Pregethwch â Hyder Mewn Tiriogaethau Busnes
1. Pam na ddylen ni ddigalonni os ydyn ni’n pryderu wrth weithio tiriogaethau busnes?
1 A ydych chi’n pryderu am dystiolaethu mewn tiriogaethau busnes? Os ydych chi, peidiwch â digalonni. Roedd hyd yn oed Paul yn gorfod dibynnu ar ‘nerth ei Dduw’ er mwyn pregethu’n hy. (1 Thes. 2:2) Isod fe geir awgrymiadau ar sut i drechu rhai ofnau a all godi wrth bregethu mewn tiriogaethau busnes.
2. Pam na ddylen ni bryderu am dorri ar draws gwaith pobl?
2 A Fydd Torri ar Draws Gwaith Pobl yn Eu Cythruddo? Mewn llawer o fusnesau, mae’r gweithwyr yn darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, felly maen nhw’n disgwyl i bobl dorri ar eu traws nhw. Mae’n nhw’n debygol o’ch gweld chi fel cwsmer a’ch trin chi’n gwrtais. Trwy wisgo mewn ffordd urddasol a thrwy fod yn gyfeillgar, byddwch yn ennyn parch.
3. Sut gallwn ni osgoi cythruddo’r cwsmeriaid?
3 A Fydd Rhaid Imi Bregethu o Flaen Llawer o Gwsmeriaid? Os yw’n bosibl, ewch pan fydd y busnesau’n eithaf tawel, er enghraifft, peth cyntaf yn y bore. Arhoswch nes bod y rheolwr neu’r gweithiwr ar ei ben ei hun cyn mynd ato. Cadwch eich cyflwyniad yn fyr.
4. Beth gallwn ni ei ddweud wrth weithio tiriogaethau busnes?
4 Beth y Dylwn I ei Ddweud? Os oes nifer o weithwyr, siaradwch â’r rheolwr. Efallai y gallwch ddweud: “Mae’n anodd dod o hyd i bobl fusnes gartref, felly rydyn ni wedi dod yma i’ch gweithle. Rwy’n gwybod eich bod chi’n brysur, felly wna i ddim eich cadw chi.” Oni bai bod rhywun yn holi am y drefn cyfrannu, gwell fyddai peidio â gofyn am gyfraniad rhag ofn iddyn nhw feddwl ein bod ni yno i werthu rhywbeth. Yn dibynnu ar ba fath o fusnes ydyw, efallai y byddwn ni’n medru gofyn am ganiatâd i gael gair bach â’r gweithwyr eraill. Ailadroddwch y cyflwyniad iddyn nhw. Os ydyn nhw’n brysur, torrwch eich cyflwyniad yn fyr a rhowch draethodyn iddyn nhw. Os nad yw hi’n bosibl i siarad â’r gweithwyr, efallai y cewch adael llenyddiaeth yn ystafell y staff.
5. Pam gallwn ni fod yn hyderus wrth bregethu mewn tiriogaethau busnes?
5 Roedd Iesu a Paul yn pregethu i bobl yn y gweithle yn hyderus, a gallwch chithau wneud yr un peth. (Math. 4:18-21; 9:9; Act. 17:17) Gofynnwch i Jehofah dawelu eich meddyliau a’ch helpu chi i fod yn hyderus. (Act. 4:29) Mae llawer o gyfleoedd i siarad â phobl mewn tiriogaethau busnes, felly pam na wnewch chi roi cynnig arni?