Rhaglen Wythnos Mawrth 26
WYTHNOS YN CYCHWYN MAWRTH 26
Cân 70 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
lv atodiad t. 212-215 ¶1 (25 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Jeremeia 12-16 (10 mun.)
Rhif 1: Jeremeia 13:1-14 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Beth Yw Pwrpas Duw ar Gyfer y Ddaear?—bh t. 27 ¶1–t. 28 ¶3 (5 mun.)
Rhif 3: Sut Mae Duw Wedi Cael ei Herio?—bh t. 28 ¶4–t. 31 ¶10 (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
5 mun: Cyhoeddiadau. Rhowch wybod i’r gynulleidfa am faint o’ch tiriogaeth sydd eto i’w gweithio gyda’r gwahoddiad i’r Goffadwriaeth.
10 mun: Peidiwch ag Anghofio Lletygarwch. (Heb. 13:1, 2) Anerchiad gan henuriad. Adolygwch y trefniadau lleol ar gyfer y Goffadwriaeth. Awgrymwch sut i ddangos lletygarwch i ymwelwyr a chyhoeddwyr anweithredol a fydd yn mynychu. Trefnwch ddangosiad dwy-ran. Yn gyntaf dangoswch gyhoeddwr yn croesawu rhywun a dderbyniodd wahoddiad yn ystod yr ymgyrch. Wedyn dangoswch y cyhoeddwr ar ôl y cyfarfod yn gwneud trefniadau i gwrdd â’r person eto i feithrin ei ddiddordeb.
20 mun: “Rhyfeddodau’r Greadigaeth yn Datgelu Gogoniant Duw.” Cwestiynau ac atebion. Defnyddiwch yr wybodaeth yn y paragraff cyntaf a’r paragraff olaf ar gyfer eich cyflwyniad a’ch diweddglo. Gofynnwch i’r gynulleidfa esbonio sut mae’r DVD wedi eu helpu nhw. Trafodwch wahanol ffyrdd o ddefnyddio’r DVD yn y weinidogaeth.
Cân 35 a Gweddi