Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol
Annwyl Gyd-Dystion Jehofah:
Pleser mawr yw ysgrifennu atoch, chi weision ffyddlon Jehofah, a chithau bellach yn dyrfa o dros saith miliwn. Pryd bynnag rydyn ni’n cwrdd â brawd neu chwaer o rywle arall yn y byd, teimlwn yn syth fod cyfeillgarwch arbennig rhyngon ni. (Ioan 13:34, 35) Mae hyn yn fwy amlwg byth wrth inni ddarllen yr adroddiadau diddorol yn y blwyddlyfr sy’n sôn am ffydd a theyrngarwch ein brodyr a’n chwiorydd mewn gwahanol wledydd.
Mae adroddiadau o bob cwr o’r byd yn dangos bod llawer ohonoch chi’n cymryd eich Addoliad Teuluol o ddifrif. Mae rhieni wedi bod yn ddyfeisgar iawn wrth ennyn a chadw sylw plant bach. (Eff. 6:4) Mae gwŷr a gwragedd wedi cryfhau eu perthynas trwy ddilyn rhaglen astudio gyda’i gilydd. (Eff. 5:28-33) Yn wir, mae’r cynllun hwn i astudio Gair Duw yn fanwl wedi bod o les mawr i unigolion a theuluoedd.—Jos. 1:8, 9.
Rydyn ni’n teimlo i’r byw dros y rhai ohonoch chi sydd wedi dioddef oherwydd trychinebau naturiol diweddar. Hoffen ni ddiolch o’r galon i’r nifer mawr a ymunodd heb oedi yn yr ymdrechion i roi cymorth yn ystod yr argyfyngau hyn. (Act. 11:28-30; Gal. 6:9, 10) Ar ben hynny, ym mhob cynulleidfa fe geir brodyr a chwiorydd sydd yn sylwi ar anghenion materol eu cyd-addolwyr ac yn mynd ati’n dawel bach i’w diwallu. Fel Dorcas gynt, rydych chi’n “llawn o weithredoedd da ac o elusennau.” (Act. 9:36) Gallwch fod yn sicr fod Jehofah yn sylwi ar eich caredigrwydd ac y bydd yn eich gwobrwyo.—Math. 6:3, 4.
Mewn rhai gwledydd, mae eich hawliau yn cael eu sathru gan rai sy’n “cynllunio niwed trwy gyfraith.” (Salm 94:20-22) Ond rydych chi’n gwybod bod Iesu wedi rhagweld y fath erledigaeth ac rydych chi’n dyfalbarhau’n ddewr gan droi at Jehofah am noddfa. (Ioan 15:19, 20) Ein brodyr annwyl, rydyn ni’n cofio amdanoch yn gyson yn ein gweddïau, wrth i chi barhau “i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch.”—1 Ped. 3:13-15.
Mae’r miliynau ohonoch sy’n aros yn foesol lân, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn haeddu canmoliaeth am wrthsefyll ymdrechion didostur a chyfrwys Satan i’ch llygru. Wrth i safonau moesol y byd blymio i ddyfnderoedd newydd, rydych chi’n ‘ymgryfhau yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.’ (Eff. 6:10) Rydych chi wedi ‘gwisgo amdanoch holl arfogaeth Duw,’ ac felly rydych chi’n llwyddo i “sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol.” (Eff. 6:11, 12) Cofiwch fod Jehofah yn defnyddio eich esiampl i roi ateb pendant i Satan, yr un sydd yn Ei wawdio.—Diar. 27:11.
Roedden ni wrth ein boddau yn clywed bod 19,374,737 wedi mynychu Coffadwriaeth marwolaeth ein Harglwydd yn 2011. Fe ddaeth yr holl bobl hyn, yn rhannol, oherwydd eich ymateb brwd chi i’r alwad am arloeswyr cynorthwyol fis Ebrill diwethaf. Fe glywodd miliynau o bobl drwy’r ddaear leisiau unedig Tystion Jehofah yn canu clodydd eu Duw! (Rhuf. 10:18) P’un a oeddech chi’n un o’r 2,657,377 a arloesodd yn gynorthwyol yn ystod mis Ebrill, neu’n un a oedd yn gwneud mwy mewn ffordd arall, roedd eich parodrwydd i wirfoddoli ynghyd â’ch sêl dros y gwaith yn ein gwneud ni’n hapus dros ben.—Salm 110:3; Col. 3:23.
Y llynedd, fe wnaeth 263,131 o rai newydd ymgysegru i Jehofah a chael eu bedyddio. Rydyn ni’n diolch i Jehofah amdanyn nhw, ac rydyn ni’n diolch i chi i gyd am ymuno â ni yn y gwaith o estyn y gwahoddiad: “‘Tyrd’; a’r sawl sy’n clywed, dyweded yntau, ‘Tyrd.’ A’r sawl sy’n sychedig, deued ymlaen, a’r sawl sydd yn ei ddymuno, derbynied ddŵr y bywyd yn rhodd.” (Dat. 22:17) Yn ein cynadleddau rhanbarthol yn 2011, fe wnaethon ni ystyried agweddau gwahanol ar Deyrnas sefydledig Duw, ac oherwydd hynny, gallwn ni ddweud ag arddeliad “Deled dy Deyrnas!” Mae addewid Iesu “Yr wyf yn dod yn fuan,” yn ein sbarduno i ymuno â’r Apostol Ioan wrth iddo ateb: “Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!”—Dat. 22:20.
Wrth ichi ddisgwyl yn eiddgar am y digwyddiadau cyffrous hyn, rydyn ni am i chi wybod, ein brodyr a’n chwiorydd annwyl, ein bod ni’n caru pob un ohonoch chi sydd yn profi eich cariad tuag at Jehofah “mewn gweithred a gwirionedd”!—1 Ioan 3:18.
Eich brodyr,
Corff Llywodraethol Tystion Jehofah