Diogelwch Eich Meddwl
1. Beth yw thema’r cynulliad cylchdaith ar gyfer blwyddyn wasanaeth 2013, a beth yw pwrpas y rhaglen?
1 Gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion garu Jehofah â’u holl galon, â’u holl enaid, ac â’u holl feddwl. (Math. 22:37, 38) Eleni, mae’r cynadleddau a’r cynulliadau wedi eu cynllunio i’n helpu ni i gryfhau’r person mewnol. Fel y cofiwch, thema’r gynhadledd ranbarth oedd “Diogelwch Eich Calon!” Thema’r cynulliad undydd arbennig ar gyfer blwyddyn wasanaeth 2013 yw “Diogelwch Eich Cydwybod.” Mathew 22:37 yw sail thema’r cynulliad cylchdaith deuddydd, sef “Diogelwch Eich Meddwl.” Pwrpas y rhaglen hon yw ein helpu ni i sicrhau bod ein meddyliau yn plesio Jehofah.
2. Dylen ni ddod o hyd i ba atebion yn ystod y rhaglen?
2 Rhaglen y Cynulliad: Wrth wrando’n astud ar y rhaglen, edrychwch am yr atebion i’r cwestiynau canlynol sy’n tynnu sylw at y prif bwyntiau:
• Sut gallwn ni feddwl fel y mae Duw yn feddwl?
• Sut gallwn ni dynnu’r gorchudd sy’n dallu meddyliau anghredinwyr?
• Pa agwedd meddwl y dylen ni ei meithrin?
• Beth yw manteision myfyrio ar bethau llesol?
• Sut gallwn ni ganiatáu i Jehofah lunio ein meddyliau?
• Sut gall gwŷr, gwragedd, rhieni, a phlant gyfrannu at lawenydd y teulu?
• Sut gallwn ni fod yn barod ar gyfer dydd Jehofah?
• Beth yw ystyr yr ymadrodd “rhowch fin ar eich meddwl”?
• Pa fendithion a ddaw wrth inni roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu?
3. Pam dylen ni fod yn bresennol ar gyfer y ddau ddiwrnod, a pham dylen ni wrando’n astud ar y rhaglen a rhoi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu?
3 Mae Satan yn brwydro yn ein herbyn ni er mwyn llygru ein meddyliau. (2 Cor. 11:3) Felly, mae’n rhaid inni warchod a rheoli ein meddyliau a pharhau i adlewyrchu meddwl Crist wrth inni ymladd yn erbyn y byd afreolus hwn. (1 Cor. 2:16) Trefnwch i fod yn bresennol am ddeuddydd cyfan y cynulliad cylchdaith. Gwrandewch yn astud. Drwy roi’r wybodaeth ar waith, byddwn ni’n barod i weithio’n selog yng ngweinidogaeth y Deyrnas.—1 Pedr 1:13.