Mae’r Ymgyrch i Wahodd Pobl i’r Goffadwriaeth yn Dechrau Mawrth 22
Eleni, bydd yr ymgyrch i wahodd pobl i’r Goffadwriaeth yn cychwyn ar ddydd Sadwrn, Mawrth 22. Mae pawb yn cael eu hannog i gael rhan lawn. Ar y penwythnosau, pan fo’n addas byddwn ni hefyd yn cynnig y cylchgronau diweddaraf. Ar ddydd Sadwrn cyntaf Ebrill, fe wnawn ni ganolbwyntio ar ddosbarthu’r gwahoddiadau yn hytrach nag ar ddechrau astudiaethau Beiblaidd. Ond, petawn ni’n cwrdd â rhywun gyda llawer o ddiddordeb, gallwn ni geisio dechrau astudiaeth Feiblaidd gydag ef. Gall yr arolygwr gwasanaeth benderfynu a fydd dosbarthu gwahoddiadau drwy dystiolaethu’n gyhoeddus yn helpu’r gynulleidfa i gyrraedd rhagor o bobl. Gwnewch restr nawr o bawb rydych eisiau eu gwahodd, gan gynnwys perthnasau, cyd-weithwyr, galwadau, ffrindiau ysgol, ac eraill rydyn ni’n eu hadnabod. Yna, rhowch wahoddiad iddyn nhw pan fydd yr ymgyrch yn dechrau. Rydyn ni’n obeithiol y bydd llawer yn ymuno â ni wrth inni goffáu’r ddwy esiampl fwyaf o gariad erioed!—Ioan 3:16; 15:13.