Y Mae Gair Duw yn Rymus
1. Beth yw thema cynulliad undydd arbennig ym mlwyddyn wasanaeth 2014?
1 Yn wahanol i unrhyw beth sy’n tarddu o ddynion amherffaith, mae gan y Beibl y grym i’n trawsffurfio, gan ddod â’n meddyliau a’n ffyrdd mewn cytgord ag ewyllys Jehofah. Pa mor rymus yw Gair Duw? Sut gallwn ni ddefnyddio ei rym yn llawn yn ein bywydau? Sut gallwn ni ei ddefnyddio yn fwy effeithiol i helpu eraill? Wrth inni ystyried y pwyntiau hyn, yn ystod rhaglen y cynulliad undydd arbennig ym mlwyddyn wasanaeth 2014, cawn fod yn gwbl hyderus o gael ein hadeiladu’n ysbrydol. Ei thema yw ‘Y Mae Gair Duw yn Rymus,’ sy’n dod o Hebreaid 4:12.
2. Wrth wrando dylen ni geisio cael atebion i ba gwestiynau?
2 Canfod Atebion i’r Cwestiynau Hyn: Wrth wrando ar y rhaglen, nodwch yr atebion i’r cwestiynau a restrir isod:
• Pam dylen ni gael hyder yng Ngair Jehofah? (Salm 29:4)
• Sut gallwn ni brofi grym Gair Duw yn ein bywydau? (Salm 34:8)
• Sut gallwn ni fanteisio ar holl rym Gair Duw yn ein gweinidogaeth? (2 Tim. 3:16, 17)
• Sut gallwn ni osgoi syrthio i rym twyllodrus byd Satan? (1 Ioan 5:19)
• Bobl ifanc, sut gallwch chi lwyddo’n ysbrydol? (Jer. 17:7)
• Sut gallwn ni ddod yn gryf hyd yn oed pan ydyn ni’n wan? (2 Cor. 12:10)
• Sut gallwn ni barhau i wneud newidiadau yn ein personoliaeth hyd yn oed pan fo gennyn ni arferion ac agweddau sydd wedi hen ymwreiddio ynon ni? (Eff. 4:23)
3. Yn ogystal â gwrando ar y rhaglen, ym mha ffyrdd eraill gallwn ni elwa ar y cynulliad undydd arbennig?
3 Fe fyddwn ni’n sicr o elwa ar wrando ar yr wybodaeth bwysig hon! Hefyd, bydd y cynulliad undydd arbennig, fel cynulliad y gylchdaith a’r gynhadledd ranbarth, yn rhoi cyfleoedd inni agor ein calonnau’n llydan a mwynhau cymdeithasu gyda brodyr a chwiorydd o gynulleidfaoedd eraill. (Salm 133:1-3; 2 Cor. 6:11-13) Felly, neilltuwch amser i gymdeithasu gyda hen ffrindiau, a gwnewch rhai newydd. Pan mae siaradwr gwadd megis arolygwr rhanbarth neu frawd o Fethel wedi cael ei aseinio i’ch cynulliad undydd arbennig, beth am achub y cyfle i’w groesawu ef a’i wraig? Yn wir, mae gennyn ni sawl rheswm dros edrych ymlaen at ein cynulliad undydd arbennig!