Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Hydref 29, 2012. Nodir y dyddiad y caiff pob pwynt ei drafod fel y gellir gwneud ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr ysgol bob wythnos.
1. Beth mae’r allor yng ngweledigaeth Eseciel yn ei gynrychioli? (Esec. 43:13-20) [Medi 10, w07-E 8/1 t. 10 par. 4]
2. Yng ngweledigaeth Eseciel, beth mae dŵr yr afon yn ei gynrychioli? (Esec. 47:1-5) [Medi 17, w07-E 8/1 t. 11 par. 1]
3. Beth mae’r ffaith fod Daniel wedi ‘penderfynu’ yn dangos am yr hyfforddiant ysbrydol a gafodd yn ystod ei ieuenctid? (Dan. 1:8) [Medi 24, dp-E tt. 33-34 par. 7-9; t. 37 par. 16]
4. Pa bethau mae’r “goeden uchel iawn” ym mreuddwyd Nebuchadnesar yn eu cynrychioli? (Dan. 4:10, 11, 20-22) [Hyd. 1, w07-E 9/1 t. 18 par. 5]
5. Beth mae Daniel 9:17-19 yn ei ddysgu inni ynglŷn â gweddi? [Hyd. 8, w07-E 9/1 t. 20 par. 5-6]
6. Pa ‘gyfamod cadarn â llawer’ a barhaodd tan ddiwedd y 70 wythnos o flynyddoedd, sef 36 OG? (Dan. 9:27) [Hyd. 8, w07-E 9/1 t. 20 par. 4]
7. Beth gallwn ni ei ddeall o eiriau’r angel i Daniel: “Bu tywysog teyrnas Persia yn sefyll yn f’erbyn”? (Dan. 10:13) [Hyd. 15, w11-E 9/1 t. 8 par. 2-3]
8. Pa broffwydoliaeth ynglŷn â’r Meseia yn Daniel 11:20 gafodd ei chyflawni? [Hyd. 15, kl t. 34 par. 7–t. 36 par. 8, troednodyn]
9. Yn ôl Hosea 4:11, beth yw un o beryglon goryfed alcohol? [Hyd. 22, w10-E 1/1 tt. 4-5]
10. Pa wers bwysig dylen ni ei dysgu o Hosea 6:6? [Hyd. 22, w07-E 9/15 t. 16 par. 8; w05-E 11/15 t. 24 par. 11-12]