“Dw i Yma Oherwydd . . . ”
Wrth i ddeiliad agor ei ddrws a gweld ni’n sefyll yno, efallai byddai’n gofyn i’w hun, “Pwy ydyn nhw? Pam maen nhw yma?” Beth gallwn ni ei ddweud i dawelu ei feddwl? Ar ôl y cyfarchiad arferol mae rhai cyhoeddwyr yn defnyddio’r gair “oherwydd” i egluro pam maen nhw yna. Er enghraifft, maen nhw’n dweud: “Rydyn ni’n galw oherwydd mae llawer yn yr ardal yn poeni am drosedd. Ydych chi’n meddwl . . . ” neu “Dw i yma oherwydd dw i’n cynnig gwersi o’r Beibl am ddim.” Os yw’r deiliad yn gwybod pam rydyn ni yna o’r dechrau, efallai bydd yn fwy tebygol o wrando ar beth rydyn ni’n ei ddweud.