Y DVD: Jehovah’s Witnesses —Faith in Action, Part 2: Let the Light Shine
Ar ôl i’r Brawd Rutherford a’i gyfeillion gael eu rhyddhau o’r carchar ym 1919, roedd Myfyrwyr y Beibl yn wynebu gwaith caled. Mae’r DVD Jehovah’s Witnesses—Faith in Action, Part 2: Let the Light Shine yn rhoi darlun o’r gwrthwynebu mawr a fu yn erbyn gwaith Myfyrwyr y Beibl, ac yn dangos sut roedd eu dealltwriaeth o’r Ysgrythurau yn tyfu a’u ffydd yn cael ei chryfhau. (Diar. 4:18; Mal. 3:1-3; Ioan 15:20) Ar ôl gwylio’r DVD, a fedrwch chi ateb y cwestiynau canlynol?
(1) Pa ddulliau a ddefnyddiodd Myfyrwyr y Beibl i gyhoeddi’r newyddion da? (2) Beth a gyhoeddwyd yn y cynadleddau arbennig ym 1931 a 1935? (3) Pa wybodaeth bwysig a drafodwyd yn Watchtower, Tachwedd 1, 1939? (4) Disgrifiwch beth ddigwyddodd yn ystod yr anerchiad “Government and Peace” a draddodwyd gan y Brawd Rutherford yn Madison Square Garden. (5) Beth oedd yn arwyddocaol am anerchiad y Brawd Knorr, “Peace—Can It Last?” (6) Ym 1942, pa gynlluniau a wnaeth Tystion Jehofah i ehangu eu gwaith pregethu? (7) Disgrifiwch rai o’r brwydrau cyfreithiol a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau, Canada, a Gwlad Groeg. (8) Pa effaith a gafodd Gilead ar dwf y gwaith pregethu? (9) Pa waith pwysig a ddechreuodd ym 1946, a pham? (10) Pa gamau a gymerodd Tystion Jehofah i sicrhau bod eu hymddygiad yn unol â safonau’r Beibl? (11) Esboniwch rai o’r newidiadau a ddigwyddodd i’r gyfundrefn yn y 1970au i sicrhau ei bod hi’n gweithredu’n unol â’r patrwm a osodwyd yn y Beibl. (12) Sut mae’r DVD wedi eich helpu i werthfawrogi’r ffaith mai cyfundrefn Jehofah yw hon, ac mai Ef sydd yn ei harwain? (13) Sut mae’r DVD wedi eich helpu i fod yn benderfynol o ddal ati yn y gwaith pregethu er gwaethaf problemau? (14) Sut gallwn ni ddefnyddio’r DVD i helpu’r rhai sy’n astudio’r Beibl gyda ni, aelodau ein teulu, ac eraill?
Mae pob dydd sy’n mynd heibio yn ysgrifennu pennod newydd yn hanes Tystion Jehofah. Beth fydd hanes yn ei ddweud am ein hymdrechion ni yn y weinidogaeth? Fel ein brodyr yn y gorffennol, gadewch inni barhau i ‘lewyrchu’ yn llawn sêl!—2 Cor. 4:6.