Cyflwyniadau Enghreifftiol
I Ddechrau Astudiaethau Beiblaidd ar y Dydd Sadwrn Cyntaf ym Mis Gorffennaf
“Yn ddiweddar, mae diddordeb mewn angylion wedi cynyddu. Ydy angylion yn bodoli, go iawn? [Arhoswch am ymateb.] Sylwch ar beth mae hyn yn ei ddweud.” Rhowch gopi o Watchtower Gorffennaf 1 i’r deiliad, ac ystyriwch y defnydd o dan yr isbennawd cyntaf ar dudalen 16 ac o leiaf un o’r adnodau. Cynigiwch y cylchgronau, a threfnwch ddychwelyd i drafod y cwestiwn nesaf.
The Watchtower Gorffennaf 1
Darllenwch Salm 65:2. Yna dywedwch: “Mae llawer yn gweddïo bob dydd ac yn teimlo bod Duw yn ‘gwrando.’ Ond mae eraill yn gofyn, ‘Os ydy Duw yn bodoli, pam mae cymaint o broblemau yn y byd?’ Beth rydych chi’n ei feddwl? Ydy Duw yn gwrando ar ein gweddi? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r cylchgrawn hwn yn trafod ateb y Beibl i’r cwestiwn: ‘Pam mae’r Un sy’n gwrando gweddi yn caniatáu dioddefaint?’”
Awake! Gorffennaf
“Petasech chi’n medru newid un peth yn y byd, beth fyddech chi’n ei newid? [Arhoswch am ymateb.] Mae’r Beibl yn esbonio pam na all dyn gyflawni popeth y mae eisiau ei wneud. [Darllenwch Jeremeia 10:23.] Mae’r cylchgrawn hwn yn esbonio’r pethau y mae Duw yn bwriadu ei newid.”