Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Chwefror
“A ydych chi’n meddwl bod gan Dduw gyfundrefn heddiw, neu ydy Duw yn delio gydag unigolion yn unig? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae’n ei ddweud yma am bobl yr oedd Duw yn eu trefnu fel grŵp amser maith yn ôl.” Trowch i dudalen 26 o’r Watchtower Chwefror 1, a thrafodwch y paragraffau o dan yr is-bennawd cyntaf ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch i ddod yn ôl i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Chwefror 1
“Mae Armagedon wedi bod yn bwnc trafod yn ddiweddar. A ydych chi’n meddwl bod y byd yn gallu osgoi Armagedon? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r gair ‘Armagedon’ yn dod o’r adnod hon. [Darllenwch Datguddiad 16:16. Yna, dangoswch glawr y cylchgrawn.] Mae’r cylchgrawn hwn yn dangos atebion y Beibl i’r cwestiynau hyn.”
Awake! Chwefror
“Mae llawer o bobl yn hoffi cyfathrebu ar-lein heddiw. Ydych chi’n meddwl bod yna beryglon gyda’r math yma o gyfathrebu? [Arhoswch am ymateb.] Mae egwyddorion yn y Beibl sy’n gallu ein cadw ni’n ddiogel ar-lein. [Trowch i dudalennau 6-9, a thrafodwch un o’r cwestiynau ac un o’r adnodau.] Bydd y cylchgrawn hwn yn eich helpu chi i adnabod ac i osgoi’r peryglon sy’n dod drwy gyfathrebu ar-lein.”