Mae’r Ymgyrch i Hysbysebu’r Goffadwriaeth yn Dechrau ar Fawrth 17
1. Pa ymgyrch sy’n dechrau ar Fawrth 17?
1 Mae’r Goffadwriaeth flynyddol yn rhoi sylw teilwng i farwolaeth Iesu. (1 Cor. 11:26) Felly, rydyn ni eisiau gweld eraill yn ymuno â ni i ddysgu am y pridwerth, sef rhodd gariadus Jehofah. (Ioan 3:16) Mae’r ymgyrch i wahodd pobl i’r Goffadwriaeth eleni yn cychwyn ar ddydd Sadwrn, Mawrth 17. A ydych chi’n edrych ymlaen at wneud cymaint ag y medrwch chi yn yr ymgyrch hon?
2. Beth gallwn ni ei ddweud wrth gynnig y gwahoddiad?
2 Beth y Gallwn ni ei Ddweud: Mae’n dda inni gadw ein cyflwyniadau’n fyr. Gallwn ni ddweud: “Helo. Rydyn ni yma i’ch gwahodd chi a’ch teulu i goffadwriaeth bwysig sy’n cael ei chynnal ar draws y byd ar Ebrill 5. Bydd anerchiad yn trafod yr hyn a gyflawnodd farwolaeth Iesu a’r hyn y mae Iesu’n ei wneud nawr. Mae’r gwahoddiad yn rhoi’r amser a’r cyfeiriad, ac mae mynediad am ddim.” Wrth ddosbarthu’r gwahoddiadau ar benwythnosau, dylwn ni hefyd gynnig y cylchgronau os yw hynny’n gyfleus.
3. Sut gallwn ni wahodd cymaint ag y medrwn ni?
3 Gwahoddwch Gymaint ag y Medrwch: Ein bwriad yw gwahodd cymaint ag y medrwn ni. Cofiwch wahodd myfyrwyr y Beibl, ail alwadau, perthnasau, cyd-weithwyr, cymdogion, ac eraill. Bydd yr henuriaid lleol yn rhoi arweiniad ar sut bydd y diriogaeth yn cael ei gweithio. Mae’r ymgyrch flynyddol sy’n gwahodd pobl i’r Goffadwriaeth yn hynod lwyddiannus. Pan ddaeth dynes i’r Goffadwriaeth y llynedd, fe wnaeth un o’r gwasanaethwyr gynnig dod o hyd i’r sawl a roddodd wahoddiad iddi. Ond, dywedodd y ddynes nad oedd hi’n adnabod neb yno, a’i bod hi wedi derbyn y gwahoddiad gan rywun a oedd yn mynd o dŷ i dŷ yn gynharach y diwrnod hwnnw.
4. Pam dylwn ni gael rhan selog yn yr ymgyrch hon?
4 Efallai y bydd rhywun yn mynychu’r Goffadwriaeth oherwydd iddo dderbyn gwahoddiad gennych chi. Os daw rhywun neu beidio, bydd eich ymdrech lew wedi rhoi tystiolaeth dda. Mae’r gwahoddiadau y byddwch yn eu dosbarthu yn cyhoeddi bod Iesu yn Frenin grymus nawr. Bydd cael rhan selog yn yr ymgyrch hon yn dangos i’r bobl sy’n byw yn eich tiriogaeth, i’ch cyd-addolwyr, ac yn bwysicach fyth i Jehofah, eich bod chi’n gwerthfawrogi’r pridwerth.—Col. 3:15.