Mae’r Ymgyrch i Hysbysebu’r Goffadwriaeth yn Dechrau ar 1 Mawrth
1. Pryd byddwn ni’n dechrau dosbarthu’r gwahoddiadau i’r Goffadwriaeth, a pham bydd yr ymgyrch yn para’n hirach eleni?
1 Byddwn ni’n dechrau dosbarthu’r gwahoddiadau ar gyfer y Goffadwriaeth ar ddydd Gwener, 1 Mawrth. Gan fod y Goffadwriaeth ar 26 Mawrth, bydd yr ymgyrch ychydig yn hirach eleni nag y bu yn y gorffennol. Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i bobl dderbyn gwahoddiad, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae tiriogaeth y gynulleidfa yn fawr.
2. Beth yw’r trefniadau ar gyfer codi’r gwahoddiadau ac ar gyfer gweithio’r diriogaeth?
2 Trefnu’r Gwaith: Bydd yr henuriaid yn trefnu’r ffordd y byddwn ni’n gweithio’r diriogaeth, ac yn penderfynu a ddylen ni adael gwahoddiadau yn y tai lle nad oes neb gartref. Ar ôl ymweld â phob tŷ yn ein tiriogaeth, gallwn ni ddefnyddio unrhyw wahoddiadau sy’n weddill wrth dystiolaethu’n gyhoeddus. Bydd arolygwr y gwasanaeth yn sicrhau bod digon o wahoddiadau, wedi eu labelu gyda’r manylion, ar gael i’r cyhoeddwyr ar y cownter llenyddiaeth. Ni fydd y gwahoddiadau i gyd ar gael ar yr un pryd. Dylen ni gymryd dim ond y gwahoddiadau y byddwn ni’n eu defnyddio ar gyfer yr wythnos honno.
3. Beth dylen ni ei gofio wrth ddosbarthu’r gwahoddiadau?
3 Beth Gallwn Ni Ei Ddweud? Er mwyn siarad â’r nifer mwyaf o bobl, peth da yw inni gadw ein cyflwyniadau’n fyr. Ar dudalen 4 y mae cyflwyniad enghreifftiol y gallwn ni ei addasu ar gyfer ein tiriogaeth ni. Wrth gwrs, os ydyn ni’n cwrdd â rhywun cyfeillgar sydd â llawer o gwestiynau, does dim angen inni adael ar frys. Wrth ddosbarthu’r gwahoddiadau ar benwythnosau, dylen ni hefyd gynnig y cylchgronau os yw hynny’n addas. Ar 2 Mawrth, fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar ddosbarthu’r gwahoddiadau yn hytrach na cheisio dechrau astudiaethau.
4. Pam dylen ni ddosbarthu’r gwahoddiadau’n selog?
4 Rydyn ni’n gobeithio y bydd nifer fawr o bobl yn dod i’r Goffadwriaeth. Bydd yr anerchiad yn esbonio pwy yn union yw Iesu. (1 Cor. 11:26) Bydd yn egluro sut mae marwolaeth Iesu o fudd i ni. (Rhuf. 6:23) Ac fe fydd yn dangos pam y mae’n bwysig inni ei gofio. (Ioan 17:3) Felly, gadewch inni ddosbarthu’r gwahoddiadau’n selog!