy.

Gall dilyn yr un camau eich helpu i gael atebion cywir i gwestiynau mawr bywyd. Sut?

LLYFR UNIGRYW LLAWN GWIRIONEDD

Aeth Jessica ati i chwilio am wirioneddau’r Beibl yn yr un ffordd y mae’n ymchwilio i alergedd ei merch. Mae hi’n dweud: “Drwy ddarllen y Beibl yn ofalus a gwneud ymchwil drylwyr, ces i hyd i’r gwirionedd ynddo.” Fel Jessica, mae miliynau o bobl wedi dysgu atebion y Beibl i’r cwestiynau canlynol:

  • Pam rydyn ni yma?

  • Beth sy’n digwydd inni ar ôl inni farw?

  • Pam rydyn ni’n dioddef?

  • Beth mae Duw yn ei wneud i ddod â dioddefaint i ben?

  • Sut gallwn ni gael bywyd teuluol hapus?

Yr un dyn yn darllen y Beibl a gliniadur yn agored o’i flaen

Gallwch chi gael hyd i atebion dibynadwy i’r cwestiynau hyn ac eraill drwy ddarllen y Beibl a gwneud ymchwil bellach ar wefan www.pr2711.com/cy.

Bydd y rhifyn hwn o’r Tŵr Gwylio yn trafod y cwestiynau canlynol:

  • Pwy yw Duw?

  • Pwy yw Iesu Grist?

  • Beth yw Teyrnas Dduw?

  • Beth sydd o’ch blaen chi?

Ond yn gyntaf, gadewch inni ystyried pam gallwn ni ymddiried yn y Beibl fel ffynhonnell ddibynadwy o wirionedd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu