Mae Gair Duw yn Fuddiol i Hyfforddi
1. Beth yw thema cynulliad cylchdaith blwyddyn wasanaeth 2014, a pha gwestiwn gaiff ei ateb gan y rhaglen?
1 Jehofah yw’r athro gorau yn y bydysawd, “pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?” (Job 36:22) Sut felly, mae Jehofah yn ein hyfforddi? Mae wedi rhoi llyfr sydd heb ei ail inni—ei Air ysbrydoledig, y Beibl. Sut y gall addysg ddwyfol fod yn fuddiol inni yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol? Cawn yr ateb i’r cwestiwn hwn yn ystod ein cynulliad cylchdaith ym mlwyddyn wasanaeth 2014. Mae’r thema ‘Mae Gair Duw yn Fuddiol i Hyfforddi’ yn seiliedig ar 2 Timotheus 3:16.
2. Pa gwestiynau fydd yn cael eu trafod yn ystod y rhaglen?
2 Chwiliwch am y Prif Bwyntiau Hyn: Mae’r atebion i’r cwestiynau canlynol yn tynnu sylw at brif bwyntiau’r rhaglen:
• Pa effaith sydd gan addysg ddwyfol ar ein bywydau? (Esei. 48:17, 18)
• Os ceisiwn newid ein hamgylchiadau er mwyn gwasanaethu Jehofah’n llawn amser, o beth allwn ni fod yn sicr? (Mal. 3:10)
• Sut dylwn ni ymateb pan ddown ni ar draws ‘athrawiaethau dieithr’? (Heb. 13:9)
• Sut y gallwn ni efelychu’r ffordd roedd Iesu’n dysgu eraill? (Math. 7:28, 29)
• Pam dylai’r rhai sy’n dysgu yn y gynulleidfa hyfforddi eu hunain? (Rhuf. 2:21)
• Ar gyfer beth y mae Gair Duw yn fuddiol? (2 Tim. 3:16)
• Sut mae pobl yn cael eu heffeithio gan “ysgwyd” y cenhedloedd? (Hag. 2:6, 7)
• Pa hyder sydd gan Jehofah ynon ni? (Eff. 5:1)
• Pam y mae’n rhaid inni ymdrechu’n galed i aros yn nysgeidiaeth Jehofah? (Luc 13:24)
3. Pam mae hi’n bwysig inni fod yn bresennol a rhoi ein holl sylw i’r rhaglen amserol hon?
3 Yn gynharach yn 2 Timotheus pennod 3, ychydig cyn ysgrifennu’r geiriau y mae thema’r rhaglen wedi ei seilio arnynt, fe ddisgrifiodd Paul yr amserau enbyd a fyddai’n nodweddu’r dyddiau diwethaf. Ysgrifennodd: “Bydd pobl ddrwg ac ymhonwyr yn mynd o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.” (2 Tim. 3:13) Er mwyn inni beidio â chael ein camarwain, mae’n bwysig inni wrando ar addysg ddwyfol a’i rhoi ar waith! Felly, gadewch inni fod yn benderfynol o fod yn bresennol a gwrando’n astud ar y rhaglen amserol hon.